Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

derbyniwyd ei sylwadau gan yr ochr wrth- wynebol gyda ehwerthin uchel. Canmol- odd haelfrydedd pobl Lloegr yn eu oyf- 0 raniadau tuag at feddfu y dioddefiadau. Mewn perthynas i'r mesurau fwfiadent ddwyn ger bron eleni, enwodd Fesur y Terfysgoedd (Mutiny Bill), fod eisieu gwella hwnw. Hefyd, yr oedd Deddf- lyfr Dnvgweithredwyr (y Criminal Code) mewn sefyllfa bur anfoddhaol, a bwriedid gwneyd cyfnewidiadau yn y cyfeiriad yna. Wedi hyny yr oeddent yn bwriadu dyfod a mestir ger bron er Gwella Oyfraith y Methdalwyr,ac hefyd fesurau mewn per- thynas i Reilffyrdd, Byrddau Sirol, Prisio Eiddo (Valuation), a mesur er Gwella Cyfraitk y Prif Beithwyr (Grand Jury) yn yr Iwerddon, ac un arall er Gwella Oyfraith y Tlodion yn yr Alban (Scotland), Yr oedd y Llywodraoth wedi rhoddi sic- rwydd ddiwedd y tymor diweddaf y byddai iddynt fyned yn mlaen gyda mesur yr Arferion Llygredig (Corrupt Fra<4iccs Act), ac nid oeddent wedi angliofio eu haddewid. Yna aeth yn mlaen i hysbysu y drefa y bwriedid dwyn oddi amgylch waith y Ty yn y dyfodol. Ar ei ol cyfod- odd Syr Charles Dilke, yr aelod Radical- aidd dros Chelsea. Gwr ieuanc 35 oed ydyw Dilke, bargyfreithiwr, a golygydd a pheichenog y papur hwnw a elwir yr 'Athenseum.' Mae rbai o bobl Chelsea yn ei addoli, a diau ei fod yn un o'r aelod- au goreu ar lawergolygiad yn y Ty. De- chreuodd gribo y Canghellydd cyn pen dau funud wedi iddo godi ar ei draed. "Y mae y wasgfa a'r caledi mawr sydd yn ffynu yn ein gwlad, meddai, "yn myned yn fwy fwy yn barhaus, ac nid yn lleihaa fel y dywedai yr aelod gwir anrhydeddus, ac ymddengys i mi ac ercill sydd yn cynrychioli trefimawrioll gwerthfawr ei fod wedi ymledu mwy dros yr holl deyrnas na'r un caledi arall welwyd yn ein gwlad er's blynyddau meithion." Yr oedd yn ddrwg ganddo weled yr Alban a'r Iwerdd- on yn dyfod allan felyr oeddynt-dim ond rhyw hot un mesur bychan ar eu cyfer. Beth oedd wedi dyfod o'r ymgynghoriad fu yn nghylch y Brif Ysgol Wyddelig? Rhaid ei fod wedi syrthio i'r 11awr. "Nis galldadgorphoriad y senedd fod yn mhell;" ac yn nghanol chwerthin, dywedai, "bydd yn dda gan yr oehr hwn o'r Ty ei groes- awu." Mewn perthynas i'r mesuran ereiil enwyd gan y Canghellydd, "yr oeddent oil yn hen gyfeillion," meddai, "yr oeddent wedi eu gweled o'r blaen, ac os na wnai y Llywodraeth fwy o ymdrech i'w gyru yn mlaen yn y dyfodol nag a wnaethant yn y gorphenol, digon tebyg y ceir eu gwelei 0 eto." Nid oedd yn dewis codi dadl yn awr yn nghylch y rhyfel yn Affrica, ond darfu i'r Canghellydd son am y mesurau gymerwyd fel mesurau angenrheidiol; ond yr oedd arnryw yn y Ty, oddiwrth y papijrau oedd yn eu dwylaw, yn barod i wadu nad oedd angen unrhyw fesurau