Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
I J) ([ ll1tiul1£iiltb.I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
J) ([ ll1tiul1£iiltb. Nodindau gan y Gol. 3 Y Gololn Ddirwestol—Caercystenyn 4 Y Foneddiges Dawedog 5 Cyfnndeb Gogled-lol Morga.nwg—Mynyddba.ch 6 Agoriad addoldy newydd Brechfa—O'm Caban ar Beupych-Glanclwr, Penfro, a'r amgylch- oedd—Gair o Hwlffordd 7 PElF EHTHYGL- Dychweliad Arglwydd Beaconsfield o Berlin- Y Senedd 8 O'm Hawyren— 9 Gohebiaethau 10-11 Llofruddiaeth dychrynllyd yn Llangy bi- Adolygiad y Wasg 12 Iechyd-Bala-Marwolaeth y Parch, Morris Roberts, Remsen-John Theodore 13 Genedigaethau Priodasa u-M arwolaethau— Hysbysiadau 14-16
^lolita'bait gan 12 (Sol.
News
Cite
Share
^lolita'bait gan 12 (Sol. CYDEADDOLDEB CEEFYDDOL.—Yrathraw- iaeth benaf ydoedd cynhadledd fawr Berlin am ddysgu i lywodraeth Twrci oedd ei bod i gydnabod a sefydin Cyd- racldolcleb crefycldol," drwy holl ranau ei hymerodraeth nad ydoedd ddim, ar un- rhyw gyfnf, i godi ac anrhydeddu unrhyw enwad neu blaid o addolwyr er diraddio a gorthrymu pleidiau eraill. Yr oedd yn hyfryd iawn i glywed cynhadledd o'r fath urddas ac awdurdod yn dweyd wrth y Tyrciaid, "Rhaid i chwi wneud fel yr yd- ym ni yn dweyd wrfchych:" ond buasai yn dda iawn pe buasai yr awdurdodau uchel oeddynt yn ygynhadledd yn gallu dweyd, Y mae y llywodraethau Cristionogol ydym ni yn gynrvchioli, wedi hen sefydla "cydraddoldeb crefyddol," ac y mae pob dosbarth o'i deiiiaid wedi cael dedwydd fwynhau, drwy yr oesoedd, feudithion gwerthfawr brawdgarwch a chariad cyd- raddoldeb crefyddol: a rhaid i chwithau v Tyrciaid estyn yr uu tegweh ac iawnder I c r i'ch cleiliaid oil. Buasai pregeth felly yn un gref, gyson, oleu, ac effeithiol; ond nid cysan ydyw i awdurdodau cynbadledd gyhoeddi o'u cadeiriau uchel uwcblaw y rbai y maent am eu dvsga a'u disgyblu, Rhaid i chwi wneud fel yr ydym ni yn dweyd, nid fel yr ydym ni yn GWNEUD. Addysg dlawd iawn ydyw y "gwnewch fel yr ydym ni yn dWGyd, nid fel yr ydym ni yn GWNEUD:" ond un o'r argoelion goreu geir fod acbos bendigedig rhyddid yn myned yn ei ilaeri ydyw, fod Andras- siaid a Beaconsfieldiaid a Bismarciaid a Bulowiaid a Gortschacoiliaida Hohenlo- heaid a Shouvaloffiaid a Waddingtoniaid cynhadleddau cydwladwriaethol yn dech- reu cytuno i gymell llywodraethau y gwledydd i sefyd'lu cydraddoldeb cref- yddol. Un o berlau dysgleiriaf coron y gynhadledd fawr ddiweddaf ydyw, ei bod wedi cyhoeddi dedfryd mor gref o blaid cydraddoldeb crefyddol," oblegid ni cheir byth dawelwch mewn iinrliyw wlacl beb iddi gydnabod yr athrawiaeth o gydraddoldeb crefyddol fel canghen bwys- fawr o iawnder gwladol, neu degwch cymdeithasol.
[No title]
News
Cite
Share
CARTHFFOSYDD LLUNDAIN.-—Y mae dau Fwrdd neu ddwy gorfforiaethwedi eu neillduo i arolygu y trefniadau gyda golwg ar lanhad ac iecbyd y Brifddinas, sef y "Metropolitan Board of Works," a'r Thames Conservaturs." Yr hen drefn oedd golchi i'r afon holl wrtaith y cldinas; ond yr ydys wedi trefnu bellach er's cryn ugain miynedd, nad ydys ddim i gael arllwys i'r afon gynhwysiad y carth-fi'os- ydd eithr bod yn rhaid ei "bwmpio" o'r fFordd i'w fwrw i'r afon islaw y ddinas ond y mae y cynllun wedi profi yn un dradfawr a gwastraffus ac anfoddhaol. Y A mae y ddau Fwrdd mewn cynen cag am eu bod yn methu cydolygu. Y mae engin-1 eers y ddwy blaid yn croes ddadleu ac an- hawdd gwybod beth fydd y diwedd. Yr ydym yn credu y bnasai haner yr arian ydys wedi wastraffu ar gynlluniau y earth iFosyda yn ddigon i dalu yn dda i gwmni cryf o wrteithwyr am ysgubo llwch yr heolydd a lludw y tai i'w gymysgu a golchion ac a gwrtaith y geudai; ac i'w cludo wedi hyny ymaith mewn meni neu lestri priodol, i frasliau braenarau a pbor- feydd a gweirgloddiau y wlad. Buasai trefn felly yn un.o enill ac anrhydedd i'r deyrnas; tra mae yr hen drefn heintus a a gwastraffus y carth-ffosydd yn feiidith ac yn golled ag sydd yn warth i broRad a gwybodaeth a chelfyddyd yr oes. Yr yd- ym yn credu gryfach, gryfach fod yr amser i ddyfod, a'i fod yn awr gerllaw, pan y bydd i'r reilffyrdd ddwyn goruchwyliaeth y carth-ffosydd oddiarnynt; oblegid y tir, ac nid yr afon, yn ol deddfau rhagluniacth y nefoedd, sydd i gael gwrtaith y ddinas a'r pentref.
