O'N LLUESTDY AR ODHEU HIBAETHOG. AR ddiwrnod hafaidd yn Mai, pan wedi blino ar dwrf traed trafaelwyr, ac ar gnoc olwynion masnach, ac ymweliadau ymwelwyr, cymerais yn fy mhen i adael y Fabel Seisonig, yn yr. hon y p eswyliwn, am dymor, o leiaf, a thalu ymweliad a "phlant yr Israel" yn lie fy inab-, oed, neu yn hytrach nid yn nepell o'r lie hwnw. Wrth fyned, gelwais heibio i gaban bugail caredig i lochesu, gan fod gwres yr haul yn boeth annyoddefol; ac ar ol i leni yr hwyr ddecbreu ymgasgln, meddyliais inau amgasglu fy nghlud, a hwylio fy nghamrau am lety nos-: on o dan gronglwyd glud hen amaethwr cyf- rifol o dueddau Hafod Elwy. Ynn, nlaey byd a'i bethau heb fyned o dan ond pur ycbydig o gyfnewidiadau er pan y daeth o dan law y Crewr anfeidrol. OsCmai can' erw o fawndir gwlyb oedd yn perthyn i'r* amaetlidai cylchynol, felly lieddy w,oblegid nid oes yma neb yn credu mewn newid yr hen derfynau ;-caiff pob aber a nant drafaelio ar hyd yr un gwely ag y rhedent yn amser Noah Jones a'i gyfeillion. Derbynia Elwy ac Alwen bob rbyddid i ddolenu fel seirph ar draws y tiroedd ffrwythlonaf, heb i neb feiddio gofyn iddynt, "Pa beth a wnewch chwi yn bwyta cymaint o'n daear, ac yn ymdroi mor hid" Nid ymddangosodd melinydd digon digywil- ydd eto i ofyn am help ganddynt er ei hyrwyddo gyda'i alwedigaeth ddyngarol; erys yr anedd-dai heb fyned o dan yr un cyfnewid- iad er pan oedd Bess yn teyrnasu; ac nid oea yma neb a anturiai i'r drafferth a'r gost o brynu hadau er mwyn planu coed i gysgodi noethder y wlad. Ni welwyd yr un mvmwr dewr yn nesau at ymynyddoedd cribog hyn gyda'i allwedd gref er agor eu coffrau, ac i c'dwyn eu trysorau cuddiedig i oleuni dydd na'r un creigiwr c lIed yn ddigon diarswyd a diofn a myned i'r a^turiaeth o fyued i ffrae gyda'r creigiau dan- edd-gsyddyngwylieyfan. Dynion llonydd, didu rwg, a chalon agored sydd yn pabellu yma ac ni chafodd gwron y b las" (coffa da am dano) orchwyl gan- ddynt er cof neb sydd yn fyw. Ty i addoli yudin ydyw prif gyrchfan yrardal; acnid oes tafarndy yn anurddo y Ile, ac yn gwenwyno moesau y brodorion; ac yn ddlddadl, pe bydd- ai hull Gymru mor lan o droseddau a'r llecyn hwn, cawsai hull garcharau ein gwlad ddilyn esiampl eu brawd o Ddolgellau; a'r segur- swyddwyr eysylltiedig a hwy droi eu hwyneb- au diwrido am ryw orchwyl mwy urddasol, mwy cyfiawn a boneddigaidd nac i siio y gath am gefnau eu cy Igreaduriaid fo wedi dygwydd bod yn fwy antfurtunus na hwy. Hynodid hen breswylwyr yr ardal gan ,.I0 b ofergoeliaeth, a'u cred ddiysgog mewn bwgan- od hagron, a'u tyb mewn canwyllau cyrph, &c. Mawr oedd eu bofnau pan glywent y ddalluan, neu y ceiliog balch yn canu cyn haner nos—"Cyntafanedig angeu gerllaw!" Iiv barium.
