Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR…
News
Cite
Share
CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR BRYN. MAWR, BLAINA, A LLANELLI. Cynaliwyd y Cymanfa uchod am y tro cyntaf yn y cwr hwn o'r wlad ar y dyddiau Sadwrn, Sul, a Llun, Mai 18fed, 19fed, a'r 20fe.l. Yr oedd dis- gwyliadau mawr am daui, darpariadau helaeth wedi eu trefnu ar ei chyfer, ac y mae llwyr fodd- lonrwydd wedi cael ei adael ar ei hoi. Y gweinidogion dewisol gan y gwahanol eglwysi oedd y rhai canlynolRehoboth, Parchn. J. Ossian Davies, Llanelli, a T. P. Evans, Ceinewydd; Bethesda, Parchn. J. Evans, Caer- fyrddin, a T. P. Phillips, Llandyssul; Berea, Parchn. T. Davies, Siloa, Llanelli, a Dr. Rees, Abertawe; Siloam, Parchn. L. Probert, Porth- madog, a Dr. J. Thomas, Liverpool. Yr oeddynt yn pregethu yn y gwahanol eglwysi ar gylch-nos Sadwrn am 7, dydd Sul, a nos Lun. Am 2 dydd Llun yr oedd Cyfeillach Gyffredinol yn Behoboth, Brynmawr, fel man canolog a cyfleua i'r gwahan- ol eglwysi yaigynull. Cymerwyd y gadair gan Mr. Williams, Berea; a decbreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan Mr. Griffiths, Cendl. Ar ol anerchiad byr gan y gadeirydd, yr hwn a amlygai ei foddlonrwydd am y cyfarfodydd campus a gafwyd, ac am yr arwyddion a gaed o bresenoldeb Daw y dydd blaenorol. Hyderai y byddai dylanwadan da yn canlyn yna galwodd ar y brodyr canlynol i siarad. Parch. T. P. Evans, Ceinewydd, a sylwodd ei ei fod wedi siarad mewn cyfeillachau fel yma o'r blaen, a'i fod bob amser yn cael agor y cyfarfod- ydd, dichou er liiwyn bocl yn esiampl i'r rhai a ganlynent drwy fod yn fyr. Cymerodd yn destyn "Yr Addoliad leuluaidd." Yr oedd yu ofiii fod y wlad yn colli gafael ar yr addoliad touluaidd. Hawdd deall mewn teulu pa un a yw y weddi deuluaidd mewn bri ai peidio. Byddai weithiau yn lletya mewn annedd lie yr oedd yn hawdd deall fod y weddi yn sefydliad dyeithr-y plant yn edrych mor syn a phe bai perygl gerllaw; ond mewn tai lie mae'r weddi mewn arferiad, mae hyd y nod y ci a'r gath a'r anifeiliaid yu deall fod yr awr wedi dyfod i fod yn ddistaw. Credai ei bod yn bwysig nid yn unig i weddio ein hunain, ond i ddysgu'r plant i weddio bob nos a boreu. Weithiau bydd plentyn a fagwyd mewn ty crefyddol yn colli bias ar ol myned o swn yr aelwyd; ond dysger plentyn i weddio drosto ei hun prin y gall golli hyny. Darllenais un tro am ferch fach yn gofyti ilw mam, "Pa bryd y
Y PULPUD, Y LLWYFAN, Y WASG.
News
Cite
Share
Y PULPUD, Y LLWYFAN, Y WASG. Y DIWKDTA3. HYBARCH EBENEZER JONES, PONTYPWL. ATOLWG beth yw enw y capel hwn, ac i ba gyfenwad v perthyn? Capel Anni- bynol o'r enw Ebenezer ydyw, yr hwn a saif ar ofyrydd coediog, lie y clywsai y divvcddar Barch. Edmund Jones yr "hl h broffwyd," fagad o adar mewn cOld-Iw) n yn pyncio, yr hyn a baredd iddo benodi ar y fan hono yn sylfan capel. Wrth ddewis y llancrch hono, d) waid traddodiad sydd yn gyfFredin yn y rhan hono o swydd Fynwy i'r "hen Lrjffwyd" enwi y capel Ebenezer, a rhag-ddywedyd mai Ebenezer fvddai enw ei olynydd yn y weinidogaetb. Felly y bu i'r capel gael ei godi yn y man y mae, mewn goror rieillduedig', yn nghvvr r, 111) g )rllewiuol plwyf Tielddyn, yn nghylch dwy filldir i'r gugk dd-orllewin o dref hen- afol Pontypwl. Ge! vdr yr ardal lie y saif y capel yn Cwm Nant Ddu, oddiwrth y cornaLt liwyd-ddu a red heibio islaw. Er bod y capel o'r neilldu mewn rhandir anghysbell ac anghyfleus, bu Ebenezer am flynyddoedd lawcr yn nechreu y