Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

LLANWRTYD.

News
Cite
Share

LLANWRTYD. MAE y lie hwn wedi bod yn dra enwog y blynydd- oedd gynt ar gyfrif crefydd a chrefyddwyr, yn neillduol felly, pan oedd yr anfarwol, a'r diweddar Hybarch. David Williams, Llanwrtyd, fel y gelwid ef yn anterth ei ddydd, a'i nerth, a'i wresogrwydd crefyddol, hyd nes llenwi yr ardaloedd cylehynol a'i ddylanwad nefolaidd. Mae enwau Mr. Wil- liams a'r hen Gapel Gelynos yn anwyl a chysegr- edig hyd heddyw gan yr hen bobl, fel na feiddia y dosbarth ieuanc, iryfygu, na dweyd dim yn an- mharchus am y naill na'r Hall o honynt, heb gael sen yn o galed am eu hyfdra. Gobeithio y parha dylanwad a'r peraroglau a deimlwyd trwy yr hen ddiwygiadau crefyddol a gafwyd yn yr oesoedd a'r blynyddoedd a aethant heibio, ar y genedl ieuane sydd yn codi, fel y gellir edrych arnynt a'u cyd- nabod fel rhai teilwng o'u hynafiaid. Mae y Parch. R. James, gweinidog presenol y lie, yn ddyn eymharol ieuanc, yn llawn bywyd a gweith- garweh crefyddol, ac yn ddirwestwr trwyadl, a gair da iddo yn yr eglwys fel y cyfryw. Y mae ganddynt gapel newydd hardd, wedi ei adeiladu yn y flwyddyn 1867, a phob ceiniog o'r ddyled wedi ei thalu er's dros flwyddyn bellach. Y mae ganddynt le agored yn awr i gynorthwyo achosion eraill, a chymdeithasau dyngarol sydd yn galw am hyny. A sicr genyf na fydd eglwys gynes a haelionus Llanwrtyd byth yn ol pan ddaw galwad teilwng am eu cynorthwy. Mae yma amryw gyf- newidiadau wedi cymeryd lie er y llynedd—llawer wedi meirw, ac yn eu plith, Mrs. Griffiths, anwyl briod y diweddar weinidog, yr hwn a fu farw naw mlynedd i'r unfed-ar-ddeg o'r mis hwn. Dywedir bod yr amgylchiad o farwolaeth ei gwr wedi effeithio mor ddwfn ar ei meddwl, fel na bu byth yn galonog a hapus ar ol hyny; ond erbyn hedd- yw, y mae hi wedi cael ei rhyddhau oddiwrth ofidiau, cystuddiau, a phob helbul sydd yn nglyn a'r byd trallodus yma, ac wedi ymuno gyda'r teulu dedwydd, yn canu y gan dragwyddol yn mhlith y gwaredigion perffeithiedig, a dodwyd hi i orwedd yn meddrod ei phriod ychydig dros fis yn ol, ac ar ei hoi y mae teimlad gofidus a galarus yn mynwes y boblogaeth yn bur gyffredinol. Y peth nesaf sydd wedi tynu fy sylw ydyw, bod offeiriad yr Eglwya Wladol wedi ymadael a'r lie, a hyntir yma yn ddystaw nad oedd yn rhyw lawer o golled ar ei ol, gan ei fod yn bur wlyb, ac yn rhy hoff o'r Mehilion (Bagatelle), a phethau cyffelyb, a'r swn ydyw, bod yr,offeiriad presenol, y Parch. W. Tudor Thomas, yn ddyn da a ffyddlawn. Go- beithio bod gwirionedd yn y dywediad. Mae y Parchedig Mr. Thomas, wedi adeiladu ty hardd a helaeth iddo ei hun ar lechwedd y mynydd, rhyw bedwar cant o droedfeddi tuhwnt i gapel y Gel- ynos, ac wrth