CYFFES FFYDD YR UNDEB CYNULLEIDFAOL. YR ydym am wneud ychydig nodiadau ar ofal duwiol a sel tanbeidiol blaenoriaid yr Undeb yneu cyfarfod diweddaf i esbonio erthyglau eu Cyffes Ffydd, ac i weithio allan eu goruch- wyliaeth o'i hamddiffyn, 1. Dylasent ymysgwyd ac ymddihuno yn gynt i gychwyn eu gweinidogaeth archwiliad- ol a dysgyblaethol er amddiffyn eu ffydd, y mae rhai o weinidogion ac eglwysi yr Undeb wedi bod er's llawer o flynyddoedd yn coleddu y syniadau ag y maent hwy yii y, y.n awr yn gondemnio. 2. Os cariant allan yn eu hysbryd uehel presenol eu goruchwyliaeth o feio a goganu, a dysgyblu a diarddel, y rhai nad ydynt yn hollo! yr un syniadau a hwy, byddant yn sicr o ddiraddio a diarddel gweihidogion, ac esbon- wyr, ac awdwyr, ac athrawon mor ddysgedig ac mor dduwiolfrydig, mor frawdol ac mor weithgar, mor ddyngarol a gwladgarol, mor efengylaidd ac mor ddefnyddiol a neb o ddoc- toriaid blaenaf yr Undeb. 3. Os ydyw y syniadau a gondemnir gan- ddynt ynrhai "oddynion,yn rhai anefeng- ylaidd ac anysgrythyrol, yn rhai o ddirmyg ar briodoleddau Duw, ac o anmharch i'w ddeddf- au, y maent yn sicr o gael eu gorchfygu a'u dxddymu mewn dulliau llawer gwell, mwy efengylaidd ac effeithiol, a llai Phariseaidd a Vaticanaidd, na'r dulHau y maent hwy am ddefnyddio ond os ydys yn cael dadleniad neu ddadblygiad o honynt yn y Datguddiad dwyfol, nis gall ardystiadau na dysgyblaethau cynadleddau byth eu diddyfhu. 4. Os ydyw cyffes ffydd lawn a manwl yn hanfodol i sail';cymundeh duwiolion, ac i fod yn rheol i'w cydweithrediad, paham y darfu i gyfarfod yr Undeb yn 1878 lurgunio a thai- fyru. hen gyffes gyntaf yr Undeb yn 1833 ] Ni ddarfu i'r gyffes fawr hono, a gyfansodd- wyd ac a seliwyd ar gycliwyniad yr Undeb, ddim gwneud y gweiuidogion na'r eglwysi Cynulleidfaol yr un mymryn yn fwy efengyl- aidd ac umawngred. nag oeddynt cyn hyny. Ni wnaeth y gyffes fawr hono ddim lies i'r ffydd Gristionogol, ac ni wna yr un fach fer newydd ag yr ydys wedi cymeryd cymaint o drwst wrth ei chyfansoddi a) chyhoeddi, ddim rhyw lawer o wasanaeth i'r gwirionedd, nac o gymhelliad i gariad a gweithgarwch. 5. Y mae llawer iawn o undebau, a chy- nghoiau, a cbynadleddau, a councils drwy wahanol oesau Cristionogaeth, wedi bod yn ymsanteiddio ae yn ymboeni i gyfansoddi, a selio, a chyhoeddi credoau, neu erthyglau ffydd; ond y wers egluraf i ni oddiwrth eu hanes ydyw, eu bod wedi achosi mwy o niwed nag o les, mwy o nychdod nag o nerth, mwy o ddyryswch nag o gydweithrediad, mwy o oerder nag o gynhesrwydd, mwy o ymraniad nag o undeb. 6. Dengys holl hanesyddiaeth y byd a'r eglwys mai y ffordd fwyaf apostolaidd, i ddoc- toriaidi yr Undeb Cynulleidfaol i egluro ac amddiffyn ffydd yr efengyl ydyw iddynt gyf- ansoddi, a throddodi, a chyhoeddi pregethau ac anerchion efengylaidd, ac ysgrifenu adrodd. iadau teg o hanes llwyddiant a defnyddioldeb eglwysi Crist, a chyfansoddi Salmau, a hymn- au, ac odlau, ac anthemau ysbrydol, a gwedd'i- au efengylaidd, a dysgu a chymell eu cynuli- eidfaoedd a'u teuluoedd i'w canu a'u defnydd- io. Y mae ffordd felly yn un gyfreithlawn, apostolaidd. a didramgwydd ac yn sicr o fod yn fwy effeithiol na hen ffyrdd yr undebau a'r cynadleddau. 