Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

BRYNSlENCYN.

News
Cite
Share

BRYNSlENCYN. Cynaliwyd eyfarfod i areithio ar y Feibl Gymdeithas Dramor a Prydeinig, gan y gwa- hanoL enwadau, yn y lie uchod, nos Sadwrn, Mai 11, yr hwn a gynaliwyd yn ngbapel yr Annibynwyr, o dan lywyddiad Mr. R. Parry, Carn. Y rhai a etholwyd i areithio oeddynt y Parchn. J. Williams, Brynsiencyn, (M.); T. Gruffydd, Bryngwran, (A.); a J. Williams, Llanerchymedd, (M.) Pe llwyddid i gael cyfarfodydd o nodwedd y eyfarfod uchod drwy y sir, ni phetrusem ddweyd na byddant yn sier o droi yn fendith i'r gwrandawyr ac i'r Gymdeithas dda uchod. Nis gallasai pawb oedd yn bresenol, lai na theimlo yn gynesach tuag at air Duw pan yn myned oddi yno, na phan yn dod yno. UN OEDD YNO. HIRWAUN. DA genym fod Mr. Williams, olynydd yr anfarwol a'r diweddar Williams, Hirwann, wedi decbreu ar ei weinidogaeth yn Nebo, Birwaun, er y Sabbath cyntaf yn Mai. Hy- derwn fod gweinidogaeth y Williams presenol i fod mor hir, ac mor ddedwydd a llwydd- ians a gweinidogaeth y Williams blaenorol- "Yr hwn, er wedi marw, sydd yn llefaru eto." GOHEBYDD. BETHESDA, YNYSMUDW. EFALLAI mai nid annerbyniol a fyddai gan amryw o ddarllenwyr y Celt gael gair neu ddan o drefn y cyfarfodydd chwarterol Ysgol Sabbathol Bethesda, Ynysmudw, yr hwn a gynhaliwyd ar y 5ed cyfisol, dan lywyddiaeth O. Bowen. Cyfarfod dau o'r gloch. Awd yn mlaen yn y drefn ganlynolA drodd Esiah 55, gan Mr. D. Morgan. Canwyd emyn, yna anerch- wyd gorsedd gras gan Mr. Bowen, yua can- wyd emyn. Adroddwyd "Teitlau y Gwared- wr," gan Mr. J. Williams. "Gwyrthiau Iesu Grist," gan Mr. W. Williams. "Anrhydedd Crist," gan Miss G. Williams. "Ymddvddan ar ddyfod i'r Ysgol Sul," gan Miss M." Will- iams a Miss H. Morgans. "Cyfamod disygl," gan Miss H. Griffiths. Canwyd Emyn. Ad- roddwyd Ymddyddan am yr Arch," gan Miss M. Jones a Miss H Griffiths. "Oni ddychwel yr annuwiol," gan Mr. J. Jones. "Cwyn yr annuwiol," gan Mr. D. Morgans. "Yr Iacnawdwriaeth," gan MissH. Morgans. Canwyd emyn, yna diweddwyd y cyfarfod trwy weddi. Cyfarfod 6 o'r gloch. Adrodd Diarhebion 8, gan Miss H. Morgans, yna anerchwyd gorsedd gras gan Mr. H. Hopkins. Canwyd wmyn. Adroddwyd "Yr Ysgol Sabbathol," gan Miss E. Powell. Proffwydoliaethau y Gwaredwr," gan Mr. W. Williams. "Duw gyda ni dan y ddwy oruchwyliaeth," gan Miss H. Morgans. "Cyfundrefn yr Hen Destament a'r Newydd," gan Mr. J. Groves. "Gorsedd Gras," gan Miss H. Griffiths. CfHeddwch Duw," gan Miss. M. Jones. Canwyd emyn. Adroddwyd "Yr Ysgol Sab- batho," gan Mr. J. Williams. Ymddyddan, "Pedr yn dyfod i d;9" Mair," gan Mr. H. Walters a'i gyfeillion. "Gwersi," gan Mr. D. Morgans. "Mil o flynyddoedd am bob moment," gan Mr. J. Harries. Canwyd emyn. Diweddwyd y eyfarfod trwy weddi. Cawsom gyfarfodydd da. Ynysmudw. L. JONES. GAL WAD. Y MAE J. R. Richards, o