gocheliadol felly o gwbl. Yr oedd papur- au yn ddigon i brofi nad oedd yr achos yn ddigpn i gyhoeddi rhyfel. Yr oeddynt wedi cael heddwch yn y parthan hyny am ugain mlynedd, ond yn ddisymwth wele ryfel wedi tori allan; ac nis gallai ef lai na thynu y casgliad inai y llwybr cyn- henllyd gymerwyd gan ein Llywodraeth oedd yr achos o hono. Gyda golwg ar A ffghanist an, carai wybod beth oedd y Llywodraeth yn feddwl wrlh" Ffin Gel- fyddydol" {tcieniific frontier). Aeth yn mlaen gan wneyd sylwadau miniog ar Cyprus, Groeg, &c., a diweddodd trwy gyhoeddi mai "fel yr oedd y Llywodraeth wedi gyru yr holl genhedloedd sydd yn byw yn y rhanau mwyaf o Twrci i freich- iau Rwssia, felly hefyd ydarru iddyutyru Groeg i freichiau Ffrainc." Ar lei ol ef, siaradodd Syr W. Harcourt am gryn amser, a chyfeiriai yntau ei sylwadau gan mwyaf at waith y Llywodraeth mewn eysylltiad a Cyprus. Ceisiwyd ei ateb ar ran y Llywodraeth gan Colonel Stanley, brawd Arglwydd Derby. Mae darllonwyr y CELT yn cofio am y tro cyfrwys-gaU wnaeth Dizzi pan ymddiswyddodd Ar- glwydd Derby o'r Weinyddaeth, oherwydd eu gwaith yn dod a'r milwyr Indiaidd i Malta, &c., llwyddodd i gael gan ei frawd (Colonel Stanley) i gymeryd swydd arall yn y Cabinet. Nid yw Colonel Stanley ond rhyw 88 oed, ac yn ol y tebygolrwydd efe ydyw etifecld ei frawd, oblegid nid oes plant gan hwnw. Y mae Arglwydd Derby yn 52 oed. Y nesaf i gyfodi oedd M. Henry, un o'r aelodau dros swydd Galway yn yr Iwerddon. Baich ei araeth ef ydocdd beio y Weinyddiaeth am esgeu- c) luso Mesurau Gwyddelig. Ar ei olyntau dyma Ardalydd Hartington yn cyfodi, a gwnaeth araeth ragorol. Amddiffynodd yr aelodau Gwyddelig yn eu cwynion, ac amlygodd ei gydymdeimlad trwyadl a hwynt. Derbyniwyd ei eiriau gyda ban- llefau uchel o gymeradwyaeth oddiar y meinciau lie yr eisted dai yr aelodau Gwyddelig. Rhoddodd wgyd, cas i'r Llywodraeth mewn cysylltiad ag iselder masnach. Gall y Llywodraeth," medd- ai; "roddi bywyd ( impetus) i fasnach drwy wneyd yr hyn aallont dros gadw heddwch Ni chlywais yr Ardalydd erioed o'r blaen mor hapus yn ei ddull o siarad, ac nid oes amheuaeth na wna Arweinydd galluog i'r blaid Ryddfrydig. Mub hynaf y Due o Devonshire ydyw. Un o'r dynion cyf- oethocaf yn y deyrnas, a mwyaf Rhydd- frydig yn Nhy yr Arglwyddi ydyw ei dad. o y Mae Hartington yn 45 oed, ond yn edrych ynllawer iawn ieuengach; acyn cynrycli- ioli bwrdeisdrefi Maesyfed. Mae ei dad yn 70 oed, ac ar ol ei ddydd ef bydd y mab yn cael ei ddyrchafu i Dy yr Arglwyddi. Enw priodol y tetll11 'ydyw Cavendish. Atebwyd yr Ardalydd ar ran y Llywodr- aeth gan W. H. Smith. prif-Arghvydd y Morl^y. ac un o'r aelodau dros West- minster. Efe ydyw perchenog yr lioll lyfr-feinciau -welir ar hyd gorsafoedd