7. Y mae Ilawer iawn o gredoau ysgrifen, edig a seliedig gan lawer o gyfundebau, a Ilawer o eglwysi, a llawer o bwyllgorau a sef- ydliadau, dan glo dwbl yn eu cistau haiarn yn eu cysegroedd santeiddiolaf ond credoau eu bywyd, a'u maeth, a'u gwres, a'u cysur, a'u defnyddioldeb ydynt y credoau sydd gan- ddynt yn eu pregethau, a'u caniadau, a'u gweddiau, a'u hordinhadau cymcleithasol. A gobeithio y bydd i'r rhai hyny gynesu, a chryfhau, ac eangu tra y bydd yr hen gredoau seliedig, cloedig, yn llwydo yn y gist haiarn. 8. Y mae blaenoriaid ac awdurdodau yr Eglwys Wladol-yr. eglwys a gyfansoddwyd ac a sefydlwyd gan y llywodraeth, eglwys yr esgobion a'r archesgobion, eglwys yr Eccles- iastical Courts and Convocertions—yn goddef i'w gwemidogion mwyaf poblog a ffyddlawn astudio yn eu myfyrgelloedd, a phregethu i'w r cynulleidfaoedd, ac amddiffyn drwy y wasg, y syniadau ag y mae yr Undeb Cynulleidfaol yn ceisio diraddio rhai o'u brodvr llafurus a defnyddiol o'u herwydd. Ni byddai o ddim enill i'r High Church na'r Low Church i geisio dysgyblu a diarddel y pum mil offeiriaid yd- ynt yn perthyn i'r Broad Church," ac ni feiddiant gynyg at hyny. 9. Y mae cynadleddau gwahanol enwadau Anghydffurfiol, neu gyfundebau Ymneilldnol, y rhai ydynt yn proffesu eu bod yn llawer tynach wrth eu hen gyffesiadau na'r Undeb Cynulleidfaol," yn goddef yn bwyllog a brawdol yr hyn na oddefir gan ddoctoriaid a swyddwyr yr Undeb Cynulleidfaol; ac felly y mae yr Undeb, er ei holl ymffrost o'i ryddid, yn fwy caeth, yn fwy Henaduriaidd, yn fwy Esgobaidd, ac yn fwy Vaticanaidd na'r uu cyfundeb arall sydd yn awr ar y ddaear. 10. Prif amcan yr Undeb Cynulleidfaol ddylai fod, anog gweinidogion yr efengyl i gydymchwilio am y gwirionedd, ac i ddysgu eu cynulleidfaoedd i gydymanog i gariad a gweithredoedd da. Dyna'r ffordd iddynt gael eneiniad yr ysbryd ar eu cynadleddau, a bendithy nef i ddilyn eu llafur. Darllenasom yn lied ofalus wahanol adroddiadau o gyfar- fodydd yr Undeb, ac ymddengys i ni fod ton, ac ysbryd, a gwedd, ac agwedd plaid gref, luosog, yr Orthodoxiaid" neu ddoethoriaid uniawngred yr Undeb, wedi bod yn waeth nacanfrawdol ac anfoneddigaidd, wedi bod yn drahaus a Phariseaidd mewn gair, wedi bod yn anheilwng o'u profiad fel credinwyr, ac o'u safie a'u cyfrifoldeb fel gweinidogion yr efeng- yl. Y mae ymlyniad yr ysgrifenydd wrth athrawiaethau gogoneddus yr efengyl mor gryf ac mor gynes ag ydyw ymlyniad neb o'r frawdoliaeth Orthodox oeddynt yn nghyf- arfodydd yr Undeb Cynulleidfaol, ond nis gallei galon gymeradwyo eu dull cynadledd- awl, neu ffordd eu council, o amddiffyn erthyglau y ffydd Gristionogol. Gall yr ysgrifenydd dystio, ac