Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

'.,'mIió BETHLEHEM, GER BANGGR.

News
Cite
Share

mIió BETHLEHEM, GER BANGGR. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol campus a don- iol yn y lie uchod, prydnawn Sadwrn, yr lleg o'r mis hwn, o dan arweiniaeth y dyn mawr o Danymarian, yr hyn a sicrhaodd gyfarfod Jiwyliog. Y cadeirydd ydoedd Mr. Griffith Williams, (hen lywydd y Band of Hope). Beirniaid :•—Y Farddoniaeth, Llawysgrifau, Cyfieithiadau, Billebu a Darllen—Mr. L. D. Jones (Llewelyn Tegid), Bangor. ii' Y Traeth- odau a'r Arholiadau—Parch. Mr. Griffiths; Amana. Y Gerddoriaeth—Mr. John Thomas (Eos Bochlwyd), Bethesda. Y smwddio, gwau, a gwnio—Mrs. Atkinson. Yr oedd y cyfarfod yn rhy faith i ni fanylu ar y gwa- hanolfeirniadaethau; ond credwn mai gwell ydyw rboddi enwau y rhai a enillasant wob- rwyon, gan y bydd rhai yn teimlo yn falch weled eu henwau yn argraphedig. Wele hwynt,—y mae y ffigyrau rhwng y cromfachau yn dangos nifer y gwobrau a enillasant Hugh Huxley, (4); Enoch Roberts) (4); William Edmunds, (2); Evan Jones, Robert Williams, Robert Jones, (2); Owen Humph- reys, Owen Edwards, Thomas Edwards, O. Williams, Edmund Jones, Richard Hughes, Thomas Hughes, Thomas John Williams, G: H. Buckland, Margaret A. Huxley, (2); C. E. Huxley, (3); Eliz. Hughes, (2); Mary Grace Parry, (7); Margaret Hughes, (3); Ester Hughes, C. Humphreys, Mary Owens, (2); Grace JonesJJane Thomas. Y mae dau neu dii o honynt nas gallwn adael iddynt ddianc heb ein sylw. Nid amgen y tri phenill ar yr "lawn." Daeth. cynifer a saith o feirdd allan i'r gystadleuaeth hon, a chanmolid hwynt oil; ond yr oedd un yn tra-- agori ar y chwech eraill. Darllenodd Llewelyn Tegid y penillion ar ddiwedd ei feiiniadaeth, ac yn wir yr y'm yn gorfod tys- tio eu bod yn benillion rhagorol. Llongyf- archwn y buddugol, sef Mr. Thomas Jones. Yr oedd yn dda genym ei weled yn dyfod yn: mlaen am y wobr; efe hefyd oedd awdwr y penillion ail oreu. Hefyd, dymunem wneud sylw o'r cantorion. Cawsom ganu da gan y cor. Unawdau gan Thomas Cragg, yr hwn hefyd a enillodd amryw wobrwyon. Canodd Evan Evans, Eos Derwas -■ yn ddoniol gyda yr "ond," penillion o waith Thomas Jones. Hefyd, canodd Thomas Hughes a'i gyfeillion, yn dda. Y buddugwyr ar y pIii Draethawd, "Y pethau sydd yn fanteisiol ac anfanteisiol i ddefnyddioldeb crefyddol," oeddynt Thomas Cragg a Thomas Jones. Rhoddai Mr. Griffith ganmoliaeth uchel iawn i'r traethod- au. Yr oedd brwdfrydedd neillduol i'w gan- fod yn wyneb pob un o'r-gyuulleidfa pan aethpwyd at yr ymdrech gorawl. Thomas Ciagg a'i gyfeillion a gawsant y wobr-fodd bynag, dau barti oedd yn yr ymdrech. Ond y peth a greodd fwyaf o fywyd trwy yr holl gyfarfod oedd, y gystadleuaeth ar ddarllen yr englyn canlynol:— "Ynffra incyf aisyn ffiaethwin Uiw garynllo egrca wlodi aethyn; ho llandmen yn ynbel aethyn, nghy mrull y mruall aeth." Ddarllenwyr y CELT, yn awr, am y cyntaf i roddi i ni enw awdwr yr englyn uchod, a'r mauylion yn ei gylch. Aeth pawb, r'ym yn credu, adref wedi eu llwyr foddloni. t t Bangor, ETELIG. MANCHESTER. Nos Sadwrn y 4ydd o Mai, cynaliwyd cyngherdd yn nghapel newydd yr Annibyn- wyr Queen's Road, pryd y llywyddwyd gan y Parch. W. W. Thomas, Maesglas. Canwyd amrywganeuongan y Parchedig wr a nod- wyd, yr oedd yn ei hwyliau goreu, fel arferol, gan obeithio y cawn y fraint o'i glywed eto, a hyny yn fuan. Canwyd amryw ddarnau gan gor y lie, dan arweiniad Mr. R. G. Jones. Aetbant drwy eu gwaith yn gampus, a chanwyd amryw ddarnau pwrpasol gan gyf- eillion, Saesneg a Chymraeg. Aeth yr elw tuag at ddileu dyled y capel newydd. Hefyd ar y Sabbath