Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y COLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y COLOFN DDIRWESTOL. (GAN Y PARCH. D. S. DAVIES). YN y rhifyn diweddaf, addawsom rodcli i'n darllenwyr gyfrifon "y fasnach." Nid ydynt wrth ein Haw mor gyflawn ag y cai-em eu cae]. Bwriadwn gyflawni y diffyg hwnw yn fuan, sef cael cyfrifon cymharol rhwng y fasnach feddwol a phedair neu bump o brif ganghenau masnach ein teyrn- as. Y mae adroddiad blynvddol y Senedd yn rhoddi y cyfrifon canlynol am ddarlla- wyr, a thafamwyr, a gwerthwyr cwrw am y flwyddyn oedd yn terfynu Medi 30, 187 7. Cyferbynir yma gyfrifon 1876 ac 1877. LLOEGR A CHYMRU. 1876 1871 Darllawyr 2,542 2,497 Tafarnwyr (gwerthwyr y 0 pob math) 70,095 70,102 Gwerthwyr cwrw yn unig 44,213 44,544 SCOTLAND. Darllawyr 85 83 Tafarnwyr 12,628 *» ? IWERDDON. Darllawyr 62 61 Tafarnwyr 16,927 16,799 Y DEYRNAS GYFUNOL. Darllawyr 2,689 2,641 Tafarnwyr 99,650 99,337 Gwerthwyr cwrw yn unig 44,213 44,544 Oil 146,552 146,522 Dengys y daflen fod rhifedi y darllawyr yn lleihau, h.y., fod y tai mawrion, cryfion, yn gyru y tai Ilai allan o'r fasnach, a bod rhifedi y tafarnwyr wedi cynyddu ychydig yn Lloegr a Chymru, a lleihau ychydig yn Scotland ac Iwerddon. 1. Pe gosodid y tai uchod yn un res gyfan, ymeetynai o 600 i 700 milldir o hyd Y mac Wm. Hoyle yn cael ei gydnabod .yn awdurdod nchel fel ystadegydd, ac y mae ganddo ef lythyr pwysig iawn yn yr Alliance Ntws ar "Y cyfyngder masnachol a'r goatyngiad cyflogau." Dyfynwn ych- ydig o hono• Beth yw'r achos o'r cyfyngder hwn? a pha fodd y gellir ei feddyginiaethu, a sicrhau amser gwell? Nia gallaf ei ateb yn well nag y gwnaethum yn nghyfarfod y Manchester Chamber of Commerce, ar y 4ydd o Chwefror diweddaf. Yno dywedais Cyfeiriwyd at amryw achosion o'r cyfyngdra presenol, ond yr wyf fi yn ei briodoli i arferion diotawl y bobl. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd y draul gartrefol mewn nwyddau cotwm yn llai nag 11 £ 11,000,000 o werth ac er hyny, yr un flwyddyn fe wariodd y genedl dros £147,000, 000 mewn diodydd meddwol. Cwynid fod y cynyrch o nwyddau cotwm yn ormod, a gellid meddwl hyny wrth edrych yn unig ar ein hystordai gorlwythog ond, os cerddwn drwy ystryd, a gweled y plant troednoeth a choes- noeth, ac os edrychwn ar y bob!, a llawer o honynt a dim ond a haner digon o ddillad am danynt, ac yn mhellach, os yspiwn i'w tai, a gweled mor ychydig o ddodrefn sydd yno, ac mor lleied o ddillad gwely sydd yno, arweinid ni i feddwl mai llai na digon yw ein cynyrch o nwyddau cotwm. A'r cwestiwn bellach yw, paham na cha'i y nwyddau ffordd i fyned o'r ystordai llawnion at gefnau ac i dai y bobl? Nis gellir rhoddi ond un atebiad iddo. Y gwir achos yw y ffaith fod yr arian yn myned i logell y tafarnwr yn lie i farsiandwyr Man- chester, Bradford, Sheffield, Birmingham, &c. Pe cawsai haner y £147,000,000 a werir mewn diota ei wario mewn masnach gyfreitblon, symudasai mewn un mis o amser i fesur mawr y cyfyngder sydd yn bodoli. Y mae ein masnach wedi disgyn o ddrwg i waeth drwy y pedair blynedd diweddaf, ac y mae y cyffroad drwy son am ryfel wedi ei gwasgu yn is; ac eto, drwy y pedair blynedd I diweddaf, gwariasom am ddiodydd meddwol y symiau hyn yn ilynyddol:- 1874 £141,342,997 1875 £142,876,669 1876 £ 147,288,759 1877 £142,007,228 Yn y cyfrifon uchod, ni chynwysir y treth- oedd y gorfodir ni i'w talu o herwydd tlodi (pauperism) a throseddau y