Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

DARWINIAETH.

News
Cite
Share

DARWINIAETH. DAKLLENAIS atebiad. maith y Parchedig C. Hodge, D.D., i'r ymofyniad, "Beth yw Darwiniaeth ? Cymerai dystiolaeth Mr. Darwin ei hun, a'i gyfaill ffyddlon Mr. Wallace, a thystiolaethau a syniadau pleid- wyr a gwrthwynebwyr yr atbrawiaeth o ddadblygiad. Nis gwn yn iawn pa enw i'w roddi i'r ddamcaniaeth a elwir evolu- tion, os nad ymddadblygiad, ymdreigliad, neu ymagoriad. Nid yw y pethau hyn wedi cael llawer o'u dadlu yn mysg y Cymry, gan hyny, yn y maes hwn y mae'r Gymraeg yn gymharol amddifad o eiriau aivdurdodedig. Credid o'r blaen mai trwy ymddadblyg- iad o'r naill beth i beth arall rhagorach y trefnodd Duw i'r byd a'r hyn oil sydd ynddo ddyfod i'w ffurf bresenol, mai byny oedd y cynllun a gymerodd y creawdwr i ddwyn dyn a'r boll anifeiliad i'w graddau presenol. Ond yr oedd y ddamcaniaeth hon yn caniatau mai cynllun doethineb Duw oedd y cwbl, yn cydnabod bodolaetb a llywodraeth fanwl Duw ar bob petb er hyny, ni ddaeth yr athrawiaeth yn boblog- aidd. Gwrthwynebwyd hi yn effeithiol ar lawer cyfrif, ond yn benaf, drwy y ffaith nad. yw ar gael yn bresenol y dolenau- cydiol rhwng y naill ryw a'r Hall, a'r naill fath a'r Hall; nid oes un cofnodiad am danynt, nac un arwydd o hpnynt yn un man. Cydnebydd Darwin fod hwn yn fwlch pwysig yn ei ddamcaniaeth, ac nas gwyr am ddim i'w lenwi. Rheswm arall o nerth llethol yw y ffaith o sefydlogrwyud pob peth adnabyddus mor bell ag y ceir unrhyw arwydd neu goffa o hunynt yn y greadigaeth. Adaefir mai cywreinwaith tlws a rhyfedd yw troed y ceffyl. Mae olion o'r anifail hwn a gafwyd o'r "plioceue period "-y cyfnod diweddaraf yn dangos ei fod mor bryd- ferth y pryd bwnw ag yw yn awr. Ac y mae olion dynol yn dangos yr un peth. Y penglog dynpl hynaf ar gael yw yr Engis, am mai yn Ogof Engis, yn Belgium, y rlafwyd ef. Mae delw o hono gan Principal Dawson yn Canada. Mae hwnw mor berffaith a dim sydd yn y byd yn awr; ac y mae Mr. Dawson yn siarad fel pe credai fod y rhelyw hwnw yn dangos fod y dyn- ion cyntefig ar radd uwch a pherffeithiach mewn ffurf na'r oes hon. Mae pob peth sydd ar gael yn cyd-dystiolaethu i anghyf- newidioldeb pob math o greaduriaid. Mae yn amlwg y gellir, drwy ofal dynol, gynyrcbu eymysgryw-y mul; ond prof- iad yr holl oesau yw, fod y Creawdwr wedi gosod terfyn i'r cymysgedd, fel nad el drosto. Nid oes hanes fod cymaint ag un o'r cymysgryw wedi cynyrchu epil. Mae byn yn rhwystr ansymudol ar ffordd y ddamcaniaeth o ymddadblygiad a chyf- newidioldeb y rhywiau. Addefa Mr. Darwin y ffaith hon, ac nid yw yn cymer- yd arno y gall ei symud ychwaith. Y mae un ffaith arall deilwng o sylw, sef nad yw yr amrywiaethau a gynyrchir o'r un rhyw—o'r ceffyl, a'r ci, a'r golomen, yn parhau dim yn hwy nac y bydd dynion yn gofalu am danynt i'w cadw ar wahan. Dirywio, neu yn hytrach dyrywio, yn ol i'w cyflwr cyntefig a wnant wrth eu gadael iddynt eu hunain. Mae yr uchod oil yn erbyn yr hen ddamcaniaeth o ddadblygiad yn lie cread- igaetfo bendant. Ond y mae Darwiniaeth yn mYIled yn mhellach na'r ddamcaniaeth uchod, yr hon oedd yn cydnabod mai cyn- llun neu ffordd gweithrediad y Creawdwr oedd y