Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

MERTHYR TYDFIL. MB. GOLTOYDD,— Gwelaf fod eich gohebydd oddiyma yn fy ngalw i order iitn yr vchydig eiriau a anfonais i'r CELT am y 3ydd cyfisol o barthed i'r Pwyllgor Anghyd- ffurfiol a'r Ae\od Seneddol bwriadedig. Fe ddichon y bydd yr ychydig eiriau canlynol yn ddigon o eglurbad ar y mater. 1. Nid wvf wedi cael fy nghamarwam na'm eamhyfforddi ar y mater. Yr wyf yn dygwydd bod mor hysbys o'r pwnc fel n-as gallaf gael fy ngbamarwain. Yr oedd y pwyllgor a weithiodd yn amseretholiadau Mr. Richard yn cael ei wneud i fvny mewn rhan fawr o weithwyr dylanwadol, ond nid wyf wedi cael ar ddeall fod un o'r cyfryw yn perthyu i'r pwyllgor a ddewisodd Mr. James. Y mae y pwyllgorau wedi colli yrelfen boblogaidd hon, ac wedi myned yn glique sectyddol; a hyn sydd vTi gwneud i fyny y perygl: 2. Er's ychydig flvnyddau yn ol, gwrtbododd y Pwyllgor Anghydffrarfinl Mr. James fel un o'r wyr > Bwrdd Yasrol. Gweithiasant a'u hoi • eetn- vn ei erbyn. Siaradent yn ddirmygus am dnno:1 thaflagant ef allan o'r Bwrdd fel ysgymun hpth Ond yn awi1, wele yr un pwyllgor ynvstyvied yn bwyllog fod y boneddwr hwnw a ystyrid yn anshymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd Ysgol yn gymwys i fod yn Aelod Seneddol. tra nad vdyw wedi cyfnewid dim yn ei farn ar y pwnc y gwabianiaethent yn ei gylch. Y mae llawer o bwyllgorau wedi eu twyllo yn ystod y blynyddau diweddaf obarthed dychweliad dynion yn Aelodau Seneddoi, wrth ymddiried gormod yn eu nertb a'u dylanwad, ac ymddwyn yn sarbaus tuag at y dosbarth gweithgar, yr hyn, dybiwyf, y rn ar, v pwyllgor hwn wedi bod yn euog o hono wrtli an wybvddu y dosbarth gweithgar yn newisiad Mr. James. Nid wyf yn tybied Syr, fy mod wedi pechrt yn fawr wrth osod y Pwyllgor Anghy'tffnrfi'M bwn ar eu gocheliad yn y mater dan sylw, Ydwyf, gyda dvmuniad da i'r CELT, Yr eiddoch, SAMGAB. a .r ——• ■ r [ CAPEL SION, GER PONTYBEREN. IFITT GOL., > ,I Dywenydd oedd gan amryw frodyr yn y lie uchod weled gwyneb cyhoeddiad newydd perthyn- 01 i'n henwad yn gwneud ei ymddangosiad yma. Nid oedd yr un perthynol i ni yn dyfod yma er's llawer dydd. ond daeth y CELT yma drwy:Mr. J. M. Henry, myfyriwr yn Ngholeg y Bala a ehred- af'y bydd yma luaws yn fwy yn ei dderbyn yn fuan iawn nag sydd yn gwneud hyny eto. Gan y credaf y bydd yn dda gan lawer fu yn perthyn i'r eglwys yma, ond sydd weithian yn wasgaredig. gael gwybod sut y treuliasom ein ewvliau y Groglith, os bydd gwiw genych chwi, Mr. Gol., cant wybod hyny drwy gyfrwng y CELT. Erbyn 12 o'r gloch y bore yr oedd lluaws o drigolion yr ardal wedi ymgasglu i'r capel newydd (yr hwn nid yw eto wedi ei gwbl orphen), i'r dyben o wrando ar y plant yn adrodd a chanu; a'r teimlad oedd wedi gorphen, mai nid yn fynych yceir y fath wledd. Canwyd amryw ddarnauo « Swn y Jiwbili," yn nghyda Shon Dafydd," 0 Ganidon y Gerddor, yn swynol dros ben gan gor y plant, o dan arweiniad Mr. Thos. Griffiths, Felinowm. Llywyddwyd yn gampus gan Mr. Joseph Henry, Drefach. Wedi cwbl orphen yn y capel, ffurfiwyd yn orymdaith, ac aethpwyd i lawr hyd Closisaf.