Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
PONTYBODKIN, SIR FFLINT.
News
Cite
Share
PONTYBODKIN, SIR FFLINT. CYNAUWYD cyfarf. d blynyddol y lie hwn nos Fawrth a dydd Mercher, Mai 14 a'r 15. Y gweinidcgion eyflngenig yn yr wyl arbenig eleni oeddynt y Parehedigion E. Stephen, Tanymar- inn; D F. Divies. Bangor; a W. Nicholson, Liverpool. Yr oedd y symiau a gasglwyd gystal ag erioed er marweiddied masnach yr ardaloedd, a'r cynullifidau os dirn yn well nagy buont, erioed. Yr oeddy capel yn orlawn y noson gyntaf, fie ofnid na lydd.ii digon o le yno yr ail nos, felly aed i pnpel y Wesleyaid, Coedllai, a roddwyd yn menthyg yn ewyllysgar a pharod. Hefyd dylem ddweyd ini gael gweinidogaeth nerthol, g> foethog, afaelgar, a chymbelliadol Cynorth- wywyd ar yr acblysur gan y Parcbedigion R. Hughes, (W)., Coedllai; J. Morgan Jones, Llaufynydd, &c Llywyddwyd y mndclion yr ail drliwrnod yn ddeheuig iawn yn absenoldeh y Parch. Myrd'Hn Thomas, yr hwn a orfyddid i fod oddicartref gan amod yn sir Gaerfyrddin, gan y Parch. Morgan Jones. Mae swn corn cychwyn byddin dirwest yr haf bwn do yn dechreu diasbedain o Laafynydd yn mblwyf yr Hob i Goed Llai, ac o Dreiddyn i'r Llong; ac y mae pwyllgor yr achos dirwestol yn dechreu parotoi erbyn Cymunfu. Flynyddol Undeb "Debeubarth Swydd Fflint" (ys dy wed odd Sior v.,) yr hon a gynelir yn Nhreiddyn, yn Nghorph. nesaf. Pe hai genyf fi lais yn etholiad areithwyr i'r gymanfa. mi a bleidleisiwn yn bendifaddeu dros gael y Parch. D. S. Davies, Bangor, a Dr. Pan Jones, Mostyn,—gw £ r glewion a grymus, a dryllwyr didrugaredd cwpanau, meiliau, a phleser- au teml Bacchus. Bendith arnynt am eu gwrol- deb o blaid dirwest yn ngholofnau y CELT, lie y maent yn NotMwyr y gwyr faecUir gan GttU epil yr hen gwpan. AWERTAWY. Cyfarfod Blynyddol Capel Soar.-Cynaliodcl yr eglwys uchod ei gwyl bregethu ar nos Sad win, Sul, a nos Lun, Mai 25, 2U, a'r 27ain, pan y pregethwyd gan y gwahoddedigion neillduol, sef y Parcbn. J. Miles, Aberystwyth, ac H. Jones, Birkenhead. Hefyd pregethodd y Parch. R. T. Jones, Ystalyfera, am 2 y prydnawn Sabbath. Cafwyd cynulliadau Iluosog, a phregethau grymus a nerthol, hyd nes peri i bawb a'u gwrandawsant i deimlo os oedd y cedyrn yn myned yn hen, bod yr Arglwydd o'i ras yn codi pregethwyr ieuainc rhagorol i lenwi eu lie. Pregethwyd ar hyd y cyfarfodydd yn dderbyniol, dylanwadol, a thra effeithiol. Ac yn ol pob tebygolrwydd bod y gwrandawyr yn teimlo argyhoeddiad cydwybod euog, a'r aelodau am ddeffroi i fwy o weithgar- wch crefyddol na chyrit be yn neilldudl ar ol y pregethau nos Lun. Pregethodd Mr. Miles ar y testyn Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymwys i deyrnaB Dduw," a Mr. Jones ar Chwi yw halen y ddaear," &c. Yr