Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CYMANFA ANNIBYNWYR SIR GAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

fod da iawn-dywedwyd llawer o bethau da ac mewn cyfeiriad gwahanol gan bob un o'r brodyr; ac os gwneir yn ol y pethau a ddywedwyd, cedwir teimlad gwresog yn y gwflsanaeth crefyddol i raddau dymunol. Am 6 30, dechreuodd y Parch. L. P. Humphreys, gynt o Myddfai, pregethodd y Parcbn. Rowe, Leeds (yn Saesneg) a Evans. Caer- fyrddin. Pydd Mercher, am 10, dechreuodd Davies, Peniel, pregethodd Morgans, St. Clears a Davies, a Llanelli. Am 2, yn nghapel yr Anni- bynwyr, dechreuodd Jones, Llangenech, pregeth- odd Lewis, Llanybri, a Thomas, Bryn yr un amser, yn nghapel y Methodistiaid, dechreuodd Davies, Llandilo, pregethodd Rogers, Pembre, a Thomas, Whitland. Am 6-30, yn nghapel yr Annibynwyr. dechreuodd Evans, Salem, pregeth- odd Ossian Davies, Llanelli, a Jones, Castell- newydd Emlyn; yn nghapel y Methodistiaid dech- reuodd Stephens, Brynteg, pregethodd Thomas, Gwynfe, ac Evans, Caerfyrddin. Cafwyd cymanfa dda yn mhob ystyr. Bu pobl y dref yn garedig iawn fel arfer i roesawu'r dy- eithriaid-pob enwad fel eu gilydd am y mwyaf croesawgar. Yr oedd yn lion genym weled gwedd inor lewyrchus ar bob peth yn ystod y cyfarfodydd, a gobeithiwn y bydd prydferthwch santeiddrwydd yn myned ar gynydd yn y lie yn amlwg iawn arol y gymanfa. W. THOMAS, Ysg. CYMER. Bum yn ddiweddar ar fy hynt yn yr ardal boblog a chynyddol uchod ar yr achlysur o sefydliad y Parch. D. Thomas, Gwernllwyn, Dowlais, yn weinidog ar yr eglwys Gynulleidfaol yn y lie. Er's ychydig amser yn ol, rhoddodd yr eglwys barchus sydd yno alwad dner ac unfrydol i Mr. Thomas ddyfod i'w bugeilio. Wedi dwys ys- tyriaeth, atebodd Mr. Thomas yn gadarnhaol, gan hyderu ei fod yn gwneud yn ol meddwl ei Feistr mawr, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yno rhyw chwech wythnos yn ol; a'r Sul a'r Llwn, Mai 26ain a'r 17ain oeddy dyddian y cynal- iwyd cyfarfodydd y sefydliad. Pregethwyd y Sabbath am haner awr wedi deg, gan y Parcbn. W. G. Richards, Penywern, Dowlais, a J. Davies, Taihirion; am ddau, gan y Parchn. T. George, Dinas, a D. Thomas, Tonypandy; ac am chwech, gan W. G. Richards, a J. Davies. Ddydd Llun am ddeg. pregethodd y Parchn. J. M. Evans, Caerdydd, a Dr. Rees, Caer. Am ddau, pregeth- odd y Parch. T. Morris, Brynseion, Dowlais. Yna gofynodd y Parch. J. Morgon, Cwmbach am yr arwyddion gan yr eglwys a'r gweinidog, a gweddiodd am fendith Duw ar yr undeb. Yna pregethodd y Parch. D. Evans, Pentre, diweddar weinidog Cymer, charge i'r eglwys, a Dr. Rees. Abertawe charge i'r gweinidog. Yn yr hwyr pregethwyd gan Dr. Rees, Abertawe, a Dr. Rees, Caer. