Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
TRE ULIA U KJIYFEL.
News
Cite
Share
TRE ULIA U KJIYFEL. GELLIR dangos y symiau a wariwyd gan y wlad hon, uwchlaw treuliau arferol y fyddin a'r llJngei", yn y g ivahanol rhyfeloedd y bu ynddynt er cliwyldroad 1688, fel y canlyn Yn yr Iwerddon yn orbyn Ffraino 1688-97 iS2,648,7M Olyniaeth Yspaen 1702—18 684,958 Ehyfel Yspaen 1718—21 £ 4,547,324 Bhyfcl Hawl ymchwiliad" 1789—48 £ 4S,655,19I2 Rhyfel "Sa'th mlynedd 1756-0S £82,62S,788 Ehyfel America 1776-85 £ 97,599,498 Ehyfel Ffrainc 1783—1815 £ 881,446,409 Rhyfel Canada 1888—48 £ 0,096,049 Ehyfel China 1840-4:1 42,201,028 Rhyfel Kafiraria.1848—88 <2,060,000 Ehyfel Crimea 1854—58 £ 69,277,69* Ehyfel China 1856—61 £ 6,640,698 Ehyfel Persia 1856-57 £ 900.000 Ehyfel New Zealand 1864—65 £ 764,82» Ehyfel Persia 1856-57 £ 900.000 Rhyfel New Zealand 1864-65 £ 764,82» RhytelAbyssynia. 1866-67 AS,600,000 Nis gall ffigyrau noethion, er hyny, ond cyfleu syniad anmherfFaith iawn am wir gostau y rhyfeloedd hyn-y beichiau argyll- xadol dychrynllyd a osodwyd ar ysgwyddau y geaedl mewn trefn i gael y cyflenwadau angenrheidiol. 11 Y mae gan Sydney Smith air ar y pea hwn yn y cynghor a rydd i America am beidio bod yn rhy awyddus i gydymgeisio a'r hen wlad yn ei gorawydd am anrhydedd. Ysgrifena yn yr Edinburgh jRepMW "Gallwn hysbysu y brawd Jonathan, ganlyniadau anocheladwy syched gormodol am anrhydedd -trethi 1 reth ar pobpeth a ddodir ys. y genau, am y cefn, neu dan y troed—troth ar bobpeth sydd ddymunol i'r liygad, i'rglust, i'r arqgliad, i'r teimlad, neu i'r archwaethiad -treth ar wres, goleuni, a chludiad—treth ar bobpeth ar y ddaear, ac yn y dwfr o tan y ddaear-treth ar bobpeth tramor a chartrefot -treth ar griddefnyddiau—treth ar bob gwerth adnewyddol a ychwanegir atynt drwy ddiwydrwydd a dyfais dyn—treth ar y sibr sydd yn gwancio y cylla, ac ar y cyflfyr sydd yn adfer iechyd, ar y pali sydd yn harddu y barmor, ac ar y rhaff sydd yn crogi y troa- eddwr, ar balen y dyn tlawd a danteithion y dyn cyfoethog—ar hoelion pres yr arch, a ribanau y briodasferch-yn y gwely neu wrth y bwrdd, yn gweithio neu yn gorphwys rhaid talu y dreth. Y mae y plentyn yn chware ei dop trethedig, a'r llanc difarf ar ffordd dreth- edig yn arwain ei farch trethedig gydaffrwyn. drethedig. Y mae y Prydeiniwr cyn m;1.rw yn tywallt ei gyfferi, y rhai sydd wedi talu saith y cant i lwy syud wedi et threthu yu ol 15 y cant, gesyd ei hun i orwedd ar wely sydd wedi talu 22 y cmt, ac y mae yn marw yn mreichiau apothecari ag sydd wedi tain can' punt am drwydded i roddi dynion i farwolaeth. Y mae ei holl eiddo ar unwaith yn' cael ei drethu ynot 10 y cant. Heblaw y cymunbrawf, codir swm mawr am eigladdu yn y ganghell, t'osglwyddir ei rinweddau i'r oesau a ddel ar farinor wedi ei drethn, a chfsglir yntau at ei dadau, lie na bydd trethu mwy." C<jf. LLKWELYX TEGID.
HOREB, MYNYTHO.
News
Cite
Share
HOREB, MYNYTHO. Nos Fawrth, Meh. 17eg, traddodwyd darlith yn y lie ucliod ar llyfeddodau Duw," gan y Parch. W. Jenkins, Pentte Estyll. Ni chlywsom gy- rnaint o hyawdledd a chymaint o wybodaeth mewn cylch mor fyohan erioed. Llywyddwyd gan W. Pritchard, Ysw., Bodlondeb. Ar ddiwedd y oyfarfod daeth y Parch. E. Jones, y gweinidog, a llestri cymundeb hardd i'r bwrdd, sef rhodd Mrs. Jones, Tyddynsingraig, i'r eglwys, am y rliai y rlioddwyd diolchgarwch gwresog. Y mae golwg obeithiol ar yr eglwys yn y lie. Ni gawsom ddarluniad o fydoedd afrifed, Yn neidio i'w lie yn north y gair tl Bydded," A hanes creaduriaid-o'r Elephant mwya' I lawr yn eu graddau i'r animalcula A darlun o'r dyn, y mwyaf rhyfeddol, A mawredd a gwerth ei enaid anfarwol, Nes ydoedd pob calon yn toddi mewn moliant Am roddi i Dduw ei deilwng ogoniant. DEWI AB GOMES.
