Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Jftttixhn&tebi), &t>
News
Cite
Share
Jftttixhn&tebi), &t> MASNACH YD. Lied farwaidd ydoedd y Farchnad Yd yr wythnos ddiweddaf, a chadwyd at brisiau yr wythnos cynt. Dywedir fod rhagolygon da am gynyreh toreithiog eleni ar y Cyfandir, ac yn America, yr hyn gyda'r argoelion presenol am heddweh a arwydda y bydd yn haws i'r gweithiwr gael ei da maid bara. MARCHNAD LERPWL, DDYDD MAWRTH, Meh. 3. Nifer fechan o brynwyr oedd yn bresenol, gyda gostyngiad o Ie, y 100 pwys mewn gwenith, a'r blawd ychydig yn is. Indrawn Americanaidd 25s. y 480 pwys. Ceirch a Blawd Ceirch yn sefydlog. MAKCHNADOEDD CYMREIG. Aberteifi, Meh. 1.—Gwenith o 52s i 54s.; haidd, 42s. i 44s; ceirch, 24s i 26s. y chwarter. Aberystwyth, Mai 27.—Gwenith o 7s 6c i 8s Oc y mesur; haidd, 4s 9c i 5s Go ceirch, 3s 6c i 4s Oc; ymenyn ffres, 16c i 18c y pwys; dofed- tjod, o 3s 6c i 5s Oc y cwpl; pytatws o 8s Oc i 8s 6c y canpwys. BANGOR, Mai 31.—Gwenith, o 46s Oc i 48s Oc y chwarter; haidd, 36s Oc i 32s Oc; ceirch, 26s Ac i 28s Oc blawd ceirch, 35s Oc i 37s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Meh. 1.—Gwenith, o 45s. Oc. i 48s. 0c. y chwarter; haidd, o 36s. Oc. i 39s. Oc. y chwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 28s. Oc. y chwarter; blawd ceirch o 36s. Oe. i 39s. Oe. y 240 pwys. Gwrecsam, Mai 30.—Gwenith gwyn, o 8s Oc i 8s 3c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s 3c i 7s 6c y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 8c i 4s Oc y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, 6s 10c i 7s 2c y 38 chwart; eto, at falu, 4s Oc i 4s 9c; pytatws 4s 6e i 5s 3c y 90 pwys; ymenyn ffres, o Is Ie i Is 3c y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 91c i lie y pwys; cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 3s 6c i 4s 6c y cwpl. Cboesoswalll, Mai 29.—Gwenith o 7s 4c i 7s 10c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 6c i 4s 6c; pytatws, Os Oc i Os Oc-y mesur o 90 pwys; ymenyn, 14c i 15c y pwys; ednod, 4s 6c i 6s Oc y cwpl. Rhuthyn, Mai 27.—Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
AT EIN GOHEBWYR.,
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR., Gwell genym, a gwell gan ein darllenwyr, beidio cael adroddiadau am ymrysonau mewn cyfarfod- ydd eglwysig, eisteddfodol, a llenyddol, Hawdd ydyw i adroddiadau felly fod yn unochrog: a hawddach o lawer ydyw terfynu pethau felly,, bron yn mhob man na thrwy y wasg. Y mae adrodd- iadau felly yn ein harwain i brofedigaeth, naill ai i dramgwyddo rhai drwy eucyhoeddi, neu i ddigio eraill drwy beidio eu cyhoeddi. Gan fod ein cronfa o ddefnyddiau yn mwyhau bob wythnos, erfyniwn ar reporters fod mor gryno ag y medrant. Dr. Kennedy a'r Parch. T. Green, M.A., ar yr Undeb Cynulleidfaol, a Dr. Kennedy a'r Undeb Cynulleidfaol, yn ein nesaf, yn nghydag amryw ysgrifau a hanesion cyfarfodydd, barddoniaeth, JLc TELERAU Y "CELT." 1 drwy'r post am chwarter (talu yn mlaen) 0 16 2 eto eto 0 2 6 3 eto .eto 0 3 3 4 eto eto 0 4 0 3 eto eto 0 3 3 4 eto eto 0 4 0 Os na thelir yn mlaen, pris 1 drwy'r post am dri mis fydd 1/9; 2 eto, 3/rf; 3 eto, 4/3; 4 eto, 4/6. Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n nysoysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. D.S.-Sylwer yn fanwl ar yr uchod. HYSBYSIADAU CYFFREDINOL. Y tri'thro cyntaf 2c. yllinell 4 i 6 tro lie. „ 7 i 10 tro lc. D.S.-Hysbysiadau Double Column dwbl y pris uchod. Pob arian am y Gelt" Vw gwneud yn daladwy drwy cheques neu Post Office Orders i H. EVANS, Printer, Bala. HYSBYSIADAU PARHAOL. 1 fodfedd, 9c. y tro; 2 fodfedd, 1/3 eto 3 mod- fedd, 1/8 eto; yn ngbyda 4e. am bob modfedd ychwanegol.
