Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Hide Articles List
15 articles on this Page
el II .
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
el II Nodiadau gan y Gol. 3 Y Manna 4 Y Gofofn Wyddonol—Barn Pagan am ryfel.. 5 Y Golofn Ddirwestol-Cyfarchiad i'r Celt 6 O'm lluestdy ar odreu Hiraethog-Cyffes ffydd yr UndebCynulleidfaol-Llansaint 7 Piup ERTIIYGL- Y Khyfel—Newyddion diweddaraf 8 O'm Hawyren-Merthyr, &c. ..9 Gohebiaethau 10 Earlestown — Gelli—Glandwr—Ffestiniog— Deri—Tredegar 11 Penybout-Abertawy- Nazareth- Cymanfa Annibynwyr sir Gaerfyrddin 12 Cymer-Penclawdd-Felinwen, Abergwili 13 Undeb Ysgolion Sabbathol Gwernogle, Horeb, ae, Abergorlech— Dolgellau — Priodasau— Marwolaethau-Hysbysiadau 14
^atiiatiau gan 12 ©ol.
News
Cite
Share
^atiiatiau gan 12 CYNADLEDD Y CYFLAFAEEDDWYE GYD- WLADWEIAETHOL.—Y mae llawer iawn 0 esbonio, ac o groesesbonio, ac o ddychy- mygu gyda golwg ar eu swyddogaethau a'u dyledswyddau. Ni wyddir eto yn sicr pwy fyddant, na pha bryd y cyfar- fyddant, ond gobeithio y cydymgynghor- ant mewn ysbryd heddychgar, ac y ter- fynant eu goruchwyliaeth bwysfawr er lies y byd.
[No title]
News
Cite
Share
DADGYSYLLTIAD. — Y mae cvmanfa gyffredinol Eglwys Rydd Scotland, ar ol dwys ystyriaeth ac ymgynghoriad manwl, wedi cofnodi penderfyniad dros Ddad- gysylltiad crefydd oddiwrth y Llywodr- aeth, ac y maent yn deisebu y Senedd am gael hyny o amgylch. Y mae yn amlwg fod acbos pwysfawr rhyddid crefyddol yn enill nerth yn barhaus drwy bob rhan o'r ymherodraeth.
[No title]
News
Cite
Share
Y STRIKES TN LANCASHIRE.—Y mae yn wir alarus i feddwl na fedrid trefnu l'hyw foddion er eu hysgoi; oblegid y mae eu banes yn mbob oes ac yn mhob gwlad yn dangos eu bod yn aehosi drygau trym- ion a lluosog, nid yn unig i'r gweithwyr a'u meistri, ond i gymdeithas yn gyflred- iuol.
[No title]
News
Cite
Share
MAEWOLAETII MB. P. M. EVANS 0 DREFFYNON.—Yr oedd yn drwm iawn genym ddarllen am y ddamwain brofodd i yn angeu iddo. Yr oedd yn un o'r ar- graifwyr a'r cyhoeddwyr blaenaf yn Nghy. mru. Yr oedd hefyd yn flaenor gweith- gar, dirodres, a boneddigaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yr oedd yn 'g gymydog cyfeiUgar-a:rnyddfrydig. Ym- ddengyg iddo mewn dyciiryn fynu neidio 0 gerbyd, pan oedd ceffyl anystywallt yn cicio, ac i'r codwm ar ei ben achosi ei farwolaetb. Cymerodd yr amgylchiad le yn ymyl Aberystwyth, pan oedd ef ac am- ryw eraill yn dycliwelyd i'w llety o'r Gymdeithasfa a gynelid ar y pryd yn y dref hono.
[No title]
News
Cite
Share
EIIYDYCHAIN A CHAEEGEAWNT.—Pan yn gaaeirydd yn ddiweddar mewn cyfar- fod Eglwysig, sylwai Archesgob Canter- bury fod efrydwyr duwinyddol ieuainc gobeithiol iawn yn awr dan addysg yn rbai 0 golegau Caergrawnt, ac y buasai yn dda iawn ganddo allu hysbysu fod rhai mor obeithiol yn Mhrifysgol Ehydychain. Mae'n debyg fod colegau Caergrawnt yn troi allan dduwinyddion mwy cyflawn, ac efengylwyr mwy defnyddiol, na cholegau zn Ehydychain. Byddai yn werth i arch- esgobion ac esgobion yr Eglwys Sefydledig ystyried yr acbosion 0 hyny.
[No title]
News
Cite
Share
CYMDEITHAS Y TEAETIIODAU CREFYDD- OL.—Dosbarthodd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf 63,000,000 0 draethodau, gwerth£146,000. Y mae wedi cyhoeddi a lledaenu er adeg ei chychwyniad 1,700,000,000 0 wahanol lyfrau a thraeth- odau buddiol.
