Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Jftitrchtarbflcbfi, &c.■■
News
Cite
Share
Jftitrchtarbflcbfi, &c. ■■ MASNACH YD. Lied farwaidd ydoedd y Farchnad Yd yr wythnos ddiweddaf, gyda gostyngiad o swllt i ddau' swllt y chwarter. Y mae yn debygol y cymer gostyng- iad pellach le yn fuan, gan fod cyfiawnder o wen- ith yn y farchnad, golwg mor obeithiol ar y cnyd- au, a phob argoelion am heddwch gael ei sefydlu rhwng teyrnasoedd a'u gilydd. MARCHNAD LEKPWL, DDYDD MAWBTH, Meh. 11. Yr oedd nifer dda o brynwyr yn bresenol heddyw, a chedwid at bris yr wythnos flaenorol. Indrawn Americanaidd cymysgedig newydd o 23s. i 23s 3c y 480 pwys, a'r hen Indrawn am 25s. Ffa Aifftaidd o 34s i 36. y 480 pwys. Pys 35s. 6c. MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERTEIFI, Meh. 8.—Gwenith o 52s i 54s.; haidd, 42s. i 44s; ceirch, 24s i 26s. y chwarter. ABEEYSTWYTH, Meh. 2.-Gwenith o 7s Oc i 7s 6c y mesur; haidd, 5s Oc i 6s Oc; ceirch, 3s 6c i 4s Oc; ymenyn fires, 14c i 16c y pwys; dofed- nod, o 4s Oc i 5s Oc y cwpl; pytatws o 6s Oc i 7S Oc y caupwys. BANGOR, Meh. 7.—Gwenith, o 46s Oc i 48s Oc y chwarter; haidd, 35s Oc i 38s Oc; ceirch, 26s Oc i 28s Oc; blawd ceirch, 35s Oc i 37s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Meh. 8.—Gwenith, o 45s. Oc. i 48s. Oc. y chwarter; haidd, o 36s. Oc. i 38s. Oc. y ohwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 28s. Oe. y chwarter; blawd ceirch o 36s. Oc. i 39s. Oc. y 240 pwys. GWRECSAM, Meh. 6.—Gwenith gwyn, o 8s Oc i 8s 3c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s 3c i 7s 6c y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 8c i 4s Oc y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, 6s 10c i 7s 2c y 38 chwart; eto, at falu, 4s Oc i 4s 9c; pytatws 4s 6c i 5s 3c y 90 pwys; ymenyn fires, o Is Ie i Is 3c y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 9ic i lie y pwys; cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 3s 6c i 4s 6c y cwpl. CROESOSWALLL, Meh. 5.—Gwenith o 7s Oc i 7s 6e; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 6c i 4s 6c; pytatws, Os Oc i Os Oc y mesur o 90 pwys; ymenyn, 14c i 16c y pwys; ednod, 4s Oc i os Oc y cwpl. RHUTHYN, Meh. 2.-Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 98 Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Yr ydym yn derbyn digon o ddefnyddiau bob wythnos i lenwi pedwar CELT; y mae hyny yn gwasgu arnom i erfyn am i bob gohebydd wneud ei ysgrif mor gryno ag y medro. Y mae llawer meddyliwr a siaradwr gwych yn ysgrifenu yn wallus. Defnyddiant i, nen it, neu y, yn hollol fel y dyg- wyddo. Yr un ganddynt ydyw yr ei a'r eu, yr yw a'r t'tt. y mae a'r mai, yr ag a'r ac, ae nid oes ganddynt yr un dcleddf at atal-nodi. Dylent wrth ysgrifenu i'r wasg, arfer mwy o ofal. Bydd ambell ohebydd yn pxoytho ei ddeg dalen wrth ell gilydd, ac yn lie rhoddi y gyntaf yn gyntaf, rhydd y ddeg- fed yn gyntaf, fel pe byddai am i chwi ddarllen ei lith o'i diwedd i'w dechreu. Cosb ysgafn ar bwythwr felly iyddai gwneud iddo gerdded am ddwy awr yn wysg ei gefn. Anwyl Ohebwyr! ystyriwch y profedigaethau cysylltiedig a'r fath ormodedd o ddefnyddiau. Hawdd, gyda gofal, ydyw gwella miln wallau, ond anhawdd iawn ydyw byrhau adroddiadau meithion heb achosi tramgwyddiadau, a phoenus ydyw methu cael lie i ysgrifau dyddorol a buddiol. Yn eiw nesaf.—Ymylon y llwybrau.-Y Gingoes.-Canol y Ffordd.