Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

ij.liiob.ts.ut. Mai 24, yn nghapel Seisnig, Drefnewydd, gan y Parch, R. Powell, Mr. W. Evans, a Margaret Thomas, y ddau o Llanwnog. Bendith y nefoedd fyddo ar y par ieuanc -A. B. Mai 18, trwy drwydded, yn nghapel yr Annibyn- wyr, Blaenycoed, ger Caerfyrddin, yn mhresenol- deb Mr. J Lloyd, Cofrestrydd, gan y Parch. J. M. Gibbon, Trelech, yn cael ei gynortbwyo gan y Parch. W. Meirion Davies, gweinidog y lie, J. Sylvanus Williams, (C M.,) Trelech, a Mary Wil- liams, Post Office, Trelech. Mai 21, yn ngliapel Annibynol Ynysgau, Merthyr, gan y Parch. J. Evans, Drewen, ger Castellnewydd Emlyn (brawd y priodfab), yn cael ei gynorthwyo gnn y Parch. R. Rowlands, Aheraman. Mr. D. Jenkyn Evans, Draper, Peny- graig, a Miss M. A. Phillips, merch hynaf y diweddar Barch. M. Phillips (B.), Gwawr, Aber- aman. Boed gwenau y nefoedd ar v par ieuanc. Mai 21, yn nghapel yr Annibynwyr Dolgellau, gan y Parch. D Griffiths, yn mhrescnoldeb Mr. Jones, y Cofrestrydd, prindwyd Mr. Nathan 0. Jones, a Miss Mary Ann Evans. y ddau o'r dref hon. Mai 25, yn addoldy y Bedyddwyr, Llanidloes, gan y Parch. Isaac Edwards, Mr. Edward Jones, a Miss Sarah Evans, y ddau o'r lie a enwyd. Boed y rld»u hyd halt y hedd, "i'u rhodio mewn nmhydedd." ENGLYN Cyflwynedig i Mr. Thos. Recs, Grocer, Cross Inn, Llandybie, a Miss Margaret Jones, Black Lion, Aberaeron, ar ddydd eu priodas, Ebrill 26, 1878 Cloiwyd merch y Black Lion—yn rhwymau Yr amod serchoglon, Rees anwyl, mae rhyw swynion 0 dir hedd, yn y fodrwy gron.—LLEW MOCHNO Yn ddedwydd byddoch yn y cyd, Heb un gofidus stwr, Y gwr yn caru'r wraig o byd, A'r wraig yn caru'r gwr.-J. DL. JONES. $tarfoolacthait. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. DAVID DAVIES, MYFYRIWR, CASTELL- NEWYDD EMLYN. Yr oedd y brawd ieuanc uchod wedi dechreu ar ei yrfa gylioeddus fel pregethwr, bu yn fyfyriwr yn Ysgol Rammadegol Castellnewydd Emlyn; ond nid hir y bu cyn cael ei orddywes gan gys- tudd. Er hyny ni roddai i iyny yr ysbryd, ond gweithiai ei ffordd drwy rwystrau, ac yr oedd ei galon yn diheu am wybodaeth; ond er ei holl ymdrech, gwanacb, gwanach, yr elai, ac yr oedd fel pe bai yn dyfod yn fwy addfed i'r nefoedd bob dydd. Teimlai awydd cryf am wella, a phenderfynai wneud ei oreu dros aehos ei War- edwr tra fyddai byw. Tystiolaeth pawb a ad- waenai Mr. Davies oedd ei fod yn Gristion pur. Ond nos Sul, Mai 5ed, rhyddhawyd ef o'i nych- dod a rhwymau cystudd, a chymerwyd ef oddi wrth ei boen i fwynhau dedwyddwch y nef, lie na ddaw na phoen na chystudd i'w flino mwy. Y dydd Mercher canlynol ymgasglodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwel, a hawcld gweled wrth eu gwedd, fod yna un anwyl ganndynt wedi marw. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty gan y Parch. J. Evans, Drewen, a phregethwyd yn hynod o effeithiol a thoddedig gan y Parch. C. A. Jones, Castell- newydd, oddiar 2 Tim. iv. 7, 8, sef y geiriau a ddewiswyd gan yr ymadawedig i fod yn destyn iddo. Claddwyd ef yn Eglwys Llandyfriog. Heddwch I'w lwch, a huned yn dawel hyd foreu'r adgyfodiad mawr.- TREWENYDD. Mai 15fed, yn ei 87 mlwydd oed yn Rhaiadr, Gwy, Mrs. Ann Thomas, a gweddw y diweddar Barch. H. Gwalchmai, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghroesoswallt, gynt Llanidloes, yr hwn a fu farw yn 1846. Claddwyd hi yn mynwent St. Idloes, yn meddrod ei thad a'i mam a'i brawd. Boed heddwch i'w llwch, nes II Del Ion, mewn tirionwcli I alw llu peralau y llwch." Mai 22ain, yn 71 mlwydd oed, ar ol hir selni, Miss Mary Jones, Severn Villa, Green isaf, Llan- idloes, a merch y diweddar Mr. Thomas Jones, Crown Inn, o'r un lie. Mai 23ain, o'r parlys, Miss Jones, Plasucliaf, PolgeUau, ya 75 mlwydd oed.

farbbmtiacth.

Advertising