Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YMYLON Y LLWYBRAU.

News
Cite
Share

YMYLON Y LLWYBRAU. MB GdL. Yr wyf yn bwriadu sylwi ar bobpeth a welaf yn ymylon fy llwybrau, ac anfonaf air aim danynt i'r CELT—beth bynag welaf, glywaf, neu ddarllenaf, os cM 16 i gredu eu bod yn dderbyniol gan ei ddarllenwyr. Yn ymyl fy llwybr heddyw mae y Dysgedydd am Mai. Mae y rbifyn hwn yn hynod o dda. Dywed rhywun, A ydyw y Dysgedydd ddim yn dda bob mis ? Mae ambell rifyn yn rhagorol lawn, ac ambell rifyn yn weddol. Mae rhifyn Mai yn l'hagorol. Mae yr ysgrif gyntaf, "Enwog- ion y Pulpud," gan Dr. Thomas, Stockwell,—sef Caleb Morris, hanes ei fywyd, ac ychydig o'i nod- weddion fel pregethwr, yn wir dda, fel ag y mae pobpeth o dan law y gwr galluog o Stnckwell gynt. Cyfieithiad ydyw yr ysgrif -cyfieitbind ystwyth a darllenadwy iawn. Mae y Dr. yn dibenu ei ysgrif trwy ddweyd ei farn am Caleb Morris fel pregethwr, a chan mai Cymro oedd Caleb Morris, ac y gall fod ambell un o ddarllen- wyr y CELT heb weled y Dysgedydd, ni ddyfynwn ei eiriau h Yr wyf wedi clywed rhai o brif bregethwyr y ganrif bon-wedi gwrandaw Cbalmers a'i hyawdl- edd cynbyrfus fel swn dyfi'oedd lawer. Ciy-vais Irving; do, gwelais ef yn sefyll yn y pulpud yh ei wylltineb urddasol, gyda lly°-aid seraphaidd wedi ymsefydlu ar yr Anweledig, tra y deuai allan o'i wefusau mewn tonau melodaidd frAw. ddegau caboledig dwys a difrifol, megys cerdded- iad angel—brawddegau-a pha rai y lluchiai ei feddyliau ofnadwy i ganol ei g\nulleidfaoedd syn- edig. Yr wyf wedi elywed Jobn Harris gyda'i bregetbau perffeithiedig yn cael eu traddodi gyda ei ddiFgymadau mclusion ac yr wyf wedi clyw- ed Melville gyda llais traddodiad, ac ystum yr areitbiwr perffaith, yn traddodi mewn rheitboreg resymiadol; ond ni chlywais neb erioed yn agos at Caleb Morris mewn gallu i ddylanwadu ar yr boll enaid yn ei holl amrywiol alluoedd, ac i wneud y Beibl yn ddatguddiad byw gwirioneddol i ddynoliaeth. Ni chlywais erioed weddiau o'r pulpud fel yr eiddo ef. Ffarwel, enaid mawr ni welais ac ni chlywais neb arall fel tydi. Yn fy myd hychan i ni ymddangosodd ond un Caleb Morris. Y mae angeu wedi dy ddwyn o'm golwg, ond yr wyf yn dy ddal eto yn fy nghof. Heddwch i'th fedd yn hen Gymru, gwlad ein tadau." Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i Mr. Williams am ei chyfieithu a'i hanfon i'r Dysgedydd. Israeliad yn Wir." Pregeth angladdol i Mr. Anthony Harrison, Nanerch ydyw hon, a dra- ddodwyd gan y Parch. T. Roberts, Wyddgrug, ac a gyboeddir ar gais cyfeilJion Mr. Harrison yn y Dysgedydd. Dau sylw sydd gan y pregetbwr, ac y mfient yn naturiol yn y geiriau :—I. Nodwedd- ion cymeriad Nathanael. Yn II. Enw newydd Nathanael—Israeliad yn wir. Mae yn gyfansodd- iad cryf ac ystwyth. Adgofion o bregeth y diweddar Barch. L. Powell, Caerdydd, gan y Parch. J: Davies, Tai- hirion. Mae bon wedi ei hyserifenu yn null yr hen batriarch anfarwol o Gaerdydd o draddodi, ac y mae yn ddarlnn byw o'i nndwedd A ydyw Mr. Davies ddim yn cofio ycbwaneg o'i bregeth- au ? Byddai yn werthfawr eu cael. Dyledswydd dyn tuag at y creadur direswm, gan Amo. Pregeth dda ydyw hmi ar eiriau Solomon Y cyfiawn fydd ofalus am fywyd ei anifail, ond tosturi yr annuwiol sydd greulawn." Pa un bynag ai ysgrif ai pregeth ydyw, y mae ynddi sylwadau rhagorol, a gallai ei darllen fod yn lies mawr i'r rhai sydd yn greulawn a didosturi wrth y creaduriaid afresymol. Dibena ei ysgrif trwy ndrodd hanesyn am gerydd llym a roddodd y Parch. L Powell, Caerdydd, i yrwr cerbyd pan oedd Mr. Powell yn myned gydag ef o Gaerdydd i Bryste. Yr ydym yn meddwl na allwn wneud dim yn well ntl'i ddyfvnu yma:— Unwaith ymdeitbiai ar yr hen stage coach o Gaerdydd i Bristol. Eisteddai wrth orhr y driver, ac yr oedd hwnw fel llawer o'i wehylith yn ddyn dibris iawn Curai yr aiaifeiliaid yn ami, a tbyngai yn y modd ercliyllaf. Teimlai Mr. P. nes yr oedd ei wyneb yn welw. Gofyriodd y driver iddo beth oedd yn ei flino. 