Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMANFA OELLEWINOL Y .."DEHEUDIR.

News
Cite
Share

CYMANFA OELLEWINOL Y DEHEUDIR. Cynaliwyd hon eleni yn Ffynonbedr, gan B Cglwys yn Ngbyfundeb Isaf sir Gaerfyrddin, ar y CtMercher a'r Iau, Meh. 5ed a'r 6ed. Saif addoldy r: Ffynonbedr yn mhen Gorllewinol plwyf Trelech, ^yn ngbanol dosbarth o wlad lawn o amaethydd- tyyr cyfrifol a charedig. Sefydlwyd yr achos yma ^iua deobreu y ganrif bresenol, gan y diweddar •: Hybarch Morgan Jones, a da genym ddweydfdd jf-y ganwyll a oleuw'ydganddo ef ynparhau i gyneu „ liyd heddyw. Y mae y gweinidog presenol, y "Parch. Evan Jones, yn llafurio yn ddiwyd yma er's deugain mlynedd namyn un; ac er na bu ef, t mwy na'i frodyr yn y weinidogaeth, yn "ddi- rICnystr yn ei waith, eto y mae wedi ei gynal hyd 3-.yma gan ei Feistr, ac y mae golwg lewyrchus ,/jawn y dyddiau hyn ar waith yr Arglwydd yn y lie drwy ei lafur a'i ymdrechion ef, yn nghyda phobl ei ofal. Rhoddodd ef, yr eglwys, alr gy- mydogaeth freichiau agored i'r gymanfa; aberth- jVaaant lawer; a chredwn na fu cymanfa yn Nghy- (t'inru erioed a gwell a mwy o ddarpariadau iymorol ac ysbrydol ar gyfer eisieu tyrfa o wran- r iawyr crefyddol. Gyda'r eithriad o'r hen gymyd- g parchus, Prifathraw y Bala, nid oedd un 3 gweinidog dyeithr, tu allan i gylch y gymanfa, fi wedi dyfod iddo; oblegid gobeithiwn fod mwy na haner y brawd o Abercwmboy yn aros yma, ao 5' nad oes ganddo bellacb ond penderfynu ar yr n" haner arall." If", With edrych dros restr y gweinidogion, gwel- Bom well cynrychioliad o'r cyfundebau. Gari fod y gymanfa yn cael ei chynal yn ngwaelod sir Gaerfyrddin, gallasem ddysgwyl i frawdoliaeth y fi Cyfundeblsaf fod yno yn gryno; ac felly yr oedd- Jynt ar y eyfan. Daeth sir Benfro allan, yn ol ei harfer, yn lluosog a llwyddianus. Nis gellir dweyd cymaint am ffyddlondeb sir Aberteifi; ond y llai na'r lleiaf oedd Cyfundeb Uchaf y sir. Nifer y gweinidogion i gyd a ddaeth i'r lie oedd ehwech a deugain; ond gwelsom ryw saith neu wyth o frodyr o enwadau eraill yn y gwahanol gynulliadau. Cynaliwyd y gynadledd am 11 o'r glocb bore I dyda Mercber, dan lywyddiaeth y dysgedig a'r doeth, y Parch. John Da-vies, Moriah. Dewis- "^ryd y Parchn. W. Thomas, Bwlcbnewydd, a W. Meirion Dpvips, Blaenycoed, yn ysgrifenyddion. & xgafflt "J Tarch. T. G. Jones, Gwern- Ogld. Traddodwyd anerchiad call, pwrpasol, a flimfol ar y "Pwysofeithrin crefydd yn y tea In," gan y cadeirydd; a chyn: diwedd y gynadledd, gwnaed ychydig sylwadau ar bwnc yr anerchiad gan aanryw o'r gweinidogion. Penderfynwyd hefyd ynddi yn 1. Eod anogaeth yn myned allan o honi at holl eglwysi cyleh y gymanfa i wneud casgliad at Genadaeth Patagonia. 2. Fod y gymanfa nesaf, sef eiddo 1879, i'w chynal yn Solfa, sir Benfro. 