Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN DDIRWESTOL. (GAN Y PARCH. D. S. DAVIES). Dim dwfr ar y reilffordd. Y mae rhyw- beth yn nhrefn pob peth cyhoeddus yn Mhrydain yn tueddu i orfodi pobl i geisio diodydd meddwol. Yn niwedd Mehefin, cafwyd wythnos o hin boeth anarferol. Syrthiodd llawer yn Lloegr i'r Ilawr yn farw gan y gwres mawr, a rhai yn Nghymru. Yr oedd yn dywydd rhagorol i'r cynhauaf gwair lie yr oedd yn addfed. Teithiais gryn lawer yr wythnos bono ar ffordd fawr Caer a Chaergybi, ond ni wel- ais gyfleusdra i gael diod o ddwfr yn un man, nac yn y gorsafoedd mawrion nac yn y rhai bychain-dim darpariaoth am ddwfr i deithwyr sychedig. Dim ond cwrw yn mhob man. Mae hwnw yn holl-bresenol fel pechod. Yn America, ar eu holl reil- ffyrdd hirion, y mae dwfr oer glan ar bob tren; yn gyffredin, yn mhob cerbyd, ac yn ddiffael yn mhob gorsaf, o'r fwyaf hyd y leiaf, yn y dinasoedd mawrion, ac yn nghanol y wlad hefyd. Yno, y cwpan a'r dwfr oer sy'n holl-bresenol; ond yn Mhrydain, "cwpan y felldith" sy'n holl- bresenol. Gwelaf yn ami rai yn gorfod myned i siopy cwrw i geisio rhyw wlybwr, a thalu am dano; ac ni feddyliant am geisio dwfr glan heb dalu am dano ryw ffordd, drwy brynu ryw deisenau, neu ryw- beth arall a welant ar werth yno. A gwelaf lawer yn myned yuo i geisio cwrw, a'r na feddylient am gwrw pe buasai dwfr yn gyfleus iddynt. Nis gall neb ddweyd maint y golled i achos sobrwydd, a phob achos da arall yn y wlad hon, drwy y diffyg hwn am ddwfr glan yn ein stations. Dylai ein Senedd orfodi holl gwmniau y reilffyrdd i ddodi cyflenwad o ddwfr glan bob dydd drwy'r flwyddyn yn mhob gorsaf, mewn lIe amlwg a chyfleus i'r teithwyr. Etholiad Bwrdeisdrefi Fflint.- Y mae yn llawenydd mawr i bleidwyr sobrwydd fod Mr. Roberts, Bryngwenallt, Abergele, wedi cael ei ethol i gynrychioli trefi swydd Ffiint yn Nhy y Cyffredin. Cyn iddo gael ei ethol, ymrwymodd i bleidleisio dros un- rhyw feeur a gynygiai osod y fasnach feddwol dan lywodraeth y trethdalwyr. Dyna egwyddor y Permissive Bill. Mae Syr Robert Cunliffe, yr ymgeisydd Rhydd- frydol, yn sir Ddinbych, yn lie Mr. Watkin Williams, wedi addaw yr un peth. Diwrnod neu ddau o flaen etholiad Fflint yr oedd etholiad Middlesboro. Cafodd Mr. Wilson y Rhyddfrydwr ei ethol gyda mwvafrif dir- fawr. Yr oedd yntau wedi ymrwymo i bleidio y Permissive Bill. Fel hyn, dys- gwyliwn y bydd ein hymgeiswyr Sen- eddol mor awyddus i sicrhau pleidlais y dirwestwyr ag oeddent o'r blaen am bleid- lais y tafarnwyr a'u pleidwyr. Y Permissive Bill.-Nid oes obaith i'r mesur cyflawn hwn gael derbyniad yn y Senedd bresenol. Nis gall y Toriaid fforddio gwneud dim yn erbyn "y fasnach." Ar gefn y faril yr aethant i mewn i'r Ty; a gwae hwynt os bradychant y tafarnwyr. Er hyny, y mae Syr Wilfred Lawson yn dwyn ei fesur i'r bwrdd bob blwyddyn, fel pe gobeithiai ei gario. Cafwyd un pryd- nawn o ddadl dda arno. Mae hyny yn unig yn fuddiol iawn, a dyna'r cwbl a enill- wyd. Yr oedd rhwng 80 a 100 dros