0 Mr. Driver,' ebe yntau, y mae Mr. P. wedi meddwl llawer am yr horses heddy, odi siwr. Ceffyl da odi George, Ïe siwr un gwycb iawn odi Farmer; a miirfarh dda iawn oil Bess ond mae Mr. P. wedi meddwl llawer iawn am Jack. Ceffyl piwr odi Jack; mae Jack yn scholar, odi siwr, yn clas- sical scholar, odi siwr. Fe glywodd Mr. P. Mr. Driver yn gwed, Go darro fe, ac ar wn i, Lladin odi byny; ond siwd bynag am hyny, yr oedd Jack yn eoro'i glust at y Lladin. Fe glywodd Mr. P. Mr. Driver yn gwed, Go darppo fe, ac ar wn i nad Groeg odi hyny ond siwd bynag am hyny, yr oedd Jack yn coco'i glust at y Groeg. Qnd mae Jack yn Gymro hefyd, odi siwr. Fe glywodd Mr. P. Mr. Driver yngweud, Go, d-m-o r ,w fe, ac rown i'n gwybod mai Cymraeg oedd hyny. Yr oedd Jack yn coco'i glust at y Gymraeg, oedd siwr. Peth ofnadwy odi d—m—o, ddyn. Hoffa Mr. P. ddim gweled damo ceffyl. Peth ofnadwy odi hyny." Ni raid dweyd yr eifeithiau a ddilyn- odd y cerydd. Yn Nodiadau y Mis," ceir sylwadau taraw- iadol ar Weinidogaeth Angeu, y Blaid Doriaidd, Gweledyddion a'r Dwyraiu, Oongl yr Ysgol Sab- bathol, &c. Ceir y Dysgedydd yn gyfoethog iawn o bethau buddiol, a dylai ei dderbynwyr fod yn llawer iawn o rnloedd. Eto, yn ymyl fy llwybr gwelaf heddyw yr ARWEINYDD ANNIEIYKOL, pris ceiniog, cyhoeddiad misol dan nawdd Undeb Annibynol Cwm Rhondda, a golygiaeth y Parchn. B. Davies, Treorci, a D. Evans, Pentre. Hwn ydyw yr ail rifyn. Well done Undeb Annibynol -Cwm Rhondda. Dyma Undeb yn gwneud rhyw- betb. Clywsom son am Undeb mawr yn myned i wneud rhywbeth mawr i bwrpas, ond nid oes dim llawer wedi dod i'r golwg eto. Beth bynag, dyma Undeb bach Cwm Rhondda yn cyhoeddi yr Arweinydd Annibynol. Ni chawsom y fraint o weled y rhifyn cyntaf, ond clywsom rai yn ei ganmol. Ilhaid ei fod yn dda. Pa fodd bynag daeth hwn i'n llaw yn ffodus iawn, ac yr ydym yn falch o hono. Ei arwyddair ydyw, Ffyddlondeb, Prydlondeb, a Gonestrwydd." Anmbosibl cael gwell. Ei gynwysiad am y mis bwn ydyw,—Dychweledigion Ieuainc yr Eglwysi, Trem ar y Byd, Penod yrEsboniwr—A fu yr angylion syrthiedig yn ynefoedd, Caniadaeth y Cysegr, Byrgofiant y Parch. John Elias, Penarth Cyfarfodydd Misol yr Undeb, Tasg i ddeiliaid yr Ysgol Sabbathol, Atebion i'r Tasg, Barddoniaeth. Papyr ydyw yr ysgrif gyntaf a ddarllenwyd gan y Parch. T. G. Jenkin, Llwynpia, ar Ddychweledig- ion Ieuainc yr Eglwysi. Mae hwn yn hynod dda. Ceir ynddo sylwadau amserol iawn. Mae yn ddiamhen nad ydyw dychweledigion ieuairic yr eglwysi ddim yn cael y sylw a'r gofal a ddylent gael. Byddai ymdrechu i wneud yr hyn a nodir allan yn y papyr hwn yn debyg o wasanaethu i gyrhaedd yr amcan teilwng hwn. Trem ar y byd." Rhyw bird's-eye view.ar y byd ydyw yr ysgrif hon. Penod gywrain iawn ydyw Penod yr Esboniwr, ac y mae yn sicr o greu ysbryd tym- chwilio a barnu drosto ei hun yn y darllenjydd, Wrth edrych ar faint yr Arweinydd Annibynol yn gyferbyniol a. rhai o'r un bris ag ef, rhaid ini ddweyd fod y quantity yn fach, ond mae y quklity yn rbagorol ynddo ac y mae yn sicr genym, os dalia y quality yn gystal yn y dyfodol a'r rliifyn hwn, caiff y gylygwyr a'r cyhoeddwr ddig6n o dderbynwyr, fel y galluogir hwy i roddi mwy o quantity. PEKERIN.

EGLWYS .ANNIBYNOL SAESONIG…

ADOLYGIAD

CERYGYDRUDION.