Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

Y JINGOES.

News
Cite
Share

Y JINGOES. ENW newydd yw Jingoes ar ddosbarth o bobl sydd yn ein gwlad y dyddiau hyn, fel yr arferant bob amser fod pan gant y cyf. leustra lleiaf, yn drystiog eu brefiadau am ryfel. Mae yn mhob teyrnas a gwlad, o dan ryw enw neu gilydd, bleidvvyr rhyfel; ac yn ami iawn, fel y mae y gwaethaf y modd, meddant gryn ddylanwad, a hyny yn unig drwy eu haerllugrwydd didertyn. Trueni mawr i gymdeithas fod dylanwad gan giwaid fel hyn, oblegid pan gefnogir n til eu gweithrediadau, rhoddir hanes y rhan fwyaf o'r gorthrymderau, y caledi, y tylodi, a'r creulonderau a ddyoddefodd y wlad a'r gwledydd y perthynant iddynt. Tebyg iawn mai olafiaid i'r hen lweh hwnw y cawn ei hanes yn 1 Bren. xxii. 11, yw Jin- goes ein gwlad ni. Mor debyg i ddyn yw ei dylwyth! Yn eu hysbryd celwyddog, gwasaidd, a bostfawr maent mor debyg fel y mae yn anhawdd dweyd p'run yw p'run. Wel, ni omeddaf fi iddynt yr anrhydedd, a'r urddas, a'r dyrchafiad allant gael oddi- wrth eu perthynas a'r llo corniog hwnw- pob croesaw iddynt i'r oil. Adnabyddir hwy wrth luaws o enwau. Gfalwant eu