Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

- TREM AR aWRS Y BYD.

CELL CYFBAITH Y CELT.

ABERTAWY.

News
Cite
Share

ABERTAWY. Cymanfa Gerddorol y Methodistiaid. Cynhal- iwydy Gymanfa uchod ddydd Llun. Mai 13eg, yn y Music Hall, am 10-30, 2, a 6 o'r gloch. Daeth yn nghyd tuag un-cant ar-ddeg o gantorion o'r capeli canlynol-y pump dosbarth, sef o bump-ar-hugain o gapeli yr enwad—1 Trinity, Crug-glas, Babell, Glandwr, a Hebron; 2 Tre- forris, Plasmarl, Treborth, Llangyfelach, a'r Vardre; 3 Ebenezer, Birchgrove, Pentredwr, Cwm, Bethlehem, a Maesybar; 4 Pontardawy, Ystalyfera, Cwmtwrch, Cwmgiedd, a'r Ynys; 5 Goppa, Casllwchwr, Gawer, a'r Road. Llyw- yddwyd y Gyfarfodydd gan y Parch. D. Saunders, ac ar yr esgynlawr yr oedd y Parchedigion D. Phillips, W. S. Davies, W. Williams, W. Jones, J. Edwards, D. Evans, J. Thomas, J. Williams, Abertawy; D. Hughes, Ynys H. T. Stephen, Neath; J. H. Jonas, a J. Richards, Llansamlet; Moses Thomas, Resolven, a W. Griffiths, Vardre, heblaw lluaws o foneddigion o'r gwahanol eglwysi. Dechreuwyd trwy i'r cadeirydd siarad ar amean a dyben y Gymanfa Gerddorol. Wedi hyny canodd y cantorion o dan lywyddiaeth Mri. Silas Evans, Abertawy; John Watkins, Tre- forris, a John Thomas, Llansamlet, Trefdeyrn, Palestina, Olmutz, a Croeso i bawb a ddel," 0 Swn y Jubili yn bur effeithiol. Er mwyn i'r cantorion cael eu hanadl atynt, cafwyd anerch- iad gan y Parch. W. Williams, Argyle, yr hwn a ddywedai, er nad oedd yn deall canu, ei fod yn teimlo y canu yma yn toddi ei galon i fwy o ysbryd addoli. Ar ei ol siaradodd y llywydd yn rhagorol dda fir ganu Salmau, cyn canu Salm 23—bod rhagfarn mewn rhai crefyddwyr yn erbyn chantio am fod yr Eglwyswyr a'r Pabyddion yn gwneud. Chwalodd yr hen syniad yna i'r pedwar gwynt, gan mai y ffurf gyntaf oedd genym ni o canu oedd chantio y Saimau, rhywbeth yn debyg i hynyna oedd Dafydd ac Asaph yn ei ganu, a bod rhai cynnlleidfaoedd yn Scotland yn awr n ad ydynt yn canu dim ond y Salmau yn unig. Yna chantiwyd y Salm uchod yn fendigedig; a chanwyd Y mae gorphwysfa eto'n ol" yn rhagorol. Anerchiad eto gan yr Hybarch D. Hughes, Ynys, yn fyr a phwrpasol iawn. Can- wyd Ardudwy, Aeron, Mary, Hosansi, a Cuddia: dy ofid," o Swa y Jubili. Felly terfyawyd cyf- arfod y boreu. Ychydig wedi dau, dechrenwyd y cyfarfod hwu trwy weddi (ond fe anghofiwyd y weddi yn y bore) gan y Parch. M. Thomas, Be- solven. Wedi hyny canwyd Llangeitho, Beth- esda, a Dwfr y bywyd yn rhad," allan o Swn y Jubili. Anerchiad gan y Parch. W. Griffiths, Vardre. Gwnaeth sylw neillduol ar y canu ar dwfr y bywyd. Yr oedd ei araeth yn wir dder- byniol. Y nesaf a gallwyd oedd Liverpool, Salm 114, Bethel, a'r Requiem, gan Alaw Ddu, sef yr anthem ar ol yr ant'arwol Ieuan Gwyllt. Aethpwyd trwy hon gyda theimladau tyner a brawychus nes tynu dagrau o ugeiniau o lygaid. Gwnaeth y llywydd rai sylwadau llym ar yr enw requiem taw enw oddiwrth y Pabyddion ydoedd, a'u bod hwy yn canu ton o'r enw uchod yn y Mass dros eu meirw, a gobeithiai y newidid yr hen enw cas yna oddiwrth gysylltiad ag enw y duwiol a'r anfarwol Gwyllt i hiraethgan, galar- gan neu ryw enw arall. Dywedai mai blwyddyn i heddyw y bu farw, ac