Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MARWNAD

News
Cite
Share

MARWNAD Er cof am Mr John Parry, Hirael, Bangor, yr hwn a fu bregethwr cynorthwyol gyda yr Anni- bynwyr dros amryw flynyddoedd. Bu farw Rhagfyr 1877. Cod fy awen er dy ofid, Gafael yn d'ysgrifbin du Tro am enyd fach i syllu Ar adgofion pethau fu; Gwlych dy bin a dagrau hiraeth, Ac ar lech fy nghalon wyw, Ysgrifena gofEadwriaeth Un o fEyddlon weision Duw. Parry, Parry, nid wy'n gallu Sylweddoli'r funud hon, Fod y ddaear wedi colli 'Th galon bur, a'th wyneb non Yr wyf fel yn adrodd iti Ryw ofidiau eraill lu; Tybiaf glywed swn dy fwynlais I'm cysuro fel y bu. 0 Gallai Mon ymffrostio ynot, Fel y puraf un o'i phlant; Ac ni lechodd yn llwch Arfon, Burach a dysgleirach sant: Nid oes eisieu gwag ddychymyg, I wneud it rinweddau gau Y peth goreu elllr dd'wedyd YW dy hanes fel y mae. Hawdd y gelli, ddinas Bangor, Wisgo tristwch ar dy wedd Cuddiaist un o'th ser ddysgleiriaf, Wrth roi Parry yn ei fedd Nid peth rhyfedd gwel'd dy filoedd, Wedi dod yn drist eu lief, Pan hebryngid yr hen babell, A, fu"n cario'i enaid ef. Ie, enaid, digyffelyb, 0 na byddai celfydd law, I wneyd darlun pur o ho no, anrhegu'r oes a ddaw Nid oes iaith, na lien, na lliwiau I ddarlunio enaid sant- 0 fy Nuw, rho argraff tebyg, Ar eneidiau mwy o'th blant. Argraff amlwg a diragrith, Argraff barai i satan fraw: Yra blant y fall i gilio, Pan y gwelent ef o draw: Argraff crefydd, delw'r Duwdod Yn y ty ac yn y gwaith, Nid un dydd o'r wytlmos byddai Yn grefyddol, ond y saith. Perchid ef gan ei gydweithwyr, 'R oedd fel awrlais yn y lie Oriaduron eu moesoldeb A osodid wrtho fe Calon bur ac'egwyddorol Ydoedd ei reolydd, mad, Ac 'r oedd bys ei yiparweddiad Yn cyfeirio tua'i wlad. Ond yn Seion 'roedd ei gartref, Yno byddai'n hoffi byw;' A phawb ereill deimlent felly, Pan ganmolai ef ei Dduw Bu fel Paul yn gweithio a'i ddwylaw, Ac yn cynal gair y ffydd: Bu fel Dafydd yn myfyrio Ya y gyfraith nos a dydd. Ni ddarllenai esboniadau, Ni edmygai, ddim ond dau, Doctor Jones, a Doctor Lewis :fyddai;nwastad yn fawrhau: Ond astudiai yn ddigyfrwng, Gynwys yr Ysgrythyr Lan, A phan ddeuai ef o'i gastell, Cwympai pawb i lawr 01 Raen, 'R oedd y Gair fel twr ei arfau, Gallai'n wastad roddi ei law, Ar yr erfyn mwyaf cymwys, I droi ei elynion draw Ond er gwybod yr Ysgrythyr, A byw ynddynt'yn ddibaid, Ni wnai byth ddyfynu adnod, Ond yn unig pan fat raid. Os dyddanu fyddai eisieu, Yn y cyfeillachau prudd, Meddai adnod fel agoriad I ddadgloi cauadlen ffydd; Ac wrth ddangos gobaith drwyddi, Ciliai y cymylau draw, A chyn diwedd byddai'r nefoedd Wedi disgyn ar bob Haw. Ond os cerydd fyddai eisieu, Meddai ef bicellau tan; Dreiddient drwy gydwybc d euog, Nes ei dryllio'n cbwilfriw man Ond gofalai ar ol clwyfo Gynyg balm i wella'r briw, Ac arweiniai y pechadur Yn ei ol, i chwilio am Dduw. Fel pregethwr nid oedd ddoniol, Nid amcanai foddio'r glust, Ond gwnai wledd i'r dyn newynog, A dyddanai'r meddwl trist: Ni ddefnyddiai'r ieithoedd gwreiddiol, Er egluro'i bwnc yn llawn, Ond dangosai'n ddigon eglur, Faint a gwerth anfeidrol lawn, Tybiaf glywed un yn gofyn- Onid oedd gwendidau'n hwn? Oedd, fy nghyfaill, yn ddiameu, Lawer un, fel tithau, gwn Clywsom ef yn dweyd ei hunan, Pan wyf yn wan yr wyf yn gry," Nid yw Duw yn cyfrif beiauy A pha raid i ninau sy'. Gorphwys,.bellach, Parry dirion, Gaffo'th gorff'n ei wely pridd A mwynhaed dy enaid wynfyd, Nes yn olwg troi'r dy ffydd Ni chei golofn hardd o farmor Yn y byd lie buost byw Ond cei goron anllygredig, Na ddiflana gan dy Dduw. Bangor. LLEWELYN TEOID. =-

Y PARCH. WILLIAM OWEN, CHINA.

LLANBRYNMAIR.

Y GOLOFN DDIRWESTOL.