oedd y blaenaf yn pregethu ar gymwysder i deyrnas Dduw, a hunan-ymholiad crefyddwyr, yn ddifri- fol a dwys fel a.rferol; a'r olaf ar yr halen. Dangosodd bod gwasanaeth yr halen yn hanfodol trwy holl natur er ei chadw rhag Uygru, a bod yn anyoddefol i fyw yn y tawch. A gwnaeth ddefnydd da o'r ffygyrol yma mewn cysylltiad a phroffeswyr crefydd,. y dylent fod bob amser fel yr halen heb golli dim o'u heffaith i halltu. Yr oedd yr hanesyn am Guinness ar ddiwedd y bregeth yn anorchfygol ei ddylanwad. Dywedai fod Guinness a chyfaill iddo wedi eu magu yn y gyfeillach grefyddol, ac ar ol iddynt dyfu i fyny yn wyr ieuainc, gwrthgiliodd Guinness oddiwrth grefydd, a thrwy ei ddylanwad hudodd ei gyfaill i wneuthur yr un modd; ac yn y cyfamser aethant o ddrwg i waeth. Ar ol peth amser ymadawodd Guinness a'i gyfaill am Mexico, America; ac yno, wedi iddo fyued i gylyngder meddwl truenus, a sefyllfa waradwyddus, dechreuodd fel y Mab afradlon gynt, ddod ato ei hun, a deall ei gyflwr fel Saul o becbadur; a thrwy drugaredd yr Arglwydd ca'dd gyfnewidiad meddwl. ao ymunodd a chrefydd eilwaith. Ac ar ol ychydig amser dychwelodd yn ei ol i Lundain i ymweled a'i hen gyfaill, gan ei fod yn gofidio o'i blegid am mai efe oedd y gwr a'i deuodd oddiwrth grefydd ond er gofid a galar chwerw iddo, daeth i wybod ei fod wedi marw a'i gladdu yn medd y meddwyn. Ni raid dweyd i'r uchod fod yn olid calon i Guinness am ei oes. Ddarllenydd anwyl! os ydwyt am wrthgilio oddiwrth grefydd gwna hyny dy hun, ac na rylyga i hudo neb arall gyda thi, rhag i'r poethder fod yn saith poethach yn dy gydwybod na chynt. Y mae Mr. Jones wedi gwneuthur iddo ei hun enw da yn y cylchoedd yma, a gellir sicrham iddo pan y daw yma nesaf y caiff gynulleidfaoedd mawrion i'w glywed yr un (atib ,'u. cyfoill Mr. Miles. X mm enw da yn I beth gwerthfawr ac anwyl i'w gadw ar ol ei gael, ac nid mewn un diwrnod y gellir enill, ond y mae yn beth posibl ei golli mewn un dydd fel rhai anffodusion. Gobeithio y bydd y weinidog- aeth a draddodwyd yn y cyfarfodydd yma yn adgyfnerthiad i'r eglwys yn-gyffredinol, ac y cant weled lluaws o'r gwiandawyr yn dychwelyd oddi- wrth eu hen tfyrdd, ac i gofleidio ciefy id. Casgl- wyd yn ystod y cyfarfodydd tua JE50, a gwnaeth- ant yn flaenorol trwy eu Bazaar diwedd mis Mawth £150. Mae eglwys weitbgar Soar yn penderfynu clirio ymaith swm anrhydeddus o'r ddyled eleni. Mae yn aros yn awr tua JE1,700 o'r £3.000 a gostiodd wytb mlynedd yn ol. Y Gymdeitltas Feibluidd Frytanaidda Thramor. —Cynaliwyd gan gangen Abertawy o'r gymdeithas uchod ei chyfarfod blynyddol yn y Music-hall, nos Lun, Mlli 27ain, e dan lywyddiaeth Mr. S. B. Power, yn absenoldeb y llywydd Mr. S. S. H. Horman-Fisher, yr hwn a abest.olodd ei