Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MERTHYR TYDFIL.

BREUDDWYDION GOL. "Y CELT"…

LLONGYFARCHIAD I'R " CELT."

News
Cite
Share

LLONGYFARCHIAD I'R CELT." MB. GOL.,— Yr wyf yn teimlo dyddordeb mawr yn y ffaith fod papyr mor obeithiol a'r CELT wedi ymddangos. Er nad wyf yn perthyn i'r un enwad a'i Olygydd galluog, yr wyf wedi bod yn edmygydd o egwydd- orion a thalentau ysblenydd S. R. am lawer o flynyddau. Ni anghofiaf byth ei erthyglau gor- gampus ar "Religious Bequests" yn yr Evan- gelical Magazine, dros ddeugain mlynedd yn ol. Cafodd ymresymiad yr erthyglau hyny effaith hyd heddyw ar fy ngolygiadau mewn cysylltiad & rhyddid cydwybod, fel y mae yn perthyn i gyf- reithiau gwlad. Y mae cymaint o ysbwrial a ffwlach yn myned allan o'r wasg y dyddiau hyn, fel y byddai yn gaffaeliad i un papyr o chwaeth, athrylith, rheswm, a chrefydd yn ei grym, ym- ddangos. Hyderaf y bydd cylchrediad teilwng o S. R. a J. R. i'r CELT. BnoDoR GLAN GWY.

[No title]