edrych arno o'r gwaelod, yr oeddwn yn meddwl bod yn mryd yr offeiriad presenol i gynyg am Outdo Palace gorwych y Parch. Kilsby Jones, sydd yn mlaen y cwm, a'r olwg arno yn dra mawreddog fel Kilsby ei hunan. Hefyd, eymaint yn ddrutach ydyw i ddysgu a gofalu am yr ychydig eneidiau sydd yn dal perthynas ag Eglwys Wladol cymoedd Llanwrtyd, nag ydyw i'r enwadau eraill; a diameu genyf y buasai yn llawer gwell a hwylusach iddo gael ystafell fechan wrth oehr ei dy, na chodi Eglwys Haiarn wrth ymyl y pentref, gan fod nifer preswylwyr a chred- inwyr yr Eglwys cyn lleied yn ei esgobaeth. Peth arall sydd yn tynu sylw yr ymwelwyr yw, bod y lie yn cynyddu bob blwyddyn. Mae amryw o dai yn cael eu hadeiladu yn bresenol, fel cyn diwedd yr haf, bydd yma le i letya o dri chant ar ddeg i bymtheg cant o ddyeithriaid, ac nid oes yn awr yn y lie dros 350 o ymwelwyr, yn lie rhyw 600 neu 700 yn yr amser yma y llynedd, a'r blynydd- oedd sydd wedi myned heibio; a'r farn gyffredin yma ydyw yr achos o hyny, fel rheol, a phwy a wyr yn well na'r ymwelwyr, gan fod yrna rai yn agos o bob tref a phentref trwy Gymru, a lleoedd eraill, a'r penderfyniad y daethpwyd iddo oedd, gwastraff a meddwdod. O y trueni bod yr hen drwyth felldigedig yn cael cymaint 0 arian y dywysogaeth ac enillion y gweithwyr ffyddlawn yn lie iddynt hwy a'u teulu fwynhau bywyd, trwy gael ychydig wythnosau yn Llanwrtyd, neu rhyw leoedd eraill cyffelyb, i yfed dyfroedd iachusol ffynhonau y Saline, Chalybeate, a'r Sulphur, ac i anadlu awelon balmaidd y bryniau a'r'mynydd- oedd sydd oddiamgylch-helaeth ddarpariadau y Brenin mawr ar gyfer afiechyd a llesgedd y ddyn- oliaeth, a chael ychydig seibiant i'r corff a'r meddwl. Mae ychydig weinidogion wedi talu ymweliad a'r lie yn ystod y pythefnos diweddaf, ac yn eu plith gwelwyd y Parchn. T. Davies, Llanelli; D. Jones, Troedyrhiw; D. Griffiths, Cwmdar; Ebenezer Williams, Defynog; D. Phil- ips, Abertawy; D. C. Evans, Rhyl, a thri neu bedwar o offeiriaid yr Eglwys Wladol, heblaw amryw 0 Fyfyrwyr. Ac yn mhlith y Uuaws y mae yma ddau 0 hen gymeriadau isel a llygredig yn talu ymweliad a'r lIe-un yn flynyddol, a'r llall yn achlysurol. Mae y llygrddyn achlysurol wedi bod yma tua pliythefnos yn ol, ac ar ei ddyfodiad yma, dyma y llall yn ei gymdeithas, a'i ddwyn gerbron y frawdoliaeth wrth y ffynon, a'i gyflwyno i'r cwmpeini fel ei gyfaill anwyl a hoff, ac wrth reswm yn ei argymell i ganu i'r presenol- ion; ac ar y diwedd, aeth y gwr cloff, sef ei gyd- ymaith, oddiamgylch a'i het i gasglu iddo am ei gan, wedi hyny can odd eilwaith, ac os ,oedd ei gan flaenaf yn isel a gwael, yr oedd yr olaf yn beth anferth mwy llygredig, ac ar ol myned drwvddi, aeth Twm ei him a'i het round, gan feddwl y buasai