hun trwy ryw amgylcliiadau o'i eiddo. Siaradodd Mr. Power yn rhagorol ar yr achlysur. Y mae yn un o'r dynion mwyaf crefyddol y dref. Felly yr oedd y Beibl yn hoff ganddo i siarad arno. Yr oedd ei anerchiad o'r gadair yn deilwng o hono fel boneddwr a Christion. -Wedi hyny darllenodd yr ysgrifenydd Mr E. Davies adrodd- iad am y flwyddyn o'r cyfrifon. Yr oedd y gangen wedi gwasgaru yn ystod flwyddyn o Feiblau a Thestamentau 3,107 o gopiau er iseled y mae masnach wedi bod trwy yr amser. Ond y y maent wedi myned i ryw 91 3s. 6c. o ddyled yn fwy na'r derbyniadau eleni. Ond yr ydym yn bur sicr y gwerthir yn well y flwyddyn nesaf, pan y pasiwyd yn unfrydol y personau canlytiol er sicrhau yr amcan o ddyfodol mwy llwydd- ianus :—Cadeirydd am y flwyddyn nesaf ydyw Mr. J. T. D. Llewelyn, a'r Is-gadeirwyr Mri. H. H. Vivian, A.S., L. L. Dillwyn, A.S., a Mr. S. S. H. Horman-Fisher, yn Drysorydd, a Mr. E. Davies yn Ysgrifenydd, gyda dymuniad am i'r bonéddigesan ac eraill anfon eu henwau i mewn i gydweitliredu ar y Pwyllgor. Pasiwyd yn unol fod yr adroddiad i gael ei argraffu a'i wasgaru. Yna cafwyd anerchiad gwresog hyawdl gan ddirprwywr y Fam Gymdeithas, y Parch. H. M. Barne, M.A., yr hwn a ddywedai y lies anferthol mae y Beibl wedi ei wneuthur yn ein gwlad ni, heb son dim am ei anrhaethol werth i'r cenhedl- oedd eraill, a goleuo miliynau paganiaid tywyll leoedd y ddaear, yr hwn ydyw Ilyfr y llyfrau, a'r unig lyfr gwirionedd sydd yn dangos ffordd i'r pechadur tlawd i gael bywyd yn Nghrist, a'r flordd uniawn i'r nefoedd. Hefyd cafwyd an- erchiad gan rai brodyr eraill i'r un perwyl. Trueni mawr na bai cyfarfodydd y Feibi Gym- deithas yn fwy poblogaidd yn Abertawy nag ydynt. Ychydig mewn cymhariaeth i'r hyn ddylasai fod oedd yn y cyfarfod. Gobeithio y bydd yn fwy lluosog y tro nesaf. Terfynwyd trwy weddi, a chyn myned allan gwnaed casgliad at drysorfa y Gymdeithas. Fabian's Bay.-Traddodwyd darlith yn y capel Seisnig hwn, nos lau, Mai 30ain, gan y Parch. Dr. Rees ar y Diwygiadau Crefyddol Cymru. Yr oedd y Dr. fel arferol yn llawn hynawsedd yr efengyl yn traddodi ei d darlith efengylaidd a phoblogaidd i gynulleidfa luosog. Y mae bob amser yn barod i wasanaethu y gwan fel y cryf, a'r tlawd fel y cyfoetbog. Mae yr eglwys fechan hon wedi derbyn llawer oddi ar law Dr. Rees mewn arian a gwasanaeth, a sicr genyf eu bod yn teimlo yn ddiolchgar iddo am hyny. Mae'r gweinidog ieuanc a ffyddlon y Parch. S. Owen, a'r eglwys yn myned yn mlaen yn gysurus a llwyddianns. Cadeiriwyd gan Mr. Burnil, ac ar y diwedd diolchwyd yn gynes i'r darlithydd a'r cadeirydd am eu gwasanaeth o gynorthwyo yr eglwys fechan a gweithgar Fabian's Bay. W. D. NAZARETH, LLANLLYFNI. Cyfarfod Ysgol.