[No title]
News
Cite
Share
YSGOLION SABR.A.TIIOL.- Y mae 0 leiaf chwe cban mil o athrawon yn awr yn rheolaidd ynddynt bob Sabbath, ac y mae yn anogaethol i feddwl fod tros ddeuddeg mil o'u dysgyblion ieuainc wedi cael eu derbyn yn y flwyddyn ddiweddaf i aelod- aeth eglwysig, er cael cyfieusderau a cby- mhelliad i fod yn fwy defnyddiol dros lesu,
[No title]
News
Cite
Share
CENADAETII DINAS LLUNDAIN.—Y mae ganddi yn awr 452 0 genhadau ar waith bob dydd, ac y mae yr adroddiad blynydd- ol yn dangos fod eu llafur wedi cael ei goroni a llwyddiant mawr. Gwobr fawr ydoedd gallu enill a denu 1,699 o feddwon i dir sobrwydd a chysur teuluaidd, ac i gylchoedd 0 ddefnyddioideb cymdeithasol; ac adferu 857 0 ferched syrthiedig, afrad- lon, o ddyfnderoedd o llygredigaetbau i uchelfiwaudedwydd diweirdeb a rhin- wcdd, a defnyddioldeb ac anrhycledd ac y maent wedi bod o gymorth mawr yn llawer 0 feusydd eraill Cristionogaetb. er lies eu dinas a'u gwlad. Yr oedd cyllid y gyradeitbas eleni yn haner can mil 0 bunau.
[No title]
News
Cite
Share
Y TUEFNYDDION CALFINAIDD. — Cy- hoeddir yn y Christian Age Almanack am y flwyddyn yma fod mwyafrif poblog- aeth-" native population"—tywysogaeth Cymru yn Drelnyddion Calfinaidd. Car- em i ryw Drefnydcl ddangos ei ystadegau er profi byny. Y- mae y Trefnyddion Calfinaidd wedi gweithio yn rhagorol iawn drwy y ganrif bresenol; ac os gallant brofi eu bod yn "fwyafrif y boblogaetb," byddai yn deg ac yn anrbydeddus iddynt wneuthurhyny.
[No title]
News
Cite
Share
ANGHYDFFIJEFIAETH TN NGRAER- GEAWNT.—-Y mae Ymneillduwr ieuanc, mab Mr. Dale 0 Birmingham, newydd enill Tlws Canghellydd y Brifysgol am farddoniaeth. Yr oedd wedi ei enill o'r blaen y flwyddyn ddiweddaf. Y mae Ymneillduwr arall o'r enw Mr. Fisher, organydd eglwys Annibynol Blackpool, ar ol arholiad manwl yn Nghaergrawnt, newydd raddio, gydag anrbydedd, yn "Doctor of Music." Da genym weled hefyd enw D. G. Davies, B.A., o G-oleg y Frenhines, Caergrawnt, wedi dyfod allan yn mlaenaf fel ymgeiayddam ysgoloriaeth y Tyrwhitt. Mae Mr. Davies yn enedig. ol o Llanddewi, swydd Geredigion, ab yn ddiweddar fyfyri wr. o Groleg Caerfyrddin. Yr oedd yr ymgais yn gynwysedig o ddealltwriaeth o ieithoedd Hebreaidd, Syriaidd, Arabaidd, a Chaldeaidd. Yr ydym yn wir falch mai Cymro aeth a,'r anrhydedd. Ychydig wythnosau sydd oddiar pan ddaeth Mr. Davies allan yn mlaenaf o'r blaen yn yr "Oriental Tripos."
[No title]
News
Cite
Share
EGLWYS LOEGR YN YMLITHEO TUA E.HFFAIN.—Dywedai Eagob Tyddewi yn ddiweddar:—" Md oes dim yn fy marn i yn fwy anheg a niweidiol nag i geisio gwadu ein bod yn symud tua Ehufain." Tystia Esgob Bath a Wells—Fod cyd< fradwriaeth gyfrwys yn bod i droi yn ol Eglwys Loegr i gymulldeb ag Eglwye Ehufain, ac i'w phlygu mewn ufudd-dod i'r Pab. Cyhoedda Esgob Gloucester a Bristol fod defodaeth presenol yr Eglwys yn gweithio yn 01 y diwygiad Protestan- aidd. A chydnebydd Dr. Lee yn ei lyfr, "Re-uuionof Christendom," fod Eglwys Loegr yn arddel ac yn dysgu boll athraw- iaethau y Babaeth, ac y dylai y ddwy Eglwys ail ymbriodi, er bod yn un Eglwys fawr lan G-atholig.
[No title]
News
Cite
Share
CHINA.—Saith mlynedd ar hugain yn 0], uid oedd ond tri o'r Chineaid yn Grist. ionogion, ond y rnae yn awr dros ddeu- C, ddeg mil o'r Chineaid wedi derbyn efengyl Crist,
[No title]
News
Cite
Share
BANDS OF HOPE;- Y mae tros bedair mil o Bands of Hope yn awr wedi cael eu sefydlu, ac y maent ar waith yn barbaus drwy y deyrnas; ac y mae yn galondid mawr i edrych arnynt, a meddwl am dan- ynt fel "gobaith-luocdd" achos benditb- fawr a gogoneddus dirwest'.
[No title]
News
Cite
Share
PENADUEIAID GWLEDYDD CEISTIONOG- OL Y I;YJ).—Y mae eu nifer yn awr yn 36, o ba rai y mae 10 yn Babyddion, 2 yn perthyn i Eglwys Groeg, a'r 24 eraill yn Brotcstaniaid.