Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

- TREM AR aWRS Y BYD.

News
Cite
Share

O'M HAWYREN. I TREM AR aWRS Y BYD. MR. GOL. A DAELLENWIE,— Y mae llawer iawn o gyfnewidiadau yn eymeryd lie yn y byd. Y mae fel crochan berwedig. Y mae y dyddiau rhai'n yn ddyddiau ofnadwy. Bwriadaf, os caf fywyd ac iechyd, gymeryd sylw o rai o'r dygwyddiadau pwysicaf o wythnos i wyth- nos. Ac er cyrhaedd yr amean yna, yr wyf wedi pwrcasu awyren (baloon) new- ydd. A fuoch chwi mewn un erioed, Mr. Gol.? Os naddo, pe deuechy ffordd hon myfi a roddwni chwi wibdaith yn fy un i. Y mae y manteision o feddu awyren yn lluosog iawn. Wele i chwi rai o honynt. Rhwyddineb i deithio. Trwy hon yr wyf yn myned dros nentydd, afonydd, clog- wyni, creigiau, mynyddoedd, &c., heb un- rhyw anhawsder yn y byd. Mantais arall yw eangder golygfa. Cbwi a synech, Syr, faint ydwyf yn ei allu ganfod o hon ag un edrychiad-bro a bryn, dol a dyff- ryn, tref a gwlad, y cyfan oil. Peth arall yw iachusrioydd awyr. Yr wyf yn hon uwchlaw y tawch a'r niwl sydd yn eich blino chwi ar y llawr yna; a mwy na'r cyfan, tawelwch a seibiant. 0 mae hi yn dawel yma. Ond i ba beth yr af i ddech- reu enwi y bendithion ? Y gwir am dani y maent yn rhy luosog i mi eu henwi. Cofiwch mai awyren at wasanaeth y CELT yw hon, a bwriadaf deithio yn mhell ac yn gyflym os bydd pobpeth yn iawn ac yn ei Ie. Ac yr wyf yn eich tynghedu chwith- au i ofalu am le amIwg i'r Awyren yn y CELT, onide gwae chwi. Bwriadaf ymweled a gwahanol leoedd a gwledydd hefyd o ran hyny yn hon; a phobpeth gwerth sylw a welaf uc a glywaf, myfi a'i hanfonaf yna i chwi. Hwyrach, cyn bo hir, y d'of am dro tua Conwy a'r Bala; but you must he on the look out, oblegid os gwelaf fi rywbeth ma's o le gyda chwi, yr wyf yn rhwym o'i gyhoeddi i'r byd. Cofiwch hyn, nad oes dim cecraeth na difriaeth i fod o un math ar dudalenau y CELT, onide mi a ddeuaf gyda myfi yn fy awyren lu mawr o Bashi-Bazouks o Twrci, ac yr wyf yn sicr y bydd iddynt hwy wneud trefn arnoch oil yn fuan. and wrth ddweyd hynyna, cofiwch nad wyf am i'r CELT fod yn ddystaw pan y gwel drais, a gormes, ac anghyfiawnder. Na, dys- gwyliaf y bydd ei lef yn dyrchafu tua'r nefoedd fel rhuad brenin y goedwig, pan y gwel anghyfiawnder a thrais yn cymeryd He mewn unrhyw fan. Bfallai fod hynyna o ragyniadrodd yn ddigon ar y tro. Deuwn at waith y tro nesaf. Hyd byny, ddarllenydd, bydd wych.

CELL CYFBAITH Y CELT.

ABERTAWY.

Advertising