Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TREM AR GWRB Y BYD.

News
Cite
Share

O'M HAWYREN. TREM AR GWRB Y BYD. MR. GOL.,— Hynod mor amrywiol ydyw sefyllfa ac am- gylcniadau dynion mewn cymdeithas. Y fath extreems ydym yn canfod Wrth gymer- yd cipdrem ar gymdeithas gorfodir ni i sylwi ar hyn. Tra yn sylwi ar y cae gwair odditanom gwelwn nifer o bobl ieuainc yn ysgafn eu calon yn chwareus eu barferion lie, ond ar yr un pryd ni a welwn yn ymlwybro ar yr heol gerllaw yr hen, y methedig, a'r anafus. Tra yn ymweled ac ymdrochleodd ein gwlad, 0!'r contrasts, a welir yno !—yno mae'r rhai sydd yn llanw bywyd a nwyfiant wedi dyfod yn unig i f wynhau eu hunain ond yn yr un man y gwelir y gwan, y llwyd, y llesg, yr hwn sydd megis yn rhodio yn mhyrth y bedd. Cyd-deithia yn yr un cerbyd y doeth a'r ffol, y gonest a'r pur, a'r lleidr a'r drwgweith- jedwr. Gwelir y tyioty a'r palas hardd yn fynych iawn ar gyfer eu gilydd y capel a'r dafarn geir yn fynych yn yr un heol y Gaol a'r Yfgoldy a welir yn fynych yn wyuebu eu gilydd. Hynnd mor gytnysglyd ydyw. Ca un bob peth daeav heb wneud dim ymdrech am danynt, t. a mae'r Hall er ymdrechu ei orau yn uiethu cael dau pen y llinyn yn nghyd. Tywynnheulwendedwyddweh yn barhausar un, tra mae'r llall yo ei yrnyl heb wybod beth yw ond ychydig o fwynhad trwy ei oes. Cyr- haedda rhai i binaclau gogoniant, ac fe'i molir gan bawb, ond am eraiil nid oes iddynt hwy ond dinodedd. 0 anhrefn y byd Yr wyf yn canfod fod damweiniau a thrychinebau wedi bod yn lluosog iawn yn ddiweddar bunanladdiadau, boddiadau,. damweiniau gyda'r gerbydres, ffrwydradau a mwrdradau ond y mae'n debyg mai un o'r trychinebau mwyaf ofnadwy i feddwl am dano yw CYFLAFAN LLANGYBI Y mae gwaed dyn yn oeri yn ei wythienau wrth feddwl am dano y mae yn debyg mai pentref bychan gwledig yw Llangybi, yn sir Fynwy, rhy w wyth milldir o Casnewydd. Yn y pentref hwn neu gerllaw id do, ar ochr y ffordd fawr, yr oedd teulu o dad a mam a thri o blant—dwy ferch a mab, yn cyfaneddu. Nid oedd yr hyoaf ond 8 mlwydd oed. Rhoddwyd y 5 i farwolaeth trwy ffordd greu- Ion ofnadwy, a darfu'r adyn, pwy bynag oedd, geisio rhoddi'r ty ar d&n. Canfyddwyd y weitbred ddychrynllyd gyntaf gan hogyn bychan, yr hwn oedd yn gweithio gydag Evan Watkin mewn ffarm gerllaw yno. Aeth y bychan at ei waith yn y borau ddydd Mawrth fel arferol, ac yr oedd yn dysgwyl gweled Wat- kins, ond yn blino aros am dano aeth i edrych yn mha le yr oedd a'r peth cyntaf a wel-dd wrth ddrws Watkins oedd y wraig yn gor- wedd yn farw yn ei gwaed. Rhedodd yn ol yn y fan i ddweyd wrth ei fam, yr hon pan ddatth yno a gweled yr olygfa a syrthiodd mewn llewyg. iihoddwyd hysbysrwydd, a daeth amryw eraill yn nghyd; a chanfyddwyd fod nid yn unig y wraig ond y gwr hefyd wedi ei ladd gerllaw iddi. Wedi myned i'r ty i chwili-s am y plant, cafwyd hwythau wedi en liadd-y ddau ieuangaf yn y g weIy, a'r Hall o odditan y gwely, mae'n debyg wedi ceisio ffoi YIJO a gwaeth na byny yr oed yot wedi eu llosgi yn awr. Yr oedd yr olygfa yn un ofn'-idw o ddychrynllyd. Hawdd iawn genym gredu