Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
JEarrhMtoshi), Set.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
JEarrhMtoshi), Set. MASNACH YD. Ÿ mae y Farchnad Yd yn dra sefydlog y dyddiau hyn, fel nad oes fawr gyfnewidiad er yr wythnos ddiweddaf. MARCiHNAD LEBPWL, DDYDD MAWRTH, Mai 14. Arosai y farchnad yn sefydlog am y prisiau blaen- orol. MAECHNADOEDD CYMKEIGT. ABERYSTWYTH, Mai 6.—Gwenith o 7s Oc i 7s 9c y mesur; haidd, 6s Oc i 6a 4c ceirch, 3s 66 i 4s 6c; ymenyn ffres, 16c i 18c y pwys; dofed- nod, o 48 Oc i 5s Oc y cwpl; pytatws o 8s Oc i 8s 6c y canpwys. BANGOR, Mai 10.—Gwenith, o 47s Oc i 49s Oc y.chwarter; haidd, 33s Oc i 38s Oc; ceirch, 26s "0 i 30s 0c blawd ceirch, 36s Oc i 37s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Mai 4.—Gwenith, o 46s. Oc. i 49s. Oc. y chwarter; haidd, o 34s. Oc. i 38s. Oc. y chwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 29s. Oc. y chwarter; blawd ceirch o 35s. Oc. i 37s. Oc. y 240 pwys. GWBECSAM, Mai .9—Gwenith gwyn, o 7s 60 i 7s 9c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s 3c i 7s 90 y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 8c i 4s 6c y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, 6s 10c i 7s 2c y 38 chwart; eto, at falu, Os Oc i Os Oc; pytatws 58 6c i 5s 3c y 90 pwys; ymenyn ffres, o Is 4c i Is 5c y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 9!0 i lie y pwys; cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 4s Oc i 5s 6c y cwpl. CROESOSWALLL, Mai 8.—Gwenith o 7s 4c i 7s 10c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 6c i 4s 6c; pytatws, Os Oc i Os Oc y mesur o 90 pwys; ymenyn, 14c i 16c y pwys; ednod, 58 Oc i 6s Oc y cwpl. BHUTHYN, Mai 6—Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
AT EIN GOHEBWYR.:
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Gwell genym adael o'r neilldu yr adroddiad byr ar fedydd, am y gallai arwain i ychydig o ddadl. Bhaid i ni erfyn ar ein Gohebwyr o bob dosbarth ysgrifenu mor gryno ac mor gynwysfawr ag y gallant. Ar gychwyniad y CELT yr oeddym mewn pryder, dan ofn y byddai prinder defnyddiau, ond y mae yn gwbl wahanol. Y mae ein cronfa yn mwyhau bob dydd. Er cael lie i'r adroddiad- au oil, cymerer ychgdig o boen iddynt fod yn fyrion. MEWN LLAW. — Cyfandir Affrica — Arddull Cryno—Taith Robyn Ddu Eryri-Gwallgofrwydd meddwdod—Yr Iaith Gymraeg-Cyfarchiad i'r CELT—Darwiniaeth—Hunan-ddiwylliant—Barn Pagan am Ryfel-Gweithwyr Le'rpwl a'r Rhyfel. -Birkenhead, Penygroes, Tredegar, Bangor, &c. —Barddoniaeth amrywiol, &c., &c.
TELERAU Y "CELT."
News
Cite
Share
TELERAU Y "CELT." 1 drwy'r post am chwarter (talu yn mlaen) 0 1 6 2 eto eto 0 2 6 3 eto eto 0 3 3 4 eto eto 0 4 0 Os na thelir yn mlaen, pris 1 drwy'r post am dri mis fydd 1/9; 2 eto, 3/d; 3 eto, 4/3; 4 eto, 4/6. Ehoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. 0 Sylwer yn fanwl ar yr uchod. HYSBYSIADAU P ARHAOL. 1 fodfedd, 9c. y tro 2 fodfedd, 1/3 eto; 3 mod- ledd, 1/8 eto; yn ngbyda 4c. am bob modfedd ychwanegol. HYSBYSIADAU CYFFREDINOL. Y tri thro cyntaf 2c. yllinell 4 i 6 tro i|C. 7 i 10 tro lc. „ D.S.—Sysbysiadau Double Column dwbl y pris uchod.
[No title]
News
Cite
Share
Pob arian am y If Celt" i'w gwneud yn daladwy drwy cheques neu Post Office Orders i U. EVANS) Printer, Bala.
Y RHYFEL.
