Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

' MERTHYR TYDFIL.

EISTEDDFOD LLANBRYNMAIR.

[No title]

CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR…

News
Cite
Share

buasai yn bryd droppio gweddio?" Deallai y ferch fach fod ei mam wedi roddi heibio gweddio, ac yn wir nid oes dim dylanwad yn cydfyned a gorchymyn os na fydd y eynghorwr yn ei gyf- lawni ei hunan. Parch. J. T. Evans, Caerfyrd Hn, a deimlai yn ddedwydd iawn am ei fod wedi cael cyfarfod fel hyn gorllaw ei hen ardal enedigol. Cwynai fod cryn anhawsder ganddo ef i gael dynion i'r cyfarfodydd gweddi a'r pyfeillach. Bu gauddo eghvys o ryw 500 neu 600 o dan ei ofal cyn symud i Gaerfyr- ddin, ond pr.n 100 fuasai yn y cyfarfodydd wythnosol. Gwyddai ei hun both oedd gweithio, ond gwnai ymdrech gwastadol i gael y cyfarfodydd wythnosol. Rhyfedd na buasai dynion yn newynu ar un pryd yr wythnos! Credai na choid un gallu ond dylanwadau yr Yspryd Glan i gael o .1 y gyfarfoaydd yn boblogaidd do'n ol. Mae'r Beibl ) n cyfai wyddo, ac ni wiw ceisio un ffurdd aral'. Adroddai banes un eglwys yn y North dro yn ol oedd yn penderfyrra cael diwygiad—cyt- unwyd ar y plan-un i waeddi yn y pen bwn i'r capel, a'r llaJI ar y gallery i'w ateb, ond dim diwygiad; ond yn ei dro daeth yr awelondwyfol heibio, ac os eir at Dduw mewn yspryd cywir, fe geir diwygiad. Parch. J. Ossian, Davits, Llanelli:—Dywedir am feibion Jacob eu bod yn dealt arwyddion yr amseroedd: dylai Seion hefyd fod felly. Mae ganddi amryw elynion, ac mae'r diafol bob amser yn effro-dim Sunday closing bill na 9 hours system yn nbeyrnas y fagd lu mae'r diafol yn gweithio 24 awr y dydd am 7 dydd yr wythuos. Dywedir fod llawer iawn o auonestrwydd mas- nachol yn bodoli, fel y deugys adroddiad y llyscedd gwlado1. Tyrnased cyfuiwnder nr lathen a chlorian pob masnachwr crefyddol beth bynag. Ge'yn arall yw difaterwch-dim cyrchu i'r cyfar- fodydd fel yn y dyddian gynt. Dysgwn baivhu'r Sabbath—dysgwn Feibl i'r plant. Ar ein dwy- law ni mae gwneud y plant yn gedyrn yn yr ysgrythyrau. Pabyddiaeth sydd elyn arall. Rec- tor Merthyr yn dweyd fod canoedd o Babyddion yn mhlith offeiriaicl Eglwys Lloegr. Meddwdod Bydd elyn arall effro, ac sydd yn difanerth y wlad. Dywedai Beecher mai cyhyd ag y caniatai eglwys Dduw y gwnai meddwdod flodeuo. Apel- iai at weinidogion a diaconiaid, & am eu cyd- weithrediad. Parch. Lewis Prob> rt, Porthmadog, a ddy- wedai, fod ffynon ar draeth yn Morganwg, oedd yn wâg pan oedd y mor yn llawn, ond y ffynon yn llawn pan fuasai'r mor allan. Dywedai fod ffynon o gysur gan Seion yn hyfryd mewn adeg o farweidc'-Ira: "Nesewcli at Dduw, ac efe a nesa. atoch chwi." Mae pob crefyddwr cywir yn teimlo fod cumundeb gwirioneddol rbyngddo ef a Duw. Os na allwn fwynhau cymundeb a Duw, yr ydym yn debyg o fyned yn anianol ac yn an- foddog gyda chrtfydd. Pan fydd dyn yn byw yn ddiweddi mae pob peth yn ymddangos yn uchel ac yn mhell, ond pan fydd dyn ar ei ddeulin, mae pob peth yn myned i lawr-Duw yn (lod i lawr-pechodau i lawr; ac y mae yn codi oddiar ei ddeulin wedi colli ei feiau. Mae'r Wyddfa weithiau yn toii'r cymylau sydd yn hwylio fel camelod ceimion llwythog drwy'r awyr, ac y mae yn Seion ambell i Moody a Sankey i dynu cymyl- au bendithion ar ben cynulleidfaoedd. Parch. T. P. Paillips, Llandyssul:—Dywedodd dyn wrtho y dydd or blaen mai ofer fyddai dys- gwyl diwygiad hyd nes y byddo duwioldeb yr eglwys a'r gweinidogion yn uwch. Cyhuddiad ofnadwy iawn! ai gwir ai nage ? Ond credai nad ydynt yn llwyr ymroddedig i waith yr Arglwydd— dim digon o egniad, &c. Mae dynion yn myned i yfed gwirodydd poethion, am y dywedant fod arnynt eisiau stimulant os ydym. ni am gael stimulant dyma fe, Cariad Crist yn ein cymell ni." Mae digon obregethli a gweddio, ond nid ydym yn byw yn ddigon uchel mewn duwioldeb