y rheilffyrdd drwy yr boll deyrnas. Dyn heinyf, 53 ofd, duaidd yr olwg, o faintioli cyffredin, a Ilawn o fywyd ydyw. Quite a business man. Dywedir eifod wedi gwneyd eifoi-ttine drwy werthu papyrau newydd- iou. Mae ganddofasnachdymawryn y Strand, Llundain, a phalasdy ardderchog ger Henly-on-Thames, hebla-w anedd-dy mawr ger Hyde Park. Dywedir iddo gynyg ei hun (neu yn hytrach gael ei gynyg) unwaitli yn aelod o'r Reform Club,oild iddo gael ei wrthod. Pe gwnae hyny yn awr digontebyg. y cawsai ei dderbyn. Ym- unodd wedi hyny a'r Toriaid, ac y mae wedi cael derbyniad i'r Carlton Club a dubs Toriaidd ereill, a diameu ei fod yn uu o'r aelodau mwyaf galluog feddant yn Nhy y Cyffredin. Ar ol Smith, siaradodd Sam- uelson, yr aelod Bliyddfrydig dros Ban. bury, peirianydd, a meistr haiarn enwog; Syr George Elliott, aelod Toriaid dros swydd Durham, a pheirianydd galluog a Macdonald, yr aelod Rhyddfrydig dros Stafford, a Llywydd Cymdeithas y Mwn- wyr. Cyhuddai ef y Llywodraeth o es- geuluso y gweithwyr, ac yr oedd yn am- lwg ei fod yn teimio yr hyn oedd yn ddy- wedyd. Ceisiwyd ei ateb yntau ar ran y Llywodraeth gan y Twrnai Cyffredinol (Syr John Holker). Gyda bod Holker yn eistedd, dymayr O'Donnell, yr aelod dros Dungarvan, ar ei draed, ac yn dechreu tywallt allan ffrydlif o gerydd ar ben y Weinyddiaeth am esgeuluso hawliaa yr Iwerddon. Mae y Llywodraeth wedi rlioddi her i ni," meddai, "ac yr wyf finau yn derbyn eu lifer, nid fel Gwyddel, ond fel dinesydd cyffredin o'r ymerhodraeth Siaradwyd ychydig eiriau droa yr Iwerdd- oil a'r aelodau Gwyddelig, gan Shaw Lefevre, un o'r aelodau Rhyddfrydig dros Reading, ac un o hen aelodau Gweinydd- c e iaeth Gladstone gynt. Dyn ieuanc yr olwg, ond y mae tua 46 oed, a siaradwr da. Derbyniwycl ei eiriau gyda baullefau byddarol o gymeradwyaeth gm yr Home Bulers. Ar ol i Cogan, yr aelod dros Kildare, ddwrdio tipyn ar y Liywodr- aeth, ac i Gregory, un o'r aelodau dros Sussex, siarad tipyn, cyfododd Syr Geo. Balfour ar ei draed a rhoddodd gerydd llym i'r Llywodraeth am esgeulso yr Alban. Mae Syr George yn hen wr tua 70 oed. yn siaradwr go dda ond ychydig yn rhy gyflym. Efe ydyw cynrych- iolwr Bwydd Kincardineshire. Ar ei ol cyfododd Cross, yr Ysgrifenyd Cartrefol, i geisio llyfnhau a gweiiieitho tipyn ar bethau; ao yn wir, medr tmooihio yn o lew. Dywedai y gallai sicihau ei gyfaill gwir anrhydeddus (Syr George Balfour) nad oeddynt wedi esgeuluso cymaint ar yr Alban ag oedd ef yn feddwl. Gwr pwyllog iawn yw Cross, fine, mwynaidd, a gwen ar ei wyneb pan fyddo yn siarad. Mae rhywbeth yn debyg yn ffurf ei wynebpryd i'r hen gyfaill Robert Tiioma's o Benrhiwgaled, OLd mae ei lais yn hollol wahanol. Efe ydyw un o gynrychiolwyr (Fgweddill yn tudaten 0.)