Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GOLOFN WYDDONOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN WYDDONOL. YMDDADBLYGIAD BYWYD AR Y DDAEAR. ( PENOD I. | MAE gan y'ddamCafliaetp lion erbyn heddyw lawer iawn o dderbynwyr selog, ac y mae yn cael dylanwad dwfn ar feddyliau llawer nad ydynt eto yn ei hollol giedu na'i hollol ddeall. Mae ein gwyddonwyr goreu ar eu heithaf yn chwilio ac yn ceisio cael allan a oes gwir yn v pethau a h6nir; ac yn wir, daw y rhan fwyaf o honynt allan yn hyf a cbadarn o blaid ei gwirionedd eraill sydd o'r un farn hefyd, ond maent yn fwy pwyllog yn taflu eu barn i'r cyhoedd; a dosbarth arall a ddaw allan a'u rhesymau yn gryf yn ei herbyn; eraill o her- wydd eu hanwybodaeth a'u rhagfarn a geis- iant ei gwawdio a'i chwertbin i golli, heb wybod, na cbeisio gwybod, na gallu i wybod, ar ba seiliau yr adeiladir hi. Dylai y dos- barth yna fod yn bwyllog i roddi eu pender- fyniadau mewn lleoedd amlwg. Cyn y gallwn roddi barn, rhaid i ni wybod; a chyn gwybod, irhaid i ni ddysgu chwilio i mewn i'r mater sydd Imewn Haw. Pan y clywn ddynion o brofiad a •gwybodaeth eang yn dweyd wrtbym bethau newyddion a lhyfedd, a'r pethau hyny yn iffrwyth myfyrdod caled a dwys ymchwiliad ;am hit- flynyddoedd, yn sicr, ni 1 ydym i wenu ;a gwawdio a thaflu i ffwrdd eu gos"diadau fel Ipethau heb synwyr na sail iddynt, ac fel pe na ibvddai gaiubiynt. reswm dros eu dywediadau; :ac o'r tu arall, ni ddylem eu credu yn fyr- flbwyll, o herwydd mae'n bosibl i'r dysgawd- wyr goreu gamsyniad, a chael eu camarwain gan debygolrwydd pethau: ond dylem chwilio yn bwyllog a oes gwirionedd yn y pethau a ddywtdir ganddynt. Wedi holi y iystion mae rhoddi y ddedfryd. Gadewch i ni ynte edrych i mewn iddi i gael gweled aoes ynddi wirion- edd. Os gwir yw y gosodiad, fel y creda llawer. a'r rhan fwyaf hefyd o'n gwyddonwyr, Fod i'r dyn hynafiaid hollol wahanol ir rhai ;a gredir genym yn gyffredm, onid yw yn ;rhesymol i ni chwilio, er cael rhyw ddiych- ifeddwl pa ffurf, ac i ba greaduriaid otdd ein lhen deidiau yn debyg. Fe ddywedir wrthym, if ni yn nnig ein bod yn ddisgynyddion o'r epa, ond ein bod yn disgyn i lawr hyd risiau bod- olaeth y bywyd israddol, nes dyfod o lion >ni i ris isaf y bywyd anifeiliud, sef y protozoa; ac o'r fan bono yr ydym wedi esgyn i'r sefyll- fa ein gwelir yn awr. Dyna ddamcaniaeth yr ymddadblygiad; ac mewn gair, nid yw heb ddangos llawer o wirionedd. Rhydd hefyd eglurhad ar lawer o bethau oedd yu aros yn •dywyll cyn i'w goleuni hi ddisgleirio arnynt. Er ei bod, yn ddiddadl, yn cyfrif am ddech- Ifeuad bywyd llawer o'r creadui-imid israddol, eto yr ydym yn methu gweled y gellir lei gwneuthur i gyfrif am ddechreuad y bywyd, yn gyson a'r wybodaeth sydd genym yn bresenol. Mae bod yn alluog i olrhain ymddadblyg- iad bywyd yn gofyn gwybodaeth drwyadi o ffeithiau unigo], ac nid yw byny yn waith pleserus iawn; ond wrth gasglu y ffeithiau hyny at eu gilydd a'u cymharu, a gweled rhyngddynt debygolrwydd, cieant i ni hyf- rydwch, yr hyn nad oeddem. yn deimlo pan oeddent yn eu sefyllfa unigol. Ac wrth edrych arnynt yn yr olygfa berthynasol hon o ymddadblygiad y gweinyddant i ni y dydd- oideb mwyaf. Ac yn ei pherthynas a'r ddam- caniaeth o ymddadblygiad y ceisiwn anilygu ychydig o'r ffeithiau sydd yn gynwysedig yn y wybodaeth. Mae y ddamcaniaeth hon yn rhagdybied dylanwadau allanol yn gweithredu trwy oesau braidd yn annghyfrifadwy er cyf- newid archwaeth, tueddiadau, eisieu, ac ermigau corlforol y creaduriaid. Anmhosibl yw i gyfuewidiadau o'r fath gymeryd lie mewn amser cymharol fyr. Yr ydym yn gwybod oddiar brawf nad oes cyfnewidiad o'r fath wedi cymeryd lie yn oes lianesyddiaeth mewn dyn nac anifail ychwaith. Pan glywodd ymerawdwr y Ffrancod am ddamcaniaeth yr ymddadblygiad, cymerodd daith i'r Aifft, lie ceir yr hynafiaethau bynaf yn yr holl fyd, cr cael gweled a oedd gwahaniaeth rhwng yr hen gyiff perarogledig a'r rhai sydd yn bresenol ar y ddaear; a cbafodd fod yr hen grocodeiliaid, yr hen