CELL CYFBAITH Y CELT.
News
Cite
Share
CELL CYFBAITH Y CELT. OWN. En mai creadur gwasanaethgar, ufudd, a ffyddlon yw y ei ar y cyfan, er hyny mae amgylchiadau yn peri fod cwn yn annymunol a pheryglus i gymdeithas. Mae gorluosogiad o honynt yn myned yn bla cyhoeddus; ac y mae yr afiechyd a elwir Hydrophobia, i'r hwn maent mor ddarostyngedig, yn eu gwneud yn wir beryglus ac y mae yr haint ofnadwy hwn wedi ymdaenu yn mysg cwn yn ddiweddar i raddau arswydua. Yr ydym yn canfod crybwylliad yn feunyddiol yn y papyrull am farwolaethau gofidus o herwydd brath- iadau cwn, &c., cynddeiriog; ac y mae ein sylw ni yn bersonol wedi ei ddwyn at amryw frathiadau cwn ffyrnig. Yr oedd ol danedd y creadur creulon i'w weled yn nghnawd gwyn a thyner hogen fac-h, yn un o'r achosion hyn y galvvyd ein sylw atynt. Nid ydym mewn un modd am godi erledigaeth yn erbyn y cwn sydd yn fynych, fel y nodwyd eisoes, yn dra defn- yddiol; ond yn ddiau, mae gorniod o hon- ynt yn y dyddiau hyn, a cbyhyd y 7r/'t
Y RHYFEL.
News
Cite
Share
Y RHYFEL. MAE Cynadledd i fod yn Berlin yn ol pob tebygolrwydd i ail edrych dros Gytundeb St. Stefano, ac y mae Lloegr a Bwssia wedi dyfod i gytundeb ar brif bynciau y cweryl. Nid oes neb arall o'r Galluoedd Mawrion ond Awstria a buddianau pwysig yn yr ymrafael; ond nis gall Awstria* wneud llawer yn groes i ewyllys Rwssia a Lloegr ond iddynt hwy gytuno. Nid oes neb (a all ymladd a'r Hew Prydeinig, a'r arth Rwsiaidd gyda'u gilydd. Pan y byddant hwy yn un, rhaid i bawb creadur- iaid llai ymostwng. Nis gall Rwssia fforddio gwneud llawer, am fod Ffrainc yn barod i ruthro arni ond cael cyfle. Nis gall Ffrainc wneud llawer, am fod ganddi ddigon i'w wneud gartref; ac y mae'r Weriniaeth yn ymddangos yn llai tueddol, byd yn hyn, i ymyraeth yn mater- ion eu cymydogion na llywodraethau blaenorol. Oni bai fod anwadalwch wedi hynodi boll banes cyfnod y rhyfel yma, gallesid dweyd gyda chryn sicrwydd, mae heddwch i fod; ond pwy a all broffwydo am dywydd teg, a'r hin-raddyr (weather- glass) ar y cyfnewidiol, a'r olwg ar y wyb- ren yn newid bob awr? Oni buasai fod y Bhyddfrydwyr wedi deffro, a cbyfodi eu lief yn erbyn y rhyfel, buasem eisoes yn ei ganol. Nid oes dim amheuaeth. nad rhyfel sydd yn nghalon Arglwydd Beacons- field, ac y mae efe ei hun, meddir, yn mynu myned i'r gynadledd hon sydd i'w chynal yn Berlin, prifddinas Prwssia, pan nad yw prifweinidog unrbyw deyrnas arall yn myned. Paham y mae Arglwydd Beaconsfield yn mynu myned ei hun an i'r gynadledd hon ? Mae y swn ar led fod y Frenhines am i hyny fod. Arfer pob Gweinyddiaeth yw anfon llysgenadwr i gynadledd o'r fath, ac i hwnw dderbyn ei gyfarwyddiadau oddicartref, yn ol fel y byddo'r Weinydd- iaeth yn gynidledig yn penderfynu. Ond y mae Arglwydd Beaconsfield yn pender- fynu myned ei hunan, am y gwyr y gwna'r Weinyddiaeth gytuno a'r hyn y cydben- derfyna efe ac Arglwydd Salisbury sydd i fod. Mae efe yn myned i'r Gynadledd yn yr un ysbryd a phe byddai y Czar yn dyfod ei hunan yno i'w