ganrif hon a diwedd y ganrif o'r blaen, yn Jerusalem yr hull wlad, o Bontypwl i Flaenafon, ac o Gefn y Grib i'r Lasgara. Saethodd allan o'r eglwys hon v canghenau canlynol, y rhai weithian, gan mwyaf, sydd yn goed uuhel a chadtiriog, sef Blaenafon, y Varteg', Cefn y Grib, a Silo, Abersychan. Degymodd yr aclios Annibynol yn Mhontypwl hefyd hi o bryd i bryd, fel nad yw mor flodeuog a in lluosog ag yr oedd yn nyddittu uchder el llwyddiant, dan weinidogaeth yr areithiwr hyawdl Ebenezer Jones. Wrth ymseisnigo o sir Fynwy, difwynwyd hi hefyd o lawer o'i gogoniant, ac erbyn hyn, lie y llefarid y Wenhwyseg gref a phriodweddol gan hen Gymry gwladaidd a gonest, nid oes ond Seisneg i'w chlywed ac yn lie y cyfarch- iad cywirgalon a chyffredin, godechwydd da," nid oes braidd i'w glywed gan hii ac epil yr hen Wenlwyson, ond yr hen anerch main, mursenaidd, good evening, how be you this evening. O.td ag Ebenezer Jones y mae a wnelom, ac ar ei ol ef yr awn. Pi-iodur ydofcdd o ddwyrein-barth swydd Gaerfyrddin, a mab i amaethwr cyfrifol a ddaliai dyddyn o'r enw Wern felen, yn mhlwyf Llanfair ar y Bryn. Ganed ef yn y flwyddyn 1769, ac ymaelododdyn eglwys Annibynol Pentre Ty Gwyn, rai blynydd- Oidd cyn cyrhaecid oedran gwr. Derbyn- i.vyd ef i athrofa Croesoswallt yn y fl. 1790, ond byr fu ei arosiad yno, oblegid symud- old i'r athrofa Henadurol a gynelid y p yd hyny yn Abertawy, eithr yn awr yn Nghaerfyiddin, oblegid bod ei frawd, y Dr. John Jones, yn un o'r athrawon. Felly y tebygir, pa wedd bynag, ni ddarllenasom ac ni chlywscm am unrhyw achos neillduol o, symudiud mor fuan o Groesoswullt i Abertawy, ac nid oes genym ond tebygu mai ei frawd fu yn offeryn o'i ymadawictd. Derbyniwyd ef fel y gwelir i'r athrofa gyntaf, pan nad oedd ond 21 oed, felly nis gallwn, na chasglom iddo gael addysg elfenol dda yn moreuddydd ei oes, naill ai yn Llanymddyfri, yr hon nid oedd yn nep- P211 o'r Wern felen, neu gån ei frawd John Jones, Ll.D yr hwn oedd yn ysgolor o'r radd flaenaf, ac yn awdwr Geiriadur Lladin a Saesoneg, ag a arferid yn yr ysgolion yn bur gyffredin am flynyddoedd wedi ei gy- hoeddi.d. Wedi cael addysg o'r radd oreu yn yr athrofeydd am 5 ml., derbyniodd alwad gan yr eglwys yn Ebenezer, Ponty- pwl, lle yi urddwyd ef, ac y bu yn gweini- dogaethu trwy gydol ei oes. Ffaith dd, dc- oiol yw i Mr. Thomas Philips, o'r Neuadd Lwyd, wedi h) ny, fod ar brawf yn Eben- ezer, ond troes y fantol o blaid Mr Ebenezer Jones, mewn rhan, o herwydd ddarfod i'r hen broffwyd ragddywedyd mai Ebenezer fyddai enw ei olynwr, ond yn benaf, trwy gjffyiddiad llaw yr Hwn sydd yn teifynu preswylfud plant dynion. Urddwyd ef yn y fl. 1795, pan yn 26 ocd, ac yn fuan wedi hyny, cymercdd ofal yr eglwys yn Mryn- bug'a, dros yr hon y bu yn bwiw golwg yn ng'hyd ag Ebenezer hyd y fl. 1829, sef blwyddyn ei farwolaeth. Dywaid traddodiad llafar a llyfr am dano ei fod yn ddyn llyfndew, a lluniaidd, o dal- dra cyffredin, yn un Q'r rhai harddaf ei olygiad a safodd mewn pulpud, a bod gweddeidd-dra ei ystum yn tynu sylw, nid yn unig gwteng a gwerin, ond uchelwyr ilan a llys. Yr oedd ei gorffolaeth yn gryn help iddo fel pregethvvr, ond yr oedd efe yn bregethwr yn ngwir ystyr y gair heb- law hyny. Yr oedd wedi ei wneuthur gan Pduw natur i fod yn llefarwr. Yn wir gallem Lddwl yn ot yr hanes a,gawsom am dano, ei fod yn ddyn digoll, ei fod yn harddwch gwiad, ac )n addurn i'r weini- dogaeth, fod ei olygiad lluniaidd, ei lais parabl-ber, ei