Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Oeisiwn le y cyfle cyntaf i'r Adgofion addysgiadol am Evans Hebron, a Joseph Evans, ac i'rysgrifau dyddorol o Paris a Llydaw, hefyd ar Iechyd, Caer- cystenyn, Pen Arenig, Ymylon y Llwybrau, &c. TELERAU Y "CELT." 1 drwy'r post am chwarter 0 1 8 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Bhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 1, ond nis gallwn ganiatau byny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n nysoysu y fforqd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. D.S.-Sylwer yn fanwl ar yr uchod. HYSBYSIADAU CYFFREDINOL. Y tri thro cyntaf 2c. y llinell 4 i 6 tro lie. „ 7 i 10 tro lc. „ D.S.-Hysbysiadau Double Column dwbl y prsi uchQd. Pob arian am y "Celt" i'w gwneud yn Aaladwy drwy cheques neu Post Office Orders i H. EVANS, Printer, Bala. HYSBYSIADAU P ARHAOL. 1 fodfedd, 9c. y tro 2 fodfedd, 1/3 eto; 3 mod- fedd, 1/8 etc; yn nghyda 4c. am bob modfedd yehwanegol. Holl&Wty's Pi'ls.—For the cure of debility, bile, liver and itmnaoh complains this inappreciable medicine is so well known in every part of the world, and the cures performed b7 its use are so wonderful, that it now stands pre-eminent ttbove oil other remedies, more particular for the cure of tjillious and liver complains, disorders of the stomach, drop- sy, and debilitated constitution. In these diseases the ben- ofteial effects of the Pills are so permanent that the whoJo fjsrtem is renewed, the organs of digestions strengthened, Rei a free respiration promoted. They expel from the sec- rative organs and the-circulations the morbid mutter which yioduees inflammation, pain, fever, debility, and physical- thuø annihilating, by their purifying properties, the viru- lence of the most painful and dayastatiug diseases.
CYNADLEDD BERLIN.
News
Cite
Share
CYNADLEDD BERLIN. Ar fynediad Arglwydd Beaconsfield i gynadledd Berlin, yr oedd plaid gref o Dwrcgarwyr a Thoriaid yn aiddgar iawn am iddo gadw eyfanrwydd llywodraeth y Sultan, llawer o honynt yn ddiau o her- wydd fod ganddynt hwy, neu eu cyfeillion, arian yn Soddion Twrci (Turkish Bonds), am fod rhyw gynddaredd wedi eu medd- ianu o elyniaeth i Rwssia, a chrediniaeth mai y Tyrciaid yn unig all fod yn rhwystr ar ffordd y Rwssiaid i oresgyn gwledydd yn nghyfeiriad y Dwyrain. Nid oes am- beuaeth nad oes gan Rwssia nod heblaw rhyddhau cenhedloedd gorthrymedig Twrci, yr hyn sydd i'w weled yn eglur iawn yn ei gwaith yn myned a Bessarabia oddiar ei chyngreirwyr y Roumaniaid, heb ofyn o gwbl beth yw ewyllys y trigolion. Cenedl oresgynol yw Rwssia, ac y mae eisiau ei gwylio; ond nid ydyw yn fwy felly na Lloegr ei hunan. Erbyn gweled pa fodd yr ydys yn myned yn mlaen yn Berlin, rhaid fod y rhai a udganent o fiaen Arg. Beaconsfield erbyn hyn yn siomedig iawn, am ei fod yn cytuno i ddarnio Twrci lawn cymaint ag y gwnaeth Rwssia yn ol cytundab San Stefano. Mae newyddyron Toriaidd Lloegr erbyn hyn yn codi eu llef yn groch yn ei erbyn, am ei fod yn ildio gormod i Rwssia. Mae dwy ffordd i ranu Twrci, a dim ond un ffordd gyfiawn, sef gad- ael i bobl Armenia, Thessali, Epirus, Crete, Cyprus, Roumelio, Herzegovina, Bosnia, Servia, Bulgaria, Roumania, Bessarabia ddewis eu llywodraeth eu hunain. Dros yr egwyddor o genelaeth (nationality) yr oedd y rhan fwyaf o Ryddfrydwyr y Vlad hon, a dadleuent mai y clawdd goreu i atal goresgyniad Rwssia fyddai codi galluoedd anibynol, a magu cenhedloedd hunan-lywodraethol, y rhai nad ymddarostyngent byth i gymeryd iau unbenaethol