Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

ETHOLIAD BWRDEISDREFOL SWYDD…

News
Cite
Share

ETHOLIAD BWRDEISDREF- OL SWYDD FFLINT. Mae yr etholiad drosodd, a Mr. John Roberts wedi ei ddychwelyd ar ol brwydr galed. Mae sedd y Bwrdeisdrefi hyn wedi bod yn meddiant Rhyddfrydwyr am haner canrif, er fod ymegnion wedi eu gwneud ar ddyrchafiad Arglwydd Han- mer i Dy yr Argwyddi, ac hefyd ar farw- olaeth Mr. Ellis Eyton, y diweddar aelod, i'w cbymeryd oddarnynt. Yr oedd dau ym- geisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad diw- eddaf, sef Syr Robert Cunliffe a Mr. Eyton; a gwnaeth Cadben Rowley Conwy ei ym- ddangosiad fel Ceidwadwr; a bu agos iddo enill y fuddugoliaeth o berwydd i'r Rhydd- frydwvr yn eu ffolineb ymranu, oblegid ni chafodd Mr. Eyton ond peduxir o fwyafrif; ac o herwydd ei anhwyldeb blin ni allodd fod o lawer o wasanaetb heblaw pleidleisio gyda'r Rhyddfrydwyr, a'r hyn a wnaeth, rhaid addef, yn lied gyson a rheolaidd. Parodd ei farwolaeth ddisymwth syndod drwy yr holl sir, a chyn claddu yr aelod anrhydeddus, yr oedd amryw wedi amlygu eu dymuniad o gael yr anrhydedd o fod yn olynydd iddo. Enwid pedwar o Rydd- frydwyr, ac un Ceidwadwr, yr hwn oedd ar y Cyfandir pan fu Mr. Eyton farw. Y Rhyddfrydwyr oeddynt Mr. John Roberts, Bryngwynallt, Abergele; Mr. Muspratt, Llynlleifiad a Eflint; Mr. Mclntyre, Bar- gyfreithiwr enwog; ac un Mr. Jones, Cyf- reithiwr o Lundain; a'r ymgeisydd Ceid- wadol oedd Mr. P. P. Pennant o Nanllys, ger Llanelwy-gwr cvmeradwy iawn yn y Sir, ac yn enwedig y Nhreftynon a Whit- ford, am ei fod yn harm o deulu yr hen Pennant enwog o'r Downing. Yr oedd y Toriaid yn penderfynu ymladd ynddi-ildio, a dechreuasant ymfyddino heb oedi, ar ol cludo olion marwol y diweddar aelod i "dy ei hir gartref." Deallodd y Rhyddfryd. wyr hyn, a gwelent mai ynfydrwydd per- ffaith fuasai i ragor nag un ymgeisydd Rhyddfrydol ddyfod i'r maes. Nid oedd gobaith i Meistri Mclntyre a Jones, felly yr oedd yr anhawsdra rhwng Mr. Roberts a Mr. Muspratt. Yr oedd y ddau yn gym- hwys—yn boblogaidd ac yn Rhyddfrydwyr trwyadl. Fodd bynag, trefnwyd i Mr. Muspratt gilio y waith hon o'r maes, yr hyn a wnaeth yn anrhydeddus; ac felly erbyn hyn yr oedd vr ymdrechfa rhwng Mr. Roberts a Mr. Pennant. Bloeddiodd y ddau i'r gad, a dechreuodd rhyfel poeth, a barhaodd yn ddiball hyd bedwar o'r gloch prydnawn ddydd Gwener, y 5ed o Gorph- enaf. Cynelid cyfarfodydd bob nos drwy y Bwrdeisdrefi a chafwyd at y llefarwvr lleol Arglwydd Richard Grosvenor a Mr. Osborne Morgan, Dr. Cummin, y Parchn. Dr. John Thomas, H. W. Evans, a W. H. Evans, ac eraill; ac o du Mr. Pennant siar- adodd Mr. Puleston, A.S., ac eraill, a gwnaeth gwasg Ryddfrydol a Thoriaidd eu rhan yn yr achos pwysig. Yr oedd y par- wydydd wedi eu gorchuddio gan bapyrau melyn a gleision, a gwisgid y lliwiau hyn ar y dillad yn helaeth, er fod y melyn yn amlach. Canai y plant yn yr heolydd yn ddidaw John Roberts ydyw'r dyn." Mae'n sicr na fu Llenyddiaeth Ethol- iadol erioed mor enwog yn y Sir hon o'r