—golygfa na welwyd ei bath yn y lie hwn yn nghof neb sy'n fyw, mae'n debyg y baneri yn chwifio, a'r ribbons wrthynt yn chware fel cynifonau mellt. Dyben yr ymweliad a'r He a nodais oedd rhoi tro heibio ein chwiorydd sydd yno yn ngafael afiechyd er's llawer dydd. Er- byn cyrhaedd y lie, yr oedd yno gyflawnder o "biscuits a phethau melusion yn cael eu rhanu yn ddidoll rhwng y plant. Wedi derbyn pob caredigrwydd yno, a chanu t6n neu ddwy, aeth- pwyd rhag blaen. Canwyd t6n ar gyfer yr hen wr dall Wm. Treharne, Clunystyn. Oddiyno heibio'r Drefach yn ol tua'r capel. Erbyn cyr- haeddyd yno yr oedd rbyw ddwsin neu ddau o wragedd a merched ieuainc yn ein harwain yn mlaen i gael eystal pryd o de ag a archwaethodd Cymro erioed, o'r hwn y cyfranogodd dros dri ehant. Wedi gwneud ein rhan yn'„ogoneddus yn y fan h6no, aethpwyd i gae cyfagos, perthynol i Mrs. Morgan, Myrtle Cottage, i'rhon y mae ein diolchgarwch yn ddyledus am ei hymdrech diflino gyd&'i haelioni tuag at waith y dydd. Yno y ;t, buwyd am awr a haner yn difyru ein hunain yn y modd gorcu allasem. Tua chwarter wedi chwech tynwyd y lleni dros y scene b6no, ac aeth- pwyd yn ol tua'r capel drachefn. Yrrn yr oedd cor y lie yn barod i waith, bob un ar y stage wnawd i'r pwrpas, heb angen i neb symud o'i Ie hyd ddiwedd y cwrdd. Y Parch. Mr. Evans, ein gweinidog, yn y gadair, yr hon a lanwodd yn ei ffordd fyr, ond hynod bwrpasol, ei hun; torf an- arferol o fawr o wrandawyr astud a boneddigaidd. Heb un ddadl, dyma'r cyfarfod llenyddol goreu a gawsom erioed. Canwyd unarddeg o ddarnau corawl, a chafwyd y fath amrywiaeth yn y rhan adroddiadol, oil o ba rai oeddynt o nodwedd foes- ol ac adeiladol, fel y cadwyd y dorf fawr oedd yn nghyd mewn llawn hwyl a bias am dros ddwy awr. Felly, os ydyw masnach yn farwaidd yma, chwi welwch fod cerdd a lien yn eu llawn hwyl- iau. Y mae yr Ysgol Sabbathol yma'n bresenol mewn cyflwr gobeithiol a bywiog iawn. Credaf fod a fyno y turn out y Groglith a'r diwygiad sydd i'w ganfod arni. Rhag ei blaen yr elo. DAROG. DIRWYO MEDDWON. MR. GOL; Yr wyf yn hollol yr un farn a chwi, bod y llwybr presenol yn hollol aneffeithiol, a gwaeth na diles. Pa fodd mae eu diwygio? Pwnc an- hawdd ,yw. Diwygiodd Dr. Price, M.D., ddiogyn gwreiddiol, yr hwn oedd ar y clwb neu'r plwyf y rhan fwyaf o'i amser. Galwodd y Relieving Officer gyda'r Dr. un diwrnod er myned i weled Twm. 'Does aim ond diogi ar y gwr drwg," meddai'r Dr. Awd i ymweled a'i wraig a'i bum plentyn. Cafwyd Twm yn sal iawn, a dywedodd y Dr., "Dim ond un prawf, ac os metha hwnw rhoddaf ef i fyny." Blistrodd ef oil drosto ond ei draed o'i ddwylaw, fel y gallasai wneud defn- ydd o'r rhai hyny, a dywedai fod yn rhaid gwneud hyny ddwy waith o'r bron. Cyn yr ail rldirgroeniad yr oedd Tom wedi myned i'r level o'r golwg; ac- ni chafodd na phlwyf na chlwb ofidoddiwrtho ef, na'i wraig, na'r