3. Fod Mri. Evans, Hebron; Prythercb, Wern; yr Yigrifenyddion; (gyda chynorthwy Mr. Davies, Llanelli, gan mai ef oedd y symudydd yn y cwestiwn), i fod yn bwyllgor i dynu allan ben- derfyniad cymeradwyol o lafur ac ebyrth y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone yn gwrthsefyll rhyfel; a bod y eyfryw benderfyniad, wedi ei arwyddo gan y cadeirydd, i gael ei anfon i'r bon- addwr anrhydaddns. 4. Fod dymuniad taer ar y cadeirydd parchus i gyhoeddi ei anerchiad gwerthfawr yn y Diwyg- iwr, gan obeithio y bydd i'r darlleniad o hono fod o fendith i lawer b deuluoedd. Offrymwyd y weddi ar y diwedd gan y Proffeswr Jones, Bala. Cynaliwyd yr oedfaon cyhoeddus i gyd, oddi- gerth y noswaith gyntaf, mewn maes cylieus ger- llaw y capel, lie yr oedd esgynlawr wedi ei had- eUadu o fath na welwyd erioed mewn cymanfa yn Nghymru ei thebyg. Yr oedd yn gyfanwaith onglog prydfertho fwy na haner cylch, wedi ei h&ddasu i gynwys dros bum cant o bobl. Pe dygwyddasai i'r cnrwlaw ddisgyn, gallasai pawb ynddi deimlo yn gartrefol o dan ei chysgod. Teimlem pan yn eistedd ynddi y dylasai y cyn- llunydd o /torn gael patent ami, neu ei aofon ar wibdaith trwy Gymru ar gyfer yr ucbelwyliau byn. Am.2 o'r gloch dydd Mercher, pryd yr oedd cynulleidfa dda wedi dyfod yn ngbyd, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio yn felus gan y Parch. Isaac Williams, Panteg. Pregethwyd hefyd yn uorthol iawn gan Mri. Evans, Trewen; Jones, Llwyncelyn; a Proffeswr Jones. Pregethwyd y noswaith h6no mewn deg o gapelau perthynol i'r gwahanol enwadau, sef Tyhen (M.), Ainon (B.), Salem CB.), Mydrim (M.), Talog (B.), Cana, Ceudy, Blaenywedd, Penybont, a Gibeon. Yr un Ameer, yn addoldy Ffynonbedr, dechreuwyd yn effeithiol gan y Parch. S. Davies, Peniel, a phreg- ethwyd yn gall a sylweddol gan Mr. Thomas, Llanbedr; Prytherch, Wern; a Evans, Hebron. Yr oedd yn amlwg y dydd cyntaf fod y weinidog- aeth yn "gwmwl dyfradwy." Teimlad ybobl oedd iddynt gael rhai dyferynau i lawr," ac y gallas- ent ddymuno a dysgwyl am ycbwaneg dranoeth. Bore dydd Iau, a hyny yn "blygeiniol iawn," yr oedd canoedd yn dylifo at yr esgynlawr o bob cyfeiriad. Gwyddom am lawer a gerddasant chwech, saith, ac wyth o filldiroedd erbyn saith o'r gloch. Darllenwydagweddiwyd yn gymwys- iadol gan y Parch. W. Thomas. Whitland, a phregethwyd ar ei ol gydag arddeliad amlwg gan Mri. Jones, Trewyddel; a Rogers, Pembre. Credu neu beidio, y mae rhywbeth nelllduol yn y cyffredin yn oedfaon boreuol ein cymanfaoedd. Ar ddiwedd yr oedfa hon, pan oedd y miloedd yn crynhoi, bu Mr. Thomas, Bwlchnewydd, mor hapus a cbyflwyno i sylw y dyrfa y penderfyniad a dynwyd allan i Mr. Gladstone. Darllenwyd ef yn hyglyw yn y ddwy iaith; a phan ofynwyd cyd- syniad y dorf, yr oedd yr holl ddwylaw i'r