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn. W. G. Richards, Dowlais; Davies, Taihirion Griffiths, Cwmdar; Griffiths, Cefn a Mr. Morgans, Myfyriwr yn Airdale College. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. cynulleidfaoedd mawrion, a'r gweision ar eu heithaf yn pregetlm yr hen efengyl, a gobeithiwn y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear, ac y gwelir ffrwyth toreithiog etc mewn achubiaeth eneidiau lawer. Da. genyf weled Mr. Thomas yn dechreu ar ei weinidogaeth yn ei le newydd dan amgylchiadau mor addawol. Gobeithio y caiff y fraint o fod yn ddefnyddiol yn llaw ei Dduw eto i gael eneidiau lawer at Waredwr, ac y bydd ef a'i anwvl deulu yn ddedwydd yn eu cartref newydd. Mae eu llinyn wedi disgyn mewn lie hyfryd, ac yn nghanol pobl siriol a charedig. Cefais ar ddeall fod Mr Richard Evans, Cymer wedi anfon ei 1ragen. a'i geffylal bob cam i Dowlais, acg wedi cludo eu dodrefn yn rhad i'r Cymer. Nid rhodd fach oedd hyny. Haeddai Mr. Evans ddiolchgarwch am ei garedigrwydd a'i haelioni. Hefyd darfu Mr. a Mrs. Griffiths, Parth, roddi ciniaw a the i'r gu einidogion a'r pregethwyr am ddim, y rliai oeddynt yn rhifo o 20 i 30 mewn nifer. Mae parch a diolchgarwch yn ddyledus i'r boneddwr a'r foneddiges o'r Parth, am en haelioni a'u caredigrwydd yn darpar ar gyfer y fath nifer. Hefyd nis gallwn anghofio y Caredigrwydd a gawsom gan Mr. a Mrs. Idris Williams, o'r Bryn- glas, lie y bum i a brawd arall yn lletya. Yr oedd Mrs. Williams ar ei goreu yn ceisio ein gwneud yn ddedwydd. Gobeithio y caiff Mr. Thomas oes hir i wasanaethu ei Dduw yn y Cymer yw dymuniad UN OEDD YNO. PENCLAWDD. Bydd yn dda genym weled y CELT yn d'od i Penclawdd, a bydd yn dda gan Penelawd ddlod i'r CELT ambell waith i roddi ychydig o'i hanes. ac i weled ychydig ar y byd. Darfu i nifer o bobl jteuainc gyduno i gael TeinLyma. Daeth Mr. Watts, Dos. Dir., o Abertawe, a nifer lluosog o frodyr a chwiorydd o Abertawe a Chwmbwrla, i agor y Demi, Mawrth 16eg, 1878. Yr oeddem y pryd hwnw yn 19 mewn nifer; yr ydym yn awr, yn mhen ychydig gyda dau fis, yn rhifo 60. Nos Percher diweddaf, darfu i ni, fel Temlwyr Da, gynal cyfarfod yn Bethel i adrodd a chanu. Llywyddwyd gan y brawd William Jones, Dir. y Demi. Cafwyd cyfarfod dyddorol rhagorol iawn. HOGYN. FELINWEN, ABERGWILI. Cynaliwyd, Mai yr 16eg, yn y Felinwen, sir Gaerfyddin, eisteddfod fawreddog, y fwyaf a gynaliwyd yn Nyffryn Towy, oddigerth eisteddfod Caerfyrddin, mewn pabell arbenig a godwyd gan Mr. J. Smart, Caerdydd, yn nghae cyfagos i'r pentref a roddwyd yn fenthyg am y diwrnod gan Mr. W. Evans, Llwynpiod