Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTHYR EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

LLYTHYR EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL. Y MAE yn dda genym ddeall fod y sefyll allan a'r cloi allan wedi terfynu yn Black- burn a'r cyffiniau, a bod ail fywyd yno mewn masnach; a buasai yn dda gemym ddweyd hyny am fasnach fawr glo a haiarn Morgarwg a Mynwy; ond, ysywaeth, nid oes golwg yn awr am adfywiad buan. yno. Ond tra y byddom yn son am Blackburn, a Merthyr, ac Aberdar, y mae genym un sylw i'w wneud. ar ymddygiad gwahanol y dosbarth gweithiol yn adeg eu cyfyng- der yn y ddau Ie. Ni fu caledi gweith- wyr Blackburn ond byr ei barhad, oblegid ni fuont oudychydig wythnosau heb weithio, ond yn ystod hyny o amser meth- asant ymddwyn yn heddychol. Cyfodas- ant yn un garsiwn yn erbyn yr awdur- dodau, tora'sant i mewn i siopau, rhoddas- ant dai ar dan, a rhoddasant lawer o fywydau mewn perygl. Mor wahanol i hyn yr ymddygodd pobl Deheudir Cymru yn eu cyfyngder mawr Buont hwy yn L, dyoddef yn dawel am dair biynedd ar ol peidio gweithio, yn gwerthu dodrefn ar ol dodrefn o'u tai, a dilledyn ar ol dilledyn oddiam danynt, nes bu i lawer tad a mam dyner orfod edrych ar eu rhai bach yn gorwedd yn noethion ar dusw o wellt; a dvgwyd hwy yn y diwedd i borth newyn i ddyoddef eisieu angenrheidiau bywyd Oad yn yr lioll gyfyngder mawr hwn, goddefasant y cyfan yn bynod dawel. Ni pheryglwyd bywyd neb, ni chynygiwyd llosgi tai y meistradoedd, ac ni pherygl- wyd heddwch cymdeithas o gwbl. Ac ar ol hyn oil, ceir rhai Saeson yn ddigon hunanol i ddweyd fod y Cymry yn fwy barbaraidd ond nyni a ddywedwn wrth- ynt mewn pertbynas i belyntion Black- burn a'r Deheudir, Look upon this picture and upon that." Dywedai Saeson y Llyfrau Gleision mai pobl wamal, o syniadau isel am foes- oldeb, oeddym ni y Cymry; bod ein meib- ion yn gelwyddog ac yn for-ladron, a'n merched yn aniwair. Ond gofynwn yn eu gwynebau megys ag y gofynodd Ieuan Gwynedd gynt a'r Blue Book yn ei law, Ai dyma ffrwythau pobl o syniadau isel am foesoldeb? Y mae yn deg cryb- wyll hefyd fod pobl y Deheudir wedi cadw eu hunanbarch i'r fath raddau, fel nad aeth ond nifer fechan o honynt i ymofyn cy- morth plwyfol yn ystod yr holl gyfyngder a'u goddiweddodd.

CELL OYFEAITH Y CELT.

Y GOLOFN DDIRWESTOL.