Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
J. R. A " W. N."
News
Cite
Share
J. R. A W. N." [GWYDDIR yn dda, nidyn unig gan frawdoliaeth plaid" y Tyst, ond gan y rhan fwyaf o ddar- llenwyr y CELT a'r CRONICL, am genfigen newydd W. N." yn erbyn y CRONICL a'i Olygydd. 'Un o bechodau mawr diweddaraf y CRONICL ydyw ei fod wedi gwneud ei oreu yn rhydd a fifyddlawn i gynoithwyo y CELT ar adeg ei gychwyniad, ac yr oedd ei wasanaeth ar y pryd yn un amserol, ac o gryn werth. Nid oes dim rhyw lawer o fisoedd er pan y darfu i W. N." roddi lIe uchel, ie, uchel iawn, i S. R. a J. R. yn ei Oriel enwog. Darfu iddo eu harddliwio yn ei ddulliau goreu. Yr oedd dipyn yn rhyfedd iddo eu lliwio mor gryf, ac mor brydferth, tra yr oedd yn gwybod eu bod mor ddrygionus. Ond newidiodd "W. N." ei liwiau a'i frwshiau ar ol iddo symud o'r Groeswen i lwyni Liverpool; eithr y mae egwyddor lywodraethol ei galon yr un o hyd. Gan mai ofer ydyw i J. R. gynyg na dysgwyl am ddim tegwck yn Swyddfa Tyst enwad W. N. a chan fod J. R. wedi bod mor ffyddlawn ei gynorthwyon i'r CELT, y mae yn deg iddo gael dweyd yehydig eiriau o hunan-amddiffyniad drwy gyfrwng y CELT. Y mae cenfigen a llid "W. N." mor boeth yn erbyn y CELT ag ydyw yn erbyn y CRONICL. Cyhoeddodd llwyth "Cell gudd y Tyst yr enllibiau bryntrf am gwmni y CELT ar adeg ei gychwyniad. Er eu bod yn rhai budron, yr oeddid am iddynt gael eu gollwng yn ddisylw i ebargoiiant, a chant fyned i dir angof, os na bydd i ddoniau Le'rpwl," orfodi cwmni y CELT a Gol. y CBONICL, i sefyll fel hunan- amdditlynwyr. Y mae cwmni y CELT wedi gwneud eu goreu er cael tegwch, a tbrwy hyny feithrin brawdgarwch a hwylysu cydweith- rediad; ond os bydd raid iddynt yrnladd am degwch, nid oes arnynt ddim o arswyd W. N." a'i frawdoliaeth. Y mae W. N." a'i gyf. o Le'r- pwl, Merthyr, a manau eraill, yn diwyd gyd-gyn- llwyn i geisio merthyru y CELT yn gystal a'r Cronicl. Gwnaeth y Cronicl ei oreu i hwylio cychwyniad, ac i hwylysu cerddediad y CELT, ac nid teg fyddai i'r CELT droi ei gefn, a myned o'r tu arall heibio, pan y mae "W. N." a'i blaid yn ymosod ar y Cronicl. Ymffrostia W. N." fod ei "drinraethau brawdol a boneddigaidd, gonest ac anmhleidiol, rhyddfrydig a duwiolfrydig ef wedi gwneuthur llawer iawn, yn y misoedd diweddaf, tuag at "buro" y Gronicl. Diolch i oludoedd grasol rhagluniaeth fawr y nefoedd am godi brawd mor ddoeth ac mor dduwiol, mor goeth ae mor eirwir, mor ddibwffio a distwffio, mor wylaidd ac mor gariadlawn, mor dawel ddi- nwyd ei ysbryd, ac mor dyner bur ei galon, i buro cyhoeddiadau a sefydliadau yr ENWAD." Llwyddiant i'w lafur dihafal fel gweinidog mawr etholedig, ac fel gwas bach hunan-ymroddedig gweinyddiaeth y dysgyblu a'r cosbi. Buasai yn hawdd iawn i J. R. fanylu a helaethu, ond dyma, mewn yehydig eiriau, ei hunan-amddiffyniad yn erbyn camliwiadau a difriaeth ei gyhuddwr. Yr ydys wedi dyoddef wythnosau dan athrod brawd- oliaeth y"GellGudd;" ond y mae yn groes i bob iawnder i "ddyoddef fellleidr neu lofrudd" dan gamddarluniadau cenfigen.