yn cael casgliad da, ond er siom iddo, ni cha'dd ddigon. yn y ddau gasgliad i'w gludo i'r dref nesaf. Deallodd y deryn yma nad oedd ei wasanaeth a'i ganu budr a llygredig yn dderbyniol yn Llanwrtyd, ac yn foreu y dydd can- lynol ymadawodd a'r ile. Yr oedd olion pechod yn ei wynebpryd, a swn a lleisiau y meddwon yn ei gan. Cymer hwn ei enw oddiwrth aderyn gwyn a, diniwed, ond mwy priodol fuasai i un mor ddu ei arferion, gymeryd enw mwy cyfystyr iddo ei hun na'r g-n wen. Mae yr hen gym- eriad blynyddol yn treulio rhyw bedwar mis yma bob haf. Mae ei olwg i ni yn llawn pymtheg ar hugain ml. oed, ac yn gloff o'iglun chwith, a ffon yn ei law, ac yn tybio ei hun yn tori cryn rwysg yn y lie. Dywedir wrthym nad yw yn hoff o weithio, er ei fod yn grefftwr gwych yn ol tystiol- aeth y rhai sydd yn ei adnabod, os oes. fath beth a deall y fath gymeriadau. Ei ddyfais ydyw treio cael gan rai o'r ymwelwyr godi cyfarfodydd cys- tadleuol a llenyddol, yn neillduol ac yn benaf, cyfarfod iddo ei hun er cael casgliad ar y diwedd. Gwnawd hyny iddo am ryw ddwy neu dair blynedd yn ol, gan ei fod yn achwyn na allasai weithio; ond erbyn hyn mae yr ymwelwyr wedi deall ei hen gastiau, ac nid yw yn cael y gefnog- aeth leiaf ganddynt eleni, ac y mae hyny yn effeithio yn ddwfn ar ei feddwl, gan fod gobaith ei elw yn darfod. Y mae wedi dodi wrth eu gilydd ychydig benillion, rhyddiaetli, a rhigwm, a'i waith ydyw myned 0 gwmpas y wlad i ysgrech- ian allan, a hudo gwrageddach diniwed i brynu ei stwff. Mae ei iaith yn ffiaidd, budr, ac isel, yr hon a fyddai yn ddigon i godi gwrid i wyneb cigyddion gwaelaf y White Chapel wrth ei chlywed. Mae ei hen arferiad 0 dyngu a rhegu yn ddychryn i gymdoithion Llanwrtyd, dymuniad y rhan fwyaf o'r trigolion a'r ymwelwyr ydyw, iddo fyned adref at ei waith, a gweithio ei grefft, a dod yma am ychydig wythnosau fel eraill, yn lie gwerthu ei rigwm, a chymeryd mantais ar ddyfodiad dyeithr- iaid i'r lie. Caredigrwydd a hen gymeriadau o'r natur yma fyddai eu gwrthwynebu, a'u dysgu i iyw arnynt eu hunain, fel y byddo i gymdeithas gael gwaredigaeth o'r gwillied yma o'u plith, gan mai dynion moesol a chrefyddol, a goreu cym- deithas, sydd yn dod i'r lie. Gobeithio y parheir i beidio cefnogi y teulu yma, fel y gallwn gael gwaredigaeth 0 honynt o'n mysg. YJIWELWR. JERUSALEM COED-DUON. TUA dwy flynecld a haner yn ol, nid oedd un capel yn sir Fynwy yn fwy dinod a diaddurn na'r capel uchod. Yr oedd wedi myned mor anghysurus yn y gauaf, nes yr oedd y gwaith hyfryd 0 addoli Duw braidd yn faich, mewn lie mor annymunol. Yn ngwyneb yr amgylchiadau, penderfynodd yr eglwys fechan fod yn rhaid tynu darn o hono i lawr a'i ail-adeiiadu. Tua yr un amser, symud- odd rhagluniaeth