plant yn chwaneg. Beth wnelai goruchwyliaeth felly ar y meddwyn, wys ? Bydd- aiyn burion ei blistro bob tro y ceid ef wedi meddwi. Torcefn. D. DAVIBS, A.T. OOf ABRAHAM YN ABERTHU ISAAC. AT MB. EDWARDS (IOIWERTH LLANDILO). SYR,- Y mae genyf fartt uchel am danoch fel esbon- iwr a phregethwr, ond yn eich pregeth yn Jeru- salem, Gwynfe, Mai 5, dywedasoch ddau beth nad wyf yn credu fod genych ysgrythyr i'w profi:— 1. Fod Isaac yn ddeg ar hugain oed ar y pryd, oblegid fod Daw yn ei alw yn "llanc." 2.*Mai yr un ydyw Moriah lie y ba Isaac ar yr allor ag ydoedd Calfaria, lie y bu Mab Duw ar y groes. Hoffem i chwi brofi eich gosodiadau trwy gyfrwng y CELT. Ydwyf, &c., Y LLANC. AT Y PARCH. S. ROBERTS, A.C. BABCH. SYK,— Fy rheswm dros gyfeirio yr isedion i'ch sylw yw, fy mod yn credu eich bod yn ddigonol a galluog i'w hategu a'u hegluro; ac os gwnewch hyny mewn cyswllt a hynyma, teimlaf yn wir ddiolchgar. Dywed Dr. TT. Rees, Abertawe, yn ei History of Nonconformity in Wales," tudal. 215, os wyf yn cofio yn iawn, fod tai wedi eu trefnu a'u cof- restru fel lleoedd i addoli yn y Drefnewydd, Trefeglwys, Llanbrynmair, Braggington, Llan. fyllin, Pantmawr, a Hirbryd. Fy ymofyniad yn awr yw, Yn mha le y mae Braggington, Pant- mawr, a Hirbryd? Ac hefyd, Yn mha le yn mhlwyf Trefeglwys yr oedd t9' wedi ei gofrestru i addoli, a pherthyn i ba enwad ? Neu, a oedd yr eglwys yn gymysgedig o Fedyddwyr ac Annibyn- wyr yn y lie hwnw? Cael eich nodion ar y materion hyn a fawr foddlona, Yr eiddoch, RIIO ETA. [Nid wyf yn sicr y gallaf ateb gofyniadau Rho Eta yn llawn ac yn eglur ar hyn o bryd, ond dichon y gall rhyvN gyfaill wneuthur hyny drwy gyfrwng y CELT. Arweiniai gofyniadau eraill Rho Eta i dda dleuon ag y byddai yn well gan y CELT eu b'ysgoi.—GOL.] HYNAFIAETHAU. Mja. GOL. Mae yn dda genyf weled y pwnc uchod yn clj^od i fwy pwysigrwydd y dyddiau hyn nag y bu; aft y mae y dyddordeb a gymer ieuenctyd ein gwlad yn y gangen lion yn argoeli yn dda am y dyfodoL Nis gall dim fod o fwy dyddordeb nag ymgydnabyddiaeth Alr hen oesau, ac arferion y bobl yn yr oesau hyny. Ac y mae gwylio y cyf- newidiadau a wneir o oes i oes, yn un o'r pethau mwyaf cydweddol a meddyliau dynion chwaethus a llygadgraff. Da genyf fod staff y CELT yn cynwys hynaiiaethwyr galluog; ae fel un o'u hedmygwyr, a fyddai yn ormod i mi ddeisyf arnynt roddi un golofn o'r CEm at wasanaeth hynafiaeth- wyr ? .Gwn fod llawer heblaw fy hun yn awyddua am y poth, a chan fod bron holl newyddiaduron ein gwiad yn ddiffygiol yn hyn, buasai rhoddi un golofn. o'r CELT i'r hynafiaethydd yn sier o fod yn foddion i ledaeniad helaethach o bono. Nis gwn am neb cynihwysach at y gwaith iiar eyfeillion parchedig sydd wedi ymgymeryd a'r anturiaeth o'i gyhoeddi, ac yr wyf yn sier y buasai brodyr galluog eraill yn ei theimlo yn anrhydedd rhoddi help liaw iddynt. RHYS J. Huws, (Gwesyn Dyfog). British School, Llanbrynmair.

BREUDDWYDION GOL. "Y CELT"…

LLONGYFARCHIAD I'R " CELT."

[No title]