dadblygiad. Y mae Darwiniaeth yn dysgu y gellir cyfrif am bob peth—o'r ymlusgiaid isaf yr holl ffordd at y dyn, ac o'r peth lleiaf at y peth mwyaf yn mhob cvfeiriad, trwy ymddadblygiad digynllun ac oil o bob math, o'r un hedyn gwreidd- iol yn dyfod i'w graddau presenol heb na llywodraeth, na chynllun, na gofal gan Dduw am dano o'r dechreu i'r diwedd. Addefa Mr. Hodge nad yw Darwin yn Atheist; ond mai Atheistiaeth yw ei ddam- caniaeth trwy ivthio y Creaivdwr mor bell yn ol oddhvrth ei waith, ac mor bell o'r golwg ag sy'n ddichonadwy." Gwada yn hollol y cynllun diweddegol (teleological), sef fod y dyben mewn golwg wrth gyn- llunio. Ac addefa Mr. Darwin y byddai cydnabod hyny yn dinystrio ei ddamcan- iaeth ef. Diweddeg (the argument of design) ydyw y prawf egluraf i ddyn dros y bod o Dduw. Nis gall dim ond ysbryd atheistaidd ymdrechu ein difadu o'r ddadl gref hon. Dichon na ddylid condemnio Darwin am y defnydd a wneir o'i waith gan elyn- ion Cristionogaeth; ond y mae yn an- hawdd ei ryddhau yntau. Y mae efe yn y I milwrio yn frwdfrydig yn erbyn yr hanes a rydd y Beibl am greadigaeth dyn, a phob peth arall; ac addefa fod y cyfrif a ddyry Moses yn egluro ar unwaith ddechreuad bywyd, ond nid science yw hyny, medd efe. Eddyf y m'ewyd yr hedyn cyntaf, ond nad oedd gan y Creawdwr ddim i wneud ag ef ar ol hyny. "The struggle for life and the survival of the fittest" yr hyn mewn cyfieithiad caeth i'r Gy'mraeg yw, Trecha treisied, gwana gwaedded," sydd ganddo ef yn cyfrif am bob peth ar ol hyny. Hen syniad creulon, mai trwy drais gwaedlyd o'r fath y mae yr hil ddynol mewn bodolaeth!! Mae'r pwnc hwn yn cael ei drin yn ardderchog a'i wadu gan Dawson yn ei "Story of the Earth and Man," a chan Hodge yn y llyfr crybwylledig. Wrth fanylu beth all fod yn fwy Atheistaidd na'r syniad na luniwyd y llygad yn fwriadol i weled, na'r glust i glywed, ond mai i hyny y dyg- wyddodd pethau eu gweithio drwy filoedd a'r filoedd o gyfnewidiadau a ymestynent dros filiynau a'r filiynau o flynyddoedd? Derbyniwyd ei waith yn ddiolchgar gan Atheistiaid penol yr oes am ei fod yn cau allan yn llwyr o'r holl greadigaeth bob arwydd o ddoethineb, rhagfwriad, neu gynllun, gan geisio dangos y gallai yr oil ddyfod i'r lie y maent yn awr trwy weith- rediadau nerthoedd deillion natur ei hun, heb ddoethineb oruwchnaturiol i-gyfeirio nac arwain mewn dim. Ystyr hyn mewn geiriau ywl dioi-sedclit Duw!! Edliwir hyn iddo gan lawer. Un o'r pethau hynotaf yw y parodrwydd a ddangoswyd gan lawer i dderbyn y fath syniad, a rhoddi gwedd llawer cryfach iddo nag a feiddiodd yr awdwr ei hun ei honi. Mae Darwin ei hun yn cyfaddef nad oes un wybodaeth bresenol yn ddigonol i lenwi y bylchau llydain sydd yn ei ddamcaniaeth. Yn hyny o beth y mae Mr. Darwin yn hynod wynebagored; ac er hyny, efe sydd wedi gwneud y cynygiad mwyaf beiddgar o bawb at droi Duw allan o'r Greadigaeth. I'r perwyl hyny y mae Annuwiaid, megys Strauss, Haeckel, Vogt, ac eraill, yn Ger- mani; Huxley, Spencer, ac eraill yn Lloegr, yn defnyddio eu syniadau. Gydag addef yr amcanion goreu i Mr. Darwin ei hun, a chydnabod y canmoladwy yn ei ys- bryd chwilfrydig, yr wyfyn methu gochel y casgliadau canlynol am dano ef a'i