Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
MARWNAD
News
Cite
Share
MARWNAD Er cof am Mr John Parry, Hirael, Bangor, yr hwn a fu bregethwr cynorthwyol gyda yr Anni- bynwyr dros amryw flynyddoedd. Bu farw Rhagfyr 1877. Cod fy awen er dy ofid, Gafael yn d'ysgrifbin du Tro am enyd fach i syllu Ar adgofion pethau fu; Gwlych dy bin a dagrau hiraeth, Ac ar lech fy nghalon wyw, Ysgrifena gofEadwriaeth Un o fEyddlon weision Duw. Parry, Parry, nid wy'n gallu Sylweddoli'r funud hon, Fod y ddaear wedi colli 'Th galon bur, a'th wyneb non Yr wyf fel yn adrodd iti Ryw ofidiau eraill lu; Tybiaf glywed swn dy fwynlais I'm cysuro fel y bu. 0 Gallai Mon ymffrostio ynot, Fel y puraf un o'i phlant; Ac ni lechodd yn llwch Arfon, Burach a dysgleirach sant: Nid oes eisieu gwag ddychymyg, I wneud it rinweddau gau Y peth goreu elllr dd'wedyd YW dy hanes fel y mae. Hawdd y gelli, ddinas Bangor, Wisgo tristwch ar dy wedd Cuddiaist un o'th ser ddysgleiriaf, Wrth roi Parry yn ei fedd Nid peth rhyfedd gwel'd dy filoedd, Wedi dod yn drist eu lief, Pan hebryngid yr hen babell, A, fu"n cario'i enaid ef. Ie, enaid, digyffelyb, 0 na byddai celfydd law, I wneyd darlun pur o ho no, anrhegu'r oes a ddaw Nid oes iaith, na lien, na lliwiau I ddarlunio enaid sant- 0 fy Nuw, rho argraff tebyg, Ar eneidiau mwy o'th blant. Argraff amlwg a diragrith, Argraff barai i satan fraw: Yra blant y fall i gilio, Pan y gwelent ef o draw: Argraff crefydd, delw'r Duwdod Yn y ty ac yn y gwaith, Nid un dydd o'r wytlmos byddai Yn grefyddol, ond y saith. Perchid ef gan ei gydweithwyr, 'R oedd fel awrlais yn y lie Oriaduron eu moesoldeb A osodid wrtho fe Calon bur ac'egwyddorol Ydoedd ei reolydd, mad, Ac 'r oedd bys ei yiparweddiad Yn cyfeirio tua'i wlad. Ond yn Seion 'roedd ei gartref, Yno byddai'n hoffi byw;' A phawb ereill deimlent felly, Pan ganmolai ef ei Dduw Bu fel Paul yn gweithio a'i ddwylaw, Ac yn cynal gair y ffydd: Bu fel Dafydd yn myfyrio Ya y gyfraith nos a dydd. Ni ddarllenai esboniadau, Ni edmygai, ddim ond dau, Doctor Jones, a Doctor Lewis :fyddai;nwastad yn fawrhau: Ond astudiai yn ddigyfrwng, Gynwys yr Ysgrythyr Lan, A phan ddeuai ef o'i gastell, Cwympai pawb i lawr 01 Raen, 'R oedd y Gair fel twr ei arfau, Gallai'n wastad roddi ei law, Ar yr erfyn mwyaf cymwys, I droi ei elynion draw Ond er gwybod yr Ysgrythyr, A byw ynddynt'yn ddibaid, Ni wnai byth ddyfynu adnod, Ond yn unig pan fat raid. Os dyddanu fyddai eisieu, Yn y cyfeillachau prudd, Meddai adnod fel agoriad I ddadgloi cauadlen ffydd; Ac wrth ddangos gobaith drwyddi, Ciliai y cymylau draw, A chyn diwedd byddai'r nefoedd Wedi disgyn ar bob Haw. Ond os cerydd fyddai eisieu, Meddai ef bicellau tan; Dreiddient drwy gydwybc d euog, Nes ei dryllio'n cbwilfriw man Ond gofalai ar ol clwyfo Gynyg balm i wella'r briw, Ac arweiniai y pechadur Yn ei ol, i chwilio am Dduw. Fel pregethwr nid oedd ddoniol, Nid amcanai foddio'r glust, Ond gwnai wledd i'r dyn newynog, A dyddanai'r meddwl trist: Ni ddefnyddiai'r ieithoedd gwreiddiol, Er egluro'i bwnc yn llawn, Ond dangosai'n ddigon eglur, Faint a gwerth anfeidrol lawn, Tybiaf glywed un yn gofyn- Onid oedd gwendidau'n hwn? Oedd, fy nghyfaill, yn ddiameu, Lawer un, fel tithau, gwn Clywsom ef yn dweyd ei hunan, Pan wyf yn wan yr wyf yn gry," Nid yw Duw yn cyfrif beiauy A pha raid i ninau sy'. Gorphwys,.bellach, Parry dirion, Gaffo'th gorff'n ei wely pridd A mwynhaed dy enaid wynfyd, Nes yn olwg troi'r dy ffydd Ni chei golofn hardd o farmor Yn y byd lie buost byw Ond cei goron anllygredig, Na ddiflana gan dy Dduw. Bangor. LLEWELYN TEOID. =-
Y PARCH. WILLIAM OWEN, CHINA.
