Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
DALIER SYLW!! — —♦- BYDD NOVEL O'r fath oreu'n ymddangos yn nliudalenau y CELT yn mhen wythnos neu ddwy.
FFYDDLONDEB CREFYDDOL.
News
Cite
Share
FFYDDLONDEB CREFYDDOL. (Parhul o'n rhifyn diweddaf.) Y mae ysbryd gweddi yn ei galon yn gofyn y cyfarfod gweddi cymdeithasol, ac nisgall yr hwn a gafodd broflad o ddaioni Daw yn ei galon fyw heb gyfcillach grefyddol, oblegid mae cymod a Duw wedi ei wneuthur yo gyfaill i'r rhai oil aofoant yr Arglwydd. Nid ystyriaeth dyn o'i ddyledswydd i gynal bywyd y torff sydd yn peru iddo ymborthi mor reolaidd, a chyson; ond teimlad bywyd ac angeil. Felly befyd nid ystyriaeth noeth o ddylcdswydd sydd yn gwneyd y Cristion yn ffyddlon gydá moddion crefyddol, ond y mae bywyd crefyddol yn y galon yn dwyn teimlad o angeu, yr hwn sydd yn dwyn ffyddlo rideb crefyddol. Y mae crefydd bersonol yn gofyn crefydd gymdeithasol; a chrefydd gym- deithasol yn dwyn allan grefydd bersonol mewn "ffyddlondeb crcfyddol." Nid yw holl ddyledswyddau a rhagorfreintiau eglwysig yn ddim amgen na manteision, neu gyfryngau yn gweitbredu i grefydd bersonol. Ni raid i ddelw fATw gael cyiVyngau i gadw ei bun mown bodolaetb ond rhaid i ddyn byw gael cyfryngau gweithredu i gadw ei fywyd mewn nerth. Y mae crefydd yn effeithio ar ddyn yn ei boll berthynasau ac yn ei ddwyn i ffyddlondeb yn ol ei sefyllfa a'i gyfleusdra. Nid yr un yw cyfleusdra y tlawd a'r cyfoethog, y gwas a'r meistr; ond y mae i'r naill a'r Hall gyfleusdra ag sydd yn rhoddi mantais i grefydd i weithio allan ei rbinweddau. Llwybrau neillduol y gwas a'r forwyn i weithio allan. eu crefydd ydynt diwydrwydd gofal a gonestrwydd mewn gwasanaeth. Nis gall gwas na morwyn fod yn foddlon mewn crefydd, ac yn anffyddlon mewn gwas- anaeth i'w meistriaid, yn ol -y cnawd, oher- wydd yn y pethau byn yn benaf y gallant amlygu eu parch i'r Arglwydd. Y mae crefydd i ddecl reu gartrefj ac yn ol ei nerth gartref y bydd ei ffyddlondeb yn dyfod i'r golwg oddicartrcf, oblegid cartref yw y ffynon sydd yn rhoddi nerth i'r ffrydiau. Y mae crefydd yn gwneyd yn well yn niha berlbyuas bynag y bydd--yn wen gwap, yn well meistr, yn well morwyn, yu well meistre?. Y mae y grefydd bono sydd yn gwella y galon yn gwella y lafud, yn gwella y dymbeiy ie, yn gwella lyr oil o'r d, ii gan ei wneyd "yn grradur nowydd." Meddyliwn mai yn y dull neu yr arferiad o esgeuluso y cyfarfodydd eglwysig y dangosir mwyaf 6 an ffyddlondeb crefyddol yn y dyddiuu hyn. Wrth gyfar- fjdydd eglwysig y golygwn cydgynuHidd y saint at eu gilydd ar amserau priodol i drefnu achosion yr eglwys, derbyn aelodau, gweinyddu disgy'blaetb ond yn fwyaf neillduol, i ymddiddan am bethau ysbrydol adrodd eu proiiadau creiyddol, dy gu y naill a'r Hall yn ngwirionedd mawrion crefyddol, &c. Hen arfer dda y saint yn mhob oes o'r byd ydyw ymgasglu at eu gilydd, ac mae yr hen arferiad yma yn arferiad barchus. Nid ydym yn golygu fod pob arferiad yn barchus; nac yn deilwng o barch, oherwydd mae llawer o hen arferion yn cin gwlad y byddai yn dda gweled eucladdu. Ond y mae meddwl am y daioni sydd wedi, ac yn deilliaw o hwn yn cin cynhvrfu yn ein cariad ato fel hen sefydliad daionus. Yr oedd gan feibion Duw yn nyddiau Jub eu dydd i ddyfod i sefyll ger- bron yr Arglwydd, A dywed y salmydd, « Yr Arglwydd a gar byrth Scion yn fwy na