Y JINGOES.
News
Cite
Share
hunain, weithiau, "Amddiffynwyr yr ym- erodraeth Dyrcaidd yn ei chyfanedd," yna "Amddiffynwyr buddianau Prydeinig," ac yn ddiweddaf oil, "Amddiffynwyr y cytun- debau." Nid oes fawr olwg genyf ar deulu yr Aliases; ac hyd y gwelais i, symol iawn yw hanes y cymeriadau raid iddynt wrth ffug i guddio euperaonoliaeth. Amddiffyn- wyr yr ymerodraeth Dyrcaidd yn ei chyf- anedd yw yr enw mwyaf mynegol, o'u hamcanion, o'u holl enwau. Amddiffynwyr y Twrc! y llywodraeth fwyaf lygredig, anfad, a chreulawn o ddigon o holl lywodr- aethau Ewrop. A yw yn bosibl fod neb yn Lloegr na Chymru, tra creulonderau Bulgaria, Servia, Bosnia, a Herzegovina o h mor fyw yn eu.cof, a goledda y parch a'r cydymdeimlad lleiaf at Twrci ? Na, nid hyn yw. Nid hwy, ond yr eiddynt; nid y Twrc, ond y Turkish Bonds. Mae lluaws mawr o'u cydwladwyr wedi rhoddi benthyg ar log uehel filiynau o bunau i'r llywodr- aeth Dyrcaidd; ac wrth gwrs, os syrthia y Twrc i ddifancoll, ni fydd eu haur yn werth tair ceiuiog y bunt. Nid syn fod y bobl ynia yn gwing'o yn hestyrical, rhag 0 ofn i'r Twrc fyned yn fethdalwr. Am- ddiffynwyr y buddianau Prydeinig, yn wir! Nage, nage, nid yw "bnddianau 0 In Prydeinig" a'r "cytundebau" ond enwau eraill ar y Turkish Bonds." Gan nad pa faint gyst rhyfel er amddiffyn y Twrc i'r wladwriaeth yn gyffredin, os ca y bobl hyn eu miloedd a'u miliynau, byddant hwy ar eu henill, o leiaf, yn arianol; ond ni wna hi mor tro i ddweyd hyn yn eglur. Rbaid ir arch-Jingo a'i gyd-Jingoes gael rhyw ble arall; a syn fel y maent wedi Ilwyddo drwy newid eu henwau i gadw y wlad rhag adnabod eu gwir garacter. Rhyfel yw un o felldithion mwyaf gwlad. Yr wyf yn cofio clywed ambell un o'r hen bobl yn dweyd, "Dyna amser, oedd amser 'Boni.' Digon o arian gan yffermwyr yr amser hwnw. Hyn a hyn am y ceffyl a'r eidion, &c. Dim trafferth i dalu y rhent a'r trethoedd. Amser yn iawn oedd amser rhyfeloedd Waterloo." O'r goreu, pa faint barhaodd ? Pa fodd y bu 10, 20, a 30 o flynyddoedd ar ol hyny? Beth ddaeth o'r man dirfeddianwyr ? Oni orfu- wyd hwy i werthu eu tiroedd a'u medd- lauau ? Nid cwestiwn o farn yw hyn, ond cwestiwn o hanes. Ni fu mwy o galedi yn y wind yn nghof neb nag a welwyd ar ol rhyfeloedd Napoleon. Byddai yn well i'r n'ertn\vyr godi yr arian gawsant yn ychwaneg am eu nwyddau o herwvdd rhyfel, a thalu 10, 15, ac hyd yn nod 20 punt y cant arnynt: byddent yn llawer gwell yn eu hainyylchiadau ar ol Haw. Gryrir canoedd o filiynau o arian o'r wlad yn amser rhyfel, a "phwy svdd i dalu v symiau mawrion hyn ? Y tretlulalwyr wrth gwrs. I ychydig iawn y mae art'er rhyfel yn fuddiol. Heddwch aydd fuddiol i bawb a phob peth ar sydd dda. Os eyfyd y freights ar y mor, nifer fechan o bobl "Iwcus" ga y fantais ond ca pob llongfedd'.anwr ddyoddef oddiwrth godiad yr insurance: a pha fwyaf delir am gludo y nwyddau, mwyaf wrth gwrs raid roddi am danynt. Bydd bob bwsel o wenith yn ddrutach. A yw y gweithwyr yn foddlawn talu yn ddrud am eu bara hwy a'u teulu- oedd, yn nghydag angenrheidiau eraill, er mwyn i'r Jingoes gael y pleser o gael game o ryfel ? Na, nid wyf yn tybied ond iddynt ddeall y mater yn iawn. Nid wyf yn dirnnd pa fodd y mae yr nn gweithiwr yn gallu agor ei' enau o blaid y weinydd- iaeth bresenol. Ehaid nad 'ynt yn gwybod dim oil