Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLUNDAIN. CANOL Y FFORDD. 2 mis, 17eg, 1879. Rhyfel, tlodi, a strikes ydyw baich new- yddion yr wythnos lion. Yr wythnos ddiweddaf pan gyrhaeddodd y newydd i ,.Y Lundain am y Uaddfa fawr yn Neheubarth Affrica, cyhoeddodd un o'r papyrau dydd- iol Toriaidd y geiriau canlyncl ar ei hys- bysleni: 500 o filwyr Prydeinig wedi eu LLOFRUDmo, a 5,000 oZuluiaid wedi eu LLADD!" Paliam yr oedd yn rhaid def- nyddio y gair llofruddio mown cys- ylltiad a'r Prydeiniaid, a lladd mewn cy3- ylltiad a'r Zuluiaid? Mae llawer yn gofyn y dyddiau hyn, Beth wnacth y Zuluiaid yma fel ag i wneyd i ni gario rhyfel i'w tiriogaethau ? Mae yn anhawdd ateb, am nad oedd cysgod o reswm gan Lyw- odraeth Lloegr dros gyhoeddi y rhyfel o gwbl- Yr esgus roddir yw ddarfod i haid o ladron o dir Zulu ymosod ar ran o'r tir a hawlir gan y wlad hon yn Neheubarth Affrica, a chyflawni rhyw ddrygau yno. Pe gwnae haid o ladron o'r wlad hon ymosod ar ryw dai, dyweder yn Ffrainc, a lladrata llawer o eiddo gwerthfawr allan o honynt, ai tybed y gwnai Ffrainc gyhoeddi rhyfel yn erbyn Lioegr ? Dim o'r fath beth. Cnd dyna arferiad Lloegr bob amser mewn cysylltiad a theyrnasoedd gwan, yn enwedig a gwledydd haner- gwareiddiedig. Mae haues ei hymddyg- iadau tuag at alluoedd gwan bron yr un fath er's canrifoedd,ac yn hwyr neu Invyr- ach bydd yn rhaid iddi roddi cyfrif llawn am ei holl greulonderau a'i barbareidd- dramewn cysylltiada Chymru, Ysgotland, Iwerddon, India, a gwledydd ereill. Mae oesau wedi dileu braidd y traddodiaclau am y dull bwystfilaidd y triniai y Saeson y Cymiu a'r Ysgotiaid mae amryw yn cofio am eu creulonderau yn yr Iwerdd- on, ac y mae braidd bob dyn mewn oed yn y deyrnas yn gwybod rhywbeth am y dull y rhwymid gwrthryfelwyr India yn fyvv wrtli y magnelau, ac y chwythid hwy yn ddarnau i'rl awyr. Mae He cryfi gasglu fod y Saeson yn ymddwyn mewn dull baxbaraidd y dyddiau hyn tuag Affhgan- istan. Saethir y trigolion fel pryfaid (vermin), a digon tebyg fod eiu maes'yw- yddion yn bwriadu dilyn yr un llwybr yn nhiriogaeth Zulu. Ceisia amddiffynwyr y Llywodraeth honi fod dwy finiai o Zu- luiaid arfog o dan arweinittd tri o feibion un o benaethiaic1 Zulu, wedi croesi y'ffin rhwng eu gwlad hwy a Natal ac wedi lladrata dwy fenyw irodorol, ac ychwan- egant ddarfod iddynt eu llofruddio. Dan- fonodd Llywodraethwr Natal ddau neg- esydd at frenin Zulu i ofyn am iddo roddi y drwgweithredwyr i fyny i nwdurdodau Natal, ond yn lie gwneyd hyny dclarfod i'r hen frenin esgusodi y trais drwy ddyw- edyd mai tipyn o chwareu plentyriaidd ydoedd, a cliynygiai swm o arian fel iawn am y trosedd. Gwrfchodwyd yr arian, a dywedwyd wrth y brenin os na wnelai draddodi y drwgweithredwyr i ddwylaw Llywodraeth Natal, a thalu dirwy am yr oediad cyn pen ugain niwrnod