News
Cite
Share
Y RHYFEL. Dywedir fod ychydig o obaith eto am Gyn- hadledd Ewropaidd i benderfynu pwnc y Dwyrain drwy ymgynghoriad yn lie drwg ryfel. Mae Count Schouvaloff wedi myned ar neges at y Czar, meddir, i geisio ei ddarbwyllo fod buddiant Rwssia yn galw arno ildio i Ewrop gyfanswm yr hyn a ofynir gan Loegr, ac y mae tebyg- rwydd ei fod wedi llwyddo. Os felly, bydd cynhadledd yn cael ei chynal. Dy- wedir fod papyrau Rwssiaidd ag oedd yn cynhyrfu am ryfel yn awr wedi newid eu t6n, a haerant mai gwell i Rwssia yw cael heddweh. Mae'r cadlywydd Todleben wedi anfon at y Sultan ei fod am i'r Tyrciaid ymad- ael o'u cadarnfeydd yn Shumla, Varna, a Batoum; hefyd fod y byddinoedd Tyrc- aidd i ymadael o Maslac. Gorfodid ef i ofyn hyn fel maes-lywydd Rwssiaidd, o herwydd ei sefyllfa filwrol, ac hefyd i'r Rwssiaid gael meddianu Buyukdere. Nid yw'r Llywodraeth Dyrcaidd wedi roddi un ateb eto. Mae'r Cretiaid yn dal i sefyll yn erbyn y Llywodraeth Pyrcaidd. Ond y mae Saeson yn ceisio cyfryngu ac yn ymdrechu eu darbwyllo i ymostwng. Mae y Traf- noddwr Prydeinig yn Crete yn ceisio cael y Cretiaid i'r dymher yma. Mae y Traf- noddwr Prydeinig yn Thessaly wedi llwyddo i gael gan y Thessaliaid i wneud hyn. Bydd y Cretiaid a'r Thessaliaid yn cael eu hamddifadu trwy hyn o freintiau milwrol, ac y mae hyn yn gam a'r Cretiaid a'r Thessaliaid. Mae j groegiaid yn gor- fod gwrando ar Brydain, am fod Ewssia wedi ymwrthod a'u hachos. Ond nid oes modd i Saeson, ochri y Tyrciaid a'r Groegiaid. AYrfch foddloni y naill, y mae yn sicr o ddigio y Ilall. Mae Twrci yn hawlio cael llywodraethu y Groegiaid, ac y mae y Groegiaid yn hawlio eu hanni- bvniaeth. 01 Dywedir fod lluaws mawr o "VYyddelod yr U nol Daleithiau wedi ymgasglu i goedwig yn rhan ogleddol talaeth Vermout er mwyn ymosod ar ranau o Canada. Mae eu niter yn cynyddu yn feunyddiol, a dywedir bod golwg gyfrifol arnynt. Mae y milwyr wedi cael eu galw allan yn Canada i'w gwrthwynebu, os bydd iddynt groesi'r terfyn. Drwy gymorth Boumania, Servia, a Thaleithiau gwrthryfelgar Twrci y mae y Rwssiaid wedi llwyddo gystal i orchfygu y Tyrciaid; ond nid oes y ddealltwriaeth oreu rhwng Roumania a Rwssia. Mae gohebiaeth bigog ac anfoddhaol rhyng- ddynt yn ngylch Bessarabia, yr hon sydd yu perthyn i Roumania, ac yn yr hon y mae llawer o filwyr Ewsiaidd.
Y WLADFA GYMREIG.
News
Cite
Share
Y WLADFA GYMREIG. Mae darganfyddiadau daearyddol o gryn werth wedi eu gwneud o bryd i Ibryd gan y Gwladfawyr, ac y mae eu hadnubyddiaeth o Patagonia yn dyfod yn fwy bob blwyddyn. Mae eu hymdrechion i weled mwy o wlad amaethyddol wedi ei gorolli a mwy o lwydd- iant eleni, gan eu bod {wedi darganfod dwy afon fawr, dau lyn mawr, a dyffyynoedd ar- dderchog i wneud sefydliadau newyddion. Yr oedd yr Indiaid yn dweyd o hyd fod llyn mawr heb fod yn mhell o'r Wladfa. Cafwyd golwg ar hwn y llynedd, ond ni ar- chwiliwyd dim ar ei lanau. Eleni cychwyn- odd mintai tua'r De, gyda glan y m6r, yn y pellder amrywiol o ddwy i ugain milldir, i ar- chwilio gororau y llyn. Teithiasant am tua chan milldir mewn cyfeiriad Deheuol, a chroesant lawer o gymoedd yn arwain i'r mor, ac yr oedd mewn amrywiol fanau ffrydiau man a dyfroedd tardd, a'ù bias i gyd naill yn hallt neu yn fwnawl. Wedi croesi yr ucheldir, cawsant gymoedd yn