ail dystio, ei fod mor hoff o hen wirioneddau mawrion yr efengyl, a'i fod wedi ymlynu mor ddiymod wrthynt a neb o'r brodyr enwog oeddynt yn ngbyfarfod- ydd yr Undeb ond gobeithio na wneir mo'i gyfarfodydd na'i gynadleddau yn faes i goethi cywreinrwydd galluoedd dyfnion, treiddgar, rhesymeg anianyddol, ac i hogi a gloywi don- iau at ddadleuon duwinyddol, i godi llygad scorn, ac ysgwyd gwefus dirmyg, a gwisgo gwen gwawd, ac i fwrw allan ffraethebion ininiog, ac i ffrostio pethau mawrion er archcholli teimladau, a bychanu galluoedd a phrofiad, ac felly ceisio niweidio cymeriadau a nychu gweinidogaeth brodyr mor gydwyb- odol, a ffyddlawn, ac efengylaidd a neb sydd yn awr yn llafurio ar faes mawr yr efengyl. -->
LLANSAINT, GER CYDWELI. Agoriad capel. — Agorwyd capel Annibynol newydd yn y lie uchod nos Fawrth a dydd Mercher, Mai 21ain a'r 22ain. Pregethwyd, yn Tabor, fcanys dyna ei enw ef), y nos Sabbath blaenorol gan y Parch. W. 0. Jenkins, Cydweli oddiar Barn. iv. 14, a nos Eawrth gan y Parchn! Thomas Lewis, Llanybri; a'r ProBeswr Morgaa* Gaerfyrddin. Boreu Mawrth, am 10. gan J: Rogers, Penbre; a Davies, Llanelli. Am 2, gan Hughes, Rehoboth; a Johns, Llanelli; ac am 6 yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, am ei fod yn fwy, gan Johns a Davies. Costiodd y Tabor hwn, yr hwn sydd ar gyfer aden o Gapel Sul yn y cyfeiriad Gorllewinol', £ 270. Casglwyd ddydd yr agoriad £100; felly, ni fydd raid i'r aden bon betruso llawer na ddeuant drwy y ddyled yn fuan. Y capel hwn yw y cyntaf erioed gan yr Annibyn- wyr yn mhlwyf Llan Ishmael, nid am nad oedd Annibynwyrugeiniau yn byw yn y plwyf, ond am eu bod drwy y blynyddau yn ymfoddloni ar fyned i Gapel Sul, neu Rama, neu Benygraig ar foreuau Suliau, ac ymuno âgenwadau eraill y prydnawn a'r hwyr, yn gystal ac ar yrwythnos. Ond o hyn allan, bydd yr aden hon o Gapel Sul a chapel bychan oryno at eu gwasanaeth, yn gystal a'r aden arall ar y tu Dwyreiniol, ac y mae ganddynt eu Soar fechan at eu gwasanaeth hwythau. W. C. J.
gwaelod o'r golwg—na chariagydathi ole i Ie, ond yr hyn sydd bur a disglaer, ac o duedd dda ac adeiladol, fel na cha neb ddweyd iddynt gael eu gwenwyno wrth yfed o'th ddyfroedd. Y mae arnaf ofn dy flino a meithder; ond caniata i mi gael crybwyll un peth eto, sef bod yn dda genyf am danat, am dy fod yn dyfocl o'r Bala. Y mae enw y Bala yn agos at fy meddwl. Y mae genyf gyfeillion calon yno a'r amgylchoedd. Yr wyf yn cofio yn dda am y noswaith gyntaf y sangodd. fy nhraed ar ei heolydd, ac nis gallaf anghofio y gwynebau a barhasant yn siriol i mi yn ystod fy arhosiad yn y-lie. Ac o herwydd yr hen berthynas a ffurfiwyd rbyngom, y mae yn dda genyf am yr awel a cliwytho dros domen, a thref, a thrigolion y Bala. Yr wyf yn go- 11 beithio y gwnei di, y CELT, dy gartref yno, ac y cludi dros y mor a'r mynydd i ninau yma ycbydig o heJynt y trigolion, er lloni ein calon a dal yn fy w yr hen berthynas. T. GRUFFYDD.