Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y PULPUD: Y LLWYFAN: Y WASG.

CANOL Y FFORDD.

News
Cite
Share

CANOL Y FFORDD. YR oedd yn dda iawn genyf weled Cymro" yn galw aylw y cyhoedd yn y CELT am y 26ain o'r 4ydd mis at y priodoldeb o ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Yr oeddwn wedi darllen haues y cyfarfod a gynaliwyd yn y Westminster Palace Hotel, Llundain, ar y 15fed o'r un mis, lie y dadleuai yr Aelodau Seneddol Butt, Hutchington, O'Shanghnessy, &c., dros yr angenrheidrwydd i ddysgu yr ieithoedd Gaelig yn ysgolion dyddiol yr Iwerddon a'r Alban (Scotland). Dywedir nad oes ond ychydig iawn o wahaniaeth rhwng iaith ucheldiroedd yr Alban a'r iaith siaredir gan drigolion y rhan Orllewinol o'r Iwerddon. Y mae yn ddiameu nad oes agos cymaint o siarad y Wyddelaeg yr yr Iwerddon yn awr ag a fu; ond eto sicrheir gan bobl sydd wedi teithio a byw yno fod miloedd lawer o'r trigol- ion heb fedru yr un iaith arall. Mae rhyw gant a haner neu ragor o ynysoedd ar gyffin- iau glanau deheuol a gorllewinol yr ynys, ac ynddynt o ugain i ddeug mil ar hugain o bobl uniaith, hyny yw, pobl heb fedru siarad ond yn unig y Wyddelaeg. Gellid dywedyd fod o leiaf haner trigolion Cymru heb fedru ond y Gymraeg. Yn awr, oni fyddai yn deg i'r llywodraeth wneuthur rhywbeth tuag at roddi ychydig gynorthwy i'r bobl hyn i ddysgu ysgrifenu eu meddyliau yn yr iaith maent yn ddeain Yr wyf wedi bod yn Ymwneud A'r gwaith o gyfranu addysg mewn ysgol elfenol