Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TAITH I P AIÜS.

News
Cite
Share

TAITH I P AIÜS. .MR. GOL. Hwyrach y caniatewch i mi wneud ychydig sylwadau ar fy nhaith i Paris. HIJaid i dda rllen- wyr yCELT gofio nad mewn "awyren" y daeth- um i, ac yr wyt' wedi metliu hyd yn hyn a chan- fod yr uwehben y lie yma; fe ddichon êi bod, end ei bad yn rhy nchel i ni ei gweled. Cychwynasoni o WallMek. laf, nc aethom i sir Amwythig. Buom yn rtiwJnljftt1 ein hunain yn y wlad brydferth hono am ddau ddydd, tie ar y Sydd ffwrdd a ni i Lundain, acyn ffodus caW- sonïtlmJttgh cairlage o Buttington Station i'r Brifddinas, a hwnw yn llawn o Gymry; a chyn ein bbd wedi eyrliaedd pen ein taith, yr oeddym oil yn ffrindiau mawr iawn. Wedi cyrhaedd Llundain tua G o'r glocli y prydnaWflj clyvtsoto fod eyfarfod adloniadol gau Gymry Llundain meWu cysylltiad a'r Genadaeth Gartrefol yno i gael ei gynal y noson liono, o dan lywyddiaeth Mr. Osborne Morgan, A S. Wedi cael cwpanaid o dê yn garedig gyda Mrs. Evans yn Clifton St., cyfeiriasom ein carnrau i'r cyfar- fod, a chafwyd cyfarfod rbagorol, Y prif an- hawsder oedd, bron inethu terfynu o herwydd cyfiawnder moddion i ddifyra y gynulleidfa. Cychwynasom o Lundain am 8 no A Feroher, Meh. §. Tua chwarter i lleg, yr oeddym oil ar fwrdd yr agerddldrig yn cychWyn o New Haven. Cyrbaeddasom i Dieppe rlrWng pedwtir a pbump o'r gloch. Boreu dydd lau, yr oedd geaym tuag awr a lianer i aros yno, a, cliawsoni ein gwnla o goffi abara ac ymeuyn am swilt. Yr oedd y colli yn llawer mwy blasus na dim a gefais i yn Ngbyuiru erioed. Aelhom wed'yn am dro dnvy'r di et", a,, i fewn i hen eglwys St..Jacques Wrth y drws yr oedd bill of fare a phrisiau maddouantau, a Low Mass a High Mass. Tua 6 o'r gloch, wele ni ar ein taith eto o Dieppe am Houen, ac y mae golyg- feydd y rhan hon o'r wlad yu swynol tu hwnt i ddesgrifiad. Y mae eu gweled yn werth y draul i ddyfod drosodd. Caeau bychain y rhan fwyaf, a phorfa fras, hyd haner coesau yr anifeiliaid. Yr oedd llawer o wair wedi ei ladd yma, a pheth gwenith wedi ei dori. Y mae yn lie eyuar iawn. Yr oedd afon fechan yn ymdieiglo yn arafaidd drwy'r dyffryn heibio gwaelod y bryniau a gyfod- ent yma ac acw, gan basio tfermdy yn y fan hyn, a hen fwthyn t6 gwellt yn y fan arall. Defnydd- ia'r rnelinydd hi i falu ydygymydogaetb. Yna, wedi cael ei hun yn rhydd o ohvyu y melinydd, ai yn ei blaeu drwy'r dolydd breision lie y porai yr anifeiliaid, hyd nes byddo'r haul yu myned yn rhy boeth ganol dydd, pryd yr ymdyrant i ddyfr- oedd yr afon, yr hon sydd yn cael .ei gorchuddio o bobtu gan heiyg tewfrig sy'n tyf') yno. Mae rhai' o honynt gymaint a thair troedfedd o amgylch- edd.; ac os oedd helyg gwlad. Canaan gynt mor fawr a helyg Ffrainc, nid rhyfedd fod Dafydd yn eu cymeryd i ddarlunio y Cristion da. Erbyn hyn" yr. oeddym yn Houen, prifddinas Normandy. Disgynasorn ynoer mwyn gweled y lie. Mae Houen yndref fawr, ac yn brydforth dros ben. Cyfarfuom yma a chwmni o Seison, a dyn bychan bywiog yn adrodd hanes yr holl adeiladau iddynt. Penderfynasom ninau eu can- lyn yn llechwraidd, er mwyn clywed a gweled y cjfan. Ond nid hir y bu v dyn bach heb ddeall ein bod yn deall Seisnig, a dywedodd wrthym am eu canlyn hwynt, ac felly y bu. Aethom yn gyhtaf drwy'r Palais Justice, hen Dy yr Arglwyddi gynt, ond sydd yn cael ei ddefnyddio yn breseuol i gynal treialon. Byddai dechreu ei ddarlunio yn or mod i mi, ond os bydd neb o ddarllenwyr y CELT yn dyfod yn agos i'r lie, peidiweh anghofio