Slate Quarries. Y beirniaid oeddynt :—Y gerddoriaeth, Mr. J. Thom- as, Llanwrtyd; y farddoniaeth, Parch. J. Myrdd- in Thomas, Mold; y gwniyddiaeth, Miss Morris, Brynmyrddin; y pedolau, Mr. Davies, Cwmgwili, a Mr. R. Morris, Felinwen. Arweinydd yr eis- teddfod oedd y Parch. J. Mytddin Thomas. Aed yn mlaen a'r gweithrediadau yn y drefn a ganlynCyfarfod y boreu—1. Anerchiad gan y Llywydd, Capt. V. LI. Phillips. 2. TOn gan C. Videon Harding. 3. Cystadleuaeth ar y quartette, "Hark! Apollo strikes the Lyre;" gwobr, 8s. Cystadleuodd 3. Buddugol, Myrddin Minstrels 4. Beirniadaeth ar yr englynion i Suspention Bridge y Felinwen; gwobr, 5s. Daeth lleg i law Rhanwyd y wobr rhwng J. Morgan, a W. Wyn. 5. Cystadleuaeth ar y tenor solo, In native worth; gwobr 5s. Cystadleuodd 12. Buddugol, Eos Maelog. 6. Cystadleuaeth ar y dOn gynull- eidfaol, Llangristiolus;" gwobr, £ 2. Cystadleu- odd 4. Buddugol, cor Vicar Pritchard, Llandovery 7. Beirniadaeth ar yr hosanau; gwobr, 2/6. Daeth pedwar par i law; goren, Mrs. Davies, Capel ucha. S. Cystadleuaeth ar Llwyn Onn," gan gorau o blant; gwobr £1. Cystadleuodd 4. Buddugol, cor Williams, Paritycelyn, Llan- dovery. 9. Beirniadaeth ar y traethodau ar Addysg Elfenol y dyddiau presenol," gwobr £1. Daeth 3 i law, Goreu, E. Ehedydd Thomas, Nantysaer. 10. Cystadleuaeth ary Glee," Llaw- enydd y Gwanwyn," gwobr 16s. Cystadleuodd 2. Buddugol, cor Llanddarog. 11. Beirniadaeth ar y llwyau, gwobr 2s. 6c. Daeth 15 i law. Rhan- wyd y wobr rhwng Isaac Stephens, Llanarthney a D. Davies, Llanstephan. 12. Cystadleuaeth ar y Soprano Solo, "Tros y Gareg," gwobr 5s. Cystadleuodd 6. Buddugol, Miss Jones, Caer- fyrddin. Prydnawn.—1. Cystadleuaeth ar "Worthy is the Lamb," gwobr 15, a bathodyn arian i'r ar- weinydd. Cystadleuodd 4. Bnddugol, c6r Caer- fyrddin, o dan arweiniad Mr. Francis, Morriston. 2. Cystadleuaeth ar There's an ark on the waters," i gorau o blant, gwobr 10s. Cystadleu- odd 3. Buddugol, cor o Gaerfyrddin. 3. Beirn- iadaeth ar yr Antimacasars, gwobr 5s. Daeth 12 i law. Goreu, Miss Williams, Caerfyrddin. 4. Cystadleuaeth ar Storm the Fort of sin," gwobr £ 2, a baton i'r arweinydd. Cystadleuodd 6. Rhanwyd y wobr rhwng cor o Llanddovery a ch6r o Gaerfyrddin. 5. Beirniadaeth ar y G&n i Ddyffryn Tywi," gwobr 91. Daeth 5 i law. Goreu, Mr. Richards, Normal College, Bangor. 6, Beirniadaeth ar y pedolau, gwobr 5s. Daeth 5 par i law. Goreu, D. James, Llanstephan. 7. Cystadleuaeth ar y Glee, "Oddiar y Traeth," gwobr £ 5. Rhanwyd y wobr rhwng cor o Llan- ddarog a chor o Gaerfyrddin. Yn yr hwyr, am saith, cynaliwyd cyngherdd lluosog a llwyddianus. RHAGLEN:—Hhif 1. 