Goleg Coffadwriaethol Aberhonddu, wedi derbyn galwad wresog ac un- frydol oddiwrth yr eglwys Gynuileidfaol a gy- ferfydd yn Cwm Pare, Cwm Rhondda. Teg yw dweyd fod Mr. Richards yn ysgolbaig gwych, yn bregethwr doniol a cbymeradwy, ae yn fedd- yliwr treiddgar a gwreiddiol. Dymunaf iddo lwyddlant mawr i wneud llawer o ddaioni trwy adeiladu'r saint ac argyhoeddi pechaduriaid. AMICUS. FFESTINIOG. Eisteddfod Chwarel y Welsh Slate.—Cynaliwyd ton nos Iau a Gwener, y 9 a 10 cyfisol, yn yr Assembly Room. Am 7 o'r gloch, dechreuwyd ar weithrediadau y cyfarfod. Llywyddwyd gan Mr. R. Lloyd. Arweiniwyd gan y Parch. T. R. Davies (Crugwyson). Y peth cyntaf ary dreften yw, beirniadaeth ar y Dictation; goreu, o ddeg, gwobr 3s. i W. Williams, Trawsfynydd; ail 2s. i R. Humphreys, Festiniog. Beirniadaeth ar Ramadegu d6n "Melancthon." Yr oedd yr ymgeisydd allan o'r cylch. Dadganu unawd i ferched, Y fam a'r baban;" goreu, Miss Hughes, Dolyddelen. Beirniadaeth ar y cynllun goreu o Lythyr; gwobr 3s. W. Roberts, Adwygoch. Beirn- iadaeth ar Ramadegu Emyn; gwobr 5s.; goreu, W. Jones, Talweynydd. Beirniadaeth ar yr englyn i'r "Haf gwlyb;" gwobr 5s.; goreu, D. Jones (Dewi ap Gutyn). Beirniadaeth ar Ffurf- io brawddegair;" gwobr 3s.; goreu, Alaw Manod; ail, 2s., E. J. Owen. Cystadleuaeth gorawl i'r plant y "Plentyn hardd." Daeth dau gôryn mlaen i'r llwyfan—Festiniog o dan arweiniad W. Stephens, a Thanygrisiau o dan arweiniad C. Roberts, Dopog; gwobr, £2; dyfarnwyd y wobr i'r olaf. Yna cafwyd anercbiad gwir dda gan y Parch. J. B. Parry,~ Betbania. Beirniadaeth ar y penillion i'r "Ddamwain yn y chwarel uchod yn 1875." Agored oedd y testyn.hwn; gwobr 91; goreu, Dewi ap Gutyn. Beirniadaeth ar y cwestiynau ynnglynahanes Melchisedec; gwobr, 15s: goreu, W. Jones, Talweunydd; ail, 7s. 6.; W. Roberts, Adwygoch. Cyfarfod nos Wener.-Llywydd Mr. R. Owens. Arweiniwyd gan Gutyn Ebrill. Anerchiad bar- ddonol gan Gruch Elen. Beirniadaeth ar y cwestiynau; gwobr, £1 10s.; Robert Evans, Peniel, yn deilwng o haner y wobr. Beirniad- aeth ar y traethawd Safon moesoldeb naturiol;" gwobr, £ 3; un ymgeisydd, a barnwyd ef yn deil- wng iawn o'r wobr, Morgan Jones, Geufron. Beirniadaeth ar y traethawd "Rhesymoldeb i bob cymydogaeth edrych i mewn i'w hansoddau ei hun;" tri ymgeisydd; gwobr, £3; goreu, W. M. Evans, Nefyn. Cystadleuaeth canu unrhyw Solo, at destyn y datganwyr. Daeth nifer luosog yn mlaen; gwobr, 10s.; goreu, R. Roberts, Traws- fynydd. "Y bwthyn ar y traeth," a ddewisodd ef. Beirniadaeth ar y d6n at wasanaeth y Band of Hope; gwobr, 5s.: dau yn gyfartal-Llew Byw- ydd allan o'r cylch, a gwobrwywyd Gruch Elen. Beirniadaeth Mi's. Owens a Mrs. Lloyd, ar y par Hosanau; un par a ddaeth i law, ac ni ddaeth yn mlaen am y wobr, Beirniadaeth ar yr "Hir a Thoddaid," (ni ddywedodd y beirniad i beth); gwobr, 10s.; y<goreu o bedwar ar