Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YMYLON Y LLWYBRAU.

EGLWYS .ANNIBYNOL SAESONIG…

News
Cite
Share

EGLWYS ANNIBYNOL SAESONIG ABER- YSTWYTH. MR.. GOL. Daeth i'n llaw y dydd o'r blaen adroddiad blynyddol o weithrediadau yr eglwys uchod, yr hwn a ddengys nad yw wedi bod na segur na diffrwyth yn y flwyddyn sydd wedi myned heibio. Y peth cyntaf a geir ynddo yw anerchiad maith a phwrpasol gan y Parch. T. A. Penry, y gweinidog, yr hwn sydd yn dangos fod ei awdwr yn ddyn o feddwl craffus a chlir, ac hefyd yn fugail ag sydd yn gwir ofalu am braidd Duw. Gobeithio y bydd i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer, ac erhyn hyn wedi ei gael i'w dwylaw, ei ddarllen drosodd a throsodd, a chymerya i fyny ei awgrym- iadau doeth a gwerthfawr. Derbyniwyd pymtheg i gymundeb yr eglwys yn ystod y flwyddyn, yr hyn sydd yn ei gwneud yn 65 0 nifer; a dangosir ei bod yn cynyddu yn gyson oddiar 1873. Rhifa yr Ysgol Sabbathol 112, ac y mae ei bod mor Inosog o'i cbymharu â. rhif yr eglwys yn galonogol iawn; oblegidlle mae Ysgol Sabbathol fywiog a lluosog yn y presenol, mae lie i obeithio am gynulleidfa ac eglwys gref yn y dyfodol. Gwelwn fod y Dosbarth Beiblaidd, yr hwn sydd yn cael ei gynal ar noson waith bob wythnos yn ystod misoedd y gauaf, yn bur flodeu- og a llewyrchus yn y lie, canys dywedir ei fod yn 30 o rif y tymor diweddaf. Gwnai y dynion ieu- ainc hyny a ddichon fyned i'r coleg, neu i rai o ysgolion gramadegol y dref, i barotoi ar gyfer y weinidogaeth, yn dda i ganlyn hwn yn gyson. Byddent yn sicr o dderbyn adeiladaethfawr ynddo, gan fod Mr. Penry, yr athraw, yn un o'r dynion mwyaf goleuedig ei ddeall a chrefyddol ei ysbryd. Cyfanswm ycasgliadau, gyda'r eithriad o'r hyn a wnaed at y colegau, yw j6513 Is. 2kc. Dei4gys y ffaith fod eglwys o 65 wedi gwneud cymiaint gwm mewn blwyddyn o amser fod gan y bobl galon a gallu i weithio; a chofier nad oeddynt yu ■" -I gwneud yr hyn a eiwir yn extra effort y flwyddyn ddiweddaf, canys mae yr adroddiad yn dangos eu bod wedi gwneud £5,620 oddiar 1866 Lyd yn bresenol, yr hyn sydd yn rhoi cyfartaledd blyn- yddol o X468 4s. Da. genym fod y casRliadau wedi cyrhaedd swm uwell y flwyddyn ddiweddaf nag y gwnaetkant erioed o'r blaen. Byddai yn dda genyf wneud sylw manylach o'r adroddiad, ond rhaid ymatal gyda dymuno pob llwydd i't eglwys weithgar hon a'i gweinidog Syddlon. SYLWEDYDD.

ADOLYGIAD

CERYGYDRUDION.