Mr. J. Jeremiah, Ysw. a'i deulu i'r ardal, yr hwn, trwy ddwyfol oleuni, yn ddi- ameu, a welodd mai yn eglwys Jerusalem yr oedd ei Ie; ac felly sefydloedd ef a'i deulu hawddgar eu hunain yn ein plith, a bu eu dyfodiad yn lleshad ac yn llwyddiant yn mhob ystyr i'r lie, oblegid mae Mr. Jeremiah yn ddyn mor haelionus, ac mor llawn 0 ysbryd gweithio a thrwy ei gym- horth ef, aeth yr eglwys yn mlaen a'r cynllun, ac adeiladwyd yr addoldy, fel erbyn heddyw, nid oes ei harddach yn Nghymru yn ol ei faint. Yr oedd y draul yn gosod yr eglwys mewn dyled o £600, oud trwy ei ffyddlondeb a'i gweithgarweb, yn nghyda charedigrwydd llawer eraill, mae y ddyled wedi dyfod i lawr i £ 370, a dyddiau Sul, Llun, a nos Fawrth diweddaf, cynaliodd yr eglwys ei chyf- arfodydd blynyddol, er mwyn lleihau ychydig ar y ddyled, ac er fod yr amser yn dlawd iawn yma, casglwyd dros zC50, yr hyn sydd yn mhell dros ddysgwyliad yr eglwys. Pregethwyd yn y cyfarfodydd gan y Parchedig- ion canlynol, T. Rees, D.D., Abertawe; E. Hughes, Penmain; W. G. Williams, Rhymni; A. J. Jenkins, Trelyn; a J. P. Williams. Bryn- mawr. Yr oedd Dr. Rees i bregethu nos Fawrth, ond daeth Telegram i'n hysbysu ei fod yn rhwym mewn man arall o herwydd amgylchiadau neill- duol; ond yn ffodus, yr oedd y Parch. E. Ed- munds (T.C.), Abertawe, yn y cyfarfod, a phre- gethodd yn ei Ie. Dechreuwyd y gwahanol odfaon gan y boneddigion canlynol, y Parchedig- ion T. J. Hughes, Maesycwmwr; L. Williams, Mynyddislwyn Mri. Roberts, (B.), Coed-duon Morris, Aberhig; a Evans, Caerdydd. Cafwyd pregethau bendigedig, ac arwyddion eglur fod y meistr mawr yn cynorthwyo ei weision. Gobeithio y bydd i'r had da gael dyfnder daear, nes dwyn ffrwythau addas i edifeirwch. Coecl-duon. J CYMANFA Yr, ANNIBYNWYR YN SIROEDD DINBYCH A FFLINT. CYNALIWYD y gymanfa uchod yn Rhuthyn, ar y dyddiau Mercher ac Iau, Gorphenaf 3ydd a'r 4ydd. Calwyd cynadledd am ddeg o'r gloch boreu ddydd Mercher, yn nghapel Pendref, pryd yr oedd yn presenol y Parchn. D. Roberts, Gwrec- sam (yn y gadair) E. T. Davies, Abergele, ysgrifenydd yr Undeb R. Thomas, Fflint; J. M. Thomas, Wyddgrug; H. Rees, Caer; S, Evans, Llandegla; J. Roberts, Brymbo D. Oliver, Tre- ffynon W. W. Thomas, Maesglas; L. Probert, Porthmadog; J. P. Jones, America; H. Rees, Peniel; T. Roberts, Wyddgrug Dr. Pan Jones, Mostyn J. Pritchard, Corwen W. Grffiths, Rhosymedre; P. W. Hough, Llanarmon J. Rees, Bagillt; W. James, Sarn; J. M. Jones, Caergwrle D. Roberts, Rhyl W. Griffiths, Ochryfoel; R. T. Williams, Waenysgor; W. D. Edwards, Graig fechan; J. A. Davies, Llanddul- as; D. D. Richards, Nantglyn; H. U. Jones, Rhesycae; S. S. Thomas, Newmarket; a R. Roberts, Wern. Pregethwyr a diaconiaid, y Mri. Harrison a