ddeg, Dewi ab Gutyn. Yna cafwyd can gan Miss Anne Wil- liams o'r Brif Ysgol. Beirniadaeth ar gystadleu- aeth ganu "Dewrder y milwr;" daeth nifer yn mlaen; gwobr, 10s.; dau yn gyfartal, O. O. Owen, a J. H. Jones, Dolyddelen. Beirniadaeth Mrs. Owen a Lloyd ar y "Cravats;" gwobr, 5s.; rhwng Kate Hughes, ac M. E. Edwards. Beirniadaeth ar yr "Alaw;" naw wedi ymgeisio; gwobr, £1; agored i'r byd, a hawlia J. LI. Williamy, Garn, Dolbenman y wobr. Prif gystadleuaeth gorawl, sef dadganu "Trowch i'r amddiffynfa," (Pen- cerdd Gwalia). Daeth tri ch6r yn mlaen:—Car- mel, Tanygrisiau, wedi ei wneud i fynu o'r gyn- ulleidfa oil, o dan arweiniad C. Roberts, Dopog- y cyfeiliwr, R. R. Owen; c6r Jerusalem, Four- crosses. yn cael ei arwain gan H. O. Roberts—y cyfeiliwr, R. H. Williams (Rhydderch o'r Cwm); Elen Glee Parti, o dan arweiniad Cruch Elen-y cyfeiliwr, E. Samuel. Wedi beirniadaeth fanwl J. Thomas, dyfarnodd y wobr, Y,12, i g6r Jeru- salem, a chadair i'w arweinydd, gwerth £5; yna urddwyd ef mewn cadair o goed derw. Y beirniaid oedd y rhai canlynoh—Traethodau a'r cwestiynau, Mr. Wheldon, a Mr. J. B. Parry, Bethania; y Farddoniaeth, Gutyn Ebrill; y canu, J. Thomas, Ysw., Blaennanerch; ac amryw bethau eraill, D. Owen, T. Roberts, R. Richards, Llwynygell. Os ydwyf wedi methu a chofnodi yn gywir, byddaf yn foddlawn i'r wialem. Damweiniau. Y gyntaf a ddygwyddodd yn Chwarel Cwmorthin, trwy i ddarn o graig ddisgyn ar Daniel Hughes, Tanygrisiau, a maluriodd ei goes. Yr ail a ddygwyddodd i Hugh Pritchard, neu yr enw adnabyddus "Hugh bach sir Fon," trwy i dwll ffrwydro. Cafodd ei anafu yn dost. Cyfarfod llenyddol Ysgol Sabbathol y Method- istiaid CaljinaicLd. Cynhaliwyd ef yn- nghapel y Rhiw, yr 17eg cyfisol. Cadeirydd, y Parch. D. Roberts; arweinydd G. J. Williams, Dinas. Y rhai canlynol a wobrwywyd :—W. Williams, Glandwfr; T. G. Williams, Railway Shop; R. W. Williams, Glanrhiw; Mrs. Cathrine Evans, Mrs. Evans, D. G. Williams, O. W. Evans, E. Thomas, Ebenezer Thomas, Jacob Jones, E. Thomas, T. Griffiths, W. G. Williams, Misseas Jane Davies, E. Williams. Cafwyd cyfarfod pur dda ar y cyfan. TBEBQR MANOD. BANGOR. ER i'r gauaf diweddaf ddal gafael cyhyd ynom, ac er i fis Ebrill fod mor garedig a dyfrhau yn mhell i diriogaeth ei gyfaill mis Mai, gyda ei gawodydd maethlawn, eto y mae Mai yn mynu dangos mai Mai yw wed i'r cyfan; ac y mae yn amheus genym a oes gan anian well gardd i ddangos ei hun yn rhywle nag yn nghymydogaeth y ddinas henafol, ond enwog hon. Ceir yma y gwyllt a'r gwar yn gymysgedig. Y mae copa noethlwyd yr ys- gythrgraig ddaneddog yn cyferbynu yn hapas a melfedeiddiwch swynol y doldir gwastadrwydd islaw. Gwelir ar y naill law gopau mynyddoedd Eryri yn ymgodi i edrych ar y mor dros benau y man fryniau sydd wedi ymgasglu fel i'w haddoli, o gwm pas eu traed. Ar y llaw arall, o fewn nerthol