waith:— 1. Yr wyf yn ofni nas gallasai dim ei gymhell yn mlaen mor faith ac mor frwd- frydig mewn cyfeiriad mor beryglus ond ysbryd Atheistaidd-ysbryd sy'n chwilio am esgus digonol i wadu y bod o Dduw. Method d gael y peth yr oedd yn chwilio am dano, oblegid y mae yn addef fod yn rhaid cael peth creedig i ddechreu yr ym- ddadblygiant; a barna rhai o'i gyfeillion ei fod, wrth addef hyny, yn dinystrio ei holl waith; ond dyna'r fan y mae yn sefyll, mewn teimlad siomedig, mi allwn feddwl, am na lwyddodd i wneud ei gyfun- drefn o ddim, yn lie gorfod cael gwaith creedig i gychwyn. Clywais Dawson a Hodge yn dangos y methiant hwn yn llwyr a hollol yn Ngbyfarfodydd y Cyngb. rair Efengylaidd yn New York yn 1873. Yr oeddwn inau gyda'r dyrfa fawr bono yn teimlo fod Darwiniaeth wedi cael ei gorphen yn gyfiawn. 2. Y mae yn gosod Duw yn mhell ac yn ddyeithr iawn i'n byd ni; creu y mymryn cyntaf, ac yna gadael iddo i'w ffordd ei hun, a gofalu dim am dano byth wed'yn. Y mae hyny yr un mor fuddiol i ni a pbe na byddai Duw yn bod. Dyma yr Atheistiaeth sydd me wn Darwiniaeth. 3. Y mae yn rhoddi golygiad anifeilaidd o isel ar haniad dyn. Dyfetha y syniad o fod cyfrifol, o gydwybod a'r rhagor rhwng da a drwg, ac anfarwoldeb yr enaid, &c., oblegid y mae yn ceisio profi nad oes meddivl yn gweithio ar ddefnydd o'r dech- reuad, cystal a gwadu oneddwl yn hollol, drwy ddweyd nad ydyw ond un o briodol- eddau defnydd. Felly defnydd yw pob- peth, a defnydd yn ben ar bobpeth!! Mae'r Gristionogaeth iselaf, mwyaf llygr- edig, yn ogoneddus o ddyrchafol mewn eymhariaeth a Darwiniaeth. 4. A dyma yn lie y mae Atheistiaeth berffaith. Gesyd ni mewn byd heb Dduw, h.y., nad oes dim a fyno a'n byd ni, a pheiriant natur yn ddigon at bob peth. A dyna lie y gadawodd Strauss ni, "Yn mheiriant enfawr y bydysawd, yn nghanol troion chwyrn diball, a chwythiad ei drylliog olwynion haiarn, ac yn nghanol trwst byddarus ei morthwylion trymion a'i gyrdd. Yn nghanol yr holl gyffro dychrynllyd hwn, y mae dyn yn cael ei hun yn greadur diymadferth a diam- ddiffyn, heb fod yn sicr am foment na bydd i ryw wall-dro mewn olwyn ei gipio a'i ddarnio, neu forthwyl ei falu yn llwch man. Mae'r teimlad hwn o amddifad- rwydd, ar y cyntat, yn rhywbeth ofnadwy." Dyna deimlad Strauss; ac yr oedd Dar- winiaeth yn gadarnhad mawr i'r Atheist hwnw. Yr oedd Strauss yn fwy parod i farw fel anifail-i ddarfod, ar ol darllen gwaith Darwin. Mae tri pheth yn cael eu haddef gan yr Atheistiaid yn ormod gorchwyl eu hes- bonio yn ol eu syniadau hwy:—1. Dech- reuad defnydd. 2. Decbreuad byivyd. 3. Dechreuad cyclwybod (consciousness). Ym- wybyddiaeth y gelwir hyny yn y Geiriad- uron; ond credwyf mai eydwybod yw y peth. Y mae yn cynwys y teimlad, yr ymwybyddiaeth, a pha beth bynag arall y gellir meddwl am dano. Diolchwn am oleuni y Beibl ar y peth- au hyn 1. Dechreuad DEFNYDD: Yn y dech- reuad y creodd Duw y nefodd a'r ddaear! 2. Dechreuad BYWYD: "A Duw a gre- odd y mor-feirch mawrion, a phob ym- lusgiaid byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob asgellog yn eu rhywogaeth Felly Duw a greodd y dyn!" 3. Dechreuad CYDWYBOD: "Ar ddelw Duw y creodd efe ef." Diolcbwn am oleuni Gair Duw. P. S. DAVIE a.