1. Ton, Bid me discourse," gan Miss Bessie Jones, Carmarthen. 2. Ton, "The Blue Alsatian Mountains," gan Mr. C. Videon Harding. 3. Ton gan Miss Polly Harries, Llwyncelyn. 4. Ton ddigrif (Comic Song), "Good-bye Polly," gan Mr. J. E. Noakes. 5. Ton, "Y bwthyn ar y Traeth," gan Miss Lewis (Llinos Myrddiri). 6. Ton ddigrif (Comic Song), "Unfortunate Man," gan Mr. J. E. Noakes. Rhan 2. 1. Ton ddigrif (Comic Song), "Captain Cuff," gan Mr. J. E. Noakes. 2. Ton, "The ring that mother wore," gan Miss Bess Harries, Llwyncelyn. 3. Ton, "Esmeralda," gan Miss Lewis (Llinos Myrddin). 4. Ton, "The death of Nelson," gan Mr. C. Videon Harding. 5. Ton, "Men of Wales," gan Miss Bessie Jones. 6. Ton ddigrif (Comic Song) "Tooral, Lee," gan Mr. J. E. Noakes. 7. Di- weddglo—" God save the Queen." Ar ddiwedd y cyngherdd rhoddwyd diolchgarwch cynes iawn i'r ■jerddorion a'r cerddoresau gan D. M. Morgan, Ysw., diweddar Faer Caerfyrddin. Daeth tyrfa- oedd enfawr o bobl yn nghyd o bob cwr yn agos o sir Gaerl,) a chyfrifid fod yn y babell y boreu a'r prydnawn yn agos i 2 500 o bob!. Trodd yr Eisteddfod allan yn mhob modd yn llwyddianus hyd eithaf disgwyliadau brwdfrydig y pwyllgor; er fod yr bin yn y prydnawn a'r hwyr yn wlyb, ac o ganlyniad yn anft'afriol. Oherwydd na chafwyd amser i ddarllen y feirn- iadaeth ar y Farddoniaeth na'r Rhyddineth, gwnaed yn hysbys i'r dyrf yn y prydnawn y cy- hoeddid hi drwy ganiatad y Golygwyr yn y CELT. J. REES, Ysgriftnydd. [Ymddengys y leirniadaeth yn y nesaf.J -Gol. CYMANFA YSGOLION SABBATHOL YR ANNIBYNWYR YN MHENLLYN AC ED- EYRNION. CYNELIS y Gymanfa eleni yn y Bala, dydd Mer- cher, v 19eg cyfisol. Hyderir fod yr ysgolion wedi, ac yn parotoi yn egriiol ar ei chyfer, au y deuant yn lluoedd crytion i'r wyl y diwrnod hwnw. Arweinir y rhan gerddorol gan Mr. John Evans, Britlidir, ger Dolgellau, a holir y gwahauol ddos- barthiadau gan bersonau perthynol i'r undrb. Bwriedir i bwyllgor y Cyfitrfod Llenyddol ym- gynull yn ystod y dydd. GOHEBYDD. TABERNACL, PENYBONT-AR-OGWY. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd eleni Mai 21 a 22, a phregethwyd yr hen efengyl gyda nerth ao eglurder mawr gan y Parchn. J. Milns, Aberystwith, a J. Ossi.in Davies, Llanelli. Fel yr oeddis wedi gweddio yn flaenoro! am ddylanwad yr Ysbryd gyda'r genadwri, teimlem wrth ein bodd o dan eu gweinidogaeth, ac yn barod i ofyn pa le yr aeth yr Am»n? Yr oedd yn caellle amlwg yn nghyfarfodydd y Tabernacl. Ein gweddi ddiffuant gerbron Duw, a'n dysgwyliad cyffredinol ni ydyw y bydd cynhauaf toreithiog yn y man ar ol yr bad da a hnuwyd. A. L. TRAWSFYNYDD. Cynaliodd yr Annibynwyr y lie uchod eu Cyfarfod