y byddid yn cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn. Daetkjr ugain diwrnod i ben ar y dydd olafo'r flwyddyn ddiweddaf, ac heb golli dim ych- waneg o amser, dechreuodd Arglwydd Chelmsford, maeslywydd y fyddin Fiyt- anaidd yn Neheubarth Affrica, barotoi tuag at groesi y ffin sydd rhwng Natal a Zulu, a'r digwyddiad pwysig cyntaf gym- erodd le oedd llwyr ddifrodi un golofn o'r 24ain gatrawd. Ymddengys fod y 24ain gatrawd yn perthyn ac yn cael ei hadnabod wrth y" 2nd Warwickshire Regiment, ond ar ol i gynllun Arglwydd Cardwell gael ei gario allan nad oedd yr un cysylltiad rhyngddi a swydd Warwick mwy na rhyw swydd arall. Dywedir mai o siroedd Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, a Cheredigion yr oedd y rhan fwyaf o'r dyoion cedd yn ei llenwi. Digon tebyg fod ogeiniau o fech- gyn a fagwyd yn dyner yn Nghymru yn awr yn gorwedd yn feirwon yn Neheu- barth Affrica. Dyma y tro cyntaf er's blynyddau maith i gatrawd Brydeinig golli ei beneri. Pan lwyr ddinystrwyd y 44ain gatrawd yn y Khyber Pass, yu l'hyfelgyrch anffodus 1841-42. llwyddodd swyddog i achub y baneri drwy eu rhwymo am ei gorff dan ei glogyn. Ni chyfarfyddodd yr un gatrawd Brydeinig chwaith a'r fath drychineb byth wedi hyny hyd y tro hwn. Dengys y dyfyniad canlynol o lythyr oddiwrth filwr yn y 4ydd corphlu o'r Rifle Drigade,JeIIalabad, sut y mae swyddogion Lloegi. yn ymddwyn tuag at bobl gy huddir o ryw droseddau yn Affghanistan: Cewch weled yn y papyrau end odid hanes y dull y dienyddiwyd gwallgofddyn Affglianaidd gan I gwmni o'n catrawd. Wel, yr oeddwn yn digwydd bod yn un o'r pump ddewisiwyd i gario allan y gwaith, ac adroddaf wrthych sut y bu. Yr oeddwn yn gwylio porth Peshawur y diwrnod hwnw, ac yn myned at fy ngwaith, pan ddaeth y Provost- Marshall i fyny ar ei farch gan alw am file o'r guards 14 Gwnaiff y pump dyn yma y tro, meddai, fel yr oedd pedwar ohonom a swyddog yn myned i gymeryd lie pump o wyliedyddion ereill, "Aydych cliwiwedi llwytho eicli gynau a b-wledi," gofynai. Gorchymynodd y swyddog i ni agor ein gynau ac edrych a oeddem wedi eu llwytho,obleg- id nid ydym yn corio blank cartridge yn awr. Quick march, meddai, ac yna gorch- ymynwyd i ni aros o fewn rhyTv gan' Hath i druan o Affghan, oedd, yn cael ei ddal gan ddau o'n pobl, a'i ddwylaw yn glyniedig ar ei gefn. "Ar air y gorchymyn anelwch a thaniweh at y dyn," oedd y gorchymyn nesaf oddiwrth y Provost Marshall i ni. Yna wrth y dynion oedd yn dal y truan, dywedai yn uchel, "Sefwch ymaith," a rhaid i ni gyfaddef, safai y dyn gan wynebu arnaf yn ddigryn. 'Taniwch gawod o ergydion! Ready!' ac yna 'P,'esent!' Aeth y pum' ergyd ymaith gyda'u gilydd fel un, a rhaid i amryw fwledi fyned drwyddo. Cauais fy llygaid: fel yr oeddwn yn tynu y trigger, oblegid nid oeddwn yo

"Y PRlF ATHRAvV FORSOOTFI."