blaen, oa mewn unrhyw Sir, gan fod an- erchiadau, barddoniaeth "dalcen slip" (ar y cyfan), a "squibs" yn britho muriau a thai y trefi. Derbyniodd Mr. Roberts roesawiad gwresog yn mhobman, ac yn fynych tynid ei gerbyd gan edmygwyr brwdfrydus ac yr oedd Mr. Pennaut yn derbyn ei ran o groesaw. Yr oedd y ddwy blaid yn Iled hyderus yn eu llwyddiant, o'r hyn lleiat' amlygai y Toriaid hyny yn ddiamwys. Yr oedd Polling Booths yn Wyddgrug, Llanelwy, Rhuddlan, Ellint, Bagillt, Treffynon, Maesglaes, Caerwys, ac Overton. Mae yn ymddangos mai yn Flint yr oedd y cyffroad mwyaf, yn cael ei amlygu, gan fod yno lawero Wyddelod, a gweithwyr i Mr. Muspratt, a ochrent Mr. Pennant, y blaenaf trwy ddylanwad offeiriadol, a'r olaf drwy deimlad siomedig, efallai, a chan arweiniad rhai evfrwyg- ddrwg. 0 herwydd y ffaitb hon a ddaeth allan tuag amser yr etholiad, aeth y Rhyddfrydwyr yn Iled wan yn eu Ifydd am lwyddiant gogoneddus, ac yn wir aeth llawer i ofni mai Mr. Pennant a ddych- welid; ac yr oedd yn bryder dwfn yn ngwersyll y Rhyddfrydwyr hyd tuag un- arddeg o'r gloch nos Wener, pan wnaed yn hysbys ganlyniad y pleidleisio, yr hwn oedd fel v canlvn:— John Roberts 1636 P. P. Pennant 1511 Mwyafrif Roberts 125 Derbyniwyd yr hysbysiad gydabloeddiad- au o hwre" a churo dwylaw drachefn a thrachefn tu allan i'r Neuadd. Fe welir nad ydyw y mwyafrif mor lluosog ag y disgwylid, ond dan yr amgylchiadau mae yn fwy nag yr ofnid tua diwedd yr Etholiad. Yr oedd yr ymgeisydd Tori- iaidd yn gymeradwy a pharchus yn y Sir, a gallai siarad yn anhraethol well na Cad- ben Rowley Conwy, ac hefyd llithiodd amryw i gredu yn ddiau yr aethai yn bell iawn i gofleidio Mesur Claddu Mr. Osborne Morgan. Ond colled fwyaf Mr. Roberts oedd i Offeiriad Pabaidd Fflint- y Tad Power, a gweithwyr Mr. Muspratt, fyned ar ol Mr. Pennant. Gweithiodd y Rhyddfrydwyr yn dda yn mhob man, ond mae Rhyddtrydwyr Wyddgrug yn haeddu clod dauddyblyg am eu sel a'u ffyddlon- deb i ddychwelyd Mr. Roberts. Mae y Bwrdeisdrefi wedi llwyddo i gael Cymro perffaith, a Rhyddfrydwr pur, Ymneilldu- wr trwyadl, gwleidyddwr craff, ac areith- iwr hyawdl; a phe ceid mwy o'i gyffelyb yn y Senedd, buan y gwirid hen arwydd- air y blaid Ryddfrydig, a ga le mor amlwg yn anerchiad Johu Roberts, Ysw., A.S. dros Fwrdeisdren Sir Fnint,— HEDDWCH, CYNILDEB, A DIWYGUAD." O'M HAWYREN. j TREM AK GWB8 Y BYD. AOISCI yr excursions a'r jjionis ydyw hi yij awr, ac nid adeg y gweithio adeg y mwyn- hau, ac nid adeg yr ymdrechu. Diolch am gael bod yn rhydd weithiau o'r harness, er mwyn cael ymysgwyd, ac ymiachau' ychydig. Treuliais y rhan fwyaf o'r wythnos ddi- weddaf uwchlaw tlef henafol Caerjyrddin a'i cliyfixuiau. Y n ujy.sg pethau era,ill a dyn odd fy sylw pan yn sylwi ar y dref, oedd agos- rwydd dau adeilad neillduol at eu gily(id- dyna oeddynt, y darllawdy a'r W úl ktlouse. Nis gwn ai dygwyddiad oedd i'r ddau adeilad fod mor agos i'wgilydd aipeidio, ond sicrichwi y wae'r tfaith yn awgryuiiadol iawn-y mae bodolaeth y naill yn galw am f.idolaeth y Hall: y mae bodolaeth