rhedeg tua'r Gorllewin ar eu taith tua'r llyn ac mewn cyfeiriad De-orllewinol; caf- wyd mwy o ffrydiau a ffynonau, a'r dyfroedd oil yn beraidd a blasus. Wedi dyfod at y llyn, yr hwn a elwir gan yr Indiaid yn Colwapi, yr hwn a ddarganfydd- wyd gan rai eraill fisoedd yn ol, teithiodd y fintai hon gyda'i lanau nes dyfod at afon fawr yn ymarllwys id do, a elwir yr afon Sengel. Tybir nad yw y llyn yn ddwfn, a'i fod tua 18 neu 20 milldir o hyd wrth 10 o led. Wrth Vala, neu Ie ymarllwysiad yr afon, mae dyffryn mawr yn ymagor, tua 30 milldir o hyd wrth 30 milldir o led, o weryd amryw- iol, peth o'r priddyn yn ysgafn a pheth yn drwm, ac yn fan addas i wneud sefydliad cyffelyb i'r un sydd yn Nyffryn y Gamwy. Yr oedd yr holl ddyffryn wedi ei orchuddio a thyfiant mawr o laswellt—porfa ardderchog i anifeiliaid. Teithient i fyny hyd lanau y Sengel am rai dyddiau ar hyd ddyffryn yn amrywio o 1 i 4 milldir o led. Ar y tu deheuol i'r afon Sengel paith tèmog oedd i'w ganfod yn ymestyn can belled ag y gwelent, ond ar yr ochr ogleddol i'r afon yr oedd moelydd a mynyddoedd. Hefyd, ychydig o filldiroedd o'r llyn Colwapi yr oedd afon lydan, tua 200 Hath o hyd, yn ymarllwys i ochr ogleddol yr afon Sengel o lyn mwy na'r llyn Colwapi ond gan eu bod ar yr ochr ddeheuol i'r afun Sengel, yr hon oedd yn rhedeg yn chwyrn, nis gallent groesi i'r ochr ogleddol at y llyn mawr a'r afon fer, lydan, a newydd ei darganfod. Bwriedir myned atynt eto o'r Wladfa ar yr ochr ogleddol can gynted ag y gellir. Troisant yn ol gyda glan y llyn nes cyr- baedd yr afonig sydd yn rhedeg o hono, y Bengelen, yr hon a ddilynasant yn agos i'r man y mae hi yn ymuno a'r Gamwy. Mae yr afonig hon lawer yn llai na'r afon fawr sydd yn rhedeg i'r llyn Colwapi, a rhaid fod y dyfroedd yn darfed drwy darthiad, neu fod y ddaear yn llyncu'r dwfr, neu y mae afonig tanddaearol yn ei gario ymaith. Mae y Sengelen yn ymuno a'r Gamwy mewn lie gwyllt a rhamantus, cwm cul, llawn o glogwyni, ceunentydd, rhaiadrau, ac aruthr- edd, yr hyn oedd yn achos ei bod gyhyd heb ei darganfod. Mae pen uchaf dyffryn y Sengelen yn ymyl y llyn yn llawn llynoedd a chorsydd, ac o filldir i bedair o led, ac yn ddi- goed ond yn ei ranau isaf y mae gryn dipyn o ddrain. Ystyrir fod rhan fawr o'r wlad yn fwy addas i fagu anifeiliaid na dim arall; ond y mae dyffryn y Sengel yn lie rhagorol i bau, fel y tybir wrth yr olwg. Bernir fod y llyn tuag 20 milldir o'r mor, llai o ffordd nag sydd o Ddyffryn y Gamwy i'r Bau Newydd. Di- amheu y gwneir darganfyddiadau pwysig eto yn y cyfeiriad hwn ar ol cael yr allwedd i'r afon Sengel, a'r llynoedd uchod. Mae mwy o wenith wedi ei godi eleni yn y Wladfa nag a godwyd erioed. Buasai llawer o hono wedi myned yn ofer oni b'ai fod yuo beirianau. Gall holl gyfeillion a pkertbynas- au pobl y Wladfa yn y wlad hon ym,, ui-o. oy Mae y Gwylliaid llofruddiog a ddiangasant o Pentir Tywod wedi eu dal, ac yn ddyogel ddigon yn B. Ayres er ys misoedd. In ol pob golwg presenol, mae dyfodol mawr o flaen y Wladfa, ac y mae ei hanifeiliaid yn Iluosogi yn gyflym. MICHAEL D. JONES.
[No title]
News
Cite
Share
Mai 12, bu y Parch. R. P. Jones, Pencader yn traddodi ei ddarlith ar Eowland Hill," yn Ffynonhenry. Myncdiad i mewu drwy do< ynau. Caed darlith ragorol, a chynulliad da. Llwydd iddo. ■ I