Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

JEarrhMtoshi), Set.

AT EIN GOHEBWYR.:

TELERAU Y "CELT."

[No title]

Y RHYFEL.

Y WLADFA GYMREIG.

News
Cite
Share

Y WLADFA GYMREIG. Mae darganfyddiadau daearyddol o gryn werth wedi eu gwneud o bryd i Ibryd gan y Gwladfawyr, ac y mae eu hadnubyddiaeth o Patagonia yn dyfod yn fwy bob blwyddyn. Mae eu hymdrechion i weled mwy o wlad amaethyddol wedi ei gorolli a mwy o lwydd- iant eleni, gan eu bod {wedi darganfod dwy afon fawr, dau lyn mawr, a dyffyynoedd ar- dderchog i wneud sefydliadau newyddion. Yr oedd yr Indiaid yn dweyd o hyd fod llyn mawr heb fod yn mhell o'r Wladfa. Cafwyd golwg ar hwn y llynedd, ond ni ar- chwiliwyd dim ar ei lanau. Eleni cychwyn- odd mintai tua'r De, gyda glan y m6r, yn y pellder amrywiol o ddwy i ugain milldir, i ar- chwilio gororau y llyn. Teithiasant am tua chan milldir mewn cyfeiriad Deheuol, a chroesant lawer o gymoedd yn arwain i'r mor, ac yr oedd mewn amrywiol fanau ffrydiau man a dyfroedd tardd, a'ù bias i gyd naill yn hallt neu yn fwnawl. Wedi croesi yr ucheldir, cawsant gymoedd yn rhedeg tua'r Gorllewin ar eu taith tua'r llyn ac mewn cyfeiriad De-orllewinol; caf- wyd mwy o ffrydiau a ffynonau, a'r dyfroedd oil yn beraidd a blasus. Wedi dyfod at y llyn, yr hwn a elwir gan yr Indiaid yn Colwapi, yr hwn a ddarganfydd- wyd gan rai eraill fisoedd yn ol, teithiodd y fintai hon gyda'i lanau nes dyfod at afon fawr yn ymarllwys id do, a elwir yr afon Sengel. Tybir nad yw y llyn yn ddwfn, a'i fod tua 18 neu 20 milldir o hyd wrth 10 o led. Wrth Vala, neu Ie ymarllwysiad yr afon, mae dyffryn mawr yn ymagor, tua 30 milldir o hyd wrth 30 milldir o led, o weryd amryw- iol, peth o'r priddyn yn ysgafn a pheth yn drwm, ac yn fan addas i wneud sefydliad cyffelyb i'r un sydd yn Nyffryn y Gamwy. Yr oedd yr holl ddyffryn wedi ei orchuddio a thyfiant mawr o laswellt—porfa ardderchog i anifeiliaid. Teithient i fyny hyd lanau y Sengel am rai dyddiau ar hyd ddyffryn yn amrywio o 1 i 4 milldir o led. Ar y tu deheuol i'r afon Sengel paith tèmog oedd i'w ganfod yn ymestyn can belled ag y gwelent, ond ar yr ochr ogleddol i'r afon yr oedd moelydd a mynyddoedd. Hefyd, ychydig o filldiroedd o'r llyn Colwapi yr oedd afon lydan, tua 200 Hath o hyd, yn ymarllwys i ochr ogleddol yr afon Sengel o lyn mwy na'r llyn Colwapi ond gan eu bod ar yr ochr ddeheuol i'r afun Sengel, yr hon oedd yn rhedeg yn chwyrn, nis gallent groesi i'r ochr ogleddol at y llyn mawr a'r afon fer, lydan, a newydd ei darganfod. Bwriedir myned atynt eto o'r Wladfa ar yr ochr ogleddol can gynted ag y gellir. Troisant yn ol gyda glan y llyn nes cyr- baedd yr afonig sydd yn rhedeg o hono, y Bengelen, yr hon a ddilynasant yn agos i'r man y mae hi yn ymuno a'r Gamwy. Mae yr afonig hon lawer yn llai na'r afon fawr sydd yn rhedeg i'r llyn Colwapi, a rhaid fod y dyfroedd yn darfed drwy darthiad, neu fod y ddaear yn llyncu'r dwfr, neu y mae afonig tanddaearol yn ei gario ymaith. Mae y Sengelen yn ymuno a'r Gamwy mewn lie gwyllt a rhamantus, cwm cul, llawn o glogwyni, ceunentydd, rhaiadrau, ac aruthr- edd, yr hyn oedd yn achos ei bod gyhyd heb ei darganfod. Mae pen uchaf dyffryn y Sengelen yn ymyl y llyn yn llawn llynoedd a chorsydd, ac o filldir i bedair o led, ac yn ddi- goed ond yn ei ranau isaf y mae gryn dipyn o ddrain. Ystyrir fod rhan fawr o'r wlad yn fwy addas i fagu anifeiliaid na dim arall; ond y mae dyffryn y Sengel yn lie rhagorol i bau, fel y tybir wrth yr olwg. Bernir fod y llyn tuag 20 milldir o'r mor, llai o ffordd nag sydd o Ddyffryn y Gamwy i'r Bau Newydd. Di- amheu y gwneir darganfyddiadau pwysig eto yn y cyfeiriad hwn ar ol cael yr allwedd i'r afon Sengel, a'r llynoedd uchod. Mae mwy o wenith wedi ei godi eleni yn y Wladfa nag a godwyd erioed. Buasai llawer o hono wedi myned yn ofer oni b'ai fod yuo beirianau. Gall holl gyfeillion a pkertbynas- au pobl y Wladfa yn y wlad hon ym,, ui-o. oy Mae y Gwylliaid llofruddiog a ddiangasant o Pentir Tywod wedi eu dal, ac yn ddyogel ddigon yn B. Ayres er ys misoedd. In ol pob golwg presenol, mae dyfodol mawr o flaen y Wladfa, ac y mae ei hanifeiliaid yn Iluosogi yn gyflym. MICHAEL D. JONES.

[No title]