osgedd, ei ysgoleigdtd l'hag- orwych, a sylweddolrwydd ei bregethau, yn ei wneuthur yn ddyn a feddui gymmes- urwydd. Yr oedd yn ddyn yr edrychid i iyny ato gan werin, gwreng, a boneddwr. M l ddai gymain t g%vy bodaetli, o'r Saesoneg a rheoiaeth ami a'r Gymraeg', a byddai mor gartrefol jn ngwlad y Sais ag yn Nghymru. Dywedai ei ferch Mrs. Sus- anah Morgan, Casnewydd—un gyffelyb i'w thad, yn lluniaidd-dra ei hagwtdd, ei dawn llafar, a'i hysbryd cyhoedd, wrthym, ei bod yn cofio ei thad yn myned amryw hafau i Bridge water i lenwi y pulpud Seisnig yno am fis o amser, a'i fod yn dyfod yn ei ol ag ugain punt am ei wasan- aeth, yr hyn a fyddai yn help tymhorol teimladwy i'r teulu. Gorfyddid Mr. Jones i ddal tyddyn o herwydd bychander ei gyflog, er dwyn ei deulu i fyny fel y carai, a hyny uwchlaw amgylchiadau cyfvng. Safai y tyddyn hwnw rhwng Pontypwl a Brynbuga. Ystyrid Mr. Jones yn am- aethwr hyfedr, ac yn filfeddyg cyfarwydd. Adroddodd ein ben gyfeilles ddawnus, dduwiolfrydig, y rag-grybwylledig Mrs. Morgan, chwedl yn nglyn a'r filfeddygaeth am ei thad mewn profedigaeth unwaith yn Ebenezer, Pontypwl. Un bore Sul, yr oedd un o'r gwartheg wedi ei dal gan ryw glwyf, ac yr oedd yntau wedi rhoi phisyg- wriaeth iddi heb fiJdy fuwch ddim gwell; ond pa fodd bynag, gorfu iddu adael y fuwch a chychwyn tuag Ebenezer ar ei anif'ail gyda mawr frys; ond ar y fFordd, ac yn y capel, y fuwch sal oedd yn gwasgu I ar ei feddwl. Esgynodd i'r pulpud, rhodd- y odd benill allan, ddrllenodd ran o'r Ys- grythyr Lan, ond wrth weddio, eb efe, "0 Arglwydd, tyn y fuwch yma oddiar fy nghefn i." Agorodd yr addolwyr eu llyg- aid, ac edrychent tua'r pulpud gyda syndod, gan feddwl fod eu gweinidog wedi an- mhwyllo. Wedi deall pa sut yr oedd pethau ar ddiwedd yr oedfa, yr oedd y bobl yn gweled piiodoldeb y deisyfiad, ac yn canmol ei gyfaddasrwydd. Fel y crybwyllasom, yr oedd gan Mr. Jones ddoniau llafar croyw, llithrig, a melusber; ac er y dyrchaiai ei lais wrth fyned rhag- ddo, pan gynhesid ef gan ei bwnc a chan yr Ysbryd Glau, ni byddai un amser yn chware ei lais, ac yn dynwared y crythor (ffidler); ni lwythai ychwaith ei bregethau a chwedlau, gan bwyso ar y rhai hyny fel y mae arfer rhai, ysywaeth, yn fwy o lawer nag ar egwyddorion teyrnas nefoedd; yn hytrach o lawer ceffid hanfud yr efengyl yn ei bregethau ef. Nid oedd y bulpud- gan (chant) wedi ei thrwyddedogi i'r cysegr, ac wedi ymddinesyddiaw yn yr unrhyw yn ei amser ef, ac nid oedd y pregethwyr chwedleuig ond anaml iawn, oa oeddedt yn wir yn hanfon o gwbl. Dy- wedai y diwtddar Barch. D. Williams. Troedrhi^dalar, wrthym un noson raiblyn- yddoedd yn ol, pan yn lletya yma, mai Davies, Sardis, oedd y cyntaf y gwyddai ef am dano i arfer y gan (chant) yn y pulpud. Byd< ai ysgrif ar y bulpud-gan Gymreig (o ran hyny nid ydyw yn mhlith neb cenedl ond y Cymry), trwyddedogwyr c' y newyddiant, cyfiifuldeb y pulpud-ganwr, C, dylanwad y gan, &c yn fuddiol a dydd- orul, ac hwyrath yn lies i'r Cymry, lawer o honynt, y rhai ,*ydd yn fwy hoff o swn nag o sylwedd. RhLddw) d y bregeth a ganlyn ini gan Mrs. Morgan, Casnewydd-ar-Wysg, nid el fel enghraifft o bregethau ti thad, ond yn sampl o'i weinidogaeth gyffredin, ac yn oy anrheg goffadwciaethol. Mae yr ysgrif- o lyfr bychan hwn sy'n cynwys dwy bregeth yn werthfawr yn eia golwg—mor werth- fawr a dalenau aur, ac hyderwn y durllenir y bregeth a g.,nlyn yn fanwl gan ddar- llenwyr y CELT. MYUDDIN*. Rhoddir y bregeth yn y nesaf.