Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

EBENEZER, ABERTAWY.

News
Cite
Share

EBENEZER, ABERTAWY. CYNAMWYD Cyfarfod Chwarterol Undeb Gorlle- winol Morganwg yn y Capel uchod ar y dyddiau Mercher a Iau, Mai 24 a 23. Y noswaith gyntaf dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. D. Jones, B.A., Capel Seion a phregethwyd gan y Parchn. T. P. Evans, Ceinewydd; a J. Thomas, Bryn, Llanelli. Am 10-30 ddydd Iau, cynaliwyd y gynadledd o dan lywyddiaeth Dr. Rees, pan oedd yn bresenol y gweinidogion canlyDol, heblaw nifer luosog o ddiaconiaid ac aelodau eglwysi yr Undeb.:— Dr. Rees, D. Jones, B.A., B. Williams, Canaan; F. Samuel, W. Jenkins, Pentre; D. Jones, Cwm- bwrla: Daniels, Mynyddbach; R. Thomas, Glandwr; Davies, Jones, a Phillips, Treforis; Davies, Sketty; Davies, Mumbles; J. Thomas, Pontardulais; J. Thomas, Bryn, Llanelli; J. Edwards Jones, Brynaman; Jones, Penclawdd; Evans, Sciwen; Rees, Eglwysnewydd; Bevan, Waenarlwydd Rees, Cwmllynfell; Pritchard, Sciwen; Roberts, Castellnedd; Davies, Bethel; Stephens, Brynteg; Owens, Clydach; Owens, Fabians bay; a Jenkins, Llansamlet. Ar ol i Mr. Jenkins, Pentre, ddechreu trwy weddi, aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod trwy i'r cadeirydd ofyn a oedd gan rai o'r gweinidogion rywbeth i osod o flaen y cyfarfod. 1. Cynygiwyd gan Dr. Rees, ac eiliwyd ef gan Mr. Jones, B.A., a phasiwydyn unfrydol, i ddau benderfyniad oddiwrth y gynadledd hon sydd yn cynrycluoli 46 o eglwysi i gael eu hanfon i'r Anrliydeddus W. E. Gladstone, y cyntaf yn anghymeradwyo y llywodraeth i'r eithaf, mewn iaith gref a nerthol, am ei bod yn parhau i dreio llusgo y wlad yma i ryfel a Rwsia. Yr ail oedd yn wahanol ei ysbryd, sef bod diolchgarwch y gynadledd hon yn cael ei roddi i Mr. Gladstone ac eraill, am eu hymdrech a'u ifyddlondeb yn gwrthdystio yn erbyn myned i ryfel heb achos ac angen am dano &c. Cariwyd y ddau bender- fyniad uchod yn unol a gwresog. Cynygiodd Mr. Jones, Penclawdd, a phasiwyd heb wrthwynebiad, fod y Parch. L. Davies, Sketty, i fod yn gadeirydd y cyfundeb am y flwyddyn nesaf, yn lie yr hen drefa, fod gweini- dog pob capel y byddai y cyfarfod ynddo yn gadeirydd iddo. 3. Rhoddodd Mr, Jones, Cwmbwrla, rybydd y byddai yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf yn cynyg fod y ddau Gyfundeb, Gorllewinol a'r Deheuol yn cael eu huno a'u gilydd er ei gryfhau; ac iddo fod yn fwy effeithiol nag ydyw yn y dyfodol. 4. Cynygiwyd gan Mr. Jones, Capel Seion, ac eiliwyd ef gan Mr. Roberts, Castellnedd, bender- fyniad o gydymdeimlad dwys a'r Parch. D. Morgans, Resolven, yn ei gystudd, yr hwn sydd wedi bod yn wael iawn ei iechyd er ys misoedd, ac heb fod yn fawr gwell eto; ac yn taer ddy- muno ar i holl weinidogion y Cyfundeb roddi eu presenoldeb yn y gymanfa sydd yn cael ei chynal yno er ei galonogi a'i gysuro yn ei adfyd. Yn nesaf daeth Mr. Bevan, Waenarlwydd yn mlaen a'r achos Seisnig sydd yn Waenarlwydd, ac am iddynt fel cynadledd i roddi eu cymer- adwyaeth i un Mr. Nash, sydd yn supple i gael ei ordeinio iddynt yn weinidog, ond siaradodd rhai yn erbyn Mr. Nash fel un [anghymhwys i'r