y 5ed o Mai cynaliwyd ein Cyfarfod Chwarterol, pryd y pregethwyd y boreu, yn Saesonaeg, gan y Parch. David John, Booth St.; hefyd y prydnawn a'r nos, pregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. W. W. Thomas. Cafwyd pregethau rhagorol o dda. Gobeithiwn yr etyb ei ddyben mawr, set argyhoeddi, ac ychwanegu grasusau y y rhai oedd yn gwrandaw, ac er cryfhad yr eglwys mewn ffydd ar gychwyniad ei gyrfa yn ei theml newydd. Manchester. MORRIS. LLUNDAIN. CJNALIWYD cyngherdd mawreddog yn St. James's Hall yn y lie uchod nos fercher Mai 8, 1878. Yn y rhan gyntaf perfformiwyd y Cantata gysegredig, fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. "Arch y Cyf- amod," gan y. cÔr Cyrareig, a sefydlwyd i'r amcan hwnw, yn cynwys dros ddau cant o leisiau, odan arweiniad yr awdwr, Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., yn cael oigynorthwyo gan Miss M. Davies, Eos Morlais, Mri. L. Williams, R. S. Hughes ar yr organ, ac Orchestral Band. y Palas Grisial. Cyn amser dechreu yr oedd yr Hall wedi ei gorlenwi, ac yn mhlith amiyw foneddigion Llundain, gwelsom yr Enwogion Cymreig a ganlyn :— y Parchn. E. Berber Evans, Caernarfon; Canon Evans, D. D., Ficer, Caernarfon; Deon, Bangor, yn nghyda gweinidogion Cymreig Llundain. Mri. Brinley Richards, John Thomas (Pencerdd Gwalia), L. Thomas, a Her Henchel, athraw presenol Mr. Lucas Williams, yn cgliyda llawer o gerddorion enwog Llundain. [Gadawyd y Programme allanoddiffyglle.] Wedi cael yr Overture gan y Band, o dan arweiniad Mr. Aqust Manns, esgynodd Mr. D. Jenkins y llwyfan yh nghanol taranau o gymeradwyaeth, a rhoddodd arwydd i'r cor godi, yna dechreuwyd y cydgan cyntaf "Let God Arise," pa un aganwyd yn ardderchog— y cor a'r Band yn dilyneu gilydd yn ganmol- adwy. Heb ymhelaethu gyda'r programme digon yw dweyd i'r corwneud ei ran yn foddhaoliawn. Nid oes sngen dweyd dim am Miss Mary Davies, ond iddi fyned drwy ei gwaith yn deilwng o'i hurddas. Er y clywsom Eos Morlais yn well gwnaeth yntau ei ran i foddlonrwydd. Mae yn llawen genym longyfarch y Baritone ieuanc Mr. Lucas Williams, yr hwn mae yn debyg a fu fwyaf Uwyddianus yn y gwaith hwn. Mae Mr. Williams yn meddu llais pur a melodaidd, wedi ei ddiwyllio yn dda, dyma un eto ag sydd yn deilwng iawn i'w restru yn mhlith cantorion enwog "Gwalia Wen." Hapus genym hefyd weled Mr Ben. Davies, R.A.M. yn dringo i fyny mor gyflym, meddiana lais tenor nerthol. Gwnaed yr ail ran i fyny o gerddoriaeth amrywioL "Dadganodd Miss Martha Harries, gan newydd, There is in every heart a grave," (R. S. Hughes), yn swynol a melodaidd. Yr un modd Misses Marian Williams, a Lizzie Evans, canasant hwythau yn ganmoladwy iawn. Accom- panist, Mr. R. S. Hughes. Dymunwn roddi gair o awgrymiad i undebau cerddorol Cymru, ar iddynt wneud ymdrech i ddysgu y Cantata ardderchog hon. Ai gormod fyddai i Undebau Cerddorol Waenfawr, Caernarfon, a Bangor ymuno a'u gilydd i roddi dadganiad cyhoeddus o honi yn Mhavilion Caernarfon? Fe aeth .Mr. Jenkins i law-er 0 draul a thrafferth i roddi y perfformiad cyntaf o'r Cantata yn Llundain, er rhoddi cychwyniad iddi, ac- y mae yn ddiameu ei fod wedi cael ei foddloni tu hwnt i'w ddysgwyliadau goreu, wrth weled cynull- iad mor luosog wedi dod yn nghyd i wrando y perfformiad. Mae y cantata yn anrhydedd i'w hawdwr, ac yn addurn ychwanegol at Gerddoriaeth Cymru lan, Gwlad y Gan." Royal Academy of Husw. E. D. WILLIAMS. WIG, LLANGRANOG. BOREU dydd Gwener y 3edd cyfisol, taflwyd yr ardal hon i cyffro anghyffredin, pan yr ymdaenodd y newydd allan fod D. Jenkins, Wig Farm, wedi cyflawni y weithred ofnadwy o grogi ei hun. Dyn canol oed ydoedd, pwyllog, tawel, a pharchus fel cymydog yr oedd wedi bod yn pregethu boreu ei oes gyda'r Bedyddwyr, ac yn para yn ffyddlawn gyda chrefydd hyd y diwedd, ac yn flaenor yn eglwys y Gwndwn. Mae yn debyg ei fod yn cael ei flino gan iselder yspryd er ys misoedd. Gadawodd weddw a llu o blant i alaru ar ei ol. Dydd, Sadwrn canlynol, cynhaliwyd trengholiad ar ei gorff, pryd y barnwyd gan y trengholydd a'r rheithwyr y weithred yn hunanladdlad mewn gorffwyll- edd a dyryswch meddwl. Blaencelyn. J. JONES. DOWLAIS. Gwernllwyn.