gyfarfod, ahwyth- au ill deuoedd heb ryw ormod o gymorth eu cydgynghorwyr i benderfynu dyfodol Twrci a'r Cwestiwn Dwyreiniol. Mae Arglwydd Beaconsfield yn Dori, ac yn arch-Dori, ac y mae amryw o'i weithred- iadau yn dangos ei fod am ymwrthod a phobpeth Grwerinol a chydymgynghorawl yn ei lywodraeth, a gweithredu yn unben- aethol, ac y mae am ystumio y cyfansodd- iad Prydeinig at fympwyon unbenaethol o'i eiddo ei hunan, drwy gario rhyfel yn mlaen ar gost y wlad, heb nemawr o ym- gynghoriad a'r Senedd na'r bobl, na gor- mod gyda'i gydaelodau o'r Weinyddiaeth. Mae llawer o beth fel hyn, yn enwedig os tybir fod y Frenhines yn ei gefnogi, yn ( sicr o roddi tine Werinol yn areithiau rhai o ddynion a phapyrau penaf ein teyrnas. Mae hi yn rhy ddiweddar i redeg yn ol yn nghyfeiriaa liywodraeth nnbenaethol, a gwell i'r teulu brenhinol a'r Prifweinidog fod yn ochelgar. Mae medr cyfrwysddyn mawr iawn yn yr Iuddew, ac os daw yn llwyddianus drwy y materion dyrys pres- enol, a rhoddi boddhad i Ewrop a chenedl- oedd gorthrymedig Twrci, maddeuir iddo gamweddau lawer, a gorthrwm trethol mawr. Archfargenwyr y byd yw'r Iudd- ewon, a'r syniad mwyaf cywir i Gymro am Arglwydd Beaconsfield yw meddwl am wag o borthman boneddigaidd a chab- oledig, yn gronfa o bob castiau a chyfrwys- fedr, ac yn gaboledig a boneddigaidd yn eu trin. Yr oedd porthmon o Lanuwchllyn yn ddiweddar yn cynyg ugain o wyn Cymreig ar werth i ffermwr am 5s. y pen, ac un dros ben, sef y salaf, i gyd yn unarhugain. Yr oedd y ffermwr yn gyndyn i daro'r fargen; ond o'r diwedd, wedi hir gyndynu, cynygiodd y porthmon yr oen goreu dros ben yn lie y salaf, ac yn awchus daliodd y ffermwr ei law, a tharawyd y fargen; ond erbyn ystyried, yr un peth oedd ugain coron, sef £5, gan nad pa un ai'r goreu ai'r salaf a fyddai dros ben. Felly, fe gafodd y ffermwr ei wueud gan y porth- mon. Cyn diwedd Cynadledd Berlin, ond odid na chawn ni ail argraffiad o 8tori yr oen dros ben gan Arglwydd Beacons- field. Mae'r medr ganddo. Rhoddodd tenant rights bill i ffermwyr Cymru a Lloegr, ond nid oedd ddim yn y byd yn y diwedd ond stori oen goreu dros ben yn lie y salaf, am nad oedd yn orfodolar y meistri tiroedd. Gan fod Arglwydd Beaconsfield mor ddiddim yn ei bethaa goreu, beth sydd i ni ddysgwyl wrtho yn anterth ei gastiau? Mae porthmon a llysgenadwr wedi ei wneud o'r un defnydd yn union, yrunfathagymae crochenydd yn gwneud priddfaen a chrochan o'r un clai, y naill dipyn yn arwach na'r llall. Ni fedr Arglwydd Beaconsneld gael yr un yn mhlith Toriaid Prydain Fawr yn ddigon gwagselog i'w ymddiried i fyned i Berlin; ac am ei fod yn ymwybodol o'i fedr bar- genawl uwchlaw diplomyddion Ewrop, j mae yn penderfynu myned i'r ffair ei hun- an yn Berlin, a dichon y daw ef oddiyno yn well na'r dysgwyliad. Mae'r ymwyb- odolrwydd fod Ilygad y byd a llygad hanes arno yn help i'w gadw rhag gwneud peth- au mor warthus ag y dymunai ei galon. Gan nad beth a wiieir, gobeithio y cedwir Ewrop rhag myned i ryfel gwaedlyd a chostus.