Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMANFA YSGOLION PENY-GRATG,…

UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL RHANBARTH…

SALEM, CEREDIGION.

CYMANFA MALDWTN.

News
Cite
Share

Jones, Llanfyllin; J. Jones, Machynlleth; ac O. Evans, Llanbrynmair, i dynu allan ddatganiad o'n teimladau yn ngwyneb yr amgylchiad, yr hwn sydd fel y canlyn:— "Fod y gynadledd hon yn teimlo galar a choll- ed yn herwydd marwolaeth ein diweddar gyfaill, Mr. J. Griffiths (Gohebydd), yr hwn a fu dros lawer o flynyddau yn aelod o'n cyfundeb, ac yn dymuno datgan ein gwerthfawrogiad o'i wasan- aeth pwysig i'w wlad a'i genedl yn nglyn ag addysg, gwleidiadaeth, a chrefydd, trwy ei lythyrr au talentog a phoblogaidd." CYNADLEDD 2 o'n GLOCH. Cymerwyd y gadair gan y llywydd apwyntiedig am y flwyddyn ddyfodol, sef y Parch. O. Evans, Llanbrynmair. Wedi i'r llywydd ddarllen o Air Duw, ac i'r Parch. Isaac Thomas, Towyn, weddio, a chael gair o eglurhad drachefn gan y llywydd at amcan gwahaniaethol y gynadledd hono oddiwrth y gynadledd yn y boreu, sef ein bod yn hon yn myned i drafod materion ysbrydol yn nglyn a'r eglwysi. Yna esgynodd y Parch. J. R. Roberts, Aberhosan, i'r pulpud i ddarllen papyr yn nglyn a'i neillduad o'r swydd o fod yn llywydd cyiarfod- ydd cyhoeddus y cyfundeb am y flwyddyn ddi- weddaf. Cymerodd yn destun i'w bapyr— Diflygion presenol yr Eglwys." Wedi amryw sylwadau canmoliaethol am y papyr, a sylwadau craffusa phwysig arbethau eraill oedd yn codi o'r materion oedd yn cael eu trafod yn y papyr, cynygiodd y Parch. J. Jones, Machynlleth, ac eil- iodd y Parch. J. Davies, Amwythig, a chefnogodd C. R. Jones. Ysw., Llanfyllin, "Foddiolohgarwch cynesaf y^cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Parch. J. B. Roberts am lywyddu yn ein cyfarfodydd am yfiwyddyn ddiweddaf, ac am y papyr amserol,. gwerthfawr, a godidog a ddarllenodd i ni, yn nghyda dymuniad ar i'r papyr gael ei argraffu." Pasioddynunfrydolagwresog. Cafwyd sylwad- au pellach ar y mater gan y Parchn. C. Evans, Foel; E. Davies, Dolcaradog; Jones (M.C.), Machynlleth; J. C. Jones, Penygroes, Arfon; Dr. J. Thomas, Lelrpwl; Dr. T. Rees. Abertawe. Da oedd bod yno. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. Evans, Penarth. Pregethwyd yn y gymanfa ar Gae'r Garsiwn," yr hwn a elwir o hyn jallan yn Gae'r Fendith," gan y Parchn. Dr. Thomas Rees, Dr. J. Thomas, E. Herber Evans, a W. Nicholson, ac yny capel am 7 y boreu gan y Parch. E. Morris, Llanrhai- adr. Cymanfa fendigedig medd y lluaws miloedd oeddynt yn nghyd. Bydded gorfoledd i barchus weinidog y lie, ar eglwys dan ei ofal, ac i bawb oedd yno oddiwrth y gymanfa. Llanfair. D. S. THOMAtt, Ysg. pro tem.