Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

YMYLON Y LLWYBRAU.

News
Cite
Share

YMYLON Y LLWYBRAU. .j MAE llawer o amrywiaethau i'w gweled yn ymylon y llwybrau, yn enwedig yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Ar ambell i lwybr ceir y blodau amryJiw yn ei addurno. Bydd y coed. ydd mawreddog a thalgryf o bob tu iddo a'u canghenau gwyrddlas a deiliog yn lie cyfleus i'r adar byncio a thelori, ac i'r gog g»nu. Mae yn hyfryd ar Iwybrau felly. Ond gan mai pererin ydwyf, nid oes fawr iawn o aro$i mi yn un man. Yr ydwyf yn cael mwyhhau y golygfeydd wrth basio, a chlywed y tonau melodaidd, a dyna i gyd. Yr wyf hefyd yn cyfarfod 5 llawer math o ddynion ar fy Ilwybrau-rhai y bydd eu cyf- eillach yn felus ac adeiladol, a bydd arnaf hir- aeth yn fy nghalon am golli eu cwmni; ond byddaf yn cyfarfod ambell i un' anfoddog, grwgnachlyd, a bydd ei gwmni yn fwy o boen nag o bleser. Cyfarfyddais & brawd felly yn ddiweddar, yr oedd wedi bod ar daith breg- ethwrol, oblegid dyna ei alwedigaeth; ac nid oedd wedi cael ei foddloni mewn amryw fanau. Nid oedd wedi cael digon o dal am ei boen mewn rhai manau gyda'r saint, dim digon o amenau gyda'i bregeth mewn manau eraill, a dim o'r lletygarwch a'r croesaw a ddylasai gael gan rai brodyr. Yr oedd arnaf awydd dweyd wrtho i fyned i'r ysgol at Paul i geisio dysgu bod yn foddlon. Pan aiff i daith nesaf, gobeithio y caiff fwy o groesau, a gobeithio y gadawa yr arferiad o rwgnach a beio os na chaiff. Mae rhyw gorach yn ceisio r&^d4jL«$gyd i 'HERBER EV ANf?W'Io,a't i yn y Fountain: "I was ashamed," meddai, "to see Herber Evans stand where he had done to day." Cyfeirio mae, druan bach, at y rhan a gymerodd ein cydwladwr galluog yn y ddadl fawr ar Bydd-gymundeb yn Islington, Llundain. Mae yn gysur i Herberei fod yn yr un dosbarth ag At Ion, Dale, a Rogers. 11 rs. Gwelais ar yinyl fy llwybr hefyd am yr wythnos hon y ,b bl»> 1.Y "FUNNY FOLKS T ac y mae at no ddarlun llawn mor darawiadol a dim a vmddaugosodd erioed yu y Punch. Darlun o Iarll Beaconsfield yn cerdded ar raff fam, ac yn ysgrifened ig ami Negotiations ac yn ei ddwylaw wialen ddwylath o hyd, yr hon a elwir Diplomacy, yn balance of power; ac ar ei gffn mae dyn tew mewn gwisg dda, a chot yr hen ffasiwn, yn edrych yn frawychhs, a'i ddwylaw yn dyn am wddf Beaconafield. O dan y darlun mae y geiriau, "Beaconsfield, dont be frightened, there is no real danger, only stick to me and it will be all right." Y tordyn o ddyn tew sydd ar gefn Beacons- field ydyw John Bull. Felly mae wedi bod mewn gwirionedd ttwy y misoedd aetbant heibio-y Prifweinidog yn cerdded megys ar raff fain uwchben cyflafan a difrod rhyfel, ac yn cysuro Shon, druan, trwy ddweyd, "There is no real danger, only stick to me;" ac y mae Shon wedi sticio yn sound wrtho. Gobeithio na syrthia Beaconsfield, neu bydd y cwymp i Shon yn falurio esgyrn. ? • PBRERIJT.

[No title]