—GOL.] GEIRWIREDD A GONESTRWYDD. Y mae W. N." ac eraill yn dal i ysgrifenu yr hyn a welant yn dda am J. R. a'r Cronicl; ond y mae awdurdodau y Tyst wedi gwrthod fy ysgrifau i, ac nid af ar eu gofyn mwy. Yn y Tyst am Mai 17eg, y mae "W. N." yn gwadu ei waith yn bygwth yr Young Wales arnaf ar y ffordd yn Mon. Gan nad oedd yno neb ond ein dau, nid oes ond i bob un sefyll ar ei gymeriad am onest- rwydd, a gadael i'r mater gael ei benderfynu yn y dydd mawr. Cyhudda W. N." fi o newid ysgrifau. Addefaf fy mod wedi ceisio gwneud rhai ysgrifau yn fyr- ach, eglurach, ac esmwythach; ac nid oes Gol. yn y deyrnas heb wneud hyny. Anaml y byddaf yn derbyn ysgrif heb fod llythyr cyfrinachol yn dymuno am i mi wneud hyn. Y mae genyf yn fy meddiant lawer o lythyrau yn cyfeirio at W. N."—rhai o Le'rpwl; ac ni fynwn eu cyhoeddi heb esmwythau llawer arnynt. Byddaf yn gadael meddyliau allan heb ganiatad yr awdwyr, am y tybiwyf eu bod yn rhy chwerw; ac nid wyf yn cofio am neb yn cwyno eithr ni byddaf yn chwanegu meddyliau, oddieithr er egluro, heb ganiatad yr .awdwr. Rhydd "W. N." yn y Tyst engraifft o'm gwaith yn chwanegu. Yr oeddwn wedi clywed am dani er's hir amser, a bod ymorfoleddu mawr uwch ei phen; ae y mae yn dda genyf ei gweled. Awdwr y llythyr yw Mr. Humphrey Griffitbs- un o'm cymydogion agosaf. Gwr gwreiddiol, llawn synwyr ac athrylith; ond heb gael manteis- ion pan yn ieuanc i ddysgu bod mor gyfarwydd IS ysgrifenu, ey fansodcU, a llytbyrenu, Dyma ei dystiolaeth ef ei hun am y llythyr y cyfeiria W. N." ato :— "ANWYL SYR,—Fy meddyliau i am Orotiicl Canol y Mis sydd yn y llythyr olaf. Ysgrifenais y cyntaf fel y medrwn a'm llaw fy hun. Estynais ef i J. R. pan oeddyn fy nh$yn treulio prydnawn, a dywedais y buasai yn dda genyf grybwyll am argraffwaith rhagorol llanciauFfestiniog, a'r ysgrif ar 'Ysgolion Merched,' a gair rhagor am gan yr 'Hen wr a'r byd yn canu ffarwel.' Da chwi, J. R., chwaneg- wch yehydig eiriau am y pethau hyny. Rhoddaf finau fy euw wrtho; ac felly y bu. Anfonwn ami ddarn i'r Cronicl pe cawn ryw un i roddi fy meddyliau ar bapyr. Mount, Conwy. HUMPHREY GRIFFITHS." Nid wyf yn sicr pa un ai myfi neu arall gopiodd ysgrif olaf Mr. Griffiths; ond yr oedd ei danfon i'r swyddfa ar du cefn ei lawysgrif ef yn engraifft ae yn brawf o onestrwydd. Y mae bod" W. N." wedi medru cael yr hen ysgrif fechan hono o swyddfa yr argraffydd, a'i fod wedi ei chadw mor ofalus i'w dangos i'w gyfeillion, yn dipyn o gymorth i adnabod dirgelion ei ysbryd, a nod- weddau ei gymeriad. J. R. Trogwy a'r Gollegfa yn ein nesaf.
HEBRON, LLEYN.