fod y bobl wedi eu meddianu a syndod wrth feddwi am y weithred ddychrynllyd. Cynhaliwyd inquest ar y cyrff y dyda o'r blaen, pryd y rhoddwyd tystiolaeth ar yr achlysur gAn ferch arall i'r rhai a lladdwyd, yr hon oedd mewn gwasan- aeth. Pan y dangoswyd iddi ddillad eimatu, hi a dorodd allan i lefain yn chweJw iawn. Wel, wel, yr oedd yn aumhosibl iddi hi beidio. Rhodded Duw nerth iddi hi i ddal dan oruch- wyliaeth mor chwerw. Y mae diareb gan y Saia, Murder will out; ac fel diarhebion yn fynych, y mae ynddi lawer o wir. Y mae yn syn weithiau pethau mor fychain sydd yn arwain i bysbysrwydd am yr hwn a gyflawn- odd y weithred yr un fath yn yr amgylchiad yrua y mae Tramorwr o'r enw Joseph Garea wedi ei gymeryd i fyny ar y cyhuddiad o ladd Evan Watkins a'i briod a'i blant, ac wedi hyny cynyg rhoddrr ty ar dan. Y mae'r prawf- ion amgylchiadol yn lied gryf. Ar yr 16eg cyfisol yr oedd Joseph wedi dod o'r carchar. Daliwyd ef yn yr orsaf, a chafwyd fod am dano ddillad y dyn oedd wedi ei ladd, ac yn ei feddiant ef ddillad y wraig, a rhan o berfedd Clock oedd yn y ty. Un peth sydd ar ol, sef yr arf a pha un y cyflawnodd y weithred. Y mae gan y carebaror gyllell yn ei feddiant ond nis gallasai a hono gyflawni'r gwaith. Y farn yw ei fod wedi taflu yr arf i'r afon, neu ynte wedi ei guddio. Hwyrach y ceir ef serch hyny o hyn i ddydd Llun. Mae'n ym- ddangos mai eiddil o gorff yw'r carcharor—un y gallasai Watkins yn hawdd iawn ei drechu, gan ei fod ef yn ddyn cryf ond y tebygol- rwydd yw iddo ymosod yn annisgwyliadwy. Un peth sydd yn aneglur iawn yn yr achos yw, beth a allasai gymhell hwn i wneud y fath weithred ? Nid oedd ond dyeithr yn y lie, nid oedd Watkins ond tlawd o ran ei am- gylchiadau. Y mae yn anhawdd iawn i ni weled pa peth a allasai ei gymell i fyned yn nghyd a'r gwaith. Bysbysir ni hefyd nad yw ei olwg mewn modd yn y byd yn gyfryw ac y buasai yn cyflawni'r gwaith. Und dyna i beth yr eir i siarad telly yr oedd Calwaladr Jones, Dolgellau. Yr wyf yn canfod fod yr arddangnsfa yn Paris wedi ac yn etfeitbio yn fawr ar ein best Wattering Places. Lodging ac apartments ydynt y pethau amlycaf yn ffenestri llawer o'r tai ac yn ogyraaint a bod masnach mor isel, mae'n debyg mai nid rhyw cynhauaf da a wneir gan bieswylwyr glanau y mor eleni ond y mae argoelon eisoes yn ol fel yr wyf yn deal! fod yna adfywiad ar gymeryd lie. Da iawn, y mae'n hen bryd ifido ddod. Y mae'n debyg y bydd nos Lun y 29ain cyfisol, yn noswaith lied bwysig yn y Seiiedd, oblegid yn ol ydys yn ei ddeall yn awr mai dyna/r adeg y mae Arglwydd Ha. tingtonyn dod a'i benderfyniad gyda golwg ar gwestiwn y Dwyrain yn mlaen. Y mae'r penderfyniad wedi ei gyhoeddi, felly ceir digon o amser i'w fyfyrio. Bydd yr adeg uchod yn fanteiRiol iawn i gael gweled beth yw syniad y blaid ryddfrydol ar yr hyn a wnaed gan Earl Beaconsfield yn Berlin. .y mae si wedi fy nghyraedd, mailledgyndyn yw y llywodraeth i roddi dim hysbysrwydd am Cyprys, yn enwedig gyda golwg ar gaeth- ion )n yr ynys. Paham, tybed ] Paham hefyd?

Y SENEDD.

Advertising

DYCHWELIAD ARGLWYDD BEACONSFIELD…