Z, holl breswylfeydd Jacob." Y mae holl banes, yr eglwys o'r dechrcu yn bresenol, yn dangos gofal ac amddiffyn Duw drosti; ac y mae ei holl oruchwyliaetbau tuagab yr eglwys yn brawf eijod am funio iddo ei hun rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaetb, cenedl .sanctaidd pobl briodol i Dduw: fel y mynegont rinweddau yr hwn a'n galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol olenni ef. Yn nghanol holl gyfriewidiadau amseroedd a chwyldroadau teyrnasoedd y mae eglwys Dduw yn parhau yr un. Gwir fod dull y byd hwn yn myned heibio, ond y mae eglwys Dduw yn aros, a "Llawer yn mhob ryw fodd" o ddaioni a wnaeth hi. Yn awr gan fod Eglwys Dduw yn sefydliad mor ddaionus, ein braint yn gys tal a'n dyled- swydd yw bod yn ffyddlon iddi, a bod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaus rhag esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai. Peth pwysig iawn ydyw cael eglwys lafurus a gweithgar. Y mae rhai eglwysi yn nychu eu hunain bron i farwolaeth mewn diofalwch a difrawder, pan nad ellir eu cyhuddo o ddim, ond o fod yn esmwytb arnynt yn Seior, ac y mae esmwythdra Seion yn ddigon i'w Iladd <0 ran ei defnyddioldeb a'i • cbynydd. Cyn y gellir dyweyd am Eglwys ei bod yn unol a threfnus, rhaid cael pawb i fod yn gydweithwyr ffyddlon, oblegid y mae yn pertbyn i Eglwys bob amrywiaeth gwaith i,gyfarfod a'r amrywiol ddoniau a galluoedd sydd yn ei haelodau. Y mae y dyn, ac yn neiliduol y dyn ffyddlon crefyddol yn greadur gweithgar. Ei brif ofyniad ar ei ddyfodiad at grefydd, fel Paul gynt, ydyw, "Arglwydd beth a fyni di i mi ei wneuthur." Nid ydyw am dreulio ei oes yn tpgur yn Eglwys Dduw. Nid oes neb yn yr Eglwys i (od yn segur. • Y mae gan bob un ei waith, ac nid peth y mae yti rhaid ei gymeryd yn ganiataol ydyw fod y dyn duwiol yn weitbgar. Y mae y Beibl yn C, llawn o anogaethau i ni weithio, ac y mae yn ein dysgu foi duwioldeb yn y" galon yn egwyddor weilhgar, yr hon sydd bob amser yn gwneyd ei pherchenog yn ymdrechgar i wasanaethu Duw. Ceisiwn nodi rhai rhwymau sydd ar grefyddwyr i ddyfod i'r cyfarfodydd eglwysig :— 0 I. Am fod hyn yn rhan, ac yn rhan bwysig o'n crefydd. Fel y sylwyd, y mae crefydd yn gyrndeithasol, a chryfheir grasau y dyn duwiol wrth ddisgwyl wrth yr Arglwydd yn ei dy a chyda ei bobl. Y matntjwedi ym- rwymo i fod yn ffyddlou gyda phob rhan o waith yr Arglwydd am byny dylent ddisgwyl yn ffyddlon a chyson wrth yr Arglwydd yn moddion gras, a gofalu am y cyfarfodydd. Mae hyn yn rhan o'n cyfamod eglwysig, Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain," &o. Ie, fel mae gwaetha.'r modd, megis y mae arfer llawer yn ein dyddiau ni: nid ychydig ond llawer. Pan edrychom ar ein cyfarfodydd yn yr wythnos, gwelir yn ami mai ychydig yw y rhai sydd yn cofio am eu bymrwymiadauj Ychydig welir yn y gy- feillach a'r cwrdd gweddi, ond y mae yn dda meddwl fod ychydig yn ffyddlon yn mhob eglwys o'r rhai hyn yn nerth a chryfder yr achos. Maent yn gryf i. ymosod yn erbyn pechod, ac nis gellir bod hebddynt. II. Mae yn ddyledswydd i fod yn y cyfarfoq eglwysig am fod crefydd yn orchwyl pob tymhor a phob lie. Mae hi wedi ei bwriadu i drefnu a sancteiddio pobpeth a gwneuthar yr holl ddyn yn aberth byw, sanctaidd, a chymeradwy gan Dduw, yr hyn yw ein rhesymol wasanaeth, a'r holl fywyd i was- anaethu Crist. Am hyny ni ddylid esgeuluso