[No title]
News
Cite
Share
EISTEDDFOD LLANEWST.—Wei, lanciuu, a ydych chwi wedi cael y gwair yn mhob mall i gael i chwi ddyfod i Eisteddfod fawr y Cymryyr lion a gynelir yn Llanrwai; Awst 1, 2, a 3. Y mae hon, wedi yr holl belynt fu yn ei chyleh, yn debyg o droi allan yn Eisteddfod ardderchog eto. Dy- wedir rod cyfansoddiadau penigamp wedi eu derbyn tuag ati; ac ni arbedir na thraul na thrafferth gan y Pwyllgor i'w gwneud yn Eisteddfod or iawn ryw. Y maent wedi sicrhau cantorion o'r closbarth blaenaf; ac yn ben ar y cyfan, y mae COII MAWR Y SOUTH yn dyfod yno i berfformio BlodwenDr. Parry. Y mae Blodwen wedi cael ei pherfformio yn Alexandra Palace, Llundain, ac wedi derbyn canmoliaeth uchel gan rai o feirniaid mwyaf y Brif- ddinas. Wel, yn awr am dani, fechgyn, dyma gyfie ardderchog i glywed y Cor Mawr a gurodd y byd yn Llundain, yn canu Blodwen Joseph Parry yn Eistedd- fod Llanrwst. Deuwch yno oil.
CYPRUS PAN EEOLAETII LLOEOR.—Y
News
Cite
Share
CYPRUS PAN EEOLAETII LLOEOR.—Y mae bellach yn hysbys i bawb fod llywodr- aeth Twrci wedi cyflwyno Ynys Cyprus i fod dan nawdd a rheolaeth Lloegr, a bod ein brenhines wedi sefydlu rhaglawiaeth I b yno. Y mae llawer iawn o groes-ddadlu wedi bod gyda golwg ar hyn,-rhai yn ystvried ac yn canmol y cytundeb fel un teg a buddioJ, a rhai yn ei gondemnio fel un annheg a pheryglus. Y mae pum' n'aitb perthynol iddo ag y dylid eu cofio a'u eorra:- L Fod yr Ynys wedi bod am oes- oedd yn pertbyn i Twrci. 2. Fod Twrci yn awr dan reolacth Lloegr. 3. Fod "llywodraeth Lloegr wedi derbyn y cynyg. 4. Fod preswylwyr yr Ynys yn falch o'r cyfnewidiad. 5. Fod yno argoelion gobeithiol am welliantau gwerthfawr cel- fyddydol, masnachol, gwladwriaethol, a chrefyddol. Y mae plaid gref, ddoniol, ddylanwadol, drwy ein gwlad, yn arfer eu cyfrwysdra i wneud y tro yn "Asgwrji Cynen; ac y maent am wneud eu goreu i danio teimladau yn ei erbyn, drwy broffwydo fod cymylau daon yn ymgasgla draw yn mlaen, a bod tymhestloedd ys- tormns yn casglu eu nerth; ac fel can- lyniad naturiol o broffwydoliaethau. eu hewyllys, y maent yn gwneud eu goreu i. luddias y diwylliant a'r diwygiadau gwlad- ola chrefydd ellir ddysgwyl oddiwrth y fath gytundeb ac y mae y rhagfarnau yn ei erbyn mor gryfion ac mor boethwyllt, fel yr hoffent i'r tro achlysuro terfysgoedd a rhyfeloedd. Y mae plaid arall yn v wlad, a hono ydyw y luosocaf o lawer iawn, yn barnu ac yn dadlu y deillia daioni mawr o'r cytundeb, ac y gellir,. drwy gyf- eillgarwch a chydweithgarwch, ei wneud yn agoriad Porth Newydd" ar hen ffordd enwog tua gwledydd y Dwyrain: a'u cred ydyw y bydd i anturiaethwyr arianog, o Brydain a gwledydd eraill, fyned y ffordd hyny i ddadlenu adnoddau cyfoethog dyffrynoedd, mynyddoedd, a choedwigoedd mawrion hen ifreniniaethau y Dwyrain; ac y gwneir yno gamlesydd, reilffyrdd, a chyfleusderau eraill at draf- nidiaeth, ac y bydd y cyfan yn enw ac yn enill i Brydain, ac yn gymorth gwerth- fawr hefyd i achos gwybodaeth, celfyddyd, masnach a chrefydd. Nid ellir dweyd fod Gol. y CELT wedi bod erioed* yn edmyg- ydd i weinyddiaetbau larll Beaconsfield ond y mae yn barod i gydnabod ei fod, ar hyn o .bryd, yn credu i'n llywodraeth, drwy gymeryd Ynys Cyprus dan ei gofai, wneuthur gwasanaeth gwertbfawr i achos Ehyddfrydiaeth; ac y bydd yn groes i ysbryd Cristionogaeth i geisio dyrysu neLL atal y fath amcan.