Rwssia ar eu gwar. Mae cynadledd Berlin wedi gwneud ychydig yn y cyfeiriad yna, drwy adael Montenegro, Servia, a Roumania i fod yn anibynol ar lywodraeth y Sultan. Ym- laddodd y bobl hyn yn ddewr, ac un o egwyddorion y rhanu sydd yn y gynhadl. edd Ewropaidd, yw talu. yn dda i'r cwffwyr goreu. Fel y caffo'r cenhedloedd hyn amser i ymgadarnhau, dicbon y deuant ond iddynt gyfuno yn allu na fedr Rwssia ddim fforddio cellwair a hwynt. Diau fod Roumania ei hunan wedi rhoddi help pwysig i Rwssia yn erbyn Twrci, a bu buddugoliaeth Rwssia yn amheus, hyd nes cynorthwyid hi gan Roumania; a'r wobr y mae Roumania yn ei gael gan Rwssia yw colli y rban fwyaf o Bessarabia, ond y mae yn cael y Dobrud- scha yn lie hyny. Mae y rhan ogleddol o Bulgaria yn cael hunan-lywodraeth, ond y mae y Tyrciaid yn cael cadw eu castelli hyd fynyddoedd y Balcan, er mwyn dyogelu Caercystenyn rhag goresgyniad dyfodol y Itwssiaid. Mae y rhan ddeheuol i gael hunan-lywodraeth mewn ystyron eraill. Yn ol cytundeb San Stefano, yr oedd yr oil o Bulgaria i fod yn un deymat*. Bydd colli y mynyddoedd hyn yn wendid mawr i Bulgaria unol yn erbyn Twrci, ac yn nerth i Twrci, a dyogelwch i Caercysteu) n yn erbyn Rwsia. Y ffordd arall o ranu Twrci yw, peidio gofalu am fuddianau neb ond yn unig am les y Galluoedd Mawrion sydd yn rhanu, fel ymddiriedol. wyr anonest yn meddianu ystad, yn lie ei rhanu yn deg rhwng y gwir berchen. ogion. Yn ol hyn y mae Rwssia wedi C) y meddianu Bessarabia. Ond Awstria sydd yn cael y darn mwyaf, drwy ei bod i anfon ei byddinoedd i feddianu Bosinia, a Herzegovinia. Mae Twrci i golli pob llywodaaeth ar y gwledydd uchod, ac y mae hi yn chwerwach o herwydd y golled hon nag un arall. Dywedir ei bod wedi anfon 40,000 o filwyr i un ran o Bosnia, a 20,000 i ran arall i wrthwynebu hyn. Nid yw'n debygol y bydd hi mor ffol ag ymlaad yn erbyn penderfyniadau y gyn- adledd. Nid cyfeillach o bobl grefyddol wedi cwrdd i roddi cynghorion duwiol i genhedloedd yw cynadledd Berlin, ond Senedd Ewropaidd yn rhoddi deddfau i genhedloedd, a holl filwyr Ewrop y tu ol iddi, i gario allan ei ewyllys. Dywedir mai argoelion drwg sydd yr wythhos hon y caiff Grocg- nemawr o'r ysglyfaeth. Tybir y caiff hi Crete, a rhanau o Thessali, ac Epirus. Pe buasai Groeg wedi ymladd yn ddewr, dichon y cawsai ragor. Paffio da sydd wedi gwn- eud argraff ar wyr Cynadledd Berlin, ac nid yw cyfiawnder achos wedi gwneud cymaint o'i ol arnynt. Mae Rwssia yn bybyr am gael porth- ladd Batoum, am ei bod yn dref gyfleus iddi deyrnasu ar y gwledydd a oresgynodd yn y Caucasus. Dywedir fod Arglwydd Beaconsfield yn ddiysgog yn erbyn iddi gael hwnw; ond dichon y bydd yn borth- ladd rhydd i bob cenedl. Mae Batoum yn agoriad i ddyffryn mawr yr Euphrates, yr hwn sydd i gael ei agor gan ryw rai yn y dyfodol i reilffyrdd, a gradd uchel o war- eiddiad. Nid yw Prydain wedi cael un dafell eto, ond y mae wedi rhwystro i Rwssia gael yr hyn a fwriadodd yn y Balcan. Tybir fod Cyprus i gael ei chynyg i Loegr, ac y mae rhagolwg mai am Armenia y bydd Arg. Beaconsfield yn vmladd y brwydrau y bwriada iddynt ei goroni ar ol iddo ddych- wel i'r wlad hon. Coblera ychydig ar gytundeb San Ste- ffano y mae Cynadiedd Berlin, yr hwn o ran ei sylwedd sydd yn sefyll; a Rwssia sydd yn cael ei hamcanion ar y cyfan. Mae Lloegr a Groeg heb dderbyn eu dognau, ond bydd y cyfan drosodd yn ol pob ar. goelion cyn pen wythnos. Nis gellir cael hanes yr ymdrafodaeth yn gywir a chyf- lawn hyd nes byddo'r Gynadledd drosodd, am fod y cyfan dan sel hyd byny.