ymarferol. Dywidodd un fod plant y Tadau Puritanaidd wedi aros ar y traeth am 200 o flyn- yddoedd, yn lie croesi mynyddoedd yr Aleghony's i'r wlad well. Ai ar y traeth yr ym ni gyda chrefydd ? Croeswcla y mynyddoedd yno mae'r gwinwydd a'r mel a'r pomgranadau! "Dywed wrth feibion Israd am gerdded rhagddynt." Deued Duw yn nes eto. Byddai yr arehoffeiriad gynt yn gwisgo ei wisgswyddogl yn mhob man. A yw y Cristion yn gwneud hyn o hyd tybed? Pan ddaw hyn bydd yn hawdd pregetbu a phob peth. Gvveddiwn am dywalltaid yr Yspryd. Parch. Thos. Davies, Siloah, Llanell-i :-Mae llawer o angen yn teyrnasu mewn llawer man a theulu. Mae'n Duw ni yn foddlon i ddyn fwyn- hau ei hun yn mhob man. Mae'r brodyr oil wedi tori tir iddynt eu hunain. Gwnaf finau gais am 6 neu 7 o fynydai, i ddweyd rhywbeth i loni a chysuro teimladau. Mae rhai dynion yn trustio enaid i Dduw am dragwyddoldeb, ond yri ofni trtistio corph iddo hyd y bedd. Mae meddwdod yn achos o lawer o'r trueni sy'n ffynu yn y byd. Credai yn mhob peth a ddy wedwyl i ladd meddw- dod. Cefnogai bob moddion gwellhaol, ond dyma'r prif foddion—Pob -un i wnead penderfyn- iad i beddio yfed—dyna'r ffordd anffaeledig. Pe bai gyda. ni gymairit o ffydd ac adar bach, buasem yn llawer mwy ha,pus. Ni wyr yr aderyn pa le y ceir y pryd nesaf, ond eto canant yn beraidd. Mewn ambell fynyd wan byddaf yn meddwl yr hoffwn gael cyfoeth, ond gwendid yw hyny; nid hoffwn farw mewn Workhouse, er fod y ffordd i'r nef mor straight o'r Workhouse ag o'r palas. Am fod Duw wedi bod yn garedig yn y gorphenol, ymddiriedwn ynddo am yr hyn sy'n ol. Dr. J. Thomas, L'iverpool :-Bron yn teimlo y dylaswn gael bod yn rhydd, am fod Mr. Davies wedi dweyd digon drosom ni ein dau. 'Rwy'n cofio fy mod yma 35 ml. yn ol, yn dyehwelyd o Benmain, ac yn pregethu ar destyn od—" Na rwgnachwch." Pregeth go lym, ond dywedir ei fod y pryd hwtiw yn siarad heb wybod am lawer o'r trueni oedd yn bodoIi-llysgodd wers er hyny; nid oedd byth mor llym er yr adeg hono. Mewn perthynas i'r weddi deulu- aidd, gwyddai am anhawsderau i gynal y weddi yn fyw mewn tref a gwlad, ond prin y credai y dylasai dyledswyddau eymdeithasol dori ar draws rhai crefyddol a theuluol. Credai, er y swniai yn ddyeithr oddiwrtho ef, fod rhy fach o ganu yn yr addaliad teuluaidd. Dywedai Philip Henry fod dyn yn darllen yn gwneud yn dda yr hwn sydd yn darllen a gweddio yn gwneud yn well; ond yr hwn sydd yn darllen, gweddio, a charm yn gwneud y goreu. Y canu sydd yn gyru pob ysbryd an- nyrnunol i ffwrdd. Dr. T. Bees, Abertawe:-Mae cynifer o betliau da wedi eu dweyd, fel pe bawn yn dweyd llawer eto y buaswn yn tynu'r eflaith-nefol i ffsvrdd. Yr oedd golwg allanol ddigalon yr ardal yn fy nharo i yn fawr o nos Sadwrn hyd yn awr-y mwg wedi cilio, y tan wedi diffodd, a'r lie yn adfeilion ond da genyf weled capelau llawnion a'r trigolion yn gwledda ar y danteithion. Mae rhai o honom wedi cael profiadau hyfryd ar lethrau- yr hen fynyddoedd yma, na chymerem lawer am danynt. Mae eisieu diwygiad crefyddol. Nid ydym wedi cael un cyffredinol am 18 mlynedd—dyna'r adeg hwyaf er's rhyw 150 mlynedd. Byddem'yn arfer eu cael bob 10 neu 12 mlynedd cyn hyny. Di- galon yw gweled yr hen Forges yma yn diffodd, ond gwaeth gwelod y tan crefyddol yn diffodd. Buasem yn ofni cael diwygiad mewn masnach heb ddiwygiad crefyddol hefyd. Mae archwaeth y wlad at bethau da yn bwl iawn, mae hyny yn waeth nag aflwyddiant yr amgylchiadau. Mae gelynion yn codi yn mhob cyfeiriad, a oes genym archwaeth at bethau cysegredig? Mae dim ar- ch waeth bwyd, yn waeth na phrinder bwyd. Pe baem ni yn cael diwygiad, buasem yn anghofio ein tlodi a'n gwasgfeuon. Oh na welid yr hen adfeilion yma eto yn diaspedain gan swn can a moliant. Terfynwyd y gyfeillach mewn bwyl nefolaidd gaii yr Hybarch. E. Watkins, Llangattwg.