lan, fel brigau coed yn ymestyn tuag i fyny. Wele gopi o'r hyn a ddarllenwyd ganddo yn yr iaith arall:— "At the Annual Association of the Independent Denomin- ation of the three counties of Carmarthen, Cardigan, and Pembroke, respresenting two hundred and fifty congrega- tions, comprising about 75,000 members, held at Ffynonbedr on the fifth day of June, 1878, the following resolution was unanimously passed,-That this Conference feels devoutly thankfull to Divine Providence for rising and enabling the Right Hon. William Ewart Gladstone to oppose and thwart the bellicox tendency and influence of Her Majesty's present advisers, by enlightening the public on the intricacies of the Eastern Question, by means of his writings, and his speeches in the House and elsewhere; and sincerely hopes and prays that his noble efforts will be crowned with success." Cynaliwyd yr oedfa nesaf am 10 o'r gloch, a rhy brin y cafodd rhai o honom hamdden i lyncu, heb son am gnoi a threulio tamaid o fwyd. Nid oes dim i'w enill mewn corff na meddwl oddiwrth bregethau hirion. Ond erbyn yr oedfa hon (y 10 o'r gloch) yr oedd y lluaws yn cyniweirio." Os oedd llawer ar gerbydau ac ar feirch, yr oedd miloedd ar draed. Yn absenoldeb esgeuluswr, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y cad- eirydd, y Parch. J. Davies, Moriah, ac yr oedd y weddi fel efe ei hunan, yn Hawn o bobpeth da i gyfarfod a'r amgylchiadau. Y cyntaf a bregeth- odd oedd y Parch. D. Williams, Rhydybont; yr ail oedd y Parch. T. Davies, Llanelli; a'r trydydd yr Hybarch W. Evans, Aberaeron. Nid oedd yn bosibl cael gwell oedfa na hon. Boddai llygaid y miloedd mewn, dagrau. Os ffrydiai y cyntaf hylif o ymadroddion iachus i gyfarfod a sefyllfa bresenol yr eglwysi (a theilwngo "gynulleidfa ddeallus"), a'r ail ei ffraethebau a'i grebwyll ar ddyledswyddau syml aelodau eglwysig, yr oedd y trydydd fel hen philosophydd duwinyddol yn gosod gerbron gydag yni a nerth fawr amryw ddoethineb Duw." Yn wir, oedfa ardderchog yn mhob ystyr oedd hon, ae yn un a hir gofir gan lawer. Dysgwyliwn erbyn 2 o'r gloch weled y Parch. J. T. Evans, Caerfyrddin, ar yr esgynlawr yn dechreu y cyfarfod; a chwareu teg iddo, daeth at ei gyhoeddiad, ac aeth drwy ei waith yn swynol dros ben. Pregethwyd yn rymus a meistrolgar gan y Parch. 0. R. Owen, Glandwr. Credwn fod dyfodol pwysig o flaen ein brawd ieuanc hwn. Nid yn fynych y ceir dyn ieuanc mor deilwng i sefyll ar blatform cymanfa. Yr ail a bregethodd oedd y Parch. T. P. Phillips, Llandysul. Os dywedodd rhyw frawd wrtho am I. gadw y steam i fyny," bu yn lied hapus tua diwedd ei bregeth i gyflawni y gorcbymyn. Cafwyd yn drydydd bregeth dda, efengylaidd, gan y Parch. J. G. Thomas, Solfa. Dywedodd un brawd wrthym o enwad arall mai yr olaf y