Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOLOFN WYDDONOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN WYDDONOL. YMM^BiYGIAD BYWID AB Y DDAEAB. -w7 "1 PENOD II. (Pe oyfieithem lawer o'r termau a ddefnyddir, byddent lawer mwy anneaUadwy nag ydynt fel y maent.) AddawSom yn y benod ddiweddaf roddi ychydig o hanes %Wehilion y creaduriaid hynaf y deuwyd o hyd iddynt; ondanmosibl yw gwneud hyny yn rheolaidd, heb fod genym yn gyntaf wybodaeth led gywir am ddaeareg. Wel, ynte, er clirio yohydig o'r ffordd, taflwn ein hunain i le y daearegwr, a mynwn weled ychydig o ranau tu-mewnol crystyn y ddaear. Wedi i ni daflu i ffwrdd ei mantel! werdd.a phrydfertb, tiriogaeth y llysieuydd a Ilygad,y bardd, a thori drwy ei chroen gwreiddiog a gwyctn nes dyfod b hyd i'w hesgyrn celyd, yn awr y inae i ni sylwi, yn mysg y rhai hyn y mae y trysbtau ydym yn geisio. Wedi i ni ddisgyn i ddyfnder lawer trwy ei chrystyn, cawn mai nid un haen fawr o graig sydd yn ei gyfansoddi, ond ei fod yn cael ei wneud i fyny gan lawer iawn o baenau, a'r rhai hyny yn wahanol iawn i'w gilydd mewn defnydd, caledwch, lliwiau, natur, etc. Wedi myned o honom i lawr trwy yr boll greigiau yna sydd yn gorwedd yn rheolaidd ar eu gilydd, ni gawn fod ein traed ar graig hollol wahanol yn ei natur i'r rhai sydd yn gorwedd arni yn welyau y naill ar y llall. Nis gwelwn yma ddim tebyg i baenau, ond crynswth mawr o graig galed yn dangos ei bod ryw adeg wedi bod mewn sefyllfa bylifol, yn cael eracbosi gan wres. Ni cbeir yn y graig hon olion bywyd o un math. Ffurfia y creigiau o'r natur yma ddosbarth hollolar ben eu hunaip oddiwrth y rhai,sydd yn baenau. Ffurfir y rhai cyhtaf trwy offerynoliaeth tain, a'r olaf dan a thr^y offerynoliaeth dwfr. Ni welwn, ynte, fod y y creigiau yn naturiol yn ymranu i ddau ddos- bartb; ao a'r dosbarth olaf yn unig y mae; a fynom ni., Mae yr holl baenau yma, o'r hynaf hyd yr ieuangaf, yn pynwys mwy neu lai o wehil- ion bywyd llysieuol ac anifeilaidd. Er mwyn hwylusrwydd, rhenir y dosbarth iwvn 0 greigiau i dri chyfnod mawr. Y cyntaf yw y- Palaeozoic yr ail yw y Mesozoie; a'r trydydd yw y Cainozoie. Eto rhenir y rhai hyn i lawer o fan'- ddosbarthiadau. Y drefn a ddefnyddiwn yw dechreu ar waelod y Palaeozoie, a dyfod i fyny ar' hyd riaiait o baenau diweddarach nes dyfod at yr baen ddiweddaf. Nid oes eisieu i ni dyllu i lawr er cael gafael yn yr un isaf. Mae natur wedi bod yn drefnus iawn yn ngosodiad ei thrysorau o'n bfaen; mae wedi gostwng tin pen, neu godi y pen moM). i'r crug-leni anfeirth yma nes y mae talce^au yr oil o honynt yn cael eu harddangps i ni beb fawr drafferth. Mae cwympiad yr oil o'i gwelyau yn Mhrydain .i'r dehau-orllewin. Codir hwy Weitniau gymaint fel y ceir y graig hynaf or ben yTnynyddau uchaf. Pe eymerai dyn daith o Gymr» yn groes i Ynys Prydain nes dyfod at y m6r yr ochr arall iddi, celai y fantais o gael gweled talcen pob un o'r rhai hyn yn dyfod i'w wyneb i'w groesawu ar ei daith. Os dechreuai y daith ar ben y Wyddfa, byddai ei draed ar ben y graig ibynaf ond un, a cherdded yn ei flaen hyd Worcester, ar Ian yr Hafren, byddai wedigweled yr ollro'r baenau sydd yn gwneud i fyny y cyfnod; hynaf (Palaeozoie), a'i draed yn awr yn sefyll ar y Trias, sef yr haen isaf yn y cyfnod canolog (MeStdoie); os a yn ei flaen i Windsor; bydd wedi fayned dros hwn eto os eto yr ii oddiynoi enau. y Tafwys, bydd wedi croesi y cyfnod' diwedaar (Cainozoie). Ynngenau yr afon Tafwys ca weled yr haen a osodwyd i lawr gan y llanw diweddaf; a disgyn oddiyno o hyd i un hynach, nes dtsgyn-o hono i ben y Wyddfa, lie rhoddodd ei draed ar yr haen hynaf, yr hon o ffurfi wydyn mhell tuhwntiallu dyn i gyfrif. Yr oedd yn esgyn oddiwrth y mor, ond yn disgyn mewn cyf- nodau daearegol. Efullai, erbyn hyn, fod gan ydarllenydd ryw ddychymyg o'r drefn mae y