—Dydd Sul, Mai 26ain. cynal- iodd yr Annibynwyr eu Cyfarfod Ysgol Undebol yn y lie uchod, pryd yr holwyd yr Ysgol gan y Parch. W. Roberts, gweinidog. Am lleg, holwycl y plant mewn gwahanol beth- au, a cbafwyd atebion da iawn. Yr oedd ol llafur wedi bod arnynt. Am 2, holwyd yr Ysgol yn gyffredinol, pryd y cafwyd atebion da. Mewn gwirionedd, ni welais gymaint o ol llafur ar yr un Ysgol erioed o'r blaen; a gellir, yn ddigon priodol, ei galw yn Ysgol o dduwinyddwyr. Am chwech, cafwyd cyfarfod i areithio gan y cenhadau o'r lleoedd canlynol :-Llanllyfni, H. Roberts a Robert Thomas; Penygroes, H. Roberts a Robert Jones; Talysarn, S. Jones a John Jones; Drwsycoed, John Hughes a'i gyfaill. Cafwyd cyfarfodydd da ar hyd y dydd; a therfyn- wyd drwy seinio enwau o blaid heddwch a thang- aefed4 ar eiu §wlad, R. JONES,
CYMANFA ANNIBYNWYR SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
CYMANFA ANNIBYNWYR SIR GAER- FYRDDIN. CYNALIWYD yr uchod eleni yn Llanymddyfri, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mai 28ain a'r 29ain, 1878. Daeth y gweinidogion canlynol i'r gymanfa -Jones, Castellnewydd Emlyn; Evans, Caer- fyrddin Jones, Gwernogle; Proff. Morgan, Gaerfyrddin; Rowe, Leeds; Davies, Pontygof; Davies, Bethlehem; Davies, Llanelly; Johns, Llanelly; Thomas, Bryn; Lewis, Docks; Ossian Davies, Llanelly; Davies, Llandilo; Evans, Pont- yberem; Morgan, St. Clears; Davies, Grammar School, Llangadoc; Thomas, Whitland; Hum- phreys, Myddfai; Thomas, Capel Isaac; George, Hermou Hughes, Ilehoboth; Richards, Myddfai; Hughes, Llangadoc; Williams, Llwynteg; Davies, Llanybri; Jones, Pentretygwyn; Thomas. Pont- arddulais; Rogers, Pembre; Lewis, Llanybri; Jenkins, Cydweli; Jones, Llangenech; Griffiths, Troedrbiwdalar; James, Lianwrtyd; Stephens, Brynteg; Williams, Lianwrtyd; Richards, Crug- ybar; Jones, Alma; Davies, Peniel; Thomas, Bwlchnewydd; Thomas, Gwynfe; a Gibbon, Llanymddyfri. Cafwyd cynadledd y dydd cyntaf am 10-30 cymerwyd y gadair gan Davies, Llan- elli, a dechrouwyd trwy weddi gan Thomas, Whitland. Wedi i'r ysgrifenydd osod aehos y genhadaeth i Lydaw o flaen y gynadledd, yn ol y cais a dderhyniasai oddiwrth y Parch. R. S. Ashton, yr hwn a ddywedodd fod y ddau fyfyriwr sydd wedi cynyg eu hunain at wasanaeth y cyfryw geahada 'th, ar ywadael o'r colegau, a bod yn angenrheidiol cael £300, o leiaf, yn flynyddol er eu cynal yn ngwasanaeth y Gymdeithas. Y mae genym unarbymtheg o gyfundebau Cymreig yn Nghymru. a byddai cael £19 o bob un o'r cyfuu- debau yn ddigon i ddwyn y draul. O'r tu arall, y mae pedwar cyfundeb Seisnig yn Nghymru, ae un undeb Cymreig yn Lloegr, sef Undeb Eglwysi Cymreig Liverpool, Birkenhead, a Manchester, ao os cyduna y cyfryw i gefnogi yr achos teilwng hwn, ni bydd y draul flynyddol