y darllawdy yn iled sicr o o alw am fodolaeth y Workhouse. Dydd lau yr oedd pwyllgor cyffredinol y Coleg Presbyteraidd yn cyfarfod, a da oedd geisym gael y eyfleusd, a i sylwi a gwrando ar eu gweithrediadau. Nid oes genym twriad i adrodd hanes y pwyllgor, ond dymunetn gyf- eirio at ryw un neu ddau o bethau yn nglyn a'r sefydiiad. ° Os nad wyf yn caojgymeryd, gwelais fwy yn bresenol yn y pwyllgor nag o-dd ddydd lau diweddaf; ond er hyny cafwyd pwyllgor lluosog a dylanwadol. Y mae yu dtla iawn genyf feddwl fod y sefydiiad mewn gwedd iewyrchus iawn yu bresenol, yn fwy felly nag ei gwelwyd hwyrach erioed o'r blaen. Y mae hyn yn galondid mawr i'r athrawon a phawb sydd yn earn lies y sefydiiad. Yr oeddwn yn tennlo braidd yn ofidus fod y cyfaill selog, a tfyddlon, a pheudertynol o Hebron yn ceisio dwyn i mewn benderfyu- iadau pe buaaid yn eu cario allau a fuasai yn effeithio er cyfnewid y drefn bresenol @ gal io pethau yn mlaen. Nid ydym am fynyd yn ameu gonestrwydd Mr. Evans yn ei amcan- ion oud yr ydym yn methu deall beth yw'r ysfa sydd yu eiu mysg y dyddiau byn i gyf. newid hen drefuiadau, ac i Jlyfferheirio ein Befydliadau a deddtau, &c. Ai nid yw byn yn my lie d yu mhell i broli ein bod yn anghof- io beth yw Annibyniaeth, ac yn driftio yn mhell i Bresbyteiiaeth, os nad yn Wtr i Bab- yddiaeth I Rhyddid rhyddid rhoddwch ddigou o rhyddid ac nid oes perygl. Prawf o wendid yw'r awydd i gaethiwo. Ac i'r gradd- au yr eir i gaethiwo a deddiu, i'r giaddau hyny y oyddis yn peryglu ein aefydliad.m. Yr wyf yn deaii ei fod yn mwriad Mr. Evans i ddod a'i gynygion yn mlaen eto y pwyllgor nesaf. Very wall; diamau genym y ca weled yr adeg houo fod dymon ar y pw) llgor yn ddigon selog dros ryddid fel ag i'w wrthwyn- ebu yn ei wy neb, ac i'w oruhfygu. Da iawn genym weled YlJo y patriarch Davies, Gwmaman. Gobeithio yr arbt-da rhagluniaeth ei fywyd, fel y calio y f L-aint o eistedu yu nhgadau- y pwyligor y tlwyddyn neaai. Ui« ateu tfg i galou Kiisby Jones am siarad gair mor rhagorol, yn y cyfarfod a gyn- haliwyd yu y Llyflgdl. Teimlen yn falch o noiio, ac yu anwyl iua gato. Sicr gcnyui y cotir am ei eiriau yn hit. MON YN DRECH NA MoKGANWG. Y mae ein cyfaill D. Bees, Dowlais, yn dychwelyd yn 01 i'w heu egiwysi yn mr Fon. Paradùe Regained. Nid bob dydd y mae petli fel hyn yn cymeryd lie. Y mae'r ffaith yn siarad llawer am gymeriad Mr. Eees fel gweimdog. Gobeithio bydd yr ail bnodas yn uu anwyl a hir iawn. Hip hip hwre i'r Flintiaid am fod mor fimiaidd a dewr, a mynu cario eu dewis ddyu gyda mwyafrif. Ai hosed cyeylltiad Mr. Roberts ar B^v.deisdrefi yn hir, a bydded iddo gael help i wneud gwa^anatth i'w wiad ai geuedl yn y cysyiltiad.newydd y mae wedi myued iddo. WONDERS NEVER CEASE." Tra yr oeddym ni yn meddwl nad oedd y cwrdd mawr yu Berlin ond new) dd ddeclueu, y mae y newydd wedi cyrhaedd fod y rwaith ar ben. Pwy a wyr beth a ddigwydd mewm diwrnod ? Gan fod eich bwrdd chwi tua'r Swyddfa: yna mor llawn, terfynaf i roddi lie i'm gwelL os yw i'w gael,

INEWYDDION DIWEDDARAF.