News
Cite
Share
Y PARCH. WILLIAM OWEN, CHINA. Yn gymaint a bod amryw o gyfeillion Mr. Owen wedi gofyn i mi am ei gyfeiriad, a chan vr hoffai ereill fe ddichon ysgrifenu ato cyn y daw llytlijT oddiwrtho, yr wyf yn anfon ei gyfeiriad, fel y canlyn-REJv. WILLIAM OWEN, (Cliistian Miss- ionary), HAXKOW, CHINA. Cefais lythyr oddi- wrtho, yr hwn a ysg-rifenodd o Singapore, ar y laf o Ionawr. Yr oedd yn iach a chalonog, ac yn awyddus am gyrhaedd maes ei lafur a diamheu genyf os cafodd y gweddill o'r fordaith yn liwylus ei fod wedi cyrhaedd erbyn liyn. Addawodd anfon hanes ei daith i'r < Celt' mor fiian ac y cyrhaedda Hankow, Anfonwch ato gyfeillion, bydd yn dda iawn ganddo mewn gwlad estronof gael gair oddiwrtliych. Colog y Bala. THOMAS ROWLANDS.
LLANBRYNMAIR.
News
Cite
Share
LLANBRYNMAIR. Yn Ysgoldy Brutanaidd y lie uchod nos Wéner; diweddaf cafwyd cyngherdd ardderehog, yn yr hwn y llvwyddodd y Parch. J. Jenkins (E.), yr hwn a wnaeth sylwadau da ar ragoroldeb addysg yn awr ragor cynt. Cafwyd cryn foddlonrwydd yn ei sylwadau. Dygwyd arweinyddiaeth y cyf- arfod yn mlaen gan Derwenog yn fedrus, addysg- iadol, a difyrus. Cymerwyd rhanau ereill <?r gwaith gan Tom Evans, U.C.W.; Miss Gayney Griffiths Mr J. Williams Miss M. Peat, Penddol Cor y Bont; gyda chwareu ar y crwth, gan Mri. J. Williams ac R. Humphrey, Bont; a'r bibell (flute) gan Mr W. Jones, Llwynffynos, Cafwyd cyfarfod difyr, elid i mewn trwy dalu, vr elw at yrysgol. GOMEfi AB GOMISit.
Y GOLOFN DDIRWESTOL.
News
Cite
Share
y syniad mai yn ngbrwyn y grawn yr oedd y cochni, a. bod rhyw fath o win- rawn wedi cochi cymaint dan wres yr haul nes ymddangosai cochni wrth sathru y grawn. Mae yn rhaid mai eithriad ydoedd y math hwnw hefyd; oblegid pe ooch fu- asai y cwbl, buasai "Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch" yn waharddiad ar y cwbl. Peth dieithr i ddull y Beibl fyddai gwahardd edrych ar y gwin pan fyddai coch, ac yntau yn ddim ond coch bob am- amser. Mae'r gwaharddiad yn caniatau edrych ar y gwin yn ei gyflwr cyntaf, ond yn gwrthod ini edrych arno pan fyddo coclt. Felly, nid coch oedd hwnw ar y cyntaf. Lliw oddiwrth y Logtoood sydd ar agos holl winoedd y farchnad yn bre- senol. Ond y mae math o rawn yn Ffraiuc yn cynwys hylif cocb. Gronyn bychan caled, garw, anhyfryd i'w fwyta, ac yn dda i ddim ond i gochi gwinoedd ereill. Oherwydd rhagfarn Prydeinwyr am gael pob gwin yn goch, y mae Mr. Frank Wright yn erchi math o rawn o bwrpas i gochi gwin. Y mae y Than fwyaf o winllanwyr America yn ei anfon i'r farchnad yn ei liw naturiol fel dwfr glan. Ond mae yno rai yn mynu ei gael yn goch i wneyd coffadwriaeth o'rgwaed. Gwneir ef yn goch o bwrpas i'r rheiny trwy losgi siwgr gwyn. Ond nis gallant gael gwin anfaddeuol coch o'r o'r winllan. Mae'r ddau liw i'w cael gan Frank Wright. Y naill yn loyw fel dwfr glan, fel y daeth o law y Creawdwr; a'r Ilall wedi cael ei wneyd yn goch yn bwrpasol i gyfarfod a rhagfarn pobl anwybodus. Bum yn tywalit gwin gwyn yn y cymundeb am flynydd- oedd yn America. Bwyd a diod pobl y dwyrain oedd bara a gwin. Bwyd a diod y Cristiou yw Aberth Galfaria. "Canys fy ngnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i sydd ddiod yn wir." Gan hyny, aid oes pwys i'w roddi ar liw- iau elfenau'r swper, ond ar eu nalwt. Mynwch fara ag sydd fuoyd yn wir, a gwin ag sydd ddiod yn wir, at eich cymundeb o hyn allan; oblegid nid oes dim twyll na rhagrith mewn dim a berthyn i fywyd nac angeu'r Gwaredwr; I' bwyd yn wir Deu ddiod yn wir," yw pob peth a bel thyn iddo. Dyna'r oil sydd genyf i'w ddyweyd am a wn i am chweched a phumed a plied- wctydd reswm Mr. Stephens. Nid oedd dim yn werth ei ateb yn y chweched a'r pumed. Mae rhywbeth gwir werth ei olrhain yn y pedwerydd; ac y mae'r tri rheswm cyntaf hefyd yn wir deilwag o sylw fel pynciau efrydiaeth. Cym-eraf y trydydd mown 11aw yn fuan os caf fywyd ac iechyd. Nid wyf yn gweled fod pwnc y ddadl yn gofyn i mi fod yn fanwl gyda'r cyntaf a'r ail. Ond y mae Ystyr Nazare- aeth yn werth ei astudio yn annibynol ar yr amgylchiadau presenol. At byny y cyfeirir yn yr ail reswm t