—Taith i Paris.-Marwnad y diweddar Barch. J. Peter.—Bangor-is-y-coed—Y Golofn Wyddonol-Y Sulgwyn —Treuliau Rhyfel, &e. ■ Er cael adroddiadau cyflawn o'r Cymanfaoedd gorfu i ni adael allan luaws o gyfarfodydd ae ysgrifau er wedi eu cysodi. Caiff yr oil ymddangos yr wyth- nos nesaf. Diolch i'r ddau gyfaill o Drawsfynydd a anfon- oaant adroddiall cyflawn o weithrodiadau y Gymanfa, ond ni thramgwyddant am i ni roddi y flaenoriaeth i oiddo yr Ysgrifcnydd. Parhaed Morfryn Glas i anfon ei newyddion. TELERAU Y "CELT." 1 drwy'r post am chwarter (talu yn mlaen) 0 1 6 2 eto eto 0 2 6 3 eto eto 0 3 3 4 eto eto 0 4 0 Os na thelir yn miaen, pus 1 tlrwy r post am dri mis fydd 1/9; 2 eto, 3/6; 3 eto, 4/3; 4 eto, 4/6. Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n nystiysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod. HYSBYSIADAU CYFFREDINOL. Y tri thro cyntaf 2c. y llincll 4i6tro lie. „ 7 i 10 tro Ic. „ i
Y RHYFEL, A'R GYNADLEDD YN…
News
Cite
Share
Y RHYFEL, A'R GYNADL- EDD YN BERLIN. MAE cynadledd galluoedd Etvrop i edrych dros gytundeb San Stefano wedi ymgy- farfod, ac agorwyd y gynadledd Meh. 13eg. Cychwynodd Arg. Beaconsfield yno mewn rhwysg, ac Arg. Salisbury gydag ef. Mae cenhadon wedi eu hanfon yno gan lywodraethau Prwssia, Prydain, Rwssia, Awstria, Ffrainc, Itali, Twrci, Roumania, ac Armenia. Mae prif wlad- weinwyr Ewrop i fod yn y gynadledd hon, megys y tywysog Bismark dros Prwssia, y Tywysog Gortschakoff dros Rwssia, Count Andrassy dros Awstria, ac Arg. Beaconsfield dros Brydain. Mae'n. ddiamheu na fu y fath gynadledd yn Ewrop er y flwyddyn 1815, yn amser rhyfel Boneparte. Mae Awstria wedi bod yn ddiweddar yn cryfhau ei galluoedd milwrol, ac y mae'n eglur nad yw hi yn foddlon i Servia helaethu ei therfynau, na Mont- enegro i gael ei hannibyniaeth. Mae arwyddion pur amlwg nad oes y cytundeb goreu rhyngddi hi a Rwssia, er y broffes 0 heddwch sydd wedi bod fod Prwssia, Rwssia, ac Awstria yn gytun. Mae cytundeb San Stefano. yn crybwyll mai dan nawdd Awstria a Rwssia mae diwygiadau i gael eu gwneud yn Bosnia a Herzegovina. Mae cynadledd Berlin yn dirymu hyn; ond y mae'r crybwyll- iad yn dangos fod E-wssia. am symud yn ochelgar yn ei chysylltiad ag Awstria. Os bydd y Sclaviaid sydd yn y gwledydd uchod yn cael eu liannibyniaeth, bydd hyn yn gwneud y mdiynau Sclaviaid sydd dan iau Awstria yn anesmwyth, a'r tebygrwydd yw na fyddant yn llonydd nes caffont hwytbauhefyd eu hannibyn- iaeth. Os eir yn y gynadledd hon i esgeuluso buddianau cenhedloedd er mwyij cyfleusdra llyw odraethau, bydd yr holl waith a wneir yno yn ofer. Mae y gynadledd hon yn orhwysig; a rbyddid a llwyddiant, a thangneiedd miliynau wrth ei hewyllys. Ni cheir heddwch yn Ewrop os na wnant eu gwaith yn iawn. Hyd nes y gorphenant, ni :fydd nemawr o sylw i waith seneddwyr y gwahanol wledydd, am fod cynadledd Berlin yn senedd Ewropaidd, ac os 1m angen gweddio erioed dros frenhinoodd a rhai mewn awdurdod, yn awr y dylid gwneud. Mae y Tywysog- Gortschakoff wedi datgan er ys amser ei fod am heddweh, ac y mae Count Andrassy wedi mynega mai unig obaith Evva-op i gael heddwch oedd cynadledd o'r faith yn Berlin. Blae Count Schouvalolf wedi bod yn bur flaeullaw i gael yr amean i ben, a'r Tywysog Bismark yw cynllunydd y gynadledd. Efc a ai lodd o?od telerau i gael gan Loegr a Ewss ia i gytuno dyfod iddi. Mae gan g,enhaclom Prydain, Ffrainc, Twrei, ac Itali