o'u hanes, neu yn sicr ni waent Ni ehawsant ond pob anfantais erioed oddiar eu llaw; ac ni chant bytli ddim amgen. Ond y mae cwestiwn arall heblaw yr arianol. Beth am yr ugeiniau o filoedd o fywydau a aberthir? Nid y'm am i'n hawyrgylch gael ei beicbio gan wylofain gweddwon, amddifaid, a rhieni, oni fydd yn rhaid i'r guardians gymeryd baich ychwanegol at yr un lletbol sydd arnynt yn bresenol. Bydd raid i'r miloedd gweddwon ac amddifaid gael eu cynal trwy ryw ffordd, a pha ffordd sydd ond trwy dreth y tlodion. Game ddrud, golled- us yw rhyfel; ond, meddant, Pwy sydd am ryfel ? Nid yw Disi yn golygu dim o'r fath. Ei amcan yn unig yw hela ofn ar Rwssia, drwy ddangos bold front. Twyllo Rwssia yn unig mae. Felly wir, A ydym i ddeall yntau fod y British Lion wedi troi yn rhyw Laughing Hyena," i fyw ar gynllwyn, brad, a thwyll? Nid hyn yw caracter John Bnllac nid fel y cyfryw yr arferai llywodraethau Ewrop ei gyd- nabod, a theimlo tuag ato. Ond y gwir galarus yw, fod y llywodraeth bresenol a'i llysgenadwr wedi ein darostwng fel gwlad yn ngolwg gwledydd y byd; ac eto, mae yn ein plith rai a ymffrostiant yn ein cywilydd, ac a ymogoneddant yn ein gwarth. Waeth heb ddadleu a'r bobl hyn. Y ffaith yw, out buasai y Gwir Anrhyd- eddus W. E, Gladstone, Bright, ac eraill, buasem mewn rhyfel yn bresenol." Beidd- iaf ddweyd fod eu gweithrediadau y fath nas gellir eu hesbonio, ond ar y dyb hon yn unig. Y tebygolrwydd yw yn awr na chawn ryfel, gan fod y wlad yn ddiweddar wedi siarad yn gryf ar y mater; ac nid oes neb a ddealla pa fodd y rhed y farn gyhoedd yn gynt na Disi. Grorfuwyd ef mewn ystyr ganiatau i gynadledd o lyw- odraethau Ewrop gwrdd i drin achos y Dwyrain. Maent yn eistedd, a Disi yn eu plith, yr hyn na wnaethai mewn un modd heb ei fod yn barod i gompromisio er diogelu heddwch; ac ni synem faivr pan ddychwel yn ei ol na phentyrir yr anrhyd- edd uchaf arno, a hwyrach y gwneir ef yn Duke of the Jingoes. Oes y pethau rhyf- edd yw yr oes hon, a bydd hanes y Duke hwn morrhyfedd a dim fu. Efallai, cyn gadael y mater, y dylem ddweyd gair ar y teitl newydd hwn—Y Jingo. Yr wyf wedi inethu yn lan a chael o hydi ystyr y gair-pa un ai hen dduw neu hen sant paganaidd oedd. Tyngir iddo gan nad beth yw. Yn Saesonaeg y tyngir 0 icldo yn wastad. Nid yw yn llw Cymraeg. Modd bynag, mae y modd y cafodd y llywodraeth bresenol a'i phleidwyr yr enw yn awgrymiadol iawn. Fel hyn y bu. Arferai hogiau ieuainc, hollol auwybodus o symudiadau gwladwriaethol, a diofal yn nghy leh y fath bethau, ac eraill hyn, ond yn ddigytiieriad, fel y tystia eu dull o fyw, fvned i'r Music Halls, a'r Dancing Saloons, a'r Pot-houses, a'r ilefydd cyffelyb, i aerio eu doniau cerddorol am yctiydig o bres, er mwyn cynal corff ac enaid wrth eu gilydd, a chanent don fywiog ar y peni.ll canlynol a'i gyffelyb:— "We do not want to fight, But BY JINGO if we do, We have the men, we have the ships, And have the money too." Dyna fynd oedd ar y canu-y pint yn un llaw, a'r het yn y Haw arall, a hwre for the Jingoes oedd hi. Tylwyth substantial iawn i suportio llywodraeth I ba le yn is y gallwn fyued, nis gwn. Da gan fy nghalon fyddai i'r wlad dyngu na chawsai t3 y fath ddienwaededig byth mwy safle mor uchel. Os da wyf yn cofio, Syr W. Law- son gymhwysodd yr enw at y tylwyth. J.M.P.