Richards, Coedpoeth; A. Rowlands, Rhyl; W. Roberts, Nebo E, Davies, Rhesycae J. Walters, E. Thomas, a N. Roberts, Dinbych Hughes a Williams, Treifynon Roberts a Jones, Llanelwy Hughes, Ruddlan; Davies, Pwllglas Davies, Roberts, a Jones, Rhythyn; Anwyl a Williams, Caer; Roberts, Mostyn; Phillips, Rhos, &c., &c. 2. Fod y gynadledd hon yn nodi pwyllgor ym- chwiliadol, yn gynwysedig o pump 0 bersonau, i edrych i mewn i gymhwysderau pob un a fyddo yn ymofyn am gymeradwyaeth y cyfundeb i fyned i mewn i un o'r colegau, neu i gael ei gydnabod genym fel pregethwyr rheolaidd—y pwyllgor am eleni ydyw y Parchn. D. Roberts, Gwrecsam S. Evans, Llandegla a'r Meistri Walters, Harrison, a Williams, o Dreffynon. 3. Einbod ynilwys obeithio ybydd i ymdrech- ion Mr. Rowlands, o'r Rhyl, i lwyddo yn fuan gydag awdurdodau etifeddiaeth Mostyn, i gael lie i adeiladu capel yn ardal y Llynhelyg, ac ystyr- iwn fod y cais yn rhesymol a phwysig iawn. 4. Bod y gymanfa y flwyddyn nesaf i gael ei chynal yn Rhesycae. 5. Ein bod yn anog yr eglwysi i roddi pob cefn- ogaeth i'r brawd Jones, Rhesycae, yn ei waith yn celsio tynu ymaith y ddyled ar Salem, gorchwyl y symudwyd ei ragflaenor cyn cael yr hyfrydwch o allu ei gwblhau. 6. Ein bod fel cynadledd yn ymgymeryd a gwneud ein rhan mewn ffordd arianol at gynnal y genhadaeth yn Llydaw, ac yn dymuno pob llwyddiant iddi. 7, Ein bod yn taer anog yr eglwysi i anfon eu casgliadau at Gymdeithas Genhadol Llundain, trwy law Mr. Evans, o Landegla, ac ar iddynt wneud hyny yn brydlawn. 8. Fod Tysteb Mr. Roberts, Coedpoeth, i gael ei chyflwyno yn mhen tri mis, a'n bod yn erfyn ar yr eglwysi sydd heb gyfrann wneud mor hael a buan ac y medront. 9. Fod y Mri. Myrddin Thomas, Roberts, o'r Rhyl, a Hough, yn cael eu chwanegu at bwyll- gor y Gymdeithas Genhadol Gartrefol. Rhodd- odd Mr. M. Thomas rybudd y byddai cyfan- soddiad presenol y gymdeithas i gael ei ail ystyr- ied yn y gymanfa nesaf. Derbyniwyd gan y gym- deithas hyd Gorphenaf 3ydd, 44p. 5s. 5c.; talwyd 28p. 3s.; yn gadael mewn Haw y swm o 16p. 2s. 5c.; a phenderfynwyd rhoddi 5p. bob un o'r swm hwnw i'r Sarn, Llynhelyg, Earlstown, ac Ochr-y- foel. Yn y gynadledd am ddau, y Parch. D. Roberts eto yn y gadair, ar ol canu mawl darllenwyd y papur ar y testyn gosodedig, gan Mr. David Williams, Treffynon.— Y moddion goreu a mwyaf effeithiol i gyfarfod angenion y dosbarth hwnw yn ein heglwysi sydd ■yn rhy hen i gael eu rhestru gyda'r plant, ac yn rhy ieuaingc i fwynhau moddion arferol yr eglwysi ar gyfer rhai mewn oed." Pregethwyd y noson cyntaf yn y Craig fechan gan y Parchn. Roberts, o'r Ponkey, a Hough, Llanarmon vn y Glas, gan y Parchn. Thomos Maesglas, a Roberts, Wyddrug; ac yn y capel yn y dref, gan y Parchn. L. Probert, Porthmadog, ac