mynu ei weled. Mae ei gerfiadau, a'i ddarluniau, a'r adeiladwaith oil yn ardderchog. Yn ei ymyl mae llys drall, lie y gall pob troseddwr hawlio cael ei farnu gan un o'r un gelfyddyd ag yntau- teiliwr gan deiliwr, saer gan saer, llongwr gan longwr, crydd gan grydd, a sweep gan sweep, er mwyn i'r barnwr fod yn hyddysg yn holl ain. gylchiadau y geifyddyd. Aethom wed'yn drwy y gwahanol eglwysi. er mwyn gweled eu hadeiladwaith a'u cerfiadau. Gwnaeth un cerflun yno dynu fy sylw yn neilldu- ol drwy ei debygolrwydd i ddychymyg John Bun- yan yn Nhaith y Pererin, sef pan yn nhy y De- onglydd y gwelai ddyn a dwfr ganddo yn ceisio diffodd tan oedd yn ochr y mur, ond po fwyaf o ddwfr daflai y dyn ar y tan, goreu oil yr oedd yn oyneu; ond y dirgelwch oedd, fod yna ddyn y tu arall i'r mur yn taflu olew arno. Yn y cerflun yr oedd dynes yn dal canwyll yn ei llaw, ac angel yn ceisio ei goleuo, a thros ei hysgwydd o'r ochr tW arall yr oedd y diafol a'i fegitr yn ei chwythu allan o hyd. Mewn eglwys arall, yr oedd llun esgob wedi ei gladdu yn mur yr eglwys, am y rheswm ei fod wedi lladd ei was yn ei wylltineb, ae felly, nid oedd i gael ei gladdu yn y fynwent na chwniih yn yr eglwys; 0 ganlyniad, claddas- ant ef yi. J mur, fel na byddai i niewn nae allan, end rhwng y ddau. Yr oedd confirmatim™ (bedydd esgob) yn un o'r eglwysi, a thyrfa faWJt 0iefebed bach o dair ar ddeg i ddwy ar byintheg oed Wefll m gwisgo mewn gwyu yn cael eu con- ftnuio. Mewn eglwys arall yr oedd priodas. Nid oeddym yno mewn pryd i weled y dechreu. Yr oil a welsom oedd gweled y ferch ieuanc yn sefyll o flaen y gynulleidfa, a'r gwr ieuanc gryn dipyn nes yn ol, ac felly y. buont nes y gwasgar- asant. Erbyn hyn, yr oedd yn amser i ni gychwyn i gyfarfod a'r train i Paris, ac wrth ymadael «.r cwrnni, rhoddodd yr arweinydd ei gerdyn i ni; ac er rnwyn rhywun all ddigwydd dyfod y ffordd hon, rhoddaf yma ei gyfeiriadMr. Steel, Clarendon Commercial & Family Hotel, 3 & 5, Rue de la Vicomte, Hatten, France. Nid ydym yu ystyried cael He Seisnig yri Nghymru yn fraint fawr, ond mae cael lie Seisnig yn Ffrainc yn dipvn o gysur i un nad all siarad Ffraneaeg. Wele ni yn awr yn ngorsaf y tibrdd haiarn, ac wrth geisio myned i'r train dyma ryw ddynea faeh yn sefyll yn y drws, ac yn dywedyd yn y Ffraneaeg fod y lie yn llawn, pan nad oedd yno neb ond hi a rliyw ddyn arall; ond i fewn yr aethom beb wneud un sylw o boni, a siarad Cymraeg a hi. Yr oedd yn edrych mor sur a'r finegr, ond heb ddeall yr un gair a ddywedein, a ninau yr un fath a hithad. Yr oedd yn eistedd tua chanol y sedd, a cheisiasom ei phasio i'r'pea arall, ond dyma hi yn codi ei clioes i'n rbwystro, ac nid oeddym yn ystyried ei bod yn werth i ni y fyned dros goes y ddynes fach, ac felly eistedtUs- om yn y man He yr oeddym. Yr yd/m yn teithio yiitwr drwy wlad brydferth, ond liwyraoh nad yw'r golygfeydd d(lim mor am- rywiol. Mae yn wlad Jwy gwastad, heb iawer o gloddiau nac amgaeau, pob math o gnydau yn cael eu codi yn yr uu cae-clarn o wenitli yn y fan hon, huiddL yn y fan maU, ceirch yn y fan draw, gwair yn y fan acw, a phorfa i'r anifeiliaid yn y fan yma. Yr ydym yn croesi y Seine yn ami iawn, yr hon sydd yn ymddolenu yn bryd- ferth neilldnol drwy y gwastadedd eang, ac yr oeddym yn teithio heb fod yn mhell o olwg yr afon nes y daethom i Paris. DIONYSIUS. [Dysgwyliwn ail lith oddiwrth Dionysius neu ei gylaillyn dfu-iunio yr hyn a welsant ae a glywsant yn Paris.—&OL.]

BANGOR-IS-Y-COED.

MASWNAD Y PARCH. J. PETER,…