prydnawn oedd y goreu o ddigon ganddo fel efengylwr o'r cwbl. Dylem ddiolch i'r Arglwydd, os am yr un Ysbryd, fod hefyd yn perthyn i'r weinidogaeth amrywiaeth doniau i gyfarfod a chwaeth a dymuniadau ei holl ddeiliaid. Clywsom i'r cyfarfod hwyrol gael ei ddechreu yn neillduol o dda gan Mr. Jenkins, Cydweli. Rhoddir canmoliaeth uchel hefyd i bregeth bwr. pasol a miniog y Parch. T. R. Davies, Abercwm- boy. Ymddengys ei fod yn halltu noethder llawer o'r gwrandawyr. Ar ei ol, traddodwyd pregethau galluog ac effeithiol gan y Parchn. W. Thomas, Gwynfe; a Proffeswr Jones. Rhodd- odd yr Arglwydd nerth i'w genadon i gadw dylan- wad ar y dorf fawr i'r diwedd. Yr oedd yn am- IIWg fod gweddiau y saint yn cael eu hateb ar eu rhan. Os aeth yr eglwys a'r gymydogaeth i draul fawr mewn "pethau tymorol," cawsant fedi yn helaeth mewn pethau ysbrydol." Yr oedd gweled y fath dyrfa yn cael ei chadw mor gryno drwy'r dydd, mor barod i gymeryd eu hysgwyd gan allu y weinidogaeth, ac mor fynych yn foddfa o ddagrau, yn brawf amlwg o weithredia.dau y peth hwnw" ar y bobl. Gallwn awgrymu yn i 1. Nad yw oes y cymanfaoedd ar ben yn Nghy- mru. Dylem ddiolch am hyn-fod gwyliau ar- benig, a hen arferion syml y tadau wrth grefydda, yn cael eu cadw mor gysegredig gan eu plant. Ni buy wlad yma mor fyw am gymanfa eto. 2. Nad oes un gallu yn Nghymru i ddwyn dynion at eu gilydd fel gweinidogaeth yr efengyl; Credwn, ac nid oes amheuaeth, nad yw y newydd- deb diddiwedd a deimla dynion ynddi hi yn brawf o ddwyfoldeb ei chenadwri. 3. Trueni fod cynifer o segurwyr yn gwibio meusydd ein cymanfaoedd, yn rhedeg iddynt, ac yn mwynhau eu hunain ynddynt fel mewn ffeir- iau a marchnadoedd. Yr oedd y gymanfa hon yn drech o'i hysgwyddau i fyny na'r cyffredin yn yr ystyr hwn. 4. Diolch byth am weled cyfoethogion ein cy- nulleidfaoedd mor barod i aberthu dros achos Iesu Grist. Dygodd un hen bererin yn Ffynon- bedr y draul o giniawa yr holl weinidogion a'r pregethwyr y ddau ddiwrnod ar ei ysgwyddau ei hun. Yr oedd eraill trwy'r gymydogaeth ar eu goreu-digon o fwyd i filoedd. Bendith Duw a ddilyno y llestri gweiniaid i gyd am eu llafur. euchwys, a'uhebyrtb, yn enwedig y wraig dda, business-like (er o enwad arall) o C--d. Arosed bendith yr Arglwydd ar Ffynonbedr hyd byth, ac ar holl wersylloedd crefyddol y wlad, o ba enwad bynag, a gobeithio ybydd ffrwyth y gy- manfa enwog hon yn santeiddrwydd, a'r diwedd i'r miloedd yn fywyd tragwyddol. W. MEIBION DAVIES. Brynamlwg, Meh. 11, 1878. B. S.—Nid yw fy nghyfaill, Mr. Thomas, Bwlchnewydd, yn gyfrifol am ddim o'r adroddiad hwn, ond y gair a'r dystlolaeth (neu y gyf- raith) yn unig. Dylaswn ddweyd hefyd i'r Parchn. Pugh, Abergwaen; a Perkins, Maen- clochog, bregethu yn enwog y noswaith gyntaf (Mawrth).

CYMANFA MALDWTN.