Undeb Ysgolion eleni yn Penystryd, dan lywydd- iaeth y Parch. B. Jones. Am 2 holwyd y plant yn hanes Ruth gan Mri. O. Williams ac R. Jones -un o bob ysgol—yr holi a'r ateb yn ganmoladwy iawn; ac am 6 y dosbarth hynaf gan Mr. Jones oddiar ymweliadau Iesu Grist a Jerusalem. Yn yr hwyr cafwyd anerchiadau ar yr Ysgol Sul a dyledswydd proffeswyr crefydd i'w chefnogi gan Mri E. Owen, Penygareg St., M. Jones, Caegwyn, a W. W. Owen, British School. Hyderwn y bydd i adroddiad yr Ymwelwyr brofi yn effeithiol i'r Ysgolion yn y dyfodol, ac y bydd i'r diffygion a nodasant gael eu gwneud i fyny. Teimlwn y dylai yr Ysgol gael gwell cefnogaeth gan grefyddwyr y dyddiau hyn. Llwyddiant iddi i wasgar ei dylan- wad er enill y byd at y Gwaredwr yw dymuniad AP OWEN. BETHLEHEM, ST. CLEARS. Cymanfa Gerddorol yr Annibynwyr.—Cynal- iwyd Cymanfa Gerddorol gan Ysgolion Sabbathol Undeb rhan isaf Sir Gaerfyrddin, dydd lau, Mai 23. Yr oedd yr Ysgolion hyn wedi dysgn a phar- otoi lluaws o d6nau o gasgliad Stephen a Jones, ac Anthemau Cynulleidfaol, i'w canu yn un cor ar y dydd a nodwyd, a Dr. Parry, Aberystwyth, yn arweinydd, gan mai Anthemau Cynulleidfaol o'i eiddo ef a fwriedid ganu, sef "Ar lan'r lorddonen ddofn," Mi a godaf, ac a af at fy nhad," (hwn oedd y tro cyntaf i Dr. Parry glywed hon yn cael ei chanu), "lesu'r bugail mwyn," Yr udgorn a gân," a "Hosana i'r Iesu," &o. Dyma y gymanfa gerddorol gyntaf i'r Undeb hwn, a'r ail hefyd, meddir, yn Nghymru, i fabwysiadu y cynllun hwn, yn mhlith yr Annibynwyr o leiaf. Gellir d" eyd yn ddibetrus i'r gymanfa droi allan yn llwyddiant perffaith. Cafwyd cyfarfodydd da i gyd, ond yn ol y dystiolaeth gyffredinol, rhagorai cwrdd y prydnawn ar gwrdd y bore, drwy fod amryw o'r un t6nau ac anthemau yn cael eu canu, yr hyn a roddai fantais.i'r cantorion gyflawni dymuniadau eu harweinydd enwog yn well. Yn yr hwyr wed'yn yn Capel Mair cafwyd canu da neillduol-pawb yn canu mewn hwyl ac yni calon, ac arwyddicn am- lwg fod yno ganu nid yn unig a'r deall, ond a'r ysbryd hefyd. Mynegai yr arweinydd ar y diwedd fod y canu yn ystod y gymanfa wedi bod yn llawer gwell na'i ddysgwyliad, ac anogai hwynt i fyned rhagddynt, gan ymroi yn ddyfal i wella caniadaelh y cysegr. Cafwyd anerchiadau pwrpasol rhwug y canu yn ystod y dydd gan y Parchn. W. Thomas, Whitland; Jones, Lacharn; A. Thomas, Llan- ddowror; a Mr. Rees, Bishop Court. Dywedai Mr Morgan y gweinidog, ei fod yn credu y gwneid lies mawr drwy gwrdd canu fel hwn, nid yn unig i gan- iadaeth y cysegr, ond hefyd i'r pulpud; a phen- derfynwyd cynal cymanfa eto tua'r Nadolig yn Llanybri, ao un arall yma yn Bethlehem yn iphen y flwyddyn, ¡