yr ail ddarlleniad, a chanoedd yn ei erbyn, a dyna safle y mesur er's blynyddoedd. Er hyny, yr oedd cymdeithasau y mas- nachwyr meddwol wedi anfon eu cenhadon i Lundain i wylio y symudiadau gyda'r mesurau, Cau y Tafarnau ar y Sabbath yn Iwerddon a'r Permissive Bill, ac yr oedd dau o honynt yn rhoi yr hanes i gyfarfod misol tafarnwyr, Le'rpwl. Dywedai Mr. Vines nad oedd dim yn newydd yn cael ei ddweyd dros y mesurau ac yr oedd efe yn meddwl fod yn resyn fod Syr Wilfred Lawson mor ddi-ildio yn dwyn ei fesur yn mlaen bob blwyddyn, pan nad oedd y gobaith lleiaf am ei ail-ddarlleniad. Yn yr un cyfarfod, yr oedd Mr: Ellis yn rhoi'r newydd da i'r frawdoliaeth wirodawl, fod yr Arglwydd Ganghellydd a Mr. Justice Mullor wedi penderfvnu o'r diwedd yn y Court of Queen'; Bench nas gellir cosbi neb am roddi dwfr yn y gwirodydd a hwy- thau wedi rhoddi rhybudd o hyny mewn llythyrenau mawrion ar furiau y dafarn. Cymerwyd achos y tafarnwr Small o Lang. ey Mills i'r Ilys uchaf. Profwyd ei fod yn rhoddi llawer o ddwfr yn y gwirodydd, nes eu gwneud yn deneu iawn. Ond gan fod rhybudd o gymysgu a dwfr ar ei furiau, rhyddhawyd ef yn anrhydeddus. Bendith fawr ar Mr. Small am droi brandi yn ddwfr. Mesur Noddfa'r Meddwyn, neu fel y galw- ant efyn LIundain, The Habitual Drunkard's Bill. Ar Ionawr 18fed y bu darlleniad cyntaf y mesur hwn. A hwn oedd y cyntaf yn y rhes ar drefn y Ty am Gorph. 3ydd. Am un o'r gloch cynygiodd Dr. Cameron yr ail-ddarlleniad, a chymerodd awr, a phymtheg mynyd mewn araeth alluog dros ei gynygiad. Mae amser mawr er pan gafodd unrhyw fesur gymaint o gefnogaeth a mor lleied o rwystr a hwn. Traddodwyd ugain o areithiau yn olynol o'i blaid, a dim un yn ei erbyn. Dylai hwn gael ei wneud yn gyfraith mewn wythnos neu ddwy o bellaf. Am bob peth mewn perthynas i'r fasnach feddwol rhaid i Sen- eddwyr Prydain gyfeirio at America, ac felly i gadarnhau ei bwnc dywedai Dr. Cameron fod yr anturiaeth yno wedi llwyddo tu hwnt i ddysgwyliadau ei bleidwyr In America the experiment had answered beyond the expectations of its promoters." Bydd darpariaethau y mesur hwn yn fen- dith na ellir ei phrisio i filoedd o deuluoedd yn Mhrydain. Pan fyddo un wedi myned yn ddilywodraeth arno ei hun, ac felly yn ddychryn ac yn boen gwastadol i'w cyf- neseifiaid, bydd hawl ganddynt ei osod yn y Noddfa hyd nes y daw yn sobr. Ni bydd yno ddafn o'r gwlybwr drwg o'r awr gyntaf nes dyfod allan. A gellir ei gaethiwo yno am flwyddyn os bydd achos. Y mae y cynllun hwn yn America wedi bod yn fodd- ion i ryddhau llawer un o g-adwynau y biys aflywodraetbus, a'a hadfer i'w cyfeillion rhag diny&tr sier ac anamserol. A bydd yn fendith dragwyddol i filoedd yn Mhryd- ain. Y peth a'n synodd oedd gweled fod yr aelodau mwyaf ffyddlon i'r tafarnwyr a'r mwyaf ymrwymedig iddynt yn pleidio y mesur hwn ac yn ei alw yn fesur llesol ac ymarferol. Yr oedd Mr. O'Sullivan, cyn- rychiolydd penderfynol y fasnach feddwol, yn siarad yn deimladol iawn o'i blaid.

CAERCYSTENYN.