News
Cite
Share
HEBRON, LLEYN. Nos Ian, Mai 16, cafwyd darlith ar Williams o'r Wern," yn y capel uchod gan y Parch. H. Ellis, Llangwm. Cadeirydd L. M. Williams (Ap Morrus). Yr elw at leihau dyled y capel. Gwnaeth pawb ei ran yn briodol. Yr oedd y gwrandawyr, y gwrandawiad, a'r derbyniadau cystal a'r dysgwyliad. Ar y diwedd adroddwyd y llinellau canlynol yn fyrfyfyr gan y cadeirydd. Heno'n Hebron lie braf dreuliwyd Cafwyd bras ddanteithiol wledd, Melus gyda bias adroddwyd I'n am enwog genad hedd; Cerfio enw ag arf arian Yr anfarwol, duwiol dad, Ddarfu Williams o'r Wern wiwlan,' Gem aur fu i Gymru fad. Eneiniog blentyn anian ydoedd, Gwr mawr Duw ro'i Gymru ar dan, Trwy fyd dyrys Uu arweiniodd Adref i Gaersalem lan; Y gweiniaid wyn yn fwyn wnai gynal, Dihafal fugail goreu'n fyw, Porthi enaid yn yr anial Wnai y dyn a mana Duw, A dyn anwyl dan arweiniad Duw ei hunan ydoedd ef, Dirif dorf dan ei arweiniad Gyrhaeddodd adref fry i'r nef; Dyna oedd ei bwysig neges Tra bu yma ar y llawr, Canmol Ion a Mab ei fynwes, Dangos ei ddaioni mawr. Tynu darlun o'i gymeriad Gyda geiriau nis gall dyn, Gormod ynddo i'w amgyffred O'r ysbrydol Dduw ei hun: Ond gwnaeth Ellis heno'n hwyliog Ymgnis dda at hyn yn wir, Ef a'i ddarlith dra godidog Gofir genym gwn yn hir. Gwnaed eraill frys i gael cyfle o wrando Mr. Ellis yn adrodd ei ddarlith wir addysgiadol. Pwllcrwn. W. WILLIAMS. GROESWEN. DYDD Iau, Mai 9, cynhaliodd ysgol Sabbathol y y lie uchod eu gwyl de. Yn y prydnawn diwall- wyd angenrheidiau y corff a'r te a'r deisen. Yn yr hwyr treuliwyd dwy awr yn ddifyrus gyda'r adrodd a'r canu, yr hyn oedd dan lywyddiaeth y Parch. D. Richards, Caerphili. Yn ystod y cyfarfod, cafwyd anerchiad gan Eos Rhondda, yr hwn a roddodd gynghorion gwerthfawr, ac anogaeth i'r cantorion fyned rhagddynt. Wedi i'r gynulleidfa dalu eu diolchgarwoh gwgesocaf i'r parchus lywydd, terfynwyd trwy ganu hymn. X. Y. SCIWEN, GER CASTELLNEDD. Dydd Llun, Mai 13, gosodwyd careg sylfaen add- oldy i lawr yn Cwmdu, mewn cysylltiad ag eglwys Annibynol Tabernacl, Sciwen. Cynal- iwyd cyfarfod am 2-30 yn yr awyr agored. Daeth lluaws yn nghyd i weled E. Madock, Ysw., yn gosod y maen yn ei Ie, ac i wrando anerchiad- au pwrpasol i'r amylchiad gan amryw o weinid- ogion yr ardal. Oanwyd yn effeithiol iawn yr hen benill melus- Gosod babell yn ngwlad Gosen Tyred, Arglwydd, yno'th hunt" &c. Cyn ymwasgaru, gosodwyd swm dda o aur, arian, a phres ar y gareg. Am 7 o'r gloch, jweg- ethwyd yn y Tabernacl gan y Parch. E Jenkins, Llansamlet, a Dr. Rees, Abertawe. LLYGAD DYST. TOWYN. Yr oedd dyddiau y Sadwrn a'r Sul diwedd. af yn ddyddiau ag yr oedd cryn ddysgwyl am danynt gan y cyfeillion yr Annibynwyr y lie uchod, yn gymaint mai ar y dyddiau a amlyg- wyd y cynelid eu cyfarfod pregethu blynyddol eleni. Y gwahoddedigion oeddynt y Parch. J. Roberts, Ffestiniog, a'r Hybarch Dr. Rees, Caer. Dechreuwyd y moddion nos Sadwrn am