wlad, nac yeh- waith y colledicn trwy ddamweiniau, afiechyd, a cholli llafur, ac angeu anamserol, &c., a ddeillia o'n harferion diotawl. Pe cynwysid y treulion hyn, cyrifir y dyblai gostau yr yfed. Rhoddai hyny y draul a'r golled trwy ddiota dros y pedair blynedd diweddaf yn XI,147, 031,306. Holl werth ein hallforion am yr un pedair blynedd oedd £ 862,000,000. Tynwn allan o'r ddyleb am yfed £150,000,000 ar gyfer y cyllid oddiwrth y diodydd meddwol, gedy hyny yn agos i £1,000,000,000 o draul a cholled i'r genedl drwy ein harferion diotawl yn y pedair blynedd diweddaf, neu £140, 000,000 yn fwy na holl werth ein masnach dramor yn yr un pedair blynedd. Pe 'cawsai haner, neu, yn wir, y drydedd ran o'r swrn hwn ei gymeryd at y dilledydd, y crydd, y saer dodrefn, y gwerthwr brethyn- au, neu ymborth, yn lie i'r tafarnwr, buasai yn creu y fath alwad am nwyddau ag a fuasai yn sicrhau masnach fywiog, a cbyda masnach fywiog, ni fuasai gostyngiad yn y cyflogau. Gan hyny, dyma'r waredigaeth. Mae mas- nach gartrefol dda yn rhydd oddiwrth yr holl ddylanwadau sydd yn ansefjdlogi ein march- nadoedd tramor; ac oni b'ai am yr arian a wariwyd am ddiodydal meddwol yn y pedair blynedd hyny, buasai masnach yn fywiog, cyflogau yn sefydlog, a'r bobl yn mhob man yn mwynhau ffrwythau cysur a llawnder. Y peth sydd yn eisieu, gan hyny, yw "sefyll allan cyffredinol" yn erbyn yr yfed, a holl fasnach yr yfed. Y mae llawer o'n melinau a'n gweithdai yn bresenol yn rhedeg llai na llawn amser, neu fe ddichon yn gwbl gauedig. A'r rhai sydd yn gweithio llawn amser, ni redant dros 9 neu 10 awr bob dydd, ond y mae'r dafarn yn rhedeg 17 awr bob dydd ac nid yw hyny yn ddigon, y mae yn agored hefyd ar y Suliau. Mae hyn mor amlwg anghyfiawn fel na raid ond ei goffa i sicrhau ei gondemniad, ac eto, y mae ein Senedd yn cynal yr anghyfiawnder hyn, ac y mae y bob! yn analluog i amddiffyn eu hunain rhag y peiriant dinystriol a orfodir arnynt yn y drefn bresenol. Rhaid cael cyfnewidiad, a rhaid i'r bobl ethol dynion i'r Senedd a ymosodant yn egniol yn etbyn y drwg hwn. Mae mor eglur a bod dau a dau yn gwneud pedwar, os mynwnfeichio ein hunain a thraul a cholled fawr y diota, yrhyn sydd yn myned yn fwy na holl werth ein masnach dramor, y rhaid i ni gael llwyr ddyryswch masnachol (commercial stagnation). Nis gallwn gael 0 masnach dda ar ol dyfetha gewynau masnach, a thra bo'r arian yn myned i'r tafarnwr yn He i'r marsiandwr, &c., liyd byny y bydd ein hystordai yn orlwythedig, oddieithr i ryw alwad fawr ddyfod i mewn o wledydd eraill, yr hyn sydd broil yn anobeithiol, trwy y gyatadleuaeth ffyrnig sy'n awr yn y byd. Ond pe delai y fath alwad dramor i mewn, paham, yn enw rheswm, y parhawn ni ein hunain i gynal masnach ag sydd yn diseilio rhinwedd y genedl, yn dinystrio ei thrafnid- iaeth, ac yn awyn trueni a dinystr ar ei phobl- ogaeth ? Yr eiddoch yn gywir, WM. HOYLE. Claremont, Bury, Mai 2, 1878." Y mae'r cyfrifon uchod yn dangos fod Prydain yn gwario yn tIynyddol rhwng pedair a phum punt ar gyfer pob perchen anadl yn y deyrnas—pob hen wr, pob hen wraig, pob mab a phob mereh, a phob plentyn bach, yn gwario o bedair i bum punt y flwyddyn am bethau meddwol! Dyna gyfartaledd creulawn! Pa ryfedd fod eyfyngder masnach yn y wlad? Ac er fod y swm mor ddychrynllyd o fawr, dim ond ychydig gyda'r burned, ran o'r oil syn'n troi yn gyllid i'r Llywodraeth. Pa hyd y ca pethau fyned yn mlaen fel,hyn ?

CYFARCHIAD FR CELT.