INEWYDDION DIWEDDARAF.
News
Cite
Share
NEWYDDION DIWEDDARAF. Dywedir fod Mr. Waddington ac Argl. Beaconsfield wedi areithio yn rymus yn y trydydd eisteddiad ar ddeg o Gynadledd Berlin, a soniai Arg. Beaconsfield gryn lawer am "gadw eyfanrwydd Twrci," iaith ryfedd i'w harfer, pan yr oedd yn cytuno i'w darnio yn fwy na'r Rwssiaid yn ng'hy- tundeb San Stefano. Ar gais gweinidogion Itali a TTrainc mae Groeg yn cael vchwaiiegiad at ei thir- iogaeth, er nad yw ond bychan. Cefuog- wyd gan Argl. Beaconsfield, ond nid oddi- wrtho ef y daeth y cynygiad. Mae boll Ryddfrydwyr Ewrop yn synu pa mor llei- ed o les y mae Argl. Beaconsfield wedi ei wneud yn v (gynadledd, ar ol yr boll ud- ganu a fu o'i tlaen, a bydd haue&iacth yu synu pa mor ddiddim y mae wedi bod. Dywedir fod tebygrwydd y bydd Ba- toum vn borthladd annibvnol, a'r diriog- aeth t/i cbylcb vn dywy^ogae'b fteliau.
JtltU'chttititofftb, &c.
News
Cite
Share
JtltU'chttititofftb, &c. MASNACH YD. Yn ngwyneb y tywydd ffafriol ydym yn gael yn bresenol, a'r rhagolygon dyfodol, yn nghyda'r cyflenwad mawr sydd yn y farchnad, naturiol yw fod y fasnach yn gostwng. Pris y gwenith yn awr ar gyfartaledd yw X2 6s. 9c. y chwarter, yr hyn sydd yn llai o 17s. yr un amser y llynedd. MARCHNAD LERPWL, DDYDD MAWRTH, Gor. 2. Yr oedd nifer dda o brynwyr yn bresenol heddyw, a chedwid at bris yr wythnos flaenorol. Indrawn Americanaidd cymysgedig newydd 22s 9c y 480 pwys, a'r hen Indrawn am 24s 6c. Ffa Aifltaidd 36s. y 480 pwys. Pys 34s. 6c. MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERTEIFI, Meh. 29.—Gwenith o 60s i 61s.; haidd, 40s. i 42s; ceirch, 21s i 28s. y chwarter. ABERYSTWYTH, Meh. 23.—Gwenith o 7s 6c i 8s Oc y mesur; haidd, 4s 9c i 5s Oc ceirch, 3s 9c i is 6e; ymeuyn fires, 12c i 15c y pwys; dofed- tjod, o 4s Oc i 5s Oc y cwpl; pytatws o Os Oc i Os Oc y canpwys. BANGOR, Meh. 28.—Gwenith, o 42s Oc i 45s Oc y chwarter; haidd, 34s Oc i 36s 0c ceirch, 26s Oc i 28s Oc blawd ceirch, 33s Oc i 35s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Meh. 29 —Gwenith, o 43s. Oc. i 46s. Oc. y chwarter; haidd, o 35s. Oc. i 37s. Oc. y chwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 29s. Oc. y chwarter; blawd ceirch o 34s. Oc. i 38s. Oc. y 240 pwys. GWBECSAM, Meh. 27.—Gwenith gwyn, o 7s Oc i Ts 6c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s Oc i 7s 3e y bwsel Ð 75 pwys; ceirch, 3s 9c i 4s 9c y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, Os Oc i Os Oc y 38 chwart; eto, at falu, Os Oc i Os Oc; pytatws 4s 6c i 5s Oc y 90 pwys; ymenyn ffres, o Is 2c i Is Be y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 10c i lie y pwys cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 3s 6c i 4s 6c y cwpl. GROESOSWALLL, Meh. 26.—Gwenith o 7s 2c i 7s 4c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 6c i 4s 6c; pytatws, Os Oc .i Os Oc y mesur o 90 pwys; ymenyn, 13c i 14c y pwys; ednod, 3s 6c i 4s 60 y cwpl. EHUTHYN, Meh. 23.—Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.