Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

EARLESTOWN.

News
Cite
Share

EARLESTOWN. Cynaliodd Annibynwyr y lie uchod eu cymanfa flynyddol eleni ddyddiau Saclwrn a Sabbath, y 25ain a'r 26ain o Fai. Efengylid ar yr acldysur gan y Parchn. D. Boberts (Dewi Ogwen), Wrex- ham; ac R. Roberts, Wern. Cafwyd cyfarfodycld dymunol iawn, cynulliadau lluosog, cAsgliadftu rliagorol (uwch nac erioed), ac amlygiadau neill- duol o bresenoldeb yr Arglwycld. Y dystiolaeth gyffredinol ydoedd, fod rhyw "arogl esmwyth," neu eneiniad oddiwrth y Santaidd Hwnw," ar yr holl wasanaeth. Y ffenestri y galon—y Llygaid -yn dangos yn eglur a pbarhaus fod nerthoedd y byd a ddaw," a phwerau cynenid yr efengyl, yn cael eu teimlo i bwrpas. Arosodd un dyn ar ol, ac hyderwn y ceir fod eraill wedi eu clwvfo" i'r fath raddau nes y poenir yr en aid i benderfynu troi i hospital yr efengyl am ymgeledd, nerth, cysur, ac iachawdwriaeth. Dymunol iawn oedd gwelecl y Trefnyddion Calfinaicld a Wesleyaidd yn can eu haddoldai trwy'r dydd er mwyn cynorthwyo eu brodyr Annibynol. Deallaffoehynyn eael ei wneud ar gylch, ac yn wir, y mae yn gredit i ben a chalon crefyddwyr Cymreig Earlestown. "Parhaed," ïe, a chynydded "brawdgarweh" yn eu plith, medd IONAWRYN WILLIAMS. 0. Y.-Da genyf hysbysu fod cyfarfodydd gweddio ac eglwysig i'w eynal yr wythnos hon mewn cysylltiad a chyfarfodydd adfywiadol uii- debol Earlstown, a gynelir ar hyd yr wythnos nesaf. Traddodir pregethan gan weiuidoginn o Fanchester, Liverpool, St. Helens, &c. Gobeithio yr etyb y cyfarfodydd y dyben mawr ag sydd mewn goMg. GELLI, LLANYCRWYS. Saif y lie yma yn mhlwyf Llanycrwys, yn agos i Ffaldybrenin, a rhyw bum milldir i'r Deau o Lanbedr-pont-Stephan Yma yganwyd ac ymag- wyd yr enwog Dr. Evan Davies, Abertawe, brawd yr hwn sydd yn preswylio yn y lIe yn awr; ac mewn cysylltiad a'r teulu parchus yma, y mae genym un amgylchiad pur chwerw i'w gofnodi, sef MARWOLAETH SARAH DAVIES. Yr oedd y chwaer ieuanc uchod yn ferch, a'r unig ferch, i Mr. a Mrs. Davies, Gelli. Anaml y gwelwyd un mor dyner, mor siriol, mor addfwyn, ac mor gymwynasgar a'r chwaer ieuanc yma. Yr oedd ei hysbryd caredig a chyfeillgar yn arabedd yn mysg pawb o'i chydnabod, fel yr oedd wedi enill iddi ei hun gymeriad gwir urddasol yn y wlad a'r gymydogaeth oddiamgylch. Cymerwyd hi yn glaf tua blwyddyn yn ol, ac yn fnan iawn y gwelwyd a) wyddiou fod y darfodedig- aeth wedi gafaelyd yn ei cbyfandoddiad-y grudd- iau oeddynt unwaith mor brydferth yn dechreu gwelwi, y llygaid oeddynt unwaith mor siriol yn dechreu pylu, arwyddion eglur, er mor anwyl ydoedd, fod y babell yn dadfeilio a gwaetbygu yr oedd o hyd. Bu yn rhodio megys ar hyd glyn eysgod angeu am lawer wythnos; a dydd Sabbath, y 19eg o Fai, yn yr 21ain ml. o'i hoedran, ehed- odd ei henaid i'r byd anweledig, g.in adael ar ol seiliau cedyrn ei bod yn myned at yr hwn y bu yn gweddio cymaint arno Claddwyd hi y dydd Iau canlynol yn nghladdfa y tenlu yn Bethel, Caio. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. H. Jones (A.), Ffaldybrenin yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. J. D. Evans, gweinidog y lie. Gadawyd y chwaer hoff am enyd fechan yn y bedd. Heddwch i'w llwch. Yr Arglwydd a gysuro y-teulu a'r perthynasau oil yn eu profedigaeth chwerw. IEUAN. GLANDWR, PENFRO, A'R AMGYLCHOEDD. Ihvrdd Ysgol Llanfyrnach ac Eglwysfair-a- clmrig.-Da genym ailu bysbysu y CELTIAID fbd dau ysgoldy newydd perthynol i'r Bwrdd Ysgol uchod i gael eu hadeiladu yn uniongyrchol—y naiil yn Glandwr, a'r llall yn Hermon. Cymer- wyd y contract am y ddau gan Mr. Evans, Eg- lwyserw. Yr amser i'w hadeiladu ydyw deg mis. Addoldy Hebron.—Y mae eglwys Hebron wedi penderfynu cael addoldy newvdd i wasanaethu yr Arglwydd ynddo, ac hefyd wedi rhoddi rhybudd i'r contractors am yru eu tenders i mewn. Wedi y delo hwn i ben, gellir dweyd am Ddylfryn Taf, ei fod yn iiynod ar gyfrif newydd-deb a destlus- rwydd ei addoldai. Chwareli Pencelli a Penlan. — Cycbwynodd y naill am y tro cyntaf, a'r llall am y trydydd tro ychydig wythnosau yn ol. Erbyn hyn y mae golwg bur lewyrchus ac addawol arnynt; ac y mae y llechi yn rhai gwir dda ag ystyried eu hagos- rwydd i'r wyneb. Tmmway.-Y mae y tramway yn cael ei gweithio o chwarel Penlan i orsaf Rhydowen, er cludo y llechi i waered i'r orsaf. Dywedir y bydd hyn yn llai costus, ac yn well ar les y llechi. CELYNOG. FFESTINIOG. Cyfarfod Blynyddol y Methodistiaid Calfinaidd. —Cynaliwyd of Mehefin 1 a'r 2 yu Tanygrisiau a. Kluw, a .i.yd gvyasanaeth y Ptirciiedigiou a ganlyn :-D. O. Evans, Rhyl; J. Thomas, Curno; D. LI. Jones. Llaudinam; D. Philiips, Maesteg; ac E. Mathews, Aweni. Cafwyd cyfarfod dedwydd iawn yn mhob ystyr. Yr Arglwydd a baro fod y gwirionedd a gafwyd yn fendith dragwyddol i laweroeild. l'e Parti.— Prydnawn Sadwrn diweddaf, an- J'hegwyd gobeithlu Bethania yn ysgoldv Tyddyn- gwyn. Eistexldai wrth y byrddau 152 o blant. Daeth nifer o foneddigesau yn mlaen gyda. l!awn- der o de, a gwertli £ 5 10s. o farfl, bri tit. wedi cael ei wneud yn y modd goreu gau Mrs. J. R. Jones, Coiiidywa!; ac ar y diwedd. cafodd cyfraa jicd luosog eu diwallu o'r hriwfwyd oedd yu weddill. Cyn ymadael cafwyd dad! cydrliwug Mii. E. R. E. a J. Ejlis; ymt canodd y "obeitlila yn hynod swynol, dan avwoiniad I). Junes, Jerufjalen, yua aeth pawb i'w fan.