creigiau yn gorwedd, ac o'r dull y mae crystyn y ddaear wedi cael ei ffurfio. Yn awr, eyfyngwn ein sylw at y cyfnod hynaf Palaeozoie. Rhenir hwn gan ddaearegwyr 1 chweeh o fan gyfnodau, sef y Laurentian, y Cambtian, y Silurian, y Devonian, y Carbonifer- vus a'r Permian. Cofier ein bod yn wastad yii cyfrif "tuag i fyny. Yn gyntaf cymerwn y Lau- rentian. Mae hon y graig hynaf y gwyddys am dani sydi yn dwyn olion bywyd; hi yw'r isaf, ac o ganlyniad, yr hynaf o'r dosbarth dyfrol (aqueous) Nid oes, sicrwydd y ceir hon yn Mhrydain. Mae un tebyg iddi yn ngogledd-dir yr Alban, yn Mon, Caergybi, Arfon, a Thyddewi, ond nid oes dim ricrwydd Ihaihi ydyw. Cyn ei chael, y mae yn rhaid i ni fyned drosodd i Canada, i'r America, i lanau yr afop St. Lawrence, oddiwrth yr hon y deillia ei henw. Cyfrifir ei thrweh yn agos i ddengmil ar hugain.o droedfeddi, a phe byddai yr haenau sydd yn cyfansoddi hon yn cael eu gosod yn wastad ar, eu gilydd, cyrbaeddent* cyl- uwch a'r mynydd uchaf yu y byd. Ymddengys ei bod yn cynwys dwy haen yn gwahaniaethu ychyd- ig y naill oddiwrth y llall, a gelwir hwy yr isaf a'r uchaf. Pe meddyliem fod treuliad yr hen greigiau a ffurfiad rbai newydd o dan y dwfr lawer cyflymach nac ydynt yn bresenol, yr oedd yn rhaxd i'r graig hon gael arnSer annychymygol bruidtVi ymgasglu cyn fiurfio y fath ddarn anferth o'r wlad. Yn ofer roeddyliaiydaearegwr am gael •linrhyw olion bywyd yn y graig hon,. Mae iddynt hwythau weitbiau. ychydig o ragfarn yn rhoddi barn yn fynych cyn profi, ac yri tynu casgliadau felllawer, a'r rbai hyny lawer pryd ond yn unig ddangos ffrwyth anyybodaeth; ond yn mhen amser maith dyma Profi. Dana a chydymaith iddo yn myned i'w chwilio, ac yn mhen amser, deuwyd o byd i ffosil rhyfedd iawn yn agos i waelod y graig, yr hwn yw y ffosil hynaf ag y deuwyd o hyd iddo eto. Gelwir ef yn Eozoon, h, y., gwawr neu ddechreuad bywyd." Mae braidcl yn anmhosibl rhoddi desgrinadteilwngo bono. Mae hwn fel pob bywyd arall. yn y cyfnod Palaozoaidd yn hollol wahanol i'r ffurfiau a gymer bywyd yn awr, ac felly mae'n anhawd cael dim i'w gymharu iddo. Mae yn perthyn i ddos- barth y cwrel. Mae'n byw yn bresenol yn y mor wrthddrychau bychain a elwir Foraminifera. Maent mor fach fel no, wneir ond ychydig a hwy heb wydran. Ffurfiant gregyn bychain o'r sialc sydd yn wasgaredig yn nwfr y mor; a phan bydd y creadur bychan farw, syrth y gragen i'r dyfn- Eter, a ffurfiant gan gymaint eu nifer welyau mawrion o laid gwyn ar waelod y mor, fel ag y ,g gwelir ar waelod mor y warydd ya bresenol. Yn awr, y tebygolrwydd yw mai rhywbeth fel hyn oedd yr. Eozoon, ond yn unig ei fod yn cael ei gysylltu yn un gadwen fawr gan Protoplasm neu sylwedd o lysnafedd. Y chydig iawn ellir ddweyd am ei ffurf, o herwydd amser a dirwasgiad, &c. Os iawn yw ein tyb, gwelwn fod hwn yn sefyll yn isel iawn yn ngi-addfs bywyd. Ni wyddys eto am un creadur sydd yn is, ond yn unig y mil- ionas man yna sydd yn trigo mewn dwfr hallt a chroew. Gwneir i fyny eu cyrff o sylwedd meddal af elwir Protoplasm; felly anmhosibl i'w eu cael yn ffosilau, o herwydd meddalwch eu cyrff. :I Os gwir, fel myn damcaniaeth yr ymddadblyg- iad i ni gredu, fod bywyd llysieuol ac anifeilaid de4i "cfechreu mewn' rhyw sylwedd Protoplasm- aidd, o'r hwn, fel yr oeddoesau yn myned heibio, yr oedd' gwrthddrychau mwy ptydferth yn ym- ddadblygu, a llysiau ac anifeiliad yn cynyddu yn raddol, ac yn fwy dyrys a chyrnhlethedig eu etmigau, fel yr oedd y byd yn heneiddio. Yr ydym yn dysgwyl cael rhywbeth yn gydweddol a hyny yn y dull y cawn lysiau ac anifeiliad yn ymddangos yn y creigiau. Gwelwn oddiwrth yr Eozoon o'r Foraminifera mor bell y mae y rhai hyn yn cydfyned a'r ddamcaniaeth hon. (I'w barhau.) Yn y nesaf deuwn at greigiau Iwerddon a Chymru i gael gweled beth a gawn yno.

Y SULGWYN.

. BETHLEHEM, PENTYRCH.