na wnaeth neb o ddyddiau Charles o'r Bala hyd yn awr fwy dros yr Ysgol Sabbathol nag ef, &e. Wedi hyny canwyd Llan- armon, Tyn am y lan," o Swn y Jubili. Eto anerchiad gan y Parch. W. Jones, Llansamlet, hynod effeithiol ar ddylanwad y Canu mown cynulleidfaoedd. Eos Morlais oedd y nesaf i siarad mewn modd beirniadol ac addysgiadol. Dywedai bod y canu ar y cyfan yn rhagorol dda; ond nad oedd y sylw priodol wedi ei roddi i'r alto, a gobeithiai y byddai i'r holl gantorion ar ol myned adref i ganu yn yr un amser ag oeddynt yn wneuthur yn y cyfarfodydd yma. Cyn diweddu y cyfarfod prydnawnol canwyd yn dra grymus ac effeithiol Aceravon ac Abertawe. Cyfarfod yr hwyr. Dechreuwyd trwy weddi gan yr Hybarch. W. Jones, a chanwyd Mendel- sohn yn orfoleddus, awd dros y rhan ddiweddaf amryw weithiau nes gwefreiddio yr holl gynull- eidfa; ar ei hoi canwyd, "P'lebuost ti heddyw yn lloffa," o Swn y Jubili. Y nesaf oedd anerch- iad gan y Parch. J. Edwards, dyweaai nad oedd yn cyduno a phobpeth a ddywedwyd yn y pryd- nawn, ond ei fod yn gobeithio yr elai pawb. adref yn well pobl. Cafwyd awgrymiadau pwrpasol iawn ganddo i'r perwyl hyny. Yn nesaf canwyd yr hen anthem adnabyddus a rhagorol Duw sydd noddfa;" ar ei hoi Mount Street, Glan Rhondda, a'r- Salm 48. Yna galwyd ar y Parch. W. Richards, Llansamlet, i anerch y cyfarfod, yr hwn a ganmolai y canu yn fawr, a gobeithiai y byddai yr oil o honynt yn canu yn y wynfa well. Yna canwyd y Regium Gynulleidfaol, gwaith J. Parry yn fawreddog dros ben, aDolwar, a "Goleu yn y glyn," o Swn y Jubili. Yna anerchiad byr a bywiog anarferol gan y Parch. D. Phillips, yr hwn a roddodd ganmoliaeth uchel i'r cantorion am eu bod wedi cadw allan o'r llefydd lleidiog, sef y tai tafarnau trwy y dydd, ac heb olion cwrw ar neb o honynt. Mae yn dda genyi glywed bod yr holl eglwysi wedi bod yn siarad a'r cantorion yn flaenorol, yn dymuno iddynt beidio myued i'r lleoedd llygredig yma; ac yn ol pob tebygolrwydd darfu iddynt ymgadw yn hollol oddiwrthynt— diolch i chwi am ufudduau i'ch blaenoriaid. I derfynu yr wyl ragorol hon, canwyd Gwahoddiad a Moab, yn dyner ac mewn teimlad dwfn. Mae Mri. Silas Evans, Watkins, a Thomas, er's mis- oedd wedi bod yn parotoi gogyfer a'r gymanfa, ac yr oedd yn gredit iddynt eu bod wedi cael cym- aint o gantorion yn nghyd, a chanu mor dda, fel y dywtdai Mr. Saunders ar ddiwedd y cyfarfod- ydd ein bod wedi cael canu bendigedig. Mae gallu a bywiogrwydd Mr. Silas Evans fel arwein- ydd canu yn hysbys bellach trwy holl Gymru, fel nad oes raid iddo wrth ganmoliaeth. Gellir dweyd am Mr. Watkins hefyd, ei fod yn un o'r dynion caredicaf a ddaethym o hyd iddo erioed, a pharod bob amser i wasanaethu crefydd, ac yn hynod o alluog a llwyddianus yn y cyich cerdd- orol. Nid wyf yn gwybod ond nesaf peth i ddim am Mr. Thomas. Hefyd gwnaeth swyddogion y gymanfa eu gwaith yn dda, yn neillduol y Parch. W. S. Davies, Crug-glas, yr hwn oedd yn actio fel ysgrifenydd. Gweithiodd lawer mewn amser ac allan o amser, er mwyn dwyn y gwaith allan i fuddugoliaeth, yr hyn yn sicr a wnaeth. Y maent yn golygu bellach ei chynal yn flynyddol. Llwyddiant trwyadl iddynt meddaf o waelod calon. GOHEBYDD.

Advertising