—T. M. DERI. NID annyddorol yn ddiau fyddai gair byr o hanes y lie hwn yn awr ac tilwaith gan dd. rllenwvr v CELT. J J Saif y He ar ochr y gledrffordd sydd yn arwain o Casnewydd i Aberhonddu, a thua chwe' miUdir o Dowlais. Gwaith glo sydd ymit fel llawer o gym oedd eraill yn .Vorganwg; a chan fod v fas- nach 1,) mor farwaidd, cafodd preswylwyr" y lie wybod ychydig am newyn. Oud gwnaeth bon- ecldwyr yr ardal eu goreu i'w cynorthwyo trwy fi'urfio Relief J tin, ond deallwn fod y pwyllgor ym bwriadu cau v drysorfa. yr wythnos hon. Bu y Parch. T. P. Evans, Ceiuewydd, yn dar- litliio ar "Bod yn Ddyn," yn Naza-eth, nos Fawrfh, yr y,lain o'r mis diweddaf. Y mae y ddarlith yn liawn o addysgiadau gwertLfawr. Cadeiriwyd yn ahsenoldeb W. Bed doe, Ysw., gan y Parch. Gwrhyd Lewis, Bargoed. RHYWIOO. ————— TREDEGAR. BUOM yn sylwi ychydig wythnosau yn ol yn eich newyddiadur, yn nghylch dystawrwydd olwvniou gweithfaol: y tan-weithiau, yn nghyda'r" tlodi sydd wedi ei achosi trwyddynt i ganoedd o deulu- oedd ar gyfrif eu harafwch, o herwydd marweidd- dra masnach a diffyg ymddiriedaeth. Ond y mae yn bleser genym yn bresenol i grouiclo y ffnith fod y cyfiyw weithydd 'ac arwyddion gwella arnynt. Cafodd y rhanau helaethaf o hono lawn waith yr wythnos ddiweddaf, yr hyn nas gellir dweyd am dano er's rhai blyLiyddau bellach. Parhaed felly yw dymuniad calonau miloedd heblaw yr ysjjrifenydd. Nid yw olwynion. y gweithiau tanddaearpi cystal yr wythnosau hyn ag y gwelsom hwy ychydig wythnosau -yn ol. Mae hyn i'w briodoli yn benaf i derfyniad yr wrthddadl yn y pyllau nevvyddion—mwy o lo yn cael ei dori. a'r galwadheb ychwanegn. Hyderwn y bydd i rOd fawr gynhaliol dyn raddol droi yn fuftndo megis yn y clyddiau gorpheuol. Nid i'r unrhyw gyfiymdra ag y bu yn flwyddyn 1874 a '7:1, eithr yn bytrach yn fwy ami, yr hyn a sicrhai fwy o barliad. Pit fwyaf bywiog- y byddo rhanau masnachol y byd yn ei holl gylck- droadau, lleiaf oil ydyw o ran ei lwffeithiau daionus ar ein byd mewn ystyr gyffredinoL Mae y gorphenol a'r presenol wedi rhoddi prawf di- gonol o hynyua, yn nghyda gwerslyfr ardderchog ac astudiaeth fyfyrdodol ddwysaf y dosbarth hyny o cldynion a wariant eu liarian am "yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yr byn nid yw yn digoni." Trueni meddwl fod neb dyn, yr hwn sydd yn f6d mor ddyrelialetlig yn ngolwg ei Greawdydd ben- digaid, yr gwneud yr hyn sydd yn achlysuro i ddamnio ei enaid, a'i osod yn wnhddrych gwawd y diafol yn y llynclyn hiroesol, Jlewn mawr boenau dii-ayniaijol, Heb byth obaith ymryddhaol. 0 bobl anwyl ystyriwn ein diwedd, fel y dygom ein calon i ddoethineb. Pyllau nemjddion. — B;i agos i ddauo druein- iaid gyfarfod a'u diwedd mewn modd tra erchrya- lawn yn y lie ucbod yr wythnos ddiweddaf, trwy i'r carriage gydio, a'u tltflu hwythau oddiarno i'r gagendor obry: ond trwy drugaredd, pan oedd angau megys yn agor ei safn i'w llyncu, cawsant afael yn y trawstiau sydd trwy ganol y pwll, wrth ba rai y buont yn hongian hyd nes y gollyngwyd un arall o'r landing wrth gadwyn i aehubeu bywydau. MEILLIONYDD.

[No title]

GOL. Y "CELT." *