—Cynaliodcl y cyfeillion yn y lie hwn èu gwyl de flynyddol dydd Llun, Mai 6ed. Yr oedd y te ar y byrddau am dri o'r ac yn wir te a theisenau rhagorol oedd yno. Yr oedd pawb oedd yno yn gwasanaethu yn ymddangos eti bod ar eu gorau i wneud y cyfarfod yn un llwyddianus. Pan yr oedd pob peth mor dda, y perygl oedd ilr rhai oedd wedi dod yno, i fwyta llawn gwerth eu harian, a'r cyfarfod wedi ei amcanu i gael rhyw gymaint o elw at leihau y ddyled sydd ar y capel. Er ir tywydd droi yn bur anffafriol, daeth yno ganoedd lawer i, yfed te a diau eu bod wedi cael swm go dda at y ddyled sydd ar eu capel hardd. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod adroddiadol, a dan lywyddiaeth Mr. W. Tibbot, Talybont, Ceredigion. Pasiodd pob peth yn ddifyr a dyrttunol iawn. Br nad yw amgylchiadau y lie hwn ddim y peth y bu, eto mae yma ganoedd lawer yn Nowlais sydd "yn meddwl am ei enw efac am hyny chaiff yr aehos mawr ddim sefyll. Na ddigaloned y cyfeillion yn y Gwernllwyn, er fod y ddyled yn ymddangos yn fawr ar hyn o bryd; dim ond i chwi ddal ati yn ffyddlon a chyson, fe dodda'r ddyled i'ffwrdd fel iit o flaen tywyniadau haul inis Mai. > Ilermon.—Yr un noson, yr oedd darlith yn cael ei thraddodi yn y lie hwn, gan y Parch. E. Edmunds, Abertawe. Y testyn oedd—"Dyn: ei ffydd, a'i weitbredoedd." Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Hughes, M.A., y gweinidog. Cafwyd cynulliad lluosog, darlith ddifyr ac add- ysgiadol, ac elw da i gynorthwyo brawd sydd mewn cystudd a flaeledd. NEW TREDEGAR. Nid annerbyniol efallai fyddai gan ddarllenwyr y CELT gael gair yn awr ac eilwaith e'r He hwn pan fyddo rhywbeth o ddyddordeb yn cymeryd lie yma. Lied araf y mae olwynion masnach yn troi yma yn bresenol, er ei bod yn well nag y mae wedi bod rai misoedd yn ol. Y mae gweithwyr glofa y George yii gorfod cerdded dros y bryn i'r Deri bob dydd, o herwydd fod y pwll wedi soddi er ys tua phum wythnos yn ol, drwy i un o bibell- au y sugnedydd dori, ac nid oes ond gobaith gwan yr ail gychwynir ef yn fuan. Cyfarfod cyhoeddus— Cynaliwyd cyfarfod nos Fawrth yn addoldy y Bedyddwyr er gwrthdystio yri erbyn yr ymgais a wneir yn bresenol gan y Llywodraeth i fyned i ryfel yn erbyn Ewssia, a phenodwyd cynrychiolydd, sef y Parch. W, Mor. gans, gweinidog y Methodistiaid, i fyned a phen- derfyniad y cyfarfod i Gaerdydd ddydd Mercher i'r cyfarfod cyffredinol, yn mha un yr oedd cynrych- iolwyr o bob rhan o sir Forganwg a Mynwy yn cyfarfod. Hyderwn y bydd llais y wlad yn y dyddiau presenol yn foddion i atal y cleddyf i gael ei ddiweinio, a llawer o waed i gael" ei dywallt. GWILYM. REHOBOTH, FIVE ROADS, LLANELLY. Cynaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol; yn yr addoldy uchod nos Sadwrn a'r Sul, Mai 4 a 5. Y pregethwyr elem oeddynt y Parchn. J.L Rees, Cwmllynfell, a J. P. Williams, Bryiimawr, Mynwy, y rhai a bregethasant yn rymus ac effeithol i gynulliadau Iluosog. Gobeithio y bydd ol eu pregethau ar y gymydogaeth yn hir.. Yr oedd yr hin yn hafaidd, a chafwyd casgliad dymunol, wrth ystyried amgylchiadau presenol y gweithwyr. JOHANNIS.