Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN DDIRWESTOL. [GAN D. S. DAVIES]. Dyma resymau Mr. Stephens, Tany- marian, yn y gynhadledd yn Treflys, y Bethesda ;-4 1. Mai gwin meddwol oedd yn y gwleddoedd gynt, fel y dengys banes y wledd yn Cana Galilea: "Pob dyn a esyd y gwin da (oinon lcalon) yn gyntaf, ac wedi iddynt feddwi (dyna fel y mae yn y gwreiddiol) yna un a fo gwaeth." 2. Fod rhyw ddrwg yn y gwin an- feddwol hefyd, oblegid gwaherddid yn bendant i rai yfed na bwyta dim o ffrwyth y winwydden. 3. Dylai fod gyda ni gymaint o barch a, diolchgarweh i'r Gwaredwr pan yn gwneuthur coffadwriaetb o'i farwolaeth fel nad allem feddwl am ba fath win ddylid ei ddefnyddio. 4. Fod y gwin coch yn ddarlun o'r gwaed. 5. Os eisieu peth rhatach sydd arnoch, paham na cheisiwch ddwfr neu laeth a bara rhyg? Nid wyf yn foddlon terfysgu yr eglwysi ar y pwnc fel Mr. Thomas a Mr. Da vies. Mae'r chweched reswm yn wirionedd anwadadwy, ac yn werth dim. Na, nid oes neb yn dysgwyl iddo gynhyrfu yr eglwysi ar y pwno hwn, nac un pwnc arall. Nid oes un mymryri o yspryd jhuther ynddo ond pan fydd wedi digio, Mae rhyw gynhwrf a than dieithr ynddo ar ol i'w hen ddyn ef gynhyrfu. Nid oes arnaf un mymryn o'i ofn ef mewn gwaed oer, gan mor hynaws yw ei ysbryd. Ond mae ynddo ef wroldeb, mwy nag a ddis- gwyliai neb dan amgylchiadau cyffredin, pan fyddo hyny. yn ei ffordd ef. Mae ei hobby ganddo yntau. Nid oes neb yn fwy hoff o'u hedliw i ereill ac nid yw fod ganddo yntau hobby yn un gradd o an- mharch iddo. Prawf ei fod mewn cym- deithas dda. Ond y mae gan y brawd talentog o Danymarian ei hobbies, ac felly y mae yn debycach I bobl ereill nag y myn efe addef eifod. Son am gynhyrfueglwysi? Mae Mr. Stephens yn ddigon gwrol i dertysgu yr holl wlad pan fydd hyny yn ei ffordd ef. Ond nid fel reformer chwaith. -Nid yw elfenau cyntaf y diwygiwr ynddo. Rhaid ini ei ryddhau yn hollol yn y ffordd hono. Ond y mae'r donian neillduol a roddodd Dnw iddo ef yn harddu ac yn coroni ein holl gynulliadau cyhoeddus. Trawiad hollol anneheuig yw'r pumed rheswm. Nid wyf yn gallu cofio un awgrym o eiddo pleidwyr y gwin anfedd- wol mai eisieu peth rhatach na'r Port Wme sydd arnom. Mewn llawer ardal bydd y gwin anfeddwol yn ddrutach o lawer, yn enwedig drwy'r Haith. fod y cymunwyr yn cymeryd yn helaethach o hono nag o'r un meddwol. Nid oes amheuaeth nad oes amgylchiadau a gyf. reithlonant ddefnyddio dwfr glan a. "bara rhyg," neu fara eeirch, neu ffrwythau coed, neu rice, neu farina. Bum i am fisoedd yn teithio mewn gwlad lie nad oedd un tamaid o fara gwenith, na rhyg, na cheirch, na dim a elwir yn ein gwlad ni yn fara, end ychydig addygid i borth- laddoedd. Rice a farina, a tfrwytbau coed a physgod oedd beunyddiol ymborth y bobl. Ni welais ac ni chlywais yno am winllanoedd. Cauya berwedig oedd dariteithfwyd a diod anfeddwol y trigolion, a Cauya eplesedig oedd eu diod feddwol. Pwy o honom ni a ddywedai mai ang- hymeradwy gan Dduw fyddai cofio angeu loes y Gwaredwr yno gyda chynyrchion y wlad hono ? Gwelais hefyd yn y Wladfa Gymiaig yn Nyffryn Camwy, Patagonia, eglwys mewn cyfyngder ar y pen hwn. Yn Medi neu Hydref 1874, ffurfiwyd eglwys yno ar gynlluti undebol, i ateb sefyllfa y presWylwyr. Galwyd cyfarfod parotoad. Penderfyn- wyd cael cymundeb. Ond, a pha elfenau y cyfkwnid yr ordinhad ? Nid oedd yno un dyfetyn o win meddwol nac anfeddwol yn y wlad. Cynygid defnyddio dwfr yn lie y gwin dan yr amgylchiadau, ac yr oedd ambell un yn meddwl y byddai yn eithaf rheolaidd gwneyd hyny yn barhaus. Gofynais inau a oedd yno winrawn sych- ion yn y wlad, sef raisins ? Cafwyd fod cyflawnder o honynt yno, yna hysbysais iddynt ddull Dr. Everett o barotoi gwin at y eymundeb o'r grawnwin sychion. Cymeradwywyd yr awgrym yn frwdfryd- ig. Ymddiriedwyd i un o'r hen chwior- ydd ei barotoi yn ol y cyfarwyddyd. Teimlent foddhad mawr mewn cael gweinyddu eu eymundeb cyntaf yn iaith y Beibl, sef "ffrwyth hwn y winwydden." Beth pe na buasai yno rawnwin sychion? Yna buasai dwfr glan yn llawn mor gan- moladwyo. Wel, beth am y lliw? Onid yw yn rheidiol cael bara a gwin o'r un lliw a'r cnawd a'r gwaed ? Nis gellir cael hyny yn un wlad. Nid yw ein bara peilliad ni mewn dim yn gyffelyb i'w gnawd drylliedig Ef. Bara du (black bread) sydd yn Rwssia. Nis gwn i fawr am dano, ond dyna fara y bobl yno. Y mae hwnw yn llawn mor annhebyg i'w gnawd drylliedig Ef, ac yw ein bara gwyn ninau. Ond nid oes modd cam- gymeryd un peth. Ar fara o ryw fath y mae corff dyn yn byw yma. Ac yn y cymundeb yr ydym yn cyffesu mai yr Oen a laddwyd yw. ymborth yr enaid, mor anhebgorol ag yw y bara naturiol i'i corff. Yr enaid yn byw ar Grist fel y mae y corff yn byw ar fara. Yn yr ystyr hwn, pa bwys sydd ar liw'r bara ? Y pwne Wt pwysicaf yw, a ydyw yn fara maethlawn da ? oblegid "Myfi yw bara'r bywyd." Ynfydrwydd a phechod fyddai defnyddio "yr liyn nid yw fara," mewn coffadwr- iaeth am "y bara a ddaeth i waered o'r nef." Y mae'r gymhariaeth mor bryd- ferth a syml rhwng y ddau fara, fel y gall plentyn bychan ei ddeall. Tori a bwyta y bara yw y rhan bwysicaf o'r ordinhad. Dyna'r swper. Ar ol swpern y mae'r gwin yn dyfod, (Luc xxii. 20):—"Yr un tfiodd y cwpan hefyd, wedi swperu, gan ddywedyd, (1 Cor. xi. 25.) "Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd." Felly tori a bwyta y bara yw'r swper sanctaidd. Diod ar ol bwyd oedd y gwpan. Dyna'r drefn hefyd- yn y Pasg. Yn sefydliad cyntaf y Pasg, nid oedd son am ddiod o un math, ond erbyn dylodiad Crist, yr oedd .ganddynt "phiol y fendith" i'w hyfed ar ol bwyta'r Pasg. Ni welaf fod neb yn dadleu dros gael bara yr un lliw a'r c, corff, yr hwn a dorir trosoch;" ac eto dyna'r rhan bwysicaf o'r ordinhad. Bwyta y bara yw'r swper. Paham y gofynir ynte am gael y gwin i ddangos llrw'r gwaed ? Dwy ffordd sydd i gael gwin coch. 1. Trwy eplesiad. Ar ol gwasgu'r grawnwin, gadewid yr hadau a'r crwyn a'r cyrs yn y gwingafn, dan wres yr haul i eplesu. Yn y gweithrediad marwol- aethus hwnw. tynid y lliw cochddu allan o'r crwyn, sef y wisg sydd am y gwin, neu ostrel y winwydden. Pydru gyda'u gilydd yr oedd cynwysiad y gwingafn. Yn y cyflwr hwn y mae gwaharddiad i edrych arno-CI Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn." Mae yr amod "pan ddangoso ei liw yn y cwpan," yn awgrymu nad oes lliw arno yn ei gyflwr cyntaf. A dyna'r gwir. Ond pan elo drwy y pydredd a elwir eplesiad ceir cochni allan"o'r crwyn dnon. Ond y mae y rhan fwyaf o winwydden y byd heb gochni na duwch hyd nod yn y crwyn. Gwynion neu lwydwynion yw eu crwyn yn y cyflwr addfetaf. Nis gall eplesiad wneud y gwin hwnw yn goch. Y mae'r gwaharddiad uchod yn cyrhaedd y math hwn hefyd Nac edrych ar y gwin pan ymgynhyrfo yn iawn, &c." 2. Gwasgu y gwinrawn ar ol eu poethi, Gwelais hyn yn cael ei wneyd. Y mae'r gwres yn tynu y cochni o'r crwyn mor effeithiol ag eplesiad, ond heb ei ddinystrio fel hwnw. Ni ehyrhaeddai y gwahardd- iad, "nac edrych ar y gwin pan fyddo cock," at y gwin yn y cyflwr hwn, am mai nid trwy eplesiad yr aeth yn goch. Gwasger y grawnsypiau yn oer a'r Haw, a oheircwpanaid o win bron mor loyw a dwfr glan. Gadawer iddo wadd6li am ychydig, a cheir gloyw win puredig." Y mae'r ddwy ffordd uchod yn cymeryd yn ganiataol mai yn nghrwyn y grawn y mae'r lliw, pan fydd lliw o gwbl. Ond gellid meddwl fod yn y Beibl gyfeiriad at win yn goch wrth ei wasgu. Esaiah Ixiii. 2, "Paham yr ydwyt yn goch dyddillad, a'th wisgpfedil fel yr hwn a sathrai mewn gwiiinyry Ac yn Deut. xxxii. 14, A phurwaed y grawnwin a yfaist." Ar ol darilen y sylwadan ar y geiriau achod yn y 'Temperance Bible Commentary,'ao yu Barnes, ac amryw ereill, yr wyf yn dal at