gathod, lloi, bustych, a chyrph dynol yr un fath yn union a'r rhai sydd yn byw yn awr—yr oil yn aros yn ddigyfnewid er yr holl oesau sydd wedi myned heibio. Yr un modd hefyd gwelwn hen gerfiadau yr Assyriaid. Mae eu dailuniau o ddynion ac anifeiliaid yr un fath yn union a'r rhai sydd ar y ddaear heddyw. Wel, ynte, pan mae miloedd o flynyddoedd a'u dylanwad yn methu dangos i ni fod cyf- newidiad wedi cymeryd lie—gan fod yn agos i bum' mil o flynyddoedd wedi methu, mae'n eglur na ellir byth gael arbrawf ar y ddam- caniaeth hon. Mae oes dyn yn llawer rhy fyr i gael allan gysylltiadau y prawf. I bale ynte yr awn ni am brofion ] 'Does yr un man gyda ni i droi am eglurhad ond at y creigiau sydd yn cyfansoddi crystyn y ddaear, ac at yr hynafiaethau sydd yn cysgu yn dawel rhwng ei lleni celyd. Mae yn anmhosibl i ni benodi cyfnodau neillduol i'r gwahanol greigiau. Nis gallwn ddweyd faint o filoedd o flynyddoedd a lithrodd heibio tra bu y rhai hyn yn ym- gasgln. Yr ydym yn sicr fod y cyfnodau hyn wedi bod yn ddirfawr o faith. Credwn mai mwy priodol fyddai i ni gyfrif eu blynydd- oedd gyda miliwna'u, ac nid miloedd. Ac oddiwrth y graig hon a'r giaig arall, pa rai sydd wedi bod am flliwiiau o oesoedd yn ffurno, y mae i ni gael y wybodaeth gywiiaf am beth a all amser wneud a dylanwadu ar agweddau bywyd. Ond wedi y cyf m, tystiolaethau y graig sydd dystiolaethau anmherffaith mewn llawer ystyr. Y rhan fwyaf o'r creigiau a ffllrfi wyd dan y mor yn debyg fel v ffurtir hwynt yn awr. Ychydig o amser mewn ysiyr ddaear- egol sydd oddiar pan oedd y sychdir presenul yn gurwedd o dan y niO' Yr Alpall, yr Andes, a'r Himalaya, y mynydd uwchaf yn y byd, hyd yn ddiweddar, oedd yn tiwel orphwys ar waelod y llif. Pe byddai'n bosibl cael daihmlen o draethell Prydain Fawr oddeutu dau can' mlynedd yn ol, byddai yn wahanol iawn i'r peih ydyw yn breseii'd. Yr un peth ellir ddweyd am bob ynys a chyfan- dir at-all dros wyneb yr holl fyd. Mae y mor yn hwyta y glanau yn barhaus. Detyd y graig yn y fan hon a chs ala hi yn fan dywod, a charia, hi i ffwrdd, a gesyd hi i lawr mewn man a-all. A yn mlaen felly am oesoedd lawer, nes gwneud doldir teg, gwt-tad, a hyfryd o lawer o'n hen greigiau mwyaf daueddog. Parha y mor i gyfnewid ffurf arwynebedd y ddaear yn barhaus, a hyny yn fwy amiwg mewn rhai ruanau na'u gilydd. Ar lanau dwyreiuiol Lloegr mae llawer tref a phentref fu unwaith yn flodeuog, ond erbyn heddyw a'u seiliau yn ngl anol y mor; a'r un dynged fu i lawer o ganoedd o aceri o dir. Yn eu mysg mae hen dref enwog Cromer a Raven- spur, lie glanwedd Bolingbrooke. Hen Eglwys Reculver, yn amser Harri vili., oedd filldir i'r tir; ond heddyw, mae ar geulan y mor; a byddai er's llawer dydd wedi gorfod rhoddi ffordd i'r t6nau, oni bai fod celfyddyd yn eu cadw i ffwrdd. Ba adeg pan ellid cerdded ar sychdir o Benrhyn Braichypwll, yn Nghaer- narfon, yn uni' nsyth ar hyd Cantre'r Gwaelod, nes dyfod hyd at Benrhyn TJ Ddewi, yn Mhenfro; ond am fod y darn craig rhwng y ddau pentir yna o ddefnydd cymharol laith, mae y mor wedi ei fwyta am lawer o filldir- oedd i'r tir, nes eibyn heddyw mae ei donau yn curo yn gyflym dan seiliau Aberaeron ac 'Ystwyth, ac amryw drefydd eraill ar ei lanau. Tebyg fod llawer tref wedi cael eu Jlyiicu ganddo, yr hyn, efallai, a gyfrif am hen chwedl Cantre'r Gxvaelod. Enwir y pethau yma er dangos fod cyfnewidiad ]iaihaus yn cymeryd lie rhwng y tir a'r dwfr. Beth bynag, yn mbob cyfnod o banes y ddaear, yr oedd y mor a'r tir, yn ol pob tehygolrwydd, yn cael eu trigianu gan greaduriaid cyfatebol i'w natur; ond yr oedd miloedd o greaduriaid yn byw ar y tir nad oeddent byth yn dyfod o gil i'r m6r; ac hyd yn nod yr ychydig o hon- ynt a gleddid yu y dyfnder, ac ystyried mor adaml yw'r manau mae'r daearegwr wedi cloddio i edrych am danynt, damwain braidd yw iddo ddyfod ar draws eu gweddilion. l'w barhatt. O.Y.— Yn y nesaf rhoddwti ychydig o hanes y creaduriaid kynaf y deuwyd o hyd iddynt, æc.

BARN PAGAN AM RYFEL.

[No title]

Y PULPUD: Y LLWYFAN : Y WASG.