gymhwysder i'w gwaith, ac edrychir gyda phryder yr wythnos hon i wyboaT y newyddion 01 o Berlin, gan fod y gyna dledd yn dechreu ar ei gwaith ddydd Llun, Meh. 17. Mae dynion galluog a phirotiadol wrth y gwaith, ond y mae y gor ehwyl yn hynod o anhawdd. Mae galluoedd Ewrop wedi bodyn rhyfela yn ddiwesddar nes ydynt wedi blino, ac nid oes uu wlad yn awyddus am ryfel. Arg. Beaconsfield sydd fwyaf twymn yn ol pob argoelion. Mae efe wedi parotoi at ymladd, ac y mae hyn wedi peri i alluoedd eraill barotoi. Gan fod cymaint o awdurdod wedi ei roddi i'r holl genhadon, dysgwylir y llwyddant i wneud heddwch a threfn; „ ond y mae yspryd cynen wedi ei ddeffro cyn myned i'r cyngor. Bydd pob cen- hadwr yn y gynadledd a'i law yn cydio yn ngharn ei gleddyf pan yn ceisio cyn- llunio telerau cytundeb a heddwch, yn neillduol felly y bydd Arg. Beaconsfield. Mae ein ilynges yn Mor y Canoldir, ein milwyr Indiaidd yn Malta, a'n byddin- oedd wedi eu galw allan, ac yn barod i daro; a ffordd ryfedd yw ceisio gwneud heddwch, a'r dyrnau yn gauad yn barod i daro. Ein gobaith yw fod Rwssia mewn angen heddwch. Mae costaurhyfel wedi ei thlodi, ac y mae degau o filoedd o'i milwyr yn afiach. Mae masnach Lloegr yn galw am heddwch, a mwyafrif mawr o'r Saeson o'r achos yn erbyn rhyfel. Mae Awstria yn dlawd i ryfela, a Twrci wedi ei gorchfygu, ac nid oes gan eraill gymaint o fuddiant yn y mater a'r rhai uchod. Os na fydd cynadledd Berlin yn alluog i ddwyn heddwch, bydd yn enghraifft neillduol o fethiant ymgynghor- iad i atal rhyfel, a bydd bai mawr yn rhywle. Gobeithio y gwneir ymdrech i wneud cyfiawnder a chenedloedd gorth- rymedig Twrci. Bydd heddwch heb yr elfen hon o gyfiawnder ynddo yn rhwym o daflu helbul mwy i'r dyfodol, a phan y daw y rhyferthwy terfynol, bydd yn fwy ofnadwy na'r un presenol. Gwn- aethpwyd heddwch o'r blaen ar seiliau tywodlyd, a dyma'r achos o'r aflwydd presenol. Ni wiw i Beaconsfield na neb arall geisio ategu llywodraeth y Twrc. Ni wna Pashaod Twrci byth wneud llyw- odraethwyr da yn Ewrop, ac y mae eu holl addewidion blaen orol am ddiwygiad wedi eti tori ar ol rhyfel y Crimea. Bydd- ai yn wallgofrwydd ymddiried iddynt eto, ac yn aflwydd mawr i'r Groegiaid, y Sclaf- iaid, a'r Armeniaid sydd dan eu hawdur- dod. Nid yr egwyddor o fantoliad aw- durdod sydd i arwain cynhadledd Berlin, ond cenelaeth (nationality). Dros yr egwyddor hon yr ymiaddodd Bismark yn Germany, a Garibaldi a Count Cavona yn Itali, a Kossuth yn Hungari, a bydd cynrychiolwyr eu gwledydd yn Berlin. Mae cenelaeth i fod yn egwyddor fiaen- llaw yn llywodraeth y byd yn y dyfodol, a diamheu genyf y gwna cynadledd fawr a bythgofiadwy Berlin ei chydnabod, a bydd hyny yn gam pell yn mlaen i hyrwyddo ei theyrnasiad cytfreclinol. ■il --4. imnn8V- ta
Y SENEDD.
News
Cite
Share
Y SENEDD. AR ol ycbydig ddiwrnodau o wyliau, cyfarfu y Senedd ddydd Iau. Ni ddaeth ond ycbydig o aelodau yn nghyd, ac o herwydd hyny, ni fllWyd yn faith gyda'r rhan arweiniol. CwesbYllttU ar wahanol faterion, &c. Aed at y mater mawr—y supplies-prif later y AV einyddiaeth bresenol; ond am ddwyn hwn yn ffiirfiol gerbron. Cynygiodd Mr. Eaylanda, yr aelod dros Burnley, Nad oes yr un cytundeb i gael ei gadarnhau rhwng eiu teyrnas ni a theyrnasoedd eraill, heb yn gyntaf iddynt gael eu gosod o flapn y ddau dy. Cymerwyd rhan yn y. ddadl gnu Mr. Gladstone u, Changheilydd y Drysorlys. Colli wnacth Mr. Eavlands,