gaerau natur, yn ymwasga at eu gilydd o amgylch yr hen Eglwys Gadeiriol sydd yn tynu at ei thri chant a haner oed, y mae y ddinas, ac islaw i hyny, y mae Afon Menai yn ysgwyd ei hun yn ei gwely tywodlyd, fel hen ferch ar ei chadair siglo; a phan y bydd yn seinio ei chyfeiliant undonog, fel c6dbid yr ysgotyn, i gerddoriaeth fwy bywiog yr adar sydd yn codi awydd dawnsio ar y dail a'u cysgodant rhag gwres yr haul; nid ydym yn synu fod ymwelwyr yn cael achos i ganmol at-dyniadau Bangoryn misoedd yr haf; y mae pum' mynyd ar ben mynyddoedd Hitchin yn esbonio y dirgehveh i gyd. Yn wir, y mae edrych ar y golygfeydd hyn pan f) dd yr awel falmaidd ar fin nos, yn ysgwyd man donau chwareus y mor i oglais y drych-ddail a ym- drochent yn ei fynwes yn ddigon a chreu dymuniad dan ein bron aai gael treulio y gweddill o dymor ein bodolaeth fel Tennyson gyda'r m6r-weision a'r mor-forwynien, a dweyd fel yntau— Dymunwn gael bod yn f6rwas dewr, Eisteddwn, a cbanwn y dydd yn ddidor; Fy llais nerthollanwai neueddau y môr; Y" nos y chwareuwn oddi amgylch yn lion A'r holl f6r-forwynion is cynwrf y ddn; Eu gwallt a brydferthwn a'r mdr-flodau teg, A'u heuraidd gudynau a blethwn yn chweg. Ond rhaid dychwelyd o ardaloedd dychym- ygol pleser; a chyda chalon friw yr ydym yn ymgymeryd a chofnodi ymadawiad y cyfaill cywir, a'r dyn ieuanc gobeithiol Mr. John Griffiths, a'r fuchedd bon am bedwar o'r gloch prydnawn dydd Sadwrn, yn ei unfed flwydd ar hugain. Mab ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar John Griffith, Drum St. Yr oedd wedi bod yn tynu yn araf tuag ochr y dw'r er's misoedd dan y darfodedigaeth, ac yr oedd yn myned mor araf nes oeddym yn methu credu ei fod yn ein gadael, hyd oni ollyngodd ei afael o'r ddaear ac ehedeg, nid ydym yn pryderu dweyd, i'r nefoedd, He y mae ei en aid heddyw yn llawer iachach nag y bu ei gorff ar y ddaear. GOHEBYDD. GWERNOGLE. Prydnawn dydd Mercher, y 15fed o'r mis hwn, ymgyfaru Aelodau Bwrdd Isgol Llanfihangel- rhosycorn, pryd yr oedd yn bresenol y Parch. T. G. Jones, Gadeirydd y Bwrdd Mr. John Davies, Isgadeirydd a Meistri. Daniel Jones, Garth; a David Jones, Voel. Ar ol myned trwy y gwaith cyffredin ac arferol awd i'r ysgoldy-y Gwernogle Board School—i gyfarfod y trethdalwyr, er gofyn eu barn yn ngwyneb anghysondeb dyfodiad y planl i'r Ysgol—beth oeddynt am i'r Bwrdd wneud-ai talu y diffyg yn nhreuliau yr Ysgol allan o'r dreth, ai ynte gbrfodi y plant neu yn hytrach gorfodi y rhieni i anfon eu plant yn rheolaidd i'r Ysgol. Daeth torf bur luosog ar y cyfan yn nghyd i'r ysgoldy, a phasiwyd pender- fyniad unol, Fod i'r Bwrdd ddefnyddio pob moddion ar holl allu sydd yn eu dyfais i fynu mwy o attendance a mwy cyson. Mae Mr. Jones, yr ysgolfeistr presenol, yn gymeradwy iawn gan y Bwrdd, y plant, a'r ardalwyr. Llwyddiant iddynt oil gydweithio. ARDALWR

[No title]