saith o'r gloch. Wedi i Mr. Roberts, Ffestiniog, ddechreu trwy ddarllen a gweddio, pregethwyd gan yr Hybarch Dad o Gaer. Y Sabbath, am ddeg, dechreuwyd gan y Parch. G. Evans, (M.C.), Cynfal, a phregeth- odd Dr. Rees. Pregethai Mr. Roberts yn Bryncrug hefyd yr un adeg. Am ddau, dechreuwyd gan Mr. G. Roberts. Llanegryn, a phregethodd Mr. Roberts, Ffestiniog. Am chwech, yn yr hwyr, dechreuodd y brawd ieu- anc Mr. E. Evans (Ieuan Wnion), Academy, Towyn, a phregethodd y Parch. J. Roberts, a Dr. Rees. Dylid crybwyll hefyd y ihoddid yr Emynau allan drwy ystod y cyfarfod gan Mr. Thomas, y gweinidog. Caed cyfarfodydd rhagorol iawn, cynulleidfaoedd lluosog, ac arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd gyda'i weision. Hyderwn. y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear; ac y ceir gweled ffrwyth toreithiog yn dilyn eto yn y dyfodol. Pregethid yn afaelgar, a chaed tywydd dymunol. Darlith.—Nos Lun dilynol, traddodwyd darlith yn yr un lie gan Dr. Rees. Testyn y ddarlith ydoedd "Martin Luther a'i amserau." Llywyddwyd gan Mr. Morgan, gweinidog y Wesleyaid y dref. Gan fod y Darlithydd, yn nghyda'r ddarlith, yn hysbys i bawb drwy Dde a Gogledd Cymru, oferedd hollol fyddai i ni geisio ei hadolygu. Cadwodd y Darlith- ydd ni am ddwy awr yn hynod ddifyrus ac adeiladol. Cynygiwyd diolchgarwch y cyfar- fod i Dr. Rees am ei araeth odidog gan y Parch. G. Evans, Cynfal; ac eiliwydef gan Gwilym o Fon, trwy adrodd yr englynion canlynol:— Am anerch mor ardderchog—'e roddwn Rydd ddiolch calonog; Nid rhyw gan fel noda'r gog Yw areithiau Hiraethog. Ond doniau llawn ad-dyniad— a rwyma Yn rymus bob teimlad Oes hir boed iddo'i siarad Wron glew, i arwain gwlad. Llun gwron llawn o gariad—yn gyson A gawsom eu gweled, Luther fawr, hen gawr y gad— A ddygodd in' ddiwygiad.—G. o Fon. Wedi hyny, cynygiwyd diolchgarwch i'r cad- eirydd gan Mr. Thomas, y gweinidog, a char- iwyd ef yn unfrydol. Er yr elid i mewn drwy docynau swllt, eto, ciedwn y rhoddai lawer un o'r gwrandawyr swllt arall am ei chlywed eto.—GOHEBYDD. CYDWELI. Capel Sul.-Nos Lun, cafwyd darlith yn y capel uchod gan Mr. William Thomas, Bangor, ar Ddirwest. Yr oedd aelodau Teml "Gfan- gwendraeth" yn teimlo yn llawen i gael y fath hen Veteran cadarn i amddiffyn a dadleu eu hegwyddorion. Dysgwyliwn i'r fath res- ymau argyhoeddiadol gael dylanwad daionus yn y dref, yn gystal ac ar y gyaulleidfa dda oedd yn nghyd. Yr oedd yn dda genym ddeall y cawn ei glywed eto yn fUan. b Cad- eiriwyd yn ddeheuig gan y Parch. H. Curry, (W.); a siaradwyd gair gan y Parchedigion D. G. Owen, (M.); a W. C. Jenkins, gwein- idog y lie. Nos Fawrth, cafwyd Cyngherdd anrhyd- eddus yn Pinged Hill School, pryd yg wasan- aethwyd gan amryw gautorion o'r lie hwn— Caerfyrddin a LlaueUy. Yr oedd cynulleidfa dda yn nghyd. Masnach y Me.—Marw iawn ydyw yn bre- senol. Cawsom golled fawr drwy safiad y gwaith tin-eto mae gwawr. W. C. J.