Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y SENEDD.

News
Cite
Share

Y SENEDD. Llun. Ty yr Arglwyddi. Mewn atebiad i Arglwydd Selborne, dywedodd yr Arglwydd Ganghellydd fod yn mwriad y liywodraeth i gynyg gwelliant yn Neddf y "Cwyn Dros- eddau." Galwyd sylw y Ty gan Iarll Granville, at y cytundeb dirgelaidd a wnaed rhwog Lloegr a Twrci. Ni allem feddwl fod y Twrc wedi costio digon i ni yn barod yn mhob modd, heb i ni eto gymeryd rhagor o'i gyfrifoldeb arnom. Ceir gweled cyn hir mai cael bychan fydd cael llywodraeth u yn Cyprus, wrth ei gyfer- bynu a'r ymrwymiad i amddiffyn tiriogaethau Asiaidd y Twrc. Pasiwyd mesur Cofrestriad yr Etholaeth, Seneddol a Bwrdeisdrefol. Bydd hwn yn gryn bwylusdod gyda golwg ar benderfynu yr Etolaeth Seneddol yn y Bwrdeisdrefi. Ty y Cyffredin. Cymerodd Mr. Roberts, yr aelod anrhydeddus dros Fwrdeisdrefi Flint ei le a'i sedd. Daeth ein cytundeb a Twrci dan sylw y Ty, mae braidd yn sier na bydd hwn yn rhyw gymeradwy iawn gan y wlad. Beirniadwyd yn llym Fesur Pia Heintus yr Anifeiliaid. Mae gwrthwynebiad i'r mesur hwn yn cyn- yddu yu mysg y Ceidwadwyr eu hunain. Pasiwyd ail ddarlleniad mesur yr Esgob- aethau. Am "an y mesur yw cael caniatad i ychwanegmhif yr Esgobit n) dywedodd Mr. I Dillwyn, y byddai mesur er Dadgyaylitu yr Eglwys a'r WIadwl iaeth, yn Jlawer mwy o fendith i'r Eglwys ac i'r wlad. Cariwyd yr ailddarlleniad gau f wyafrif o 128. Nid oes berygl y ca yr Eglwys gam gan y senedd bresenol, oni cha gam trwy gael gormod o'i ffordd ei hun. Mawrth. Ty yr Arglwyddi. Tebyg nas gwryr aelodau y Weinyddiaeth fawr iawn am weithrediadau eu cyd-aelodau yn Berlin, o leiaf nis gallasant ateb Iarll Granville—A oedd y cytundeb rhwngLloegr a Twrci wedi ei osod o flaen y Gynadledd." Ty y Cyff, editi. Rhoddwyd yr un cwestiwn gan Mr. Forster, a chaed cyffelyb atebiad. Llywodraeth nnbenaeth fyddai yn 01 poh tebygolrwyiid y fwyaf cydnaws a tliueddfryd Arglwydd Beaconsfield. DaHlenwyd mesur Addysg Canolaidd (Iwerddon) y waith gyntaf. Pwyllgorwyd ar fesur y Prif-ffy, dd. Ei arucan yw deddfu, gyda golwg ar ddefnyddio ager-gerbydau arnynt. Dygodd Mr. Erringtor fesur Tir Iwerddon gerbron, er mwyu cael rhagor o ddiogelwch i'r 0 tenantiaid. Gwrthodwyd ef gan fwyafrif o 67. Mercher. Cynygtwyd gau Mr. Potter, ail ddarlleniadt y Real Estate Intestate Bill." Amcan y mesur yw newid y gyfraith gyda golwg ar feddiant tirol. Pe y dygwyddai i un farw yn ddiewyllys, a yr holl dir i'r mab hynaf neu yr etifedd, a rhenir y meddiant eraill yn gyfartal cydihwug yr oil. Amcenir drwy y mesur hwn osod metbiant mewn tir ar yr un safle a phob meddiant arall. Coll- wyd y mesur teg hwn drwy fwyafrif o 36. Iau. Ty yr Arglwyddi. Ymddengys y Ily rhaid i Arg. Beaconsfield a'i gyd-swyddugion ddychw,elyd o Berlin cyn y ceir ychwaneg o hanes eu gweithrediadau. Dyna ateb Due o Richmond i Iarll Granville ar y mater. Ail ddarllenwyd mesnr Epping Forest. Gofynodd larll Shaftesbury beth oedd bwriad y llywodr- aeth gyda golwg ar y Gaeth Fasnach yn Cypnis, yr ateb oedd, ei bod yn rhy gynar i drefnu dim ar y mater. Ty y Cyffredin. Cyfeiriwyd yr un gofyn- iadau am Cyprus, a chaed atebion cyffelyb. Caed dadi lied boeth ar Fesur Cau Tafarn- dai yn yr Iwerddon ar ddydd yr Arglwydd. Gwener. Ty y Cyffredin. Bu yr un meaur o dan sylw y Ty, ac ar 01 hir a gwresog ddadleu, cytunwyd arno. Mae yn dda genym weled yr arwydd leiaf fod y wlad yn bwriadu cwtogi ar rwysg y fasnach ddinystriol hon.

O'M HAWYREN.

CYNADLEDD BERLIN.