yn llawn Y,15 i bob un o'r cyfundebau. Gwelwn fod 44 o eglwysi yn perthyn i'r cyfundeb uchaf wedi y rhaniad, ac yn ol y cyfartaledd uchod, ni bydd llawn 7s. yn disgyn ar gyfer pob eglwys yn flynyddol. Wedi ychydig o siarad fel yna gan y gwahanol bersonau, penderfynwyd 1. Fod y gynadledd hon yn derbyn awgrym .Mr. Ashton gyda golwg ar y dymunoldeb i eglwysi Cymru ymgymeryd a chynal dau genhad- wr o Gymru yn Llydaw, o dan nawdd yr Evan- gelical Continental Society, a'n bod ni fel dau gyfundeb, o fewn cylch y gymanfa hon yn dy- muno cymeradwyo i ystyriaeth yr eglwysi, ein bod i gyfranu yn flynyddol y gyfran a ddisgyna ar y sir hon o'r £ 300 angenrheidiol i gynal y ddau genhadwr, yn ol rhyw gynllun a fabwysiedir; ond ein bod yn gwneud hyny ar yr amod fod y cyfundebau eraill yn gwneud yr un peth. 2. Fod y cais a ddaeth o'r cyliuiueb isaf at y cyfundelJ uchaf yn ngliyfarfod Sard;a yn nghyioh ail-raniad y sir, yn cael ei benderiynu, trwy ychwanegu yr eglwysi canlynol or cyfundeb uchaf at y cyiundeb isaf, set Jerusalem, Pembre, Seion, Pembre, Carinel, Pembre, Capel Sul, Cydweli, Sardis, Trimsaran, a Ramah, Llande- feilog. 3. Ein bod yn teimlo yn hiraethlawn ar ol ein diweddar anwyl frodyr, y Parcbedigion Evan Jones, Crugybar, ac E. Evans, Philadelphia. Bui .y eu harafweh tawel, eu synwyr cyffredin cryf, a'tt ffyddlondeb cyson o werth mawr yn ein cynadl- eddau, a'u pregethau syml, goleu, ac ysg.rythyro). yn neith neillduol i'r weinidogaeth efengylaidcl drwy holl gylch y gymanfa, a lleoedd eraill, am fiynydd-iu lawer; a'n bod, ar yr un ptyd, yn diolch i Dduw am eu cyual yn ddifryQhAu, ac ya ogoniant i grefydd, ac fel ceiuuioti Crist yn, addurn i'r areithfa drwy holl ystod eu hoes faiths Ac hefyd eiii bod yn gweddio, am i'r presenoldeh dwyiol aI" .s. gyll,t yr eglwysi a fu dun eu gofal cybyd. Ac yn olaf, em bod yudYlUuno dargmi ein cydymdeimlad ilyfnaf a'r perihynasau syJcl; yn galaru ar eu hoi, gan obeiLhio y cyrhaeddant trwy ras i'r nefoedd, i ba le y credwn yn sicr fod ein hanwyl frodyr wedi myned. Pasiwyd y pen- derfyniad uchod mewn distawrwydd pruddaidd a gweduigar. Terfynwyd y gynaaiedd trwy weddi gan y Parch. W. Thomas, Bwlchnewydd. Am 2-30, cafwyd cyfarfod cyffredinol, y Parch. W. Jones, Pentretygwyn, yn y gadair. Dechreu- wyd trwy weddi gan y Parck. W. Williams, Llan- wrtyd. Wedi i'r' cadeirydd roddi anerchiad agoriadol, a nodi yr adnod oedd i fod yn destun siarad y cyfarfod, galwodd ar y personau canlynol i siarad-.—Jenkins, Cydweli; Thomas, Bryn; Thomas, Bwlchnewydd Johns, Llanelly; Evans, Pontyberem; Thomas, Gwynfe; Thomas, Whit- land; Morgans, St. Clears; Davies, Llanelli; a Proff. Morgan, Gaerfyrddin, yr hwn hefyd a or- phenodd y cyfarfod trwy weddi. Cafwyd cyfar-.