swydd; a daethpwyd i'r penderfyniad nad oedd yn iawn i'r cyfundeb Cymreig i wneuthur dim pellach a'r achos o herwydd rhyw resymau neillduol oedd gan rai brodyr yn y cyfarfod ond cymeradwywyd Mr. Nash a'i gyfeillion i fyned a'u hachos i Glamorgan & Carmartbenshire Association sydd yn cael ei chynal yn Fabians bay ar yr 21ain o Gorphenaf nesaf, fel y man mwyaf priodol i drafod y mater. Wedi byny darllenodd y Parch. W. E. Jones, Treforis, papyr ar I I Ganiadaeth y Cysegr." Yr oedd y traethawd hwn yn un gwir alluog. Taflodd allan luaws o awgrymiadau, a phe bai y cantor- ion a'r eg.wysi ond eu cymeryd i fyny, ceid gwelliant buan yn y canu cynulleidfaol. Sylw- odd y dylasai canu y cysegr fod yn ganu o addoli; a dylasai y gweinidog a'r diaconiaid fod yn bresenol mor ami ag oedd yn bosibl yn yr ysgol ganu, a dau o leiaf 'i weddio yn eu cyfarfod. Hefyd y dylai yr arweinydd canu fod o gymeriad pur, a dylai y canu fod yn gydweddol a'r bregeth bob amser; eto dylai arddull y canu. cynulleidfaol gael mwy o expression mewn manau neillduol. Hefyd dylai Cymanfaoedd Cerddorol gael eu cynal drwy ein heglwysi; ac nid canu am wobr chwaith, ond canu hen anthemau cysegredig a'r chantio nefolaidd, &c. Hefyd gwnaeth sylw neillduol am y priodoldeb o gael un Llyfr Hymnau a Thonau, yn He llawer o honynt, fel sydd genym yn bresenol-fod hyny yn anfantais i gael canu da, ac unoliaeth ynddo, yn ein cynulleidfaoedd. Dyna ychydig o'r awgrymiadau rhagorol a gawsom ar Ganiadaeth y Cysegr. Ar y diwedd siaradodd amryw frodyr ar faterion y papyr, mewn modd o ganmoliaeth iddo, a phasiwyd iddo gael ei gy- hoeddi mewn ryw ffurf neu gilydd. j Hefyd, penderfynwyd i gyflwyno i sylw yr Undeb Cynulleidfaol nesaf yn Llandilo y priodol- deb o gael un llyfr hymnau a thonau yn perthyn i'n henwad, a d'od allan ac ef o dan nawdd yr Undeb. Yna terfynwyd y gynadledd. Cafwyd cyfarfodydd pregethu yn y prydnawn a'r hwyr. Dechreuwyd gan y Parchn. Bevan, Waenarlwydd, a W. Pritchard, Sciwen, yn hynod effeithiol, a phregethwyd gan Rees, Eglwys Newydd Roberts, Castellnedd; Evans, Sciwen; Rees, Cwmllynfell; Jenkins, Llansamlet; a Thomas, Pontardulais. Yr oedd Mr. Rees wedi cael pwnc i bregethu arno, sef Bod i'r aelodau gynorthwyo y weinidogaeth trwy siarada'rgwran- dawyr." Cymerodd y wraig o Samaria fel testyn y bregeth, a phregethodd yn fendigedig. Gobeith- io y bydd llawer o wrandawyr y bregeth yn gwn- euthur yr un fath a'r wraig hon. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol yn mhob ystyr. Yr efengyl yn cael ei pbregethu gan y gweision mewn gwres, nerth, a dylanwad, fel y dywedir fod y cyfarfod hwn yn tra rhagori ar ei flaenor- iaid. Gobeithio y gwna les dirfawr i'r eglwys y cynaliwyd ef, ac i holl eglwysi y dref. Rhoddodd eglwys Ebenezer giniaw a the i'r oil o'r gweinidogion a'r aelodau oedd rhy bell iddynt fyned adref; a diolchwyd yn gynes i'r boneddig- esau a fu yn gwasanaethu y byrddau. Yr oedd pawb ar eu goreu yn ceisio cael pobpeth i derfyn- iad hapus; a gellir, gyda phriodoldeb, ddweycl ar ddiwedd yr wyl hon, "Mai da yw i ni fod yno, bod yr Arglwydd gyda ni, ac yn ein bendithio." W. D.

ABERDAR.