Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

. Y COLOFN DDIRWESTOL J|

News
Cite
Share

Y COLOFN DDIRWESTOL J| (GAN Y PABCH. D. S. DAYIES). Os eawn lonydd gan y rliyfel a fygytbir rhyngom a, Rwssia, caiff ein llywiawdwyr amser i dalu sylw i fesurau cartrefol. Y mae boll amser ein Senedd yn bresenol yn cael ei dreulio i siarad am son, a sonial y maent nas gwyddant am beth. Mae hyny yn debyg iawn i'r Toriaidt Mae pobpeth cartrefol, ond trethoedd ac ysblander, islaw eu sylw. Eu hoff waith hwy yw cenfigenu hyd wenwyn wrth genedloedd cryfion, a chythru i'r rhai bychain, a pliob amser yn hoffi clochdareuharfau rliyfel, gan dybio fod yr holl genedloedd yn gwelwi pan welant wyn Hygad y Sais. Gofalant am dan i ferwi gwaed ysbryd goresgynol y Seison. Y Toriaid yw'r cawri mewn symndiadau a chwerylon tramor, a'r corachod yn mhob diwygiad cartrefol. Diwrnod o alar mawr MAWR!! MA WE! i holl ddistyllwyr, a darllaw- wyr, a gwirod-werthwyr y deyrn-as hon fydd y dydd y syrthia awenauein llyw- odraeth o law y Toriaid. Y mae newydd- iaduron "y fasnach" eisoes yn canu y gloch am fod yn barod, gan nas gwyr neb pa awr y dymchwelir y blaid Doriaidd. A dissolution of Parliament should not find us unprepared," meddai'r giwaid wrth eu gilydd. Nid ychydig o ddigywilydd- dra sydd yn eu nerthu i alw eu crefft reibiol yn "y fasnach," fel pe na byddai masnacn arall yn y wlad. Er cased genyf yr hdniad digywilydd, yr wyf yn ofni ei fod yn deilwng iddynt ei galw "y fas- nach," am nad oes cymaint o sawd ac elw mewn un fasnach arall yn y deyrnas. Rhoddwn ystadegau y tro nesaf a fydd yn Bier # synu ein darllenwyr. Caiff ysgrif Dr. Pan Jones y gweddill o'n colofn y tro hwn. Cyhoeddwyd hi p'r blaen yn 1872, ond y mae yn rhy dda i beidio ei chyhoeddi eto. "Ascanas." — Dylech ysgrifenu eich cyfansoddiadau lawer gwaith. Y mae defnyddiau yn eich ysgrif i wneud bwledi pe gwesgid hwynt yn nes at eu gilydd. Ergyd dwrn gwlan sydd ynddi yn awr. Ymdrechwch eto. "Oea, yn wir, y mae tri pheth o achos y rhai y cynhyrfir y ddaear, ac y mae pedwar petb, y rhai ni ddichon hi eu goddef yn hir eto, Sclwol, Boards yn eu ffurf bresenol, clicydd- iaeth grefyddol, landsharhjddiaeth y mfv dol, a'r fasnach feddwol. Y mae tri pheth difrifol yn perthyn i'r fasnach feddwol, oes, y mae pedwar peth anweddus yn nglyn a hi, Pregeth- wr yn cadw bragdy, archddiacon yn cadw darllawdy, a phroffeswyr yn dal eu masnach i fyny, a newyddiaduron a misolion o nodwedd grefyddol, a'r rhai hyny dan olygiaeth dir- westwyr, yn cyhoeddi (advertisio) pa le y mae y diodydd meddwol cryfaf yn cael eu gwerthu. Y bragwr cyntaf a adnabyddais i erioed oedd hen weinidog parchus (?) perthynol: i'r Bedyddwyr, ar lan Teifi, yn Neheudir Cymru. Yr oedd yn bragu cyn cof genyf fi, a daliodd i bregethu yrefengyl (?) ac i fragu nes y daeth ei fab ieuangaf yn ddigon galluog i gymeryd y fasnach fragawl o'i law. Hwyrach iddo wneuthur ychydig d iaioui yn ei oes fel preg- ethwr, bnd fel bragwr y mae efe wedi marw yn Ilefaru eto. Bu ei oes yn gyfrwng llawer mwy effeithioi i ddwyn y diodydd meddwol i gyffwrdd 6. blysiau pobl, nag i ddwyn Dwfr y Bywyd i gyffwrdd a'u henaid; gwnaeth ei frag gan cymamt o feddwon ag a wnaeth ei efengyl o Fedyddwyr; ac o bob tref a chy- mydogaeth, adwaen i 'run yn Nghymru lie y mae yfed diodydd meddwol a "chnepo" tipyn yn cael edrych arno mor respectable ag yn y gymydogaeth hQno, a byddaf fi yn pnod- oli hyny i waith yr hen bererin yn gosod an- rhydedd ar fasnach y brag; ac nid wyf yn adnabod un dref wledig yn Nghymru na, Lloegr fedr ymffrostio mewn cynifer o demlau i Bacchus a'r dref lie yr oedd efe yn byw; yn sicr, gosododd anrhydedd ar holl gysylltiadau y fasnach i gyd. Efe oedd yn supphjio yr holl gymydogaeth a brag—brag i dafarnwyr, 11 brag ar gyfer priodasau, brag ar gyfer gened- igaethau, brag i'r amaetlnvyr ar gyfer y cy- nhauaf, yn neillduol ar gyfer rlrwymo yd ac ysgall ynddo, brag ar gyfer arwsrthiad iu cy- hoeddus, brag ar gyfer dyddiau gwyliau, a bi ag, fel mae mwyaf trueni meddwl, ar gyfer cyfaifodydd pregethu. Yr oedd yn rhaid taenellu pob amgylchiad o bwys drwy'r holl gymydogaeth a ifrwyth brag, ac y mae yr arferiad yn flodeuog yno hyd heddyw mewn cysylltiad ag arwerthiadau a chyfarfodydd pregethu. Mae genyf dystiolaeth prif ar- werthwr y wlad am y cyntaf, a thystiolaeth fy llygad fy hun am yr ail. Ffwl o ddyn yr ystyrid y dyn a wna auction heb ddiod feddw- ol a chlywais yr arwerthwr yn dweyd y bydd llawer yn cynyg cymaint arall a gwerth y nwyddau ar ol iddynt gael ychydig laseidiau i godi eu cabn ac y mae hi yn tfaitli fod y rhai sydd yn arfer prynu felly ar auction yn suddo yn fuan i dlodi. Mae'r holl gymydog- aeth hefyd erbyn heddyw wedi cael ei hau a man dafarnau tywyll, myglyd, budron, rhai yn drwyddedig a llawer yn anrhwyddedig, yn y rhai nid oes le i deithiwr gael tamaid o fwyd na llety noswaith, na lie i ddim yn wir ond i ddenu llanciau y gymydogaeth yn nghycl i wario eu harian am yr byn a'u damnia gyrff ac eneidiau. Golygfa ofnadwy onide ar ddydd Sadwrn fuasai gweled yr hen weinidog, a'i gadach gwyn am ei wddf, yn myned o'r cwrdd parot- oad, wedi bod yn adfer rhyw frawd i aelod- aeth eglwysig ar ol bod ar ei "derm," yn myned i'r bragdy i werthu chwarter neu ddau o frag i un o'i ddiaconiaid i wneuthur trwyth i feddwi rhyw frawd drachefn, a chai y drafferth i adgyweirio bwnw eilwaith y mis canlynol. Daeth y brag, a/r pulpud, a'r cad- ach gwyn yn berthynasau mor agos yn mher son yr hen weinidog, nes y daeth y bobl i deimlo fod brag y pregethwr yn gysegredig ac yn santaidd. Bobl grefyddol glanau Teifi! mae yn bryd i chwi ymysgwyd o'r llwch. Mae ar eich llaw i sychu llawer o'r ffynonau gwenwynig hyn, o flaen y rhai yr oedd eich gwlad fel gardd paradwys, ond o'u hoi yn ddiffaethwch anrheithiedig. Gwnaethant lawer o'ch bech- gyn mwyaf gobeithiol yn ysgubion cym- deithas. Mae hen chwedl ar gof a chadw fod gwiber yn yr oesoedd gynt wedi ymweled a Chastell- newydd Emlyn, ac wedi nythu yn adfeilion yr hen gastell. Yr oedd yn greadur mor ofnadwy fel yr oedd pob dyn yn ofni myned allan o'i dy rhag y buasai yn ymosod arno, ac yn ei frathu, a bernid y buaaai yn andwyo y neb a gynygiasai am ei bywyd. Wedi iddynt fyw felly am dymor, a thrueni yn bygwth troi y dref yn adfeilion, daeth rhyw hen tilwr cyfarwydd heibio, saethodd hi yn yr unig fan y gellid ei lladd, neidiodd efe i'r afon. neidiodd hithau i'r afon ar ei ol, a thaflodd gymaint o'i gwenwyn allan nes oedd yr afon yn wyrdd i gyd, a bu farw; ond nofiodd y saethwr, meddir, yn erbyn y dwfr, ac felly diangodd ar ei gwenwyn. Mae y diodydd meddwol yn fwy ofnadwy na holl wiberod y byd. Dywed Solomon Yn y diwedd hi a frath fel sarff, ac a biga fel neidr;" a chofiwch y rbaid i chwi nofio yn erbyn dwfr y Public Opinion i raddau mawr cyn dileu y wiber ofnadwy hon. 2. Archddiacon yncadw darllawdy. Peith- ynai y darllawydd diaconaidd i'r Annibynwyr, a pherchid ef yn fawr gan ei gyd-drefwyr a'i gydaelodau, a chanmolid ef yn mhob cysyllt- iad cymdeithasol fel dyn caredig, hael, a chrefyddol (?). Mae'n debyg mai ganddo ef yr oedd y darllawdv mwyaf yn Nghymru, o'r hyn lleiaf darlunid ef felly gan ryw bregethwr fu yn ei weled ychydig flynyddoedd yn ol, a gallesid casglu oddiwrth yr erthygl hono nad oedd un sefydliad yn y byd yn fwy gwasan- aetbgar i gymdeithas; ond bydded safle y 4 cyfryw ddiacon bethbynag ydoedd yn y dref, y wlad, a'r eglwys, pan gofiwn mai ei alwed- igaeth oedd manitfactro gwenwyn marwol i gyrlf ac eneidiau pobl, a bod ganddo ganoedd o gerwyni llawnion o'r cyfryw wenwyn bob amser wrth law, a chanoedd o a,gents yn ei werthu drosto yn mhob cwr o sir Forganwg, mae'n anhawdd genym gredu y gallasai ei haelioni, hyd yn nod pe rhoddasai ei gorff i'w losgi, fod yn ddig >n o iawn am un ran o fil o'r trueni a daenwyd drwy y wlad, y plant am- ddifaid a'r gwragedd gweddwon a grewyd, a'r eneidiau a ddamniwyd drwyddo ef a'i agents. A feddyliai rhywun sy'n adnabod sir Forgan- wg na fU'l' darllawydd-ddiacon yn offeryn i wneud mwy o fedd won yn ei oes nag a fedr- odd holl weinidogion yr Annibynwyr yn yr un sir wneuthur o ddynion sobr. Byddaf bob amser wrth fyned heibio i'w dddarllaw dy castellawg yn meddwl am chwedl yr hen gastell hwnw y byddai cymaint a adeiledid o I bono yn y dydd yn cael ei dynu i lawr yn y nos felly y bydd agents y darllawydd yn y nos yn dadwneud cymaint osobrwydd ddarfu i agents yr efengyl wneud yn y dydd, nes y mae gwareiddiad a chrefydd mewn llawer cymydogaeth yn symud yn mlaen mor araf a malwoden, ie, meddaf, mewn llawer cymydog- aeth fel malwoden dawdd. 3. Proffeswyr o bob enwad crefyddol yn dal Em masnaeh i fyny. Siaredir llawer ary pwnc yn mhob cylch, o fwthyn y gweithiwr hyd balas St. Stephen, gan bob dyn ystyriol, hyd yn nod gan y tafamwyr eu hunain, a chydunant oil fod eisieu rhyw welliant yn nhrefniadau y fasnaph-ei chyfyngu, eigwella, a'i thacluso, a mawr yr ymdrechu a'r llafurio y mae pleidwyr rhinwedd er cyrhaedd yr hyn sydd eisieu. Mae'n wir fod yn y byd ychydig o wahaniaeth barn am y llwybr goreu i wneud hyn ond pe ewyllysiai aelodau eglwysig y wlad, ie, y rhai sydd yn proffesu bod yn aelod- au o gorff dirgeledig Crist, gallent sicrhau y gwelliant yn llawer mwy effeithiol nag y medrai'r un bill Seneddol wneud bytb, a gell- id troi y miloedd a werir yn awr ar ymdrech- ion dirwestol i hyrwyddo gwareiddiad a chrefydd. Ciedwn fod canoedd o grefyddwyr yn rhoddi help llaw mewn llawer dull a llawer modd i gynal y fasnach i fyny, heb ddychy- mygu en bod yn gwneud dim allan o'i le a theimlant mor eiddigeddus dros rinwedd, crefydd,'a sobrwydd a neb yn y lie. Adwaenwn foneddwr er ys tro yn ol oedd yn trafaelio o dy tafarn i dý tafarn i werthu Dublin Stout a'r holl XXX's i gyd. Ystyrid ef yn ddyn parchus, call, a hynod selog gref- yddol. Yr oedd yn ddiacon gweithgar yn yr eglwys, ie, mor weithgar, meddir, na cheir mo'i fath ond anaml. Un o'i gwsmeriaid goreu am y Dublin Stout oedd y gweinidog, a'r gwr mwyaf parchus o'r gweinidog oedd y Dublin Stout ddiacon. Bu'r gweinidog a'r Stout yn hir yn ymgodymu a'u gilydd, achyd ag y parhaodd y gweinidog i drecliu, yr oedd y diacon yn euro ei gefn yn iawn, ond mor fuan ag yr aeth Stout yn stoutiach na'r gwein- idog, a chael ei gefn i lawr, dyma'r Stout- ddiacon oedd wedi gwerthu y Stout i'r gwein- idog yn rhedeg yn mlaen, ac ) n rhoddi ei ben lin ar ei frest, nes y bu yn mron iddo golli ei wynt, yr hyn sydd yn peri i mi obeithio fod y diacon yna yn gwerthu ei Stout a'i XXX's heb feddwl ei fod yn pechu mwy na phe b'ai yn gwerthu blawd ceirch i wneud uwd i'r bobl. Tybed nad yw rhyw gysylltiadau anach- aidd fel hyn yn warth i Independia, ac i bob plaid o grefyddwyr sydd yn enwi enw Crist. Yr oedd edrych ar ddylanwad ei Stout yn or- mod i'r gwr, ond yn lie gwaeddi fel Judas "pecbais," a chrogi ei hun, crogodd ef y gweinidog. Peth arall anhawdd sydd yn nglyn a'r fas- nach feddwol yw, fod newyddiaduron a mis- olion o nodwedd grefyddol, yn cael eu cyhoeddi gan olygwyr crefyddol a dirwestol, yn cy- hoeddi pa le y mae y gwirodydd meddwol cryfaf yn cael eu gwerthu. Onid anhawdd iawn ydyw gweled—Cynelir cyfarfod urdd- iad W. M. J., o Goleg Ll-, yn Soreb, pryd y dysgwylir i holl weinidogion yr enwad roddi eu gwasanaeth,"