Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

O'M HAWYREN.

CYMArFA -MEIRIOX.

[No title]

Y SENEDD.

News
Cite
Share

Bu tipyn o gyftro yn y ty nos Wener. Ymddengys fod papyr newydd o'r enw Globe gwedi dod o hyd i fanylion y cytundeb awnaed rhwng Arg. Salisbury ar ran y deyrnas hon, a Count Schouva- loffar ran Bwssia. Pa fodd y daeth y papyr hwn i feddiant o'r secret nisgwydd- ir, ond yr oedd hyn yn aicr yn annymunol iawn gan y Weinyddiaeth ar lawer golwg. Yn un peth, nid yw am ddatguddio i'r wlad ond cyn leied ag all, am y rheswm syml nad oes fawr o bethau a wna ddal y goleuni, ac felly y cytundeb hwn. Nid yw "hero" y Tories yn sefyll yn rbyw an- rhydeddus iawn yn y cytundeb. Mae yn syn mor lleied a ga y wlad am yr holl filiynau sydd wedi eu gwario. "Much ado about nothing "—" Great noice little wool yn wastad yw nodwedd arbenigol Dissi; ac megys yr oedd yn y decbreu, y mae yr awr hon, ac y bydd tebyg mwy i'r diwedd. Dylai y wlad astudio hwn yn fanwl a'i gyferbynu a chytundeb San Stef- ano er iddynt gael gweled pa faint gaut am eu miliynau o aurynnghyda'rboll an- fantais maent wedi ei gael drwy alw y reserve forces," &c. Penderfynir y mater heb fod yn faith yn Berlin. Daw Dissi yn ei olyn Uawn plu. Udgeuir ei glodydd, pentyrir arno anrhydedd. Y n nghanol y cyffro hwn, tra y wlad heb ddihuno yn iawn, hwyrach y tyr i fyny y Senedd: apelia at y wlad am ail lease, yr hon ni cha byth, os bydd hi yn ei hiawn bwyll, ac mewn meddiant o'i barn. Ond rhaid bod yn harod ar gyfer ystrywiau o'r natur yma, canys y mae Arglwydd Beaconsfield yn llawn o honynt.