Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLOFRUDDIAETH DDYCHRYNLLYD…

News
Cite
Share

LLOFRUDDIAETH DDYCH- RYNLLYD YN LIjANGYBI, GEE CASNEWYDD, (NEW- PORT), SIR FYftWY. Nos Fercher, Gorph. 17, cyflawnwyd llofrudd- iaeth ofnadwy fel y tybir yn ngodre pentre a elwir Llaugybi, yr hwn sydd tua thair milldir o Usk. Yr oedd y ty y lladdwyd ei breswyl- wyr tuag ergyd careg oddiwrth amaethdy parcbus, ac yr oedd gwr y ty, William Wat- kins, wedi bod yn trin lhwdin (swedes) y diwrnod o'r blaen yn ffe; m y Cwm, ac yr oedd hogyn o'r enw Frank James gydag ef, ac i alw heibio iddo i wneud yr un peth dranoeth. Pan yr oedd y bachgen yn galw heibio yn ol y penodiad, sylwid yn y nermdy cyfagos ei fod yn hir iawn yn myned at ei waith. Pan aeth y bacbgen trwy lidiart yr ardd, gwelodd ddyn ar ei wyneb, a rhedodd yn ol at ei fam, i ddweyd fod dyn yn cysga yn yr ardd. Nid oedd wedi deall fod y dyn hwnw wedi cysgu hftn marwolaeth. Wrth weled dychryn yn ngolwg y bachgen, parodd hyn i amryw o'r cymydogion feddwl nad oedd pobpeth yn iawn, a rhedasant tua'r lie, a chawsant fod William Watkin a'i wraig yn gorwedd yn farw o flaen y ty. Yr oedd William Watkin a'i ddillad am dano, ond ei esgidiau, ac yn gorwedd ar ei gefn, ac amryw archollion yn ei wddf a'i frest, wedi eu gwneud ag erfyn min- iog. Yr oedd efe yn ddyn cryf, tua 40 ml. oed, yn sobr, ac yn cael y cymeriad goreu fel llafurwr. Yr oedd ei wraig tua'r un oedran, ac yr oedd hi yn gorwedd yn nes i'r llidiart na'i gwr, a'r gwddf wedi ei dori. Yr oedd yn edrych fel pe buasai wedi marw marwolaeth boenus, a gorweddai y ddau yn yr ardd flodeu o flaen v drws. Yr oedd holl ddillad y wraig am dani, a chareiau ei hesgidiau wedi eu cylymu. Yr oedd gan y ddau deulu mawr o blant, ac yr oeddynt oil ond tri mewn gwas- anaeth. Cafwyd y tri eraill-Charlotte, 8 oed Frederick, 5; ac Alice, 4-wedi eu lladd yn y ty, a'r ty wedi ei roddi ar dan mewn tri o fanau, ac yr oedd yn mygu ar y pryd. Ym- drechwyd myned i fewn i'r ty, ond yr oedd mor Ilawn o fwg ac arogl, fel nad ellid myned i fewn hyd nes tynwyd ceryg oddiar y to i'r mwg fyned allan. Wedi hyny llwyddwyd i fyned i mewn, ac yr oedd cymaint ag oedd o ddodrefu yno yn bendramwnwgl. Yr oedd y gwelyau yn marw-losgi. Yr oedd un ferch a'i phen rhwng y coffr a'r gwely yn hollol farw. Yr oedd y plentyn arall o dan y gwely yn hnllol farw, a'r llall mewn ystafell arall a r gwddf wedi ei dori. Yr oedd ymysgaroedd yr eneth gyntaf allan, ac wedi ei thly",anu megys a chyllell, ac yr oedd wedi ei thrywanu yn ei chefn, fel pe buasai wedi cael ei dal gan y llofrudd yn gwaeddi yn y ffenestr am help. Yr oedd gwaith cyllell ar y tri, a phob un o honynt wedi eu liosgi yn fawr. Yr oedd gwaeth archollion ar y plant nag oedd ar y rhieni. Ar ol lladd y rhieni, mae'n debyg fod y llofrudd wedi myued ar ol y plant i'r llofft a'u lladd, a chwilio yr holl dy, ae ni chafodd ddim, yn ol pob tebyg, ond esgidiau y dyn laddwyd. Mae Hiapaenwr o'r enw Joseph Garcia, yr hwn sydd newydd ddyfod yn rhydd o garchar Usk, wedi ei ddal ar ddrwgdybiaeth. Carch- arwyd ef am dori ty. Cafwyd esgidiau y dyn a laddwyd am ei draed, a dillad merch yn ei barsel. Mae gwaed hefyd ar ei ddillad, yr